Neidio i'r cynnwys

Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I/Howell Harris (1747–48)

Oddi ar Wicidestun
Howell Harris (1746) Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I

gan John Morgan Jones


a William Morgan, Pant
Howell Harris (1749–50)

PENOD XIV.

HOWELL HARRIS
(1747-48)

Gwaredigaeth hynod yn Llansantffraid—Amryw Gymdeithasfaoedd—Harris yn cyhuddo Williams, Pantycelyn, o bregethu yn ddeddfol—Dealltwriaeth a'r Wesleyaid—Howell Harris yn ymweled a Mon, Arfon, Dinbych, a Meirionydd—Llythyr cryf at y Parch. Edmund Jones—Taith i Orllewin Lloegr—Syr Watkin Williams Wynne yn erlid y Methodistiaid—Cymdeithasfa Llanbedr—Adroddiad am gasgliad—Cymdeithasfa Caerfyrddin—Y myfyrwyr yn rhuthro i'r Gymdeithasfa—Howell Harris yn Sir Benfro—Dadl a dau weinidog Ymneillduol.

YR ydym yn cael Howell Harris, y dydd cyntaf o'r flwyddyn newydd, yn Hwlffordd, yn Sir Benfro. Gwedi pregethu, bu mewn ymgynghoriad a'r gweinidogion Morafaidd, y rhai erbyn hyn oeddynt wedi sefydlu achos yn y dref. Tybiai mai gwell fyddai cael cynhadledd o'r Morafiaid a'r Methodistiaid, er symud rhyw feini tramgwydd. Nid oedd am undeb â hwy, ychwaith, ond am i'r ddwy blaid synio am eu gilydd mewn cariad. Tranoeth, y mae yn Longhouse, a'r noswaith hono yn Nhyddewi, lle yr oedd cynulleidfa anferth wedi ymgynull. Aeth yn ei flaen trwy Felindre, Llechryd, a Thy'r Yet, gan gyrhaedd Castellnewyddyn-Emlyn dydd Mercher, lle y cynhelid Cymdeithasfa Chwarterol. Agorwyd y Gymdeithasfa gyda phregeth gan Williams, Pantycelyn; yr oedd yn hynod felus. Yna, pregethodd Harris, yn benaf ar gyflwr y deyrnas, yn wleidyddol a chrefyddol. Bu yn Gymdeithasfa hapus drwy ddi; teimlai Harris fod ei yspryd wedi ei uno ag eiddo y brodyr am byth. Ymdriniwyd ag amryw faterion, megys cateceisio, dyledswydd y seiadau i ymgynghori a'r arweinwyr cyn derbyn neb i'w mysg i bregethu, a pheidio goddef neb i fod yn bresenol yn y seiadau ond yr aelodau. Gwedi darllen yr adroddiadau, yn mysg y rhai yr oedd cyfeiriad at y tŷ seiat a gawsai ei adeiladu yn Llansawel, a chwedi trefnu. y Gymdeithasfa ddilynol, ymadawyd yn felus. Nid oes unrhyw gyfeiriad yn cael ei wneyd at Daniel Rowland na Howell Davies; y mae yn debyg nad oeddynt yn bresenol. "Tybiaf," meddai Harris, "fy mod yn gweled pethau mawrion yn agoshau, gwedi yr ystorm a'r brofedigaeth ddiweddar, yr hon, mi a hyderaf, sydd yn agos trosodd." Dychwelodd trwy Maesnoni, Llangamarch, a Llansantffraid. Yn y lle diweddaf cafwyd gwaredigaeth ryfedd. "Yn y seiat breifat," meddai Harris, "yr oeddym i fynu y grisiau, tua dau gant o honom, a thorodd y trawst canol, fel y syrthiasom oll. Eithr ni thorwyd asgwrn i neb. Yr oedd plentyn bach yn y cryd o dan y cyfan; ond aeth estyllen ar draws y cryd, fel na chyffyrddodd dim a'r baban; yn wir, ni ddeffrodd o'i gwsg. Pe y digwyddasai bum' mynyd yn gynt cawsai llawer eu clwyfo." Aeth gyda Mr. Williams, offeiriad Llansantffraid, i'r eglwys, lle y gwrandawodd bregeth dra rhagorol. Gwedi pregethu ei hun, yn ofnadwy o ddifrifol, dychwelodd adref.

Yr wythnos ganlynol yr oedd Cymdeithasfa Fisol yn Nhrefecca. Agorwyd hi gyda phregeth gan Howell Harris, oddiar y geiriau: "Hyd yn hyn ni ofynasoch ddim yn fy enw i," &c. "Cefais yr Yspryd gyda mi yn wir," meddai, "i egluro iddynt natur cyfiawnhad; y modd yr ydym yn gyfiawn yn nghyfiawnder Crist; yn addfwyn yn ei addfwynder, ac yn ufudd yn ei ufudd-dod. Dangosais nad oes genym ddim cyfiawnder ynom ein hunain; a pha mor bell y gallwn fyned mewn gras, ac eto bod yn dra anwybodus am farwolaeth a chyfiawnder yr Iesu. Yn sicr, rhwygwyd y llen heddyw, a gwelodd llawer eu hunain yn gyflawn yn y wisg hon." Y mae yn amlwg nad oedd Harris yn glynu yn glos wrth ei destun, ond ei fod yn cymeryd rhyddid i fyned oddiwrtho at unrhyw wirionedd y tybiai mai buddiol fyddai ei draethu. Gwedi y bregeth yr oedd seiat gyffredinol i'r holl aelodau. Ac ymddengys ei bod yn gyfarfod rhyfedd; y dylanwadau dwyfol a lanwent y lle. Yn ngwres y cynhyrfiad, gwaeddai Harris: "Y chwi a fedr fyned ymaith, ewch; ni fynwn neb yma ond y rhai sydd a gorfodaeth. arnynt i ddyfod. Os nad ydych wedi eich geni oddi uchod; os nad ydych o rif y rhai y rhaid iddynt weddio, a bod yn ddiwyd gyda eu hiachawdwriaeth, cedwch draw. Ond nis gallwch gadw draw; y mae yn rhaid i chwi ddyfod, oblegyd yr Arglwydd sydd Dduw, a rhaid i bob peth roddi ffordd. O, gynifer o bethau sydd yn eich tynu yn y blaen! Y mae y cyfamod yn dweyd, Y mae yn rhaid iddynt ddyfod!' Y gwaed sydd yn dywedyd, Rhaid iddynt ddyfod! Felly hefyd y dywed gras, a'r addewidion." Hawdd deall fod tân Duw wedi disgyn i'r lle, a bod calon Harris yn llosgi yn ei fynwes. Yn y Gymdeithasfa, nid yw yn ymddangos i benderfyniadau o bwys gael eu pasio, ond cymhellai y Diwygiwr y cynghorwyr gyda phob difrifwch i osod i fynu gateceisio yn mhob man, ac i anog yr aelodau i ymgydnabyddu a'r Ysgrythyr.

