Y Siswrn/Yr Ysmygwr
← Cynnwysiad | Y Siswrn gan Daniel Owen |
Tiberias → |
Yr Ysmygwr
Pennod agoriadol i hanes anysgrifenedig.
Rwyf yn meddwl, ond nid wyf yn sicr, mai y flwyddyn 1876 neu 1877 ydoedd. Y gwaelaf yn y byd ydwyf am gofio dyddiau a blynyddau wedi yr elont heibio; ac oherwydd fy mod yn ymwybodol o'r diffyg hwn, a rhag poeni y darllenydd gydag anghysonderau, ni wnaf ond can lleied ag a allaf o gyfeiria lau at ddyddiadau, gan nad ydynt ar y goreu ond pethau sychion, ac oddiar yr ystyriaeth mai gwell i ddyn diofal beidio bod yn fanwl. Am yr adroddaf y ffeithiau yn gywir pa bwys am y dyddiad? Pethau amser ydyw dyddiadau, ond nid allwn ymysgwyd oddiwrth ffeithiau bywyd hyd yn nod yn y byd a ddaw. Ceidw rhai pobl ddydd lyfr yn yr hwn y croniclant eu teimladau, a'u gweithredoedd, a phrif ddygwyddiadau pob diwrnod o'u bywyd. Os ydyw eu bywyd yn gyffelyb i'r eiddo fi ac i eiddo dynion yn gyffredin, ac os ydynt yn onest gyda'r gwaith hwn, da fyddai ganddynt, mi gredaf, gael hamdden cyn marw i'w losgi. Ond os ysgrifennu y maent bethau difyr i'w darllen ganddynt hwy eu hunain a chan eu perthynasau ryw amser sydd i ddyfod, yna rhagrithwyr ydynt, a chânt allan ryw dro fod llyfr coffadwriaeth arall yn bod cwbl wahanol o ran ei fanylion. Ond yr wyf yn meddwl, fel y dywedais, mai y flwyddyn 1876 ydoedd—tua chanol y cynhauaf ŷd. Yr oedd wedi bod yn dymor poeth iawn, ac yr oedd rhai ffermwyr yn gallu dyrnu eu hydoedd ar y maes cyn eu casglu i'w hŷdlanau. Mae ffaith fechan yn peri i mi gofio hyn : Yr oedd cynrychiolydd y Feibl Gymdeithas Frytanaidd a Thramor wedi anfon gair at y pen blaenor yma y byddai efe yn dyfod i'n hardal ar y diwrnod a'r diwrnod i ddadleu hawliau y Gymdeithas; ac yr oedd y pen blaenor yntau, yn ei dro,—yr hwn oedd fferm ŵr cyfrifol wedi anfon gair yn ôl i ddyweyd y byddai raid i'r cynrychiolydd oedi ei ymweliad oherwydd fod cyhoeddiad yr engine ddyrnu yn ein hardal ar y diwrnod hwnnw; yr hwn drefniant a hysbyswyd yn ei amser priod i'r frawdoliaeth ac a dderbyniodd gymeradwyaeth ddyladwy. Yr oeddwn yn feistr arnaf fy hun, fel y dywedir; hynny ydyw, gallwn fyned oddicartref heb ofyn cennad neb, ac aros cyhyd ag y mynnwn heb golledu neb ond fy hunan. Nid oedd gennyf na meistr na gwraig i ofyn caniatâd ganddynt. A hon oedd rhagorfraint bennaf fy mywyd—rhyddid. Nid oedd gennyf ddim at fy nghynhaliaeth ond a enillwn gyda fy neng ewin—nid oeddwn yn anghenus ac nid oedd gennyf ond ychydig wrth gefn. Pa fodd bynnag, un bore, cefais ddrychfeddwl newydd, sef nad oeddwn lawn can iached ag y dylaswn fod. Yr wyf yn lled sicr erbyn hyn mai drychfeddwl ydoedd, oblegid dy i gydag ef fwy o bleser nag o ofid, a theimlwn braidd yn falch ohono, fel y gwna bardd o linell newydd, bert. Yn wir effeithiodd arnaf mor fawr nes fy nwyn i'r penderfyniad fy mod yn haeddu gŵyl, neu holiday, yr hwn beth mai ychydig, fel y tybiwn i, oedd yn ei haeddu, ac mai y rhai oedd yn ei haeddu leiaf oedd yn cael mwyaf ohono. Oddiar yr egwyddor pwyth rhag llaw a arbed naw, a rhag i mi waethygu, tybiais mai goreu po gyntaf yr awn oddicartref. Ni chymerodd i mi prin bum' mynyd i benderfynu ar y lle yr awn i dreulio fy ngŵyl, ac awgrymodd Llan drindod ei hun i mi ar unwaith. Gan mor gyflym y daeth y lle i fy meddwl, yr wyf erbyn hyn braidd yn tybied fy mod wedi penderfynu ar y lle cyn darganfod nad oeddwn mor iach ag y dymunaswn fod. Ni fuaswn erioed o'r blaen yn Llandrindod, ac eto, wedi darllen fwy nag unwaith y "Tridiau" a'r "Tridiau Eto," gan Glan Alun, teimlwn raddau o gydnabyddiaeth â'r lle. Cychwynais i'm taith, a phan oeddwn ar fy ffordd i'r orsaf yn myned heibio yr Hendre Fawr, gwelwn fod yr engine ddyrnu wedi dyfod yn ffyddlon i'w chyhoeddiad. Yn wir yr oedd hi wrthi er's meityn yn drystfawr ac ysglyfaethus, a'i holwynion yn troelli yn gyflym, a'i hagerdd a'i mwg yn es gyn i'r awyr, ac amryw wŷr o'i deutu heb gôb na gwasgod—rhai yn taflu yr ysgubau i'w chrombil, eraill yn pentyrru y gwellt, ac eraill yn cylymu cêg y sachau, a phawb yn ymddangos càn brysured a iar a deugyw, ac yn gwaeddi mor uchel wrth siarad fel ag yr oeddwn yn gallu eu deall yn burion o'r ffordd. Gwelwn Ifan Wmphre, y pen blaenor, nid fel y bydd ai yn y capel, sef yn araf—deg a hamddenol, ond wedi deffro o’i goryn i'w sawdl ac yn llawn bywiogrwydd. Ymddangosai yr hen frawd i mi fel pe buasai yn ar gyhoeddedig ped arosasai y gwr chwimwth a ddiwallai yr engine gegrwth ond am un eiliad, y buasai y peiriant yn ddiymdroi yn ymosod yn ffyrnig ac ysglyfaethus ar bob copa walltog o'r rhai oedd o'i ddeutu, os nad ar y tŷ, ac ar y wraig a'r plant hefyd. Pan euthum yn ddigon pell oddiwrth sŵn y peiriant i allu clywed fy myfyrdodau, meddyliwn mai nid peth dibwys, wedi'r cwbl, oedd dyfodiad yr engine ddyrnu i ardal, pe na buasai ond am y bywyd a'r egni