Diwedd yr wythnos, cychwyna am daith o rai wythnosau trwy Wlad yr Haf, Devon, a Chornwall, ond ar ei ffordd y mae yn pregethu mewn amryw leoedd yn Siroedd Morganwg a Mynwy. Aeth y noson gyntaf tua Blaentawe, ac wrth groesi y mynyddoedd, yr oedd ei fyfyrdodau yn sefydlog ar yr Ysgrythyr, a theimlai fod Duw yn gydymaith iddo. Yr oedd y myfyrdod tawel hwn wedi nawseiddio ei yspryd ar gyfer yr odfa. Yr efengyl yn allu Duw er iachawdwriaeth oedd ei fater, a chafodd lawer o ryddid i lefaru. Boreu dranoeth, pregethodd yn Gelly-dorch-leithe, a'r nos yn Castellnedd. Ymddengys fod y seiat yn y lle diweddaf mewn cryn derfysg, fod ynddi rai o olygiadau Arminaidd, yr hon gyfundraeth nas gallai Harris ei goddef. Anerchodd yr aelodau yn gryf, aelodau yn gryf, dywedodd y rhaid iddynt ddewis y naill blaid neu y llall, nas gallent berthyn i'r ddwy. Yna, eglurodd athrawiaeth etholedigaeth, ac atebodd wrthddadleuon. "Paham y geilw Duw arnom i droi, oni feddwn allu i droi?" meddai y gwrthddadleuydd. Atebai yntau: "Os ydym ni wedi colli y gallu i gyflawni, nid yw yr Arglwydd wedi colli ei hawl i ofyn." Eglurodd, yn mhellach, ddarfod i Dduw roddi y gyfraith i ddyn er argyhoeddiad, dangos iddo ei fod yn golledig, a'i gau dan gondemniad. Gwedi hyn, esboniodd iddynt ei safle ei hun, y modd yr oedd yr Arglwydd a'r brodyr wedi ei osod yn ei le, fel Arolygydd cyffredinol dros y seiadau a'r cynghorwyr; ond rhag ofn hunangais nad oedd wedi defnyddio ei awdurdod; a gorchymynodd iddynt na oddefent i neb ddyfod i'w mysg i gynghori ond rhai wedi eu hawdurdodi i hyny. Tybia iddo fod yma, dan fendith Duw, yn foddion i rwystro rhwyg. Gwedi hyn ymwela a'r Hafod, a Nottage. Yn y lle diweddaf, datgana ei farn y byddai i'r Methodistiaid, y Wesleyaid, a'r Morafiaid, gael eu huno a'r Eglwys Sefydledig. Yn sicr, y dymuniad oedd tad y meddylddrych. Dranoeth, y mae mewn lle o'r enw Ffwrnes-newyddar-Daf. Yn y seiat breifat yma cododd Satan wrthwynebiad i athrawiaeth dirgelwch y gwaed, yn mherson rhyw gynghorwr anghyoedd. Ceryddodd Harris ef, a chan ei fod yn parhau yn gyndyn bu raid iddo ei ddiarddel. Y dydd canlynol, yr oedd Cymdeithasfa Fisol yn New Inn, Sir Fynwy. Llefarodd yntau yn helaeth ar ei le ei hun fel Arolygwr cyffredinol; ar ei benderfyniad i beidio gadael Eglwys Loegr, er ei fod yn caru yr Ymneillduwyr; anogodd i ddysgyblaeth mewn teuluoedd, ac ar i bob un adnabod ei le. "Gwedi i mi orphen," meddai, "cefais brofedigaeth oddiwrth y brawd Morgan John Lewis. Dywedai fy mod yn tra awdurdodi arnynt, ac yn eu cadw mewn caethiwed. Nad iawn i mi ddweyd fod pawb a'm gwrthwynebai i yn dywyll, yn gnawdol, a than lywodraeth y diafol. Nad oedd genyf awdurdod Gair Duw dros yr hyn a wnawn, a thros i bawb roddi i fynu eu cred i Grist a'i eglwys, ond fy mod wedi ei gael oddiwrth y Morafiaid. Dywedai ei fod ef yn bleidiol i Rowland, a bod genyf ragfarn at y Parch. Edmund Jones. Canlynwyd hyn gan derfysg dirfawr." A pha eiriau y darfu iddo ateb Morgan John Lewis nid yw yn dweyd; ond ymddengys i'r Gymdeithasfa fod yn dra anhapus. "Yr oedd llawer o frwdaniaeth yno," meddai, "a daeth Satan i lawr." Eithr ymddengys i bethau dawelu cyn y diwedd, ac iddynt drefnu amryw bethau yn heddychol.

Aeth yn ei flaen trwy Bryste, lle y cynhelid Cymdeithasfa, Bath, Wellington, Exeter, Kingsbridge, Plymouth, a St. Gennis, yn Cornwall. Parhaodd y daith hon am bum' wythnos, ac am ran fawr o honi yr oedd John Wesley yn gydymaith iddo. Tri diwrnod y bu gartref ar ol dychwelyd cyn cychwyn i Gymdeithasfa Fisol Llanfair-muallt. Yr oedd nifer o'r cynghorwyr wedi ymgasglu yma, yn nghyd â dau offeiriad, a'r boneddwr duwiolfrydig, Mr. Gwynn. Galarai Harris o herwydd fod Antinomiaeth ar gynydd yn y parthau hyn. "Arholais bregethwr," meddai, "a daethom i benderfyniad gyda golwg ar dŷ yma." Y "tŷ" hwn oedd Capel Alpha, yr hwn yn fynych, ond yn annghywir, a elwir yn gapel cyntaf y Methodistiaid yn Nghymru. Eu capel cyntaf yn Mrycheiniog ydoedd. Ymwelodd yn ganlynol a'r Tyddyn, lle y treuliodd y Sabbath. A oedd yma fath o Gymdeithasfa, nis gwydd om; ond penderfynodd ef a'r brodyr i wneyd y dydd Mercher canlynol yn ddydd gweddi dros Lewis Evan, yr hwn o hyd oedd yn y carchar. Gweddïodd yn daer dros Ogledd Cymru, ar i Air yr Arglwydd redeg; gwelai mai yn erbyn Duw yr oedd yr holl wrthwynebiad. Y dydd dilynol, yr oedd yn Penybont, Sir Faesyfed, a bu yn dra ĺlym yn y seiat breifat wrth y proffeswyr clauar. "Dangosais y ddyledswydd," meddai, "o roddi y cwbl a feddem. i'r Arglwydd, a chael pob peth yn gyffredin; a'r modd yr oedd yr Arglwydd wedi ymddwyn atynt hwy, a hwythau ato ef.

CAPEL ALPHA, LLANFAIR-MUALLT, SIR FRYCHEINIOG.

[Adeiladwyd gyntaf yn y flwyddyn 1747. Darlun yr ail Gapel ydyw hwn.]

Adroddais iddynt fy hanes; fy mod am amser wedi bod yn teithio haner can' milltir y dydd, ond na wnaent hwy ddyfod ychydig filltiroedd i'r cyfarfodydd, rhag ofn cael anwyd. Datgenais y trown allan bawb a absenolai eu hunain o ddwy seiat, pwy bynag a fyddent; na chaffai tŷ Dduw ei ddirmygu ganddynt, y caent deimlo awdurdod y weinidogaeth." "Yr ydym wedi derbyn cenadwri gan Dduw," meddai; "ac er nad ydym yn galw ein hunain yn esgobion, offeiriaid, na diaconiaid; eto, yr ydym yn weinidogion yr Arglwydd. Y mae Duw yn ein hadwaen. Yma yr oeddwn yn llym, oblegyd nad oedd ganddynt dŷ cwrdd, gan ddangos y gallai amryw o honynt gyfranu pum' neu ddeg punt. Llawer a ddarostyngwyd, ac a oeddynt yn ddrylliog, gan waeddi: 'Myfi yw y gŵr. A darfu i rai o honynt gyduno i gyfarfod, i adeiladu tŷ." Gwelwn ddau beth yn y difyniadau hyn. Sef (1) Fod capelau wedi cael eu hadeiladu mewn cryn nifer o leoedd yn mysg y Methodistiaid, fel y mae Harris yn ei theimlo yn ddyledswydd arno i geryddu seiat Penybont-lle gwledig, yn Sir Faesyfed-am na buasent hwythau wedi gwneyd yn gyffelyb. (2) Cawn yma, am y tro cyntaf, awgrym, ar ba un y gweithredodd Howell Harris ar ol hyn yn Nhrefecca, sef na ddylai Cristionogion ddal eiddo personol, ond bod a phob peth yn gyffredin rhyngddynt. Dranoeth, brysiodd Howell Harris i Drefecca, lle yr oedd Cymdeithasfa Fisol i gael ei chynal. Agorodd y Gymdeithasfa gyda phregeth ar y geiriau: "Pan wyf wan, yna yr wyf gadarn." Dywed ei fod yma mewn lle ofnadwy, yn sefyll megys rhwng y byw a'r meirw. "Yr oeddwn yn llym at yr Ymneillduwyr," meddai, "a'r holl broffeswyr cnawdol, gan ddangos eu bod oll yn ddigllawn wrthyf am fy mod yn eu ceryddu, ond mai mewn cariad yr oeddwn yn gwneyd hyny, a phe bai yn fy ngallu, y dyrchafwn hwy i fynu o'r llwch. Dangosais ein bod yn gyflawn yn Nghrist, yn ddyogel yn Nghrist, ac yn fwy na choncwerwyr ynddo ef." Yn y seiat breifat a ddilynai, daeth yr Arglwydd i lawr, a rhoddodd i Harris bethau newydd a hen i'w dweyd. Dangosodd nas gallent fyned yn ol, y rhaid iddynt fyned yn mlaen. Yn y Gymdeithasfa, nid yw yn ymddangos i unrhyw benderfyniadau gael eu pasio; treuliwyd yr amser trwy fod Harris yn adrodd am lwyddiant y gwaith yn Lloegr.

Ddechreu mis Mawrth, aeth i Lundain, lle yr arhosodd hyd y Pasg. Prin yr oedd wedi dychwelyd na chawn ef yn cychwyn drachefn i Gymdeithasfa Chwarterol Watford. Y dydd Gwener blaenorol i'r Gymdeithasfa, pregetha yn y Goetre, Sir Fynwy; ac yn y seiat breifat trinia yr aelodau yno yn llym. "Dangosais iddynt,' meddai, "y fath yspryd gwrthwynebol i'm gweinidogaeth oedd yma o'r cychwyn; mor ddiog oeddynt, fel na ddeuent dair milltir o ffordd, i'r New Inn, i'n cyfarfod cyffredinol; ac felly, eu bod yn gwneyd yr oll a allent i rwystro y gwaith. Eu bod yn absenoli eu hunain o'r Eglwys, ac yn gadael ei chymundeb, tra y mae yn amlwg ddarfod i'r Arglwydd ein galw yn y dull hwn; a'u bod yn gwanhau fy nwylaw yn fwy na neb. Dywedais, oni symudent yn mlaen, na ddeuwn i'w mysg; nas gallwn fyned lle nad oedd athrawiaeth y gwaed, a'r gwaed ei hun, trwy yr Yspryd, yn cael rhedeg yn rhydd. Os yw yr athrawiaeth yn faich arnoch, meddwn, y mae, mewn ystyr, felly i mi, oblegyd yr wyf yn appelio at Dduw nas gallaf beidio ei phregethu; nid gan ddyn na dynes ei derbyniais, ond gan Dduw; y mae genyf er ys saith mlynedd. Datgenais mai dyma fy ymweliad olaf, oddigerth i mi weled cyfnewidiad; yna, lleferais yn felus am y gwaed, a'r Yspryd a ddaeth i lawr, ac yr oeddym yn dra thyner." Yr oedd seiat y Goetre yn gyfagos i'r New Inn, lle y gweinidogaethai Morgan John Lewis, yr hwn oedd yn wrthwynebwr cryf i athrawiaethau neillduol Howell Harris, a rhydd hyn gyfrif am y gwrthwynebiad a deimlid yno at y Diwygiwr o Drefecca. Y mae yn ffaith awgrymiadol na ymwelodd Harris. y tro yma a'r New Inn. Aeth i Lanheiddel y Sadwrn; treuliodd y Sul yn nhy Robert Evans, ger Caerleon-arWysg; pregethodd yn Llanfaches dydd. Llun, ac yr oedd yn bur llym at yr aelodau. Daeth i Watford y nos cyn y Gymdeithasfa, a chlywodd y fath chwedlau, fel y gofidiwyd ei enaid ynddo. Nis gwyddai pa fodd i weithredu, gan fod rhyw gynghorwr wedi ei ddwyn yno a droisai efe allan, am nad oedd ei yspryd mewn cydymdeimlad a'r Methodistiaid. Yr oedd yno, hefyd, weinidog perthynol i'r Ymneillduwyr, yr hwn, yn groes i ddymuniad Harris, a elai o gwmpas y seiadau. Yn ei drallod, ymneillduodd i weddïo. Llewyrchodd yr Arglwydd arno pan ar ei liniau; dychwelodd at y brodyr, ac wrth gydymddiddan symudwyd rhan fawr o'i faich. Yna, aeth i'r Groeswen i wrando Daniel Rowland yn pregethu. Y testun oedd, Heb. vi. 7, a chafwyd odfa ryfedd; teimlai Harris ei serchiadau yn ymglymu am ei anwyl frawd wrth wrando, a hyny braidd yn dynach nag erioed.