a ddygai gyda hi, ac a gyfrannai i'r rhai oeddynt, ar brydiau eraill, yn hollol ddifraw. Ac eto nid allwn beidio dychymygu am wyneb cynrychiolydd y Feibl Gymdeithas,—yr hwn oedd ŵr doniol a thafodog, a'r sense of humour yn gryf ynddo—y bore y derbyniodd efe y llythyr a gynhwysai y "rheswm digonol" dros iddo oedi ei ymweliad â'n hardal. Diammheu gennyf iddo roddi i mewn ar unwaith, yn ei feddwl, i resymoldeb, y cais, ac iddo ganfod fod un engine ddyrnu yn llawn ddigon yn ein hardal ar yr un diwrnod! Tybiwn hefyd mai y gair uchaf yn meddwl Ifan Wmphre y diwrnod hwnw oedd, "Nid ar Feibl yn unig y bydd fyw dyn." Tarawyd fi gyda hyn gan y syniad——pe buasai ymweliad gwahanol gynrychiolwyr galluog y Fam Gymdeithas yn cael edrych arno gyda'r fath ddyddordeb, ac yn dylanwadu mor rymus ar bawb yn ein hardal ag a wnâi dyfodiad yr engine ddyrnu ar deulu yr Hendre Fawr—mai nid deuddeg punt a fuasai swm ein casgliad blynyddol at y gymdeithas ddigyffelyb honno.
Yr oeddwn wedi rhoi fy ngharbed bag dan ofal hogyn, a'i anfon o fy mlaen i'r orsaf—nid am fy mod yn y falch i'w gario fy hun, ond rhag i neb wybod fy mod yn myned oddicartref ac iddynt holi a stilio i ba le yr awn. Canys gwyddwn pan elai un diwraig neu ddiŵr i Landrindod fod tuedd mewn rhai pobl i briodoli iddo neu iddi amcanion amgen na gwellhau yr iechyd; er na fuasai raid i mi ofni y priodolasid amcan felly i mi, gan fy mod, fel y tybiwn, yn un pur annhebyg i wneyd argraff ddofn ar neb, neu o dderbyn argraff arosol gan neb. Eto meddyliwn fod cadw safnau y trigolion yn ngheuad yn werth chwe' cheiniog, yr hwn swm a delais yn onest i'r hogyn, ac am yr hwn swm yr oedd efe yn dra diolchgar, oblegid can gynted ag y derbyniodd efe y chwe' cheiniog, poerodd arno i'r dyben, gallwn feddwl, iddo lynu yn ei law, oherwydd nid oedd ganddo boced gyfan ar ei helw, mi gymerwn fy llw. Yn wir telais fwy na hynny lawer gwaith drosodd yn ystod fy oes, i gadw tafodau yn segur, a theimlaf y fynyd hon mai dyna yr investment goreu y gall dyn ei wneyd.
Yr oeddwn wedi prysuro yn gymaint i ddal y trên fel, pan gymerais fy eisteddle yn y gerbydres, y teim lŵn dipyn yn wasgedig a churedig fy nghalon, ac yr oedd ynof duedd gref i orwedd. Nid anhyfryd gennyf oedd teimlo felly, oblegid dyfnhâi fy argyhoeddiad nad oeddwn mor gryf ag oedd ddymunol, ac elai ymhell i dawelu fy nghydwybod nad oeddwn yn myned oddi cartref i wastraffu wythnos neu bythefnos o amser gwerthfawr heb amcan teilwng. Wrth farnu yn deg a diduedd yr wyf yn cael fod dyn—hyny ydyw, yr wyf yn cael fy hunan——oblegid nid oes ynof awydd pinio fy meiau fy hun wrth ddynion yn gyffredinol——yr wyf yn cael fy hun, meddaf, yn chwareu llawer cast gyda fy nghydwybod. Rhaid i mi, a phob dyn gonest, gyd nabod mai hi ydyw y frenhines, gwg neu wên yr hon gan nad pa mor deyrngarol ydym—nis gallwn ei anwybyddu. Pob dyn gonest, meddaf; ac wrth hynny y meddyliaf—pob dyn sydd wedi ymddeffroi o gysgad rwydd anystyriaeth i ymholi o ba le y daeth? i ba le y mae yn myned? beth ydyw neges a dyben ei fodolaeth?beth ydyw ystyr yr hyn a wêl o'i amgylch? dy breuddwyd a'i dameg ydyw? beth ydyw ef ei hun, a'i math o beiriant bwyta? ai cannwyll a lysg i lawr i'w socet rai o'r dyddiau nesaf? ai ynte seren i fyned o'r golwg i oleuo ar ryw hemisphere arall? Nis gall y fath un fod yn ddiystyr o lais ei gydwybod. Ond nid cydwybod ydyw yr oll o ddyn: mae ganddo ei ddymuniadau a'i dueddiadau, ac nid ydyw y rhai hyn bob amser yn cydgordio â llais ei gydwybod. A phan ddygwyddo yr anghydgord hwn, y fath ystumiau a wna dyn i geisio perswadio ei hun mai anghydgord naturiol, ys dywed y cantorion, ydyw, neu discord o angenrheidrwydd. Er mwyn gwneyd fy hun yn eglur,—a pha ddyben ydyw ysgrifennu os nad ysgrifennir yn eglur—a pha mor fynych y priodolir i ambell ysgrifennydd" ddyfnder " pryd nad ydyw mewn llawer amgylchiad yn ddim amgen na niwl, ac fe ŵyr pawb fod niwl, pa un bynnag ai naturiol ai meddyliol, yn gamarweiniol, ac yn peri i'r anghyfarwydd weithiau dybied ei fod yn canfod eidion, pryd mewn gwirionedd mai llo fydd o flaen ei lygaid—ond er mwyn gwneyd fy hun yn eglur, fel y dywedais, meddylier yn awr, er enghraifft, am ddyn a'i gydwybod yn dyweyd wrtho y dylai fynd i foddion gras—i'r cyfarfod gweddïo, neu i'r Ysgol Sul, (os ydyw yr Ysgol Sul yn foddion gras, oblegid tybia rhai dynion call y dyddiau hyn mai sefydliad i blant a phobl dlodion ydyw, a chredant pe buasai Mr. Charles ar dir y rhai byw pryd y mae gan Gymru dair o brif ysgolion, y gwelsai y ffolineb o annog pob dosbarth ac oedran o bobl i ddyfod ynghyd i ddarllen y Beibl) ac fod ei dueddfryd yn wrthwynebol hollol i hynny. Yn yr amgylchiad hwnw onid ydyw unrhyw esgus gwirioneddol neu ddychymygol sydd yn ffafrio ei ddymuniad ac yn tueddu i ddystewi ei gydwybod yn dra derbyniol ganddo?