Y peth cyntaf a wnaed yn y Gymdeithasfa oedd appwyntio tri brawd i gynorthwyo Howell Harris yn ei waith fel arolygydd, sef Benjamin Thomas, y gweinidog Ymneillduol, Thomas a Thomas Williams, o'r Groeswen, oedd y diweddaf, yn ddiau, a phrofa ei appwyntiad ei fod wedi ail-gysylltu ei hun yn llwyr a'r Methodistiaid. Daeth cryn gyffro ac anghydwelediad i fysg y brodyr wrth ymdrin ag achos y cynghorwr yr oedd Harris wedi ei ddiarddel. Er na ddywedir hyny yn bendant, awgryma y dydd-lyfr na chadarnhawyd y ddedfryd. Yn y cyfwng rhwng y cyfarfodydd cafodd Harris ymddiddan preifat pur faith â Rowland, ac ymddengys fod teimladau da yn ffynu rhyngddynt. "Yr Arglwydd a gymerodd ymaith y beichiau annyoddefol oedd yn gwasgu arnaf," meddai Harris; "cefais ryddid i ddweyd wrth y brodyr oll yr hyn a dybiwn oedd allan o le ynddynt, a'r modd y dylem gryfhau breichiau ein gilydd. Y dylai yr offeiriaid a minau ddweyd wrth ein gilydd y pethau a glywn, fel y gallwn ymdrin â hwy cyn dyfod i fysg y brodyr, onide y collwn bob awdurdod. Cefais nerth i geryddu balchder y brodyr, gan ddangos y dylai gwroldeb, callineb, ffyddlondeb, a thynerwch fod yn ein mysg yn wastad, ac y dylai pob un adnabod ei le. Cefais lef ynof am i'r Arglwydd ddyfod i'n mysg. Gwedi penderfynu amryw bethau, a threfnu cylchdeithiau y brodyr, ymadawsom yn hyfryd, wedi ein dwyn unwaith i fin ymraniad. Ar y terfyn, pregethodd Daniel Rowland oddiar y geiriau: "Onid oes balm yn Gilead?" Ar y cychwyn, yr oedd Harris yn sych; ond pan ddaeth y pregethwr at waed Crist, er mai ychydig eiriau a ddywedodd am dano, cyffrodd ei yspryd ynddo; gwelai ynddo ei hun fynydd o hunan, a byd o falchder; ond gwelai, hefyd, y cai ei waredu oddiwrth y cwbl, gan mai yr Arglwydd sydd Dduw. "Yr wyf yn cael," meddai," nad yw pregethu profiad yn fy mhorthi; eithr pan leferir am y Dyn Crist, yna yr wyf yn cael ymborth." Y mae yr ymadrodd nesaf yn anhawdd ei ddeall. "Crybwyllais wrth y brawd Williams," meddai, "ei fod yn ddeddfol, a'i fod ar ol mewn athrawiaeth, gyda gorchudd ar ei lygaid. Ond wrth ganfod yr Arglwydd gydag ef, ac yntau mor syml, gwnaed fi yn ddiolchgar am yr holl ddoniau a rodded i'r naill a'r llall o honom." Williams, Pantycelyn, ar ol mewn athrawiaeth! Yr ydym ni wedi arfer edrych arno fel y penaf, braidd, o'r duwinyddion; fel un, yn rhinwedd rhyw reddf ysprydol a drigai ynddo, yn dyfod i gydnabyddiaeth â gwirioneddau dwyfol, y methai y duwinyddion athronaidd, gyda eu holl resymeg, ymddyrchafu atynt. Tybiem mai efe oedd y nesaf yn ei syniadau o'r Diwygwyr Methodistaidd at olygiadau neillduol Harris, parthed agosrwydd perthynas y ddwy natur yn mherson ein Harglwydd. Cawn yn ei emynau lawer o'r ymadroddion ag y beïd ar y Diwygiwr o Drefecca am eu defnyddio. Ac eto, cawn yma Harris yn ei gyhuddo o fod yn ddiffygiol mewn duwinyddiaeth, ac o fod â gorchudd ar ei lygaid. Nid oes genym un esboniad i'w roddi ar hyn; rhaid i ni gymeryd y dydd-lyfr fel y mae.