Wel, dyna oedd fy sefyllfa i pan oeddwn yn cychwyn i Landrindod. Dywedai fy nghydwybod fy mod yn berffaith iach; a'r cwestiwn a ofynnwn i mi fy hun oedd—a oedd gennyf hawl i dreulio nifer o ddyddiau oddicartref heb amcan uwch yn fy ngolwg na mwyn hau fy hun? Ammheuwn fy hawl, a dechreuais chwilio am amcan uwch, ac, fel y dywedais, bu agos i mi berswadio fy hun nad oeddwn yn gryf o ran fy iechyd. Ffansïwn fod y gydwybod yn ysgwyd ei phen arnaf. Ond pa beth a wyddai hi am ystâd iechyd dyn? pethau moesol oedd ei phethau hi, ac wrth ymyrraeth a rhoi ei barn 'ar bwnc o iechyd yr oedd yn myned allan o'i thiriogaeth. A chofiwn ddwy linell o hen gân, chwai i'r pwrpas—
Ac os na chaf fwynhau fy hun,
Waeth bod yn geffyl nag yn ddyn.
Heblaw hyny, pa raid oedd i mi fod yn well na fy nghymydogion? Yn sicr nid oeddwn yn cymeryd arnaf fy mod yn well na hwy; a gwyddwn nad oedd у rhai a adwaenwn i a arferent fyned i Landrindod yn blino eu hunain gyda chwestiynau o'r fath. Y ffaith oedd mai y rhai iachaf, gwridocaf, a hoenusaf, a welwn i bob amser yn myned yno. Dyna Mr. Jones, y Faenol Fawr, ffermwr bochgoch, cnodiog, croen yr hwn a ymddangosai bob amser yn rhy fychan i'w gorff, a'r hwn na welid un amser yn gwisgo menyg, am nad oedd yn bosibl cael y "size"—elai ef bob blwyddyn yn ddi-ffael i'r ffynonau. Dyna Mr. Prydderch, y draper, pictiwr o iechyd—yn werth ei fframio unrhyw ddiwrnod—onid elai yntau yno? A dyna y ddwy Miss Davies, Rosemary Cottage, y rhai nad oedd raid iddynt byth ofni orfod rhoddi cyfrif am waethio yn rhy galed, a'r rhai pe gwyddai Mr. Evans yr hyn a wn i, sef eu bod ryw dro, er's talwm, wedi yfed rhyngddynt hanner potel o'r Quinine Bitters, na phetrusai wario can ' punt i gael eu darlun ar ei advertisement, gan mor gwmpasog a llyfndew ydynt! Os oes rhywrai yn ammheu am y rhai olaf, gadewch iddynt ofyn i'r ci bach gwyn, blewog, sydd yn Rosemary Cottage, ac fe ddywed ef wrthynt, a'i wallt yn ei lygaid, os nad ei ddagrau, fod yn gâs ganddo feddwl am dymor yr haf, pryd y gadewir ef at drugaredd y for wyn, heb neb i'w nyrsio tra bydd ei ddwy feistres yn Llandrindod. Meddyliais am lawer eraill cyffelyb na fyddai o un dyben son am danynt yn y fan hon, tystiolaeth unfrydol y rhai, wedi iddynt ddychwelyd gartref, a fyddai " eu bod wedi derbyn lles dirfawr ac wedi cael ail lease ar eu bywyd."
Erbyn hyn yr oeddwn ar delerau da â mi fy hun, a fy myfyrdodau yn hyfryd. Goleuais fy mhibell, ac oherwydd nad oedd neb ond mi fy hun yn y smoking compartment, ffurfiais bont rhwng y ddwy fainc gyda fy nghoesau, ac arni y lledais fy mhapyr newydd, ond ni ddarllenais ddim ohono, eto tybiwn, os dygwyddai i mi gael cwmni, mai yr argraff a wnâi yr olwg arnaf a fyddai fy mod wedi ei ddarllen oll. Yr wyf yn meddwl ei bod yn ffaith mai ychydig o'r rhai, cyffelyb i mi fy hun, nad ânt oddicartref ond rhyw unwaith yn y flwyddyn, a allant fwynhâu newyddiadur yn y trên. Y mae ein "newyddion" yn yr hyn a welwn oddi allan yn hytrach nag yn y newyddiadur. Ond yr ydym yn dymuno ymddangos fel rhai arferol â theithio, ac yr ydym wedi cael allan mai yr arwydd ydyw—y newyddiadur, a chymeryd arnom ein bod wedi ymgolli ynddo. Y mae un arwydd arall, sef bod yn hollol ddiystyr o bawb a phobpeth oddifewn ac oddiallan, a ryw hanner cysgu a gofalu am ddeffro yn sydyn wrth ddyfod i station. Yr hwn a dalo sylw i'r arwyddion hyn, ac a ofalo na wna yr argraff a'r neb ei fod yn feddw, a all gael ei ystyried yn hen stager. Yr oeddwn wedi dewis y smoking compartment nid am fy mod mor hoff o ysmygu, fel y gŵyr pawb sydd yn fy adnabod, ond er mwyn diogelu fy hun rhag merched a babanod yn eu breichiau, a rhag personiaid—neu fel y dywed pobl Llandrindod, offeiriaid—yn enwedig yr rhai olaf; ac hefyd fel protest yn erbyn hymnbygoliaeth. Oblegid mi a wolais fwy nag un per son, ac eraill, o ran hyny, pan ddygwyddent ddyfod i compartment a rhywun yn ysmygu ynddo, yn y fan yn dechreu crychu eu trwynau, fel pe buasent yn cymer yd ffisig, yn pesychu, ac yn tagu, ac yn arddangos y fath wewyr o drueni fel y tybid eu bod ar drengu, tra y gwyddwn o'r goreu eu bod, pan fyddent gartref, yn byw ac yn bod mewn mwg tybaco. Ceisient ym ddangos eu bod yn ffieiddio yr arferiał ffol, ond yn fy ngolwg i oedd yn eu hadwaen, hymbygs oeddynt. Na chamddealled neb fi. Mi wn fod llawer yn casâu ysmygu ac nad allant oddef yr arogl, ac mae ganddynt berffaith hawl i ddadgan eu teimlad ac i am ddiffyn eu hunain rhag y fath anghyfforddusrwydd: ond pe buasai pob ysmygwr fel fi ni chlywsid neb yn cwyno, oblegid ni fedrais erioed fwynhau mygyn os gwyddwn fod hyny yn blino rhywun. Bydded i bob ysmygwr roddi esiampl dda i'r gwrth ysmygwyr drwy ymwadu â'i fwyniant ei hun er mwyn dedwyddwch eraill. Ond gyda golwg ar argyhoeddi y gwrth ysmygwr fod gwir fwyniant (daearol, wrth gwrs,) i'w gael yn y mwg, mae hyny yn anobeithiol—oherwydd—yn gyntaf, fod ei ragfarn yn rhy gryf; yn ail, am nad ydyw yn dyfod o fewn cylch ei brofiad; yn drydydd ac yn olaf, am ei fod yn amheus a ydyw y pwnc ynddo ei hun yn beth i ymresymu yn ei gylch. Cymwysiad—bydded pob un sicr yn ei feddwl ei hun.
Yr hyn a achlysurodd i mi wneyd y sylwadau uchod oedd hyn: wedi teithio am hanner awr ar draws gwlad boblog, a phan safodd y trên gyntaf i gymeryd ei wynt, daeth i mewn i'r un compartment a mi ŵr corphol, a phibell yn ei ben, gan anadlu yn drwm trwy ei phroenau, fel un yn cerdded yn ei gwsg a'i lygaid yn agored. Yr oedd efe mor drwsiadus ei wisgiad a phe buasai yn mynd i gael tynnu ei lun. Yr oedd ei wallt a'i wiscars cán goched a gwasgod gwas gŵr bonheddig, a'i wyneb—yn enwedig ei drwyn yn tueddbenu at yr un lliw, yr hyn a barai i mi feddwl—yn gyfeiliornus, hwyrach—nad y bibell oedd ei unig foeth. Cán gynted ag y cauodd efe y drws ac yr eisteddodd, dechreuodd siarad. Yr wyf wedi sylwi fwy nag unwaith y gellir teithio yn y trên am ugain milldir gyda chydymaith ansmygyddol, heb dori Cymraeg; ond ni welais erioed hyn yn dygwydd mewn smoking compartment. Athroniaeth y peth, mi debygaf, ydyw hyn: mae y cydymaith ansmygyddol yn unknown quantity—nid oes dim rhyngom ag ef i dori ar y dyeithrwch: pryd mai gweled cetyn yn nghilfin un ar y fainc acw, a'r ymwybyddiaeth fod un gyffelyb yn ein cilfin ninau ar y fainc yma, yn arwydd ac yn gyfaddefiad o frawdoliaeth, a’n bod yn un mewn un peth o leiaf, ac yn arweiniad diseremoni i ymddyddan. Wel, wedi gwneyd sylw ar yr hin ac i minnau gydolygu ag ef, ebe fy nghydymaith,——
"Peth rhyfedd ryfeddol (nid oedd efe yn ofalus am siarad yn ramadegol mwy nag y byddaf finnau yn fynych) yn bod ni wedi 'n gadel yn hunen, a nine mewn smoking compartment."
"Mae y frawdoliaeth fygyddol yn brin bore heddyw," atebais.
"Nid hyny oeddwn yn feddwl," ebe fe, "ond synnu 'roeddwn i fod y compartment heb ei lenwi efo merched, achos mae nhw'n wastad yn stwffio'u hunen lle bydd smocio."
"Tybed?" ebe fi, " yr oeddwn bob amser yn meddwl mai fel amddiffyniad i ferched, a rhai cyffelyb, y gofalodd y Cwmni am le i ni, yr ysmygwyr, ar ein pennau ein hunain."
"Digon gwir, syr; ond y mae'r amcan wedi 'golli'n hollol. Esgusodwch fi am ofyn dau beth i chi: ydach chi wedi priodi? ac ydach chi'n myn'd efo'r trên yn amal?
"Nac ydwyf, y naill na'r llall," atebais.