Dydd Sadwrn, aeth i St. Nicholas, lle y cafodd odfa felus. Ar y terfyn, cafodd ymddiddan a'r cynghorwr anghyoedd, William Harry, am gryfhau yr undeb rhyngddo ef a'r brawd Rowland. Gwelai y cynghorwr y byddai rhwyg rhwng y ddau arweinydd yn ddinystr i'r seiadau. Ymwelodd, yn nesaf, a'r Aberthyn, lle y llefarodd yn llym, gan ddangos y byddai y rhai nad ydynt yn ufuddhau i'r efengyl yn waeth eu cyflwr na'r paganiaid. Nos Sadwrn, daeth i Lantrisant, a phregethodd yn gyffelyb i'r modd y gwnaethai yn Aberthyn. Yn y seiat breifat a ddilynai gwnaeth ei oreu i uno yr aelodau; cymhellodd hwynt i osod i fynu gateceisio. Boreu y Sul, aeth i'r eglwys, lle y cafodd ei loni gan bregeth dda; a chwedi hyny, yn y sacrament, profodd ddirfawr felusder. Dydd Llun, y mae yn yr Hafod, lle y llefara am natur y gwaith a gerid yn mlaen gan Dduw yn Nghymru er ys deng mlynedd bellach. Cynghora y rhai a gymunent yn y capelau Ymneillduol i barhau i wneyd hyny, a'r rhai a arferent gymuno yn yr Eglwys i barhau yr un modd. Dengys y modd yr arosodd yr Apostolion yn yr Eglwys Iuddewig, er fod yr un rhesymau ganddynt dros droi eu cefnau arni, ag sydd gan y Methodistiaid dros gefnu ar yr Eglwys Sefydledig. Yna, aeth tua Chastellnedd. Ar y ffordd yno gwelai fod Duw yn anfeidrol; yn anfeidrol yn ei berffeithiau, yn anfeidrol yn ei wirionedd, ac yn anfeidrol yn ei gariad, fel nad oes un gwrthddrych mewn un man i'w gymharu iddo. Yn Nghastellnedd, cyfarfyddodd â chwaer grefyddol, a fwriadai ail-briodi, yr hon a honai ei bod wedi cael ateb oddiwrth yr Arglwydd gwahanol i'r hyn a gawsai Harris; daeth hyn yn drwm arno, gan beri iddo lefain ar yr Arglwydd : "Paham y gosodaist fi yn y safle hon?" Eithr gwnaed ef yn dawel yn ei feddwl, gan weled mai yr Arglwydd a drefnasai y lle iddo, ac a roddasai iddo gymhwysderau ar ei gyfer, a hyny er mwyn ei ogoniant ei hun. Pregethodd gyda rhyddid mawr, oddiar Gal. vi. 1. Dangosai y fraint o gael canlyn Crist; taranai yn erbyn anwiredd, gan ddangos fod y cyfamod tragywyddol yn erbyn pechod o bob math. Yn y seiat breifat, gosododd ryw gasgliadau ger eu bron, ac anogodd hwynt i ddysgyblaeth. Dydd Mawrth, cawn ef yn myned i wrando Daniel Rowland, i rywle cyfagos i Gastellnedd. Pregethodd y brawd Rowland yn ogoneddus heddyw," meddai, "ar undeb y credinwyr; dangosodd yr angenrheidrwydd ar iddynt oll gyduno mewn cariad, ac ar i bob un adnabod ei le, ac aros ynddo, fel na bydd y frwynen yn tybio ei hun yn gedrwydden, a'r falwoden yn meddwl ei hun yn gawrfil. Mwynheais ef yn ddirfawr; gwnaed i mi lawenychu o'i herwydd; a theimlwn yr undeb agosaf ag ef, gan ddymuno cael byw a marw gydag ef. Yr oedd nerth anarferol yn cydfyned a'r Gair; llanwyd eneidiau o'r Arglwydd, a chwythodd awelon balmaidd drosom." Wedi y cyfarfod, aeth Harris i ymweled â brawd claf, oedd yn llawn o ffydd; yna, teithiodd Rowland ag yntau yn nghyd i Glanyrafonddu, pellder o bum'-milltir-ar-hugain, ac ymddengys fod Williams, Pantycelyn, yn y cwmni. "Cefais lawer o ryddid i ddweyd wrth y brawd Rowland am fy undeb ag ef," meddai Harris; "am i ni fod yn un i gadarnhau dwylaw ein gilydd, ac er meddu awdurdod, gan geisio ganddo ef gynorthwyo. Cyfeiriais, hefyd, at yr Cyfeiriais, hefyd, at yr angenrheidrwydd am ddysgyblaeth. Yr oedd ef yn gryf yn erbyn yr athrawiaeth am dystiolaeth yr Yspryd, ac yn ddolurus. ar Mr. Griffith Jones. Llwyddais i'w gymedroli yn y ddau beth. Bu pethau Bu pethau eraill yn destunau ymddiddan, megys fy ngalwad i bregethu; yr Urim a'r Thumim, &c." Dranoeth, wedi cyrhaedd Glanyrafonddu, ysgrifena drachefn: "Y ddoe, wrth drafaelu gyda y brawd Rowland, cefais lawer o ryddid, ond gwelaf fod cryn waith i'w wneyd eto gan yr Arglwydd. Siaredais am sancteiddrwydd y gwaith; am ein hannrhefn, ein diffyg dysgyblaeth, a'n pleidgarwch; ac am i ni gydweled yn breifat gyda golwg ar bob peth, fel y byddom yn myned i fysg yr eneidiau gan lefaru ag un llais. Dangosais am y modd y mae y gwaith i'w gario yn y blaen yn y canol, megys rhwng Esgobyddiaeth a Henaduriaeth; am y brawd Wesley yn dyfod i fysg ein llafur; ac am benderfynu i bob un ei le. Ymddiddanasom am y rhyfel; ac am y cri oedd yn fy enaid ar i mi adael bendith ar fy ol pa le bynag yr awn. Llefarais i'r byw wrtho ef, a'r brawd Williams, gyda golwg ar ysgafnder, am iddynt fod yn ofalus, fel y gallwyf geryddu y brodyr eraill, onide y byddai iddynt redeg am loches at eu hesiampl hwy; ac am iddynt oddef fy lle i yn y gwaith preifat, yr hwn sydd yn perthyn i'm lle a'm swyddogaeth."