Hir y prathoch chi felly," ebe fe. " Cyn priodi mi fydde hon acw a fine yn myn'd am dro, wyddoch, ac yn cymyd diwrnod o holiday 'rwan ac yn y man; a mi fyddwn, wrth gwrs, yn smocio tipyn weithie—nid rhw lawer, a sigârs fyddwn i yn smocio pan fydde hi efo fi. A welsoch chi 'rioed mor ffond fydde hi o arogl y mŵg, a mi fydde yn synu pa wrth'nebiad oedd gan rai merched i ddyn fydde yn smocio. Ond toc ar oli ni briodi mi newidiodd my lady ei chân, a—wel, Hyny oeddwn i'n myn'd i ddeyd wrthoch chi—yr ydw i'n mynd efo'r trên i'r Mwythig unweth, ac weithie ddwyweth, bob wythnos; a fydda'i byth yn myn'd i smoking compartment na ddaw 'na ferched i mewn.' "Pa fodd yr ydych yn rhoddi cyfrif am hyny? ai am eu bod yn hoffi mŵg tybaco," gofynais.
"Dim peryg!" ebe fe, " ond gwybod y mae nhw y bydd yn y smoking compartment ddynion, a mi aiff merched i bob man lle bydd dynion, hyny ydi, merched ifinc a gwragedd gweddwon."
"Yr ydych yn rhy galed arnynt," ebe fi."
Ydach chi'n arfer betio?" gofynodd fy nghydymaith, ac wedi i mi ateb yn nacaol, ychwanegodd
"Ho, felly. Wel, does dim drwg mewn betio catied o dybaco? Dyma ni rwan just a chyrhaedd station Ruabon, ac os rhowch chi'ch llaw allan gan ddal eich pibell yn y golwg, ac os na ddaw yma ferch i mewn aton ni, mi fyddaf wedi colli'r gatied. Treiwch chi."
O ran cywieinrwydd gwneuthum felly; a chan sicred a'r byd wele dynes ieuanc, ac nid anmhrydferth, gweddus ei gwisgiad, yn agor y drws. Yr oedd hi mewn "du" isel bris a ddynodai ei bod yn perthyn i'r dosbarth gweithiol a'i bod yn galaru ar ol rhywun. Duw wyr pa faint o hyny sydd yn myned ymlaen yn y byd o hyd! a phe gallai y "du" y mae ambell un yn ei wisgo ddangos y duwch sydd yn ei ysbryd, y gofid a'r hiraeth sydd yn ei galon, hwyrach y byddai llai o gynghori a mwy o gydymdeimlo yn bod. Pan oedd y ferch yn yr act o agor y drws, gwaeddodd fy nghyd deithiwr
"Wraig! rydan ni'n smocio yma!"
"Dim pws, yr odw i wedi hen arfer a hynni, ys gwn i," ebe'r ferch, ac i mewn a hi. Wrth ei chwt daeth i mewn ŵr brethynog—ond fod y brethyn dipyn yn ddigotwm—llaes ei gôb, a chantelog ei het. Gwisgai wasgod heb fotymau arni—yn y golwg o leiaf—ac ymddangosai ei du blaen fel ffrynt pulpud pan fyddo y gweinidog newydd farw, ond fod ar ei ffrynt ef—y gwr yr wyf yn son am dano—rai ysmotiau a ddangosent nad oedd efe wedi camgymeryd y compartment. Edrychodd o'i gwmpas yn gyffelyb, fel y tybiwn i, i'r modd yr edrychasai ar ei berchyll cyn cychwyn oddicartref, a gwthiodd ei hunan i'r gornel bellaf oddi wrthym, a rhoddodd besychiad cras, hyglyw, a'm hargyhoeddodd ei fod wedi ei hen arfer mewn Eglwys wag. "Ac yr ydach chi wedi arfer a mwg tybaco?" ebe fy nghyd-deithiwr, fel apology wrth oleuo ei bibell ac ail ddechreu ysmygu.
"O odw, mwy nag y gwnâi eto ys gwn i prid," ebe y wraig.
"A ydwyf i ddeall, wraig fach, eich bod wedi colli'ch gŵr?" gofynnodd fy nghydymaith diseremoni. "Odw," ebe'r wraig, ac fel pe buasai yn falch o gael siarad ychwanegodd,—"Odw, syweth! Dos ond wthnos pan gleddes e, ac anghofia i hyni rhawg. Dos nemor gyda blwyddin er pan gwities i gartre, ond mi weles lywer tro ar fid ddâr hyni! I weini y dos i i'r lan o'r South, a thoc mi drewes arno e. Rodd e yn llencyn del a chwmws ddigon, a mine'n estron. Dai wiw mo'r son, dodd cwrdd na chapel na welwn i e. Y machgen glân! mae e heddi yn isel ei ben! Fe gerddws lywer i'r plas lle'r own i'n gweini i moin am dana' ar dywidd a hindda; dod nacâ arno. Dodd idde na thêd na mem, na browd na chwar. Mi testes e'n dost tu hwnt, a mawr mor front fûm wrtho e! Rodd arna i fai, mi wn, waith rodd y nghalon gydag e o'r funid gynta, oc os palle ddod i'r lan ar noson pwylmant, nid gwiw cawn gau fy llygaid hid adeg cwnnu, rhag ofan taw gwâl odd e, ne idde gwrdd a lodes decach. Ai e ai fi odd fwya ynfid, nis gwn i prun—dodd ddewis arnon. Cyn imi weini dou gwarter fe brodson; a heles air o hyni i mem am fis ne fw—waith rodd arna i gwiddil, ac nid heb reswm.—Dodd gynnon na thi na dodren na lle i drigo ond lodging. Ond pa iws son am hyni'n awr. Ron ni'n ffero'n buron i aros ti, a fu dou yriod fw dedwdd—heb air na châs. Ond Duw sy'n rwlo! Toc gyda thri mis ar ôl i'n brodi heb arna i feddwl, fe frifws y ngwas gwrion yn y gwâth yn dost. Dâth arno e bywer o bwyse nas gwn i sut, a'i sigo'n Anghofia i'r diwarnod tra fw i biw! Pan weles e'n dod i'r lan mewn cert, a dou o'r dynnon ar i bws'n ei gynnal, mi ffentes off, a Duw a'm safodd rhag myn'd i mâs o'm co! Rodd ei lefe'n tori nghalon, a mowr odd y ngofid nad allwn shero'i bôn."
Yn у fan hon torrodd argae teimladau y weddw ieuanc, a dechreuodd wylo yn hidl, yr hyn a barodd i mi feddwl yn well ohoni, oblegid rhaid i mi ddyweyd fod ei dull o adrodd ei hanes yn ymddangos i mi braidd yn "iach." Siaradai yn gyflym, accenai ei geiriau yn groew a hyglyw, fel un yn adrodd dernyn o blank verse. Ond deallais am y tro cyntaf nad oedd teimlad gwir ofidus wedi ei gysylltu yn annatodol â thôn hirllaes a throm fel yr eiddom ni, y Gogleddwyr, a gwelais mai gwahaniaeth talaethiol yn unig a barai iddi hi ymddangos i mi yn iach ei hysbryd. Gwyddwn fod fy nghyd—ogleddwr yn teimlo yn gyffelyb i mi, ac i ni ein dau newid ein syniad am y weddw yr un foment. Anghofiodd fy nghydymaith fygu, ac edrychodd gyda llygaid llaith a thosturiol ar yr eneth, oblegid nid oedd hi, o ran oedran, ond geneth. Edrychai y person fel pe buasai yn gwrando ar un yn areithio ar Ddadgysylltiad, ac ni ddywedodd un ohonom air arosem i ruthr ei theimladau fyned drosodd. Yn y man, sychodd y ferch ei llygaid, ac wedi ocheneidio ddwywaith neu dair ychwanegodd yn gyflym—
"Rown i'n estron, fel gwedes, ac ynte nemor well. Thynes i mo nillad am thefnos gron, ond tendo, tendo, arno e ddid a nos. Ond dod hyni ddim, waith dod arna i gwsg na blinder, a fe odd yn dodde'n giwt na choeliech, a digon gwâth i un fod ar i bûs i sychu'r chwŷs oddar i ben. Fe wede rhyw beth wrthw i o'r funid gynta na chiwrie, a fe fu fisodd lywer yn dihoeni i'r dim ar weli, a nine'n dlowd. Rodd gen i, bid siŵr, rou punodd wedi'u safo at ddodren ti; ond toc yr oethon i gael chware teg iddo am ddim dos dim i gael o gartre. Fe fu, serch hyni, rou cymdogon yn ffeind tu hwnt, nes iddynt flino. Mae pawb yn blino rhoi os na fydd cariad fe ddala hwnnw byth. Fe nes y ngore ac eitha mhywer idde, a rodd canmil mwy'n y nghalon. Ond rodd ei amser wedi dod i ben, a Duw a fyne i hyni fod, a mi glous y mem yn gweud—lle llysio Duw na thycie ffisig na phlaster, a phan fo'r Ne yn galw y rhaid i ddyn farw. Mi wn yn serten fod e heddi'n well ei le, waith rodd e'n fachgen piwr, a fe wede gant o dnode o'i go, a'i ofid mwya odd ei ofan fod e wedi ngharu i yn fwy na'i Brynwr. Rodd arno whant cael trengu er's tro, waith rodd e'n rhy wan i ddal ei wendid, adodd prin ei lun mewn gweli. Rodd e'n pôni hefyd pan ffeindiodd fod pob penny wedi myn'd, a'n bod ni'n biw ar wyllys da'n cymdogon. Mi gedwes hyn oddi wrtho e cyd y medrwn, ond ffeindo nâth. A phan ffeindws fod ni'n derbyn lusen plw dodd arno e mwy ach whant cael biw. Serch hyni e lingrws yn hir. Y noson ola bu e biw, rown i ar'i bûs yn'i wylio. Rodd ei bône lywer llai, a mine'n meddwl taw gwell odd e. Fe slwmbrws; ac fe slwmbres ine a'm clustie'n agored. Nid hir y bu heb waeddi 'Mary?' 'Be sy fy machgen?' be fine. Be sy ar bobol y capel eisie yma'n nawr?' be fe. Dos dim ohonynt yma, machgen,' be fine. Oôs, maent o'r tu fas i'r ddôr yn canu'n brâf, chlywch chi monyn, Mary? be fe, ac fe geuws ei lygaid fel i wrando'n well, ac fe drengws, a mi greda byth taw canu'r Ne a glywe ngwâs. Rodd arna i whant cael trengu gydag e, waith dodd gen i ddim ar y ddaear wedi iddo e fyn'd i hido am dano. Dodd gen i beni i hela llythyr i mem. Fe ddaru'r Plw ei gladdu, a rown i'n crigo fwy nag y coeliech wrth weld ei goffin—rodd e'n wâl drosben—a mi goelia taw hen focs sebon odd e, a mi gries nes own i'n sick. Siawns y gwelsoch y relieving officer yn station yn moin tocyn i mi i'm hela gartre. Ac yno'n awr rw i'n mynd; ond ma nghalon gydag e 'n y fynwent yn mhlw Riwabon."
"Ymhle y mae eich cartre, wraig fach?" gofynodd yr ysmygwr.
"Aberdar," ebe hi.
"Oes gynoch chi deulu yno?" gofynodd eilwaith.