Nid oes genym hamdden i sylwi ond ar un peth yn y difyniadau dyddorol hyn, sef yr ysgafnder y rhybuddir Rowland, a Williams, Pantycelyn, rhagddo. Nid oes genym sail o gwbl dros feddwl eu bod yn ddynion ysgeifn yn ystyr arferol y gair; yr oeddynt yn byw gormod yn nghymdeithas gwirioneddau dwysion yr efengyl i arfer ysgafnder; ond ymddengys eu bod yn naturiol yn siriol o dymher, ac yn medru mwynhau chwerthiniad iachus, gan weled yr ochr ddigrif i ambell ddigwyddiad; tra yr oedd Howell Harris, o'r ochr arall, mor eithafol o sobr a dwys, fel yr ymddangosai pob digrifwch iddo, pa mor ddiniwed bynag y gallai fod, fel yn agoshau i gymydogaeth yr hyn sydd bechadurus. Ymwahanodd y cyfeillion yn Glanyrafonddu, ac aeth Harris tua chyfeiriad cartref, gan bregethu ar y ffordd yn Llanddeusant, a Chefnyfedw. Dau ddiwrnod y bu yn Nhrefecca cyn cychwyn drachefn am daith i Sir Drefaldwyn. Ymddengys fod y cynghorwr William Richard yn myned gydag ef, fel cyfaill iddo. cyfaill iddo. Aethant trwy Ty'nycwm, a Llansantffraid, yn Sir Faesyfed, i Mochdref. Pregethodd yma yn Gymraeg ac yn Saesneg i nifer o bobl syml, yn dechreu dyfod i wrando yr efengyl. Ei destun oedd, Mat. xi. 28. "Cefais ryddid mawr," meddai, a llawer o nerth i'w gwahodd at Grist. Dangosais nas gallent gael eu hachub trwy eu gweithredoedd; ac os oeddynt yn ymddiried yn eu gweithredoedd, mai eilunaddolwyr ydynt, ac nad yw cariad Duw ynddynt." Gwedi y bregeth, cynhaliwyd seiat breifat; llefarodd y Diwygiwr ar waed Crist; aeth yn lle rhyfedd yno; a buont yn nghyd hyd dri o'r gloch y boreu, yn canu, yn gweddïo, ac yn cynghori. Bloeddiai Harris yn ddiymatal: "Y Gwaed! Y GWAED! Y GWAED!” ac yn y diwedd boddid ei lais gan floeddiadau y cynghorwyr oeddynt yn bresenol. Oddiyma aeth i Lanfair, lle y cafodd odfa rymus, wrth ymosod ar falchder. Yn nesaf, cawn ef yn Llanbrynmair, ac wrth ei fod yn llefaru am waed Crist, daeth yr Yspryd Glân i lawr yn rhyfedd. Dangosodd mai gwaed Duw ydoedd, a bod angenrheidrwydd anorfod am dano; yna, ymhelaethodd ar dduwdod Crist; ac nid oedd neb yn bresenol i wrthwynebu yr athrawiaeth. Yn y seiat breifat a ddilynai, gan fod llawer wedi ymgasglu yno o Môn, a Sir Gaernarfon, eglurodd natur y seiadau, dysgyblaeth y Methodistiaid, ei le ei hun yn mysg y Methodistiaid, yn nghyd a'r modd y dechreuasai fyned o gwmpas i bregethu. Ymhelaethodd, yn mhellach, ar y gwahaniaeth rhwng y Methodistiaid a'r Ymneillduwyr, ei fod yn (1) Yn wahaniaeth mewn athrawiaeth, gan fod llawer o honynt hwy (yr Ymneillduwyr) yn Baxteriaid. (2) Yn wahaniaeth mewn dysgyblaeth, gan fod y Methodistiaid oddifewn i'r Eglwys Sefydledig. Ac yn (3) Yn wahaniaeth mewn yspryd. Yn nesaf, aeth i Blaen-Trefeglwys, lle y pregethodd oddiar 1 Ioan v. 4: "Oblegyd beth bynag a aned o Dduw y mae yn gorchfygu y byd." Cafodd odfa nerthol anghyffredin; daeth yr Arglwydd i lawr mor amlwg, fel y bu raid i'r pregethwr roddi i fynu, am y boddid ei lais gan floeddiadau y dyrfa. Oddiyno teithiodd i'r Tyddyn, a chlywodd am ryw frawd anwyl o gynghorwr a syrthiasai i amryfusedd, fel yr oedd yn rhaid ei dori allan. Aeth calon Harris yn ddrylliau wrth glywed; neshaodd at orsedd gras er gwybod meddwl yr Arglwydd ar y mater; a'r ateb a gafodd oedd fod gogoniant Duw a phurdeb y ddysgyblaeth yn galw am i'r cerydd gael ei weinyddu, ac y byddai yn foddion i gadw i lawr Satan a phechod. Yr oedd nifer o Siroedd Môn, Caernarfon, a Meirionydd yn y Tyddyn eto; yn wir, ymddengys eu bod yn ei ganlyn trwy ystod y daith; ac yn y seiat breifat a ddilynai y bregeth, cymerodd fantais ar eu presenoldeb i osod gerbron amryw faterion amgylchiadol. "Gosodais o'u blaen," meddai, "achos y tŷ yn Sir Gaerfyrddin; y cynghaws cyfreithiol; a dwyn ffrwyth i'r Yspryd, sef yn benaf, gostyngeiddrwydd. Dywedais y rhaid i ni enill, pa un a gariwn y gyfraith a'i peidio, am fod Duw gyda ni. Anogais hefyd i ddysgyblaeth; gan ddangos pe na byddai ond chwech yn y seiat, fod hyny yn ddigon i fyned yn mlaen yn yr Arglwydd, ac y gwnai efe ychwanegu atynt. Wedi gorphen pregethu, yr oeddwn gyda yr holl bregethwyr; gwelwn fy lle, a bod yr Arglwydd wedi rhoddi goleuni a doniau i mi i'w lanw. Yna, wedi gweddïo, ymadawsom yn felus a'r wyn o'r tair sir bellenig." Tebygol mai capel Llansawel a feddylia wrth y tŷ yn Sir Gaerfyrddin." At ba gynghaws cyfreithiol y cyfeiria sydd anhysbys; yr oedd y Methodistiaid, druain, yn cael eu herlyn mewn rhyw lys neu gilydd yn barhaus yr adeg hon. Tramwyodd oddiyma i Ddolyfelin, a Llanfair-muallt, gan gyrhaedd adref wedi absenoldeb o ryw naw diwrnod. Cronicla fod dylanwadau anarferol yn cydfyned a'i weinidogaeth yn ystod y daith hon. Dylasem grybwyll fod Cymdeithasfa Fisol yn Llanfair-muallt, ac, yn ol cyfrif Harris, yr oedd o bedwar i bum' cant o aelodau yn bresenol.