"Ma imi fem afiach a thlowd; ond 'dawn unweth yno mi fyddwn efo 'mhobol, a ma pobol y South yn gnesach a mw cymdogol." Edrychodd yr ysmygwr i wyneb y person, cystal a dyweyd—"rhowch gynghor neu air o gysur i'r weddw ieuanc," a chymerodd yntau yr awgrym, ac ebe fe, "Mae o'n trugaredd mawr i chi bod chi'n ifanc a dim plant gynoch chi. Mi gellwch mynd i lle ar un weth, a dene peth gore i chi gneyd mynd i service at once. "
Wedi clywed cynghor y person, ebe yr ysmygwr, "Dydwi'n amme dim, wraig fach, nad ydach chi wedi dwad trwy lawer o helynt; ac yr ydw i wedi sylwi, ac yn brofiadol o'r peth fy hun, y gellir priodoli y rhan fwyaf, os nad yr oll, o helyntion y byd yma i'r ffaith fod pobol yn mynu priodi. Dydw i yn gwbod am ddim da yn deillio i neb o'r priodi yma ond i'r personiaid a'r pregethwyr—mae o'n rhan o'u hincwm nhw—yn enwedig y personiaid, achos mi glywes fod rhai o'r pregethwyr yn gneyd y job am ddim. Ond bydae pawb yn gneyd penderfyniad i beidio priodi mi fydde diwedd ar yr helyntion i gyd ymhen rhyw drugain mlynedd—fe âi pawb i ffwrdd yn ddystaw ac yn llonydd, ac fe fydde'r cwbl drosodd. Ond y mae yn debyg mai nid felly y bydd hi, a thra mae pawb ond ychydig o rai synwyrol—yn mynu priodi, 'does dim ond helyntion i'w dysgwyl yn oes oesoedd. Cyn i mi briodi—a chymeryd geneth ddiarth i'w chadw, nad oedd hi yn perthyn ddim byd i mi—yr oeddwn i yn berffaith hapus; ond ar ol gneyd y job hono, wel,—dawch am danaf! Ddiwrnod 'y mhriodas mi gês ddigon o Eglwys am byth bythoedd; ac felly dydw i ddim yn gweld fy hun yn gymwys i roi cynghor i chi yn eich helynt; ac ychydig eraill a gewch chi yn barod i'ch cynghori os na cha nhw dâl am'u gwaith. Mi ddarllenes stori dda er's talwm—mi cofies hi byth. Un tro yr oedd dau longwr—yr unig ddau o'r criw oedd wedi'u safio pan aeth y llong i lawr yn y storm. Yr oedd y ddau rywfodd wedi llwyddo i gael cwch, ac yr oeddan nhw wedi bod am rai dyddiau ar wyneb y dyfnder heb damed na llymed ac heb obaith am waredigaeth. O'r diwedd fe feddyliodd y ddau fod hi yn y pen arnyn nhw, ac y bydde raid iddyn nhw farw, ac entro i'r byd mawr tragwyddol, a fe aethon i feddwl am'u heneidie, fel y bydd raid i ni gyd ryw ddiwrnod, ddyliwn. Wel i chi, roedd y ddau yn ddigon annuw iol, fel fine. Fedre 'run o'r ddau ddarllen, bydase gynyn nhw lyfr i'w ddarllen, a fedre nhw na chanuna gweddio. A bre un o honyn nhw—Jack, mae hi yn y pen arnom ni, a rhaid i ni neyd rhywbeth. Fedrwn ni na chanu na gweddio, ond ni fedrwn neyd casgliad, 'a mi a'th efo'r het o gwmpas, a mi deimlodd y ddau yn well o lawer ar ol gneyd y casgliad.' Wel, wraig fach, yr ydw inau yn teimlo yn debyg iawn iddyn nhw—dydio ddim yn fy line i i'ch cynghori, ond mi fedraf neyd casgliad i chi." Gan gymeryd ei het a rhoi dau ddarn hanner coron ynddi, estynodd hi ataf fi a chyfrenais inau rywbeth yn ol fy mhoced. Estynodd yr ysmygwr yr het drachefn at y person, ond ysgydwodd y gwr eglwysig ei ben gan ddadgan fod ganddo ef ddigon o le yn 'ei blwyf ei hun i gyfranu ei arian, ac nad oedd efe yn adnabod y wraig oedd newydd adrodd ei hystori. " Dowch, dowch, peidiwch a bod yn galed, ŵr da," ebe'r ysmygwr. Yn gwneuthur daioni na ddiffygwn."
Digon gwir," ebe'r person, "ond mae isio edrach yn lle ac i pwy i gneyd daioni." "Risciwch hi am y tro, "ebe'r ysmygwr.—Be wyddoch chi na yriff rhagluniaeth briodas extra i chi am y weithred dda hon? Ac y mae amser y degwm yn ymyi, chwi wyddoch."
"Na, fi dim rhoi dim."
"Agorwch eich calon, frawd," ebe'r ysmygwr yn "Yr ydw i yn credu yn solet yn yr olyniaeth apostolaidd, a mi glywes fod pobpeth yn gyffredin ganddyn nhw. A mi gewch chi gredit am y weithred hyd yn nod bydae chi yn gneyd mistake; ond am danaf fi dydw i yn dysgwyl dim, achos yr ydw i wedi. fy gazettio mewn gweithredoedd da er's talwm. " Gyda llawer o ymadroddion eraill, ac yn hollol hamddenol, y blinodd, y cribodd ac y crafodd yr ysmygwr y gŵr eglwysig, gan ddefnyddio rhai geiriau rhyfygus, ac arfer hyfdra mawr, gyda'r canlyniad naturiol o chwerwi a brochi y person, yr hwn, o'r diwedd, a waeddodd allan yn ffyrnig
"Pa right sy gynoch chi i hymbygio fi? chi ddim yn gŵr boneddig."
Gwir bob gair, syr," ebe'r ysmygwr, gan danio ei getyn, " fum i 'rioed yn wrboneddig, a fydda i byth chwaith. Ffermwr tlawd ydw i, syr, a phrif amcan a diben 'y modolaeth i ydi talu degwm—i hyny y crewyd fi a fy sort. Gŵr boneddig wir! be bydae chi yn 'y ngweld i gartre, syr, mewn clôs cord ac yn faw at benau 'y ngliniau? adwaenech chi byth mona' i! Twyllo pobol yr ydw i, wyddoch, efo'r dillad brethyn yma; achos dydw i ddim wedi talu am danyn nhw, cofiwch. Mi fyddaf yn gneyd i'r teiliwr rodio wrth ffydd a byw mewn gobaith, ac yn deyd wrth y siopwr a'r gôf am gymeryd eu gwynt; ond bydawn i ddiwrnod ar ol heb dalu'r degwm fedrwn i ddim cysgu yn 'y ngwely, syr, gan gnofeydd cydwybod! Y diwrnod o'r blaen, syr, yr oeddwn i yn talu deunaw punt-ar-hugain o ddegwm, a choeliech chi byth mor hapus oeddwn i yn teimlo ar ol gneyd hyny! Beti, 'meddwn i wrth hon acw,' wyt ti ddim yn meddwl y mod i yn ddyn ods o liberal! Be wyt ti yn son am dy swllt yn y mis at yr achos! Dyma fi heddyw wedi talu agos i ddeugain punt i ddyn am bregethu'r Efengyl na chlywes i 'rioed mono yn agor ei geg, ond pan oedd o yn claddu fewyrth Nedmond mi dales iddo am y job hono ar ei phen ei hun. Son a wnaiff pobol am Rad Ras! Symol rhad, os gwelwch chi'n dda! Wyddost ti be, Bet, ' meddwn i, os na chawn ni fynd i'r nefoedd yn y diwedd mi fydd yn andros o gwilydd.—Dyma ti efo dy swllt yn y mis, a fine efo fy dros dair punt yn y mis, wel, siwr ddyn na wrthoda nhw monon ni yn y diwedd? ne mi ddylen droi'r arian yn ol—a mi fydde hyny i'r plant yma yn swm go deidi. Ond prun bynag, ' meddwn i, ' mae'r degwm wedi 'i dalu—a mi gaiff y Cymry, druain, Efengyl am dipyn eto, a chymered pawb eraill'u siawns! Mae nghydwybod i yn dawel,' a mi gysges fel top y nos waith hono, syr.'
Cyrhaeddasom station—nid wyf yn cofio ei henw a phrin y cafodd y trên sefyll cyn i'r gwr eglwysig ruthro allan. Edrychodd yr ysmygwr ar ei ol: ac wedi tynu ei ben i mewn a chyflwyno yr arian i'r weddw—yr hon, ar y dechreu, oedd yn anmbarod iawn i'w derbyn, ond wedi hyn a'u cymerodd yn ddiolchgar—ebe fe
"Mi wyddwn mai newid ei compartment yr oedd y brawd. Yr ydw i yn nabod yr hen godger yna cyn heddyw. Fe ddaru i'n cyfeilles yma pan soniodd hi am gwrdd a chapel' adamanteiddio olynwr yr apostolion mewn chwinciad! Wni ddim be ydach chi, syr, (gan fy anerch i) o ran eich crefydd, a dydio ddim llawer o bwys gen i. Ond a wyddoch chi? feder y chaps yna ganfod, na deall, na theimlo dim os na fyddant ar dop y clochdy. Y clochdy ydyw eu harsyllfa, eu deddf foesol, a'u hefengyl, a goreu po gyntaf y tynir y clochdy i lawr, meddaf fi. Yr ydach chi yn dallt 'y meddwl i? Fel 'roeddwn i'n deyd wrthoch chi—yr ydw i yn nabod y chap yna cyn heddyw. Mae ganddo living yn Sir Ddinbych, a hono yn un dda—rhy dda o'r hanner i'w groen o. Mae y gymydogaeth wedi ei meddianu gan yr Ymneillduwyr, a'u capeli nhw yn llawn, ac y mae nhw yn talu yn ewyllysgar i'w gweinidogion o'u pocedau eu hunain; ac yntau, y creadur druan! ar ol i'w gloch o fod yn tincian yn ddigalon am chwarter awr, yn gorfod wynebu cynnulleidfa anferth—agos gymaint a hono yr oedd Noah yn pregethu iddi yn yr arch, adeg y diluw. Pan fydd o yn darllen y Deg Gorchymyn, bydae o yn 'u rhanu nhw rhwng ei gynnulleidfa mi fyddai raid i rai o honyn nhw gymeryd mwy nag un hyd yn nod bydae o yn cymeryd "Na ladrata" iddo fo ei hun. Tuag ugain mynyd fydd hyd "y gwasanaeth." "Yr hen bum' munyd," mae nhw yn 'i alw fo—achos dyna ydi hyd 'i bregeth o. Wyr o fwy am pulpit sweat nag a wyr pry' copyn am y frêch wen. Ei waith ar hyd yr wythnos ydi dawnsio i'r Squire, a cheisio creu rhagfarn yn erbyn ysgolfeistr y Board School, yr hwn, am chwarter y cyflog, sydd yn gneyd mwy o waith mewn wythnos nag y mae ef yn ei neyd mewn blwyddyn. Bydae o yn gorfod byw ar gynnyrch ei ymenydd fe lwge cyn pen yr wythnos—os na wnai ei floneg ei gadw yn fyw dipyn yn hwy. Pa fath bobol, syr, ydach chi yn ein galw ni y Cymry? Slaves di enaid a diyni yr ydw i yn 'u galw nhw yn dyodde y pla yma er's oesoedd. Mi fyddaf yn synu na fasen ni er's talwm wedi codi fel un gwr i ymlid y lot ddiog hyn oddiar ein porfëydd! Maent yn casâu ein hiaith, ac wedi gneyd eu goreu i'n cael dan draed y Saeson, ac ar yr un pryd y maent yn bwyta brasder ein gwlad a chynnyrch ein tiroedd—a ninan a'n llaw wrth ein het iddynt am neyd hyny! Ond y mae dydd eu dial hwythau yn dod—dydi eu barnedigaeth nhw ddim yn hepian. Henffych fore! Pan welaf ddydd y Dadgysylltiad—ac yr ydw i'n credu y gwelaf fi o—a phan fydd raid i bawb fyw ar 'i liwt 'i hun, mi fyddaf yn barod i ddeyd 'Yr awr hon y gollyngi dy was'! Wel, dyma fi ymhen fy nhaith. Siwrnai dda i chwi, a pheidiwch a synu os gwelwch chwi finau yn Llandrindod."
Ni welais yr ysmygwr byth ond hyny. Dichon ei fod yn extreme man, ond er hyny yr oedd rhywbeth yn ddymunol ynddo. Bore dranoeth, yn Llandrindod, mi a yfais—fel ynfydion eraill oedd yno—wyth gwydriad o iechyd da i'r ysmygwr, a hyny cyn brecwest.