Yr wythnos ganlynol, yr oedd Cymdeithasfa Fisol yn Merthyr Cynog. Daeth y cynghorwr Beaumont i Drefecca y dydd blaenorol; dywedodd Howell Harris wrtho am y pethau a welai allan o le yn y seiadau dan ei ofal, a chyfeiriodd at y dadleuon a'r eiddigedd oedd yn eu mysg. Cydunasant ar ddau beth, sef fod pob un at ei ryddid i draethu y genadwri yn ei ffordd ei hun, ond iddo wneyd hyny mewn symlrwydd; ac yn nesaf, mae yr hyn sydd yn oll-bwysig mewn pregeth yw fod yr Arglwydd ynddi. Aethant yn nghyd tua'r Gymdeithasfa. Ar y ffordd, dadleuai Beaumont mai unig. ddefnydd y ddeddf yw egluro trueni pechadur; na ddylid anog neb i rinwedd, oblegyd fod y ddeddf yn ei orchymyn, ond mai cyfeirio y pechadur at Grist a ddylid. Atebai Harris fod yr athrawiaeth hon yn sawru o Antinomiaeth. Yn Merthyr, ceisiodd Harris ddwyn rhai aelodau crefyddol, oeddynt wedi cwympo allan, i gymod; ond ofer a fu ei ymdrech. Agorwyd y Gymdeithasfa gyda phregeth gan Williams, Pantycelyn, ar y morwynion ffol. Gofidiai Harris yn ddirfawr wrth glywed mor lleied o Grist ynddi; tybiai ei bod yn ddeddfol; ac eto, ymdawelai, gan gredu fod y pregethwr yn llaw Duw, ac y byddai iddo ef ei dywys i'r iawn. Gwedi darfod yr odfa, ceryddodd Harris y pregethwr am ryw ymadroddion deddfol a ddefnyddiasai; ond ni dderbyniodd Williams y cerydd mewn yspryd gostyngedig, eithr gwresogodd ei dymher. Dywedai ei fod yn caru pawb, ac na ofalai pa foddion a ddefnyddiai i yru pobl oddiwrth eu pechodau. Eithr cafodd Harris wledd i'w enaid wrth wrando ar Morgan John Lewis yn pregethu ddirgelwch yr iachawdwriaeth yn Nghrist. Dangosai na wnaeth yr Iesu ddim fel Duw, na dim fel dyn, ond pob peth fel Emmanuel; eglurai y modd y dywedasai Crist yn y tragywyddoldeb pell: "Wele fi yn dyfod i wneuthur dy ewyllys, o fy Nuw; a'r modd yr oedd yr Oen wedi ei ladd er dechreuad y byd; dywedai fod nid yn unig ein heuogrwydd wedi ei roddi arno, ond hefyd ein hanwireddau. "Cefais fwy o undeb ag ef nag erioed," meddai Harris; "nis gallwn beidio ei garu." Aeth y ddau yn nghyd yn gariadus i Drefecca, ac agorodd Harris ei holl fynwes i'w gyfaill, gan bwysleisio ar yr angenrheidrwydd am ragor o undeb rhyngddynt, a mynu deall eu gilydd cyn myned gerbron y bobl.

Yr ydym wedi cael aml gyfeiriad yn y dydd-lyfr gyda golwg ar y ddau Wesley yn dyfod i mewn i lafur y Methodistiaid yn Nghymru. Ymddengys fod John Wesley wedi pregethu yn Nghaerdydd, ac hefyd yn Nghastellnedd, a rhyw leoedd eraill, efallai, yn y Dywysogaeth, yn ystod y flwyddyn 1746, ac ofnai y brodyr Cymreig y ceid dau enwad o Fethodistiaid yn Nghymru, a'r naill yn tynu dan sail y llall. Er cael cyd-ddealltwriaeth ar hyn, gwahoddwyd John Wesley i Gymdeithasfa, a gynhelid yn Mryste, diwedd Ionawr, 1747, ac y mae y penderfyniad y cydunwyd arno yn bwysig a dyddorol. Fel hyn ei ceir yn nghofnodau y Gymdeithasfa: "Ofnid, oblegyd ddarfod i Mr. Wesley bregethu yn Nghastellnedd, mai y canlyniad a fyddai ymraniad yn y seiat. Atebodd Mr. Wesley: Nid wyf yn bwriadu gosod i fynu seiat yn Ngastellnedd, nac mewn unrhyw dref arall yn Nghymru, lle y mae seiat yn barod; ond i wneyd yr oll a allaf i rwystro ymraniad.' Ac yr ydym yn cyduno oll, pa bryd bynag y bydd i ni bregethu yn achlysurol yn mysg pobl ein gilydd, y bydd i ni wneyd ein goreu, nid i wanhau, ond i gryfhau dwylaw ein gilydd, a hyny yn arbenig trwy lafurio i rwystro ymraniad. A chan fod ymraniad wedi cymeryd lle yn Ngorllewin Lloegr, cydunwyd fod brawd oddiwrth Mr. Wesley i fyned yno, gyda y brawd Harris, i geisio iachau y clwyf, ac i anog y bobl i gariad. Cydunwyd, yn mhellach, i amddiffyn yn ofalus gymeriad y naill y llall." A'r adran berthynol i Gymru o'r penderfyniad y mae a fynom ni.

Y mae yn sicr i John Wesley gadw at y cytundeb yn deyrngar, ac mai hyn sydd yn cyfrif am y ffaith na wnaeth Wesleyaeth ei hymddangosiad yn y Dywysogaeth hyd ddechreu y ganrif ddilynol. Teimlai y ddwy adran o'r fyddyn Fethodistaidd, er eu bod wedi ymwahanu, a'u bod yn gwahaniaethu oddiwrth eu gilydd. ar rai athrawiaethau o bwys; eto, eu bod wedi cychwyn o'r un ffynhonell, ac yn cael eu llywodraethu gan y cyffelyb yspryd, a'u bod yn rhy agos gyfathrach i ymosod ar eu gilydd trwy osod i fynu seiadau gwrthwynebol.

Ganol mis Mai, cychwynodd Howell Harris am Lundain, a bu yno am agos i ddau fis o amser. Prin y cafodd fod gartref dri diwrnod wedi dychwelyd, nad oedd galw arno i fyned i Gymdeithasfa Chwarterol Cilycwm. Dywed y dydd-lyfr fod y Gymdeithasfa yn cael ei chynal yn y "Tŷ Newydd," yr hyn a brawf fod yma gapel Methodistaidd wedi ei adeiladu.

Agorwyd y Gymdeithasfa gyda phregeth gan Peter Williams, y tro cyntaf y darllenwn am dano yn pregethu mewn Sassiwn. Ei destun oedd: "Mor gu genyf dy gyfraith di," a phregethodd yn rhagorol, meddai Harris. Ar ei ol, pregethodd Daniel Rowland yn ardderchog. Teimlai Harris fod yma genadwri oddiwrth yr Arglwydd ato ef; toddwyd ei enaid o'i fewn; ac er fod yn y bregeth rai ymadroddion deddfol, teimlai yn ddiolchgar fod gan Dduw y fath ddyn i sefyll i fynu drosto. "Cefais dystiolaeth ynof," meddai, "fod Duw wedi dyfod i'r gwersyll yn erbyn Satan a phechod, ac felly ein bod yn sicr o'r fuddugoliaeth." Gwedi llawer o gymhell, ufuddhaodd Howell Harris i bregethu, a chafodd odfa hapus iawn. Ymddengys ei bod yn Gymdeithasfa ddedwydd drwyddi. "Yr oeddym yn ddedwydd ac yn gariadlawn," meddai y dydd-lyfr; "a phenderfynasom amryw bethau, yn tueddu at well dysgyblaeth, yn hollol unol, y rhai y methem eu penderfynu yn flaenorol. Darfu i ni gadarnhau dwylaw ein gilydd, a threfnu rheolau parthed priodas. Cawsom hyfrydwch' dirfawr wrth ganu a gweddïo; ac yr oedd yn felus fod yr Arglwydd wedi rhoddi i ni seibiant oddiwrth ystorm enbyd." O'r Gymdeithasfa, aeth Howell Harris i'r Ceincoed, lle y preswyliai Peraidd Ganiedydd Cymru ar y pryd. Boreu dranoeth, pregethodd Thomas Williams, y Groeswen, a Harris ar ei ol. Gwaed Crist, yn ei rinwedd, ei ogoniant, a'i anfeidroldeb, oedd mater Harris; ac ychwanega fod y brawd Williams, Pantycelyn, yn gwrando. Wedi yr odfa, aeth Howell Harris a Thomas Williams yn nghyd i Drefecca, a chawsant gyfeillach felus ar y ffordd.

Tua dechreu Awst, cawn y Diwygiwr yn cychwyn am daith faith trwy Siroedd Caerfyrddin, Aberteifi, a Phenfro. Pregethodd yn nghyntaf yn Llanfair-muallt, ar yr heol, i gynulleidfa anferth o bobl. Ffynon wedi ei hagor i dŷ Dafydd ac i breswylwyr Jerusalem oedd ei fater; ac efengylai yn felus, gan wahodd pawb i'r ffynon. Yn y seiat breifat, bu yn ymdrin a'r tŷ cwrdd y bwriedid ei godi yn y dref. O Lanfair, aeth Mr. Gwynn ag yntau i Glanirfon, ger Llanwrtyd; cyfrifa fod y gynulleidfa yma yn ddwy fil o bobl. Dirgelwch ein cyfiawnhad a'n sancteiddhad yn Nghrist, trwy ei fod ef yn cael ei wneyd yn bechod trosom, oedd ei fater, ac ymddengys iddo gael odfa rymus. Yr oedd ganddo daith o ugain milltir i Gayo, ac yr oedd yn hwyr arno yn cyrhaedd yno; felly, yr oedd y gynulleidfa a ddaethai i wrando arno wedi gwasgaru. Pregethodd boreu dranoeth, modd bynag. Sylwa yma, nad oedd mewn angen am drefnusrwydd, na chanlyn testun, wrth bregethu: "Yr Arglwydd sydd yn siarad," meddai; "yr wyf finau yn argyhoeddi, yn taranu, yn cymhell, neu ynte yn cyhoeddi fod Duw wedi caru y byd, yn union fel y byddaf yn cael fy nghyfarwyddo." Awgryma y sylw mai pregeth ddidestun a roddodd yn Nghayo. Y lle nesaf y pregetha ynddo yw y tŷ cwrdd newydd yn Llansawel; ffynon wedi ei hagor yw y testun; a dywed ei fod yn enbyd o lym at y rhai a broffesent grefydd, ond a aent at yr Ysgrythyr gyda goleuni natur. "Yr oedd yr Arglwydd yn amlwg yn mysg y bobl," meddai; "llawer oeddynt yn ddrylliog, ac a fendithiwyd." Trafaelu yn fras y mae, a chawn ef y noson hono wedi croesi y gadwyn fynyddoedd sydd ar derfyn gogledd-orllewin Sir Gaerfyrddin, ac wedi cyrhaedd Maesnoni. Cyd-deithiai ag ef yno ryw glerigwr ieuanc, newydd gychwyn gyda chrefydd, a chynghorai Harris ef yn ddifrifol iawn i fod yn ffyddlawn i Dduw, ac i'r eneidiau dan ei ofal, a pheidio ymgynghori â chig a gwaed. Ei destun yn Maesnoni oedd, Rhuf. vii. 21. Yr oedd dau offeiriad a chynghorwr yn gwrando arno, a chafodd awdurdod a nerth i'w rhybuddio, fel y byddai iddynt. ateb i Dduw, ar iddynt bregethu y gwaed i'r bobl. Yna, aeth at ei hoff bwnc, dirgelwch y Duwdod, a dirgelwch Crist. "Y Dyn hwn yw Duw," meddai, “nid oes un Duw arall. Dangosais fod rhai Cristionogion yn gwneyd tri Duw, ac yn edrych ar y Tad fel uwchlaw Crist." Dranoeth, sylwa drachefn: "Neithiwr, dangosais nad oes yr un Duw ond Crist; nad yw y Tad a'r Yspryd yn Dduwiau eraill, onide na fyddai yr un o honynt yn Dduw; eto, mai y Gair, ac nid y Tad na'r Yspryd, a wnaed yn gnawd. Dangosais y modd y daeth Duw yn ddyn, ac y bu farw, a bod ei waed yn waed Duw." Y lle nesaf y pregetha ynddo yw Cwmcynon, a dirgelwch y gwaed yw y mater. Oddiyno, teithiai trwy Pengwenallt, Llwynygrawys, lle y teimlai yn wael ei iechyd, ac Abergwaun. Odfa ddilewyrch a gafodd yn y lle diweddaf. Dydd Sul, wythnos wedi ei gychwyniad o gartref, cawn ef yn Nghastellyblaidd. Aeth yn y boreu i eglwys Hay's Castle, "lle y mae yr Arglwydd yn casglu ei braidd yn nghyd i'w porthi trwy y brawd Howell Davies," ac efe a weinyddai yn yr eglwys y boreu hwnw. "Y cyfiawn a fydd byw trwy ffydd," oedd ei destun; eithr teimlo yn galed a chnawdol a wnelai Harris wrth wrando. Eithr ar y cymundeb a ddilynai, daeth yr Arglwydd i lawr, a gwnaed pen Calfaria yn hynod felus, wrth fod yr Yspryd yn ei ddangos. "Cefais olwg fwy ardderchog nag erioed ar fendithion a chyfoeth Calfaria," meddai; "yr wyf yn myned it fynu ato ef yno, lle y mae pechod a marwolaeth yn cael eu concro. O, Calfaria! Calfaria! Dyma lle y mae pardwn a phob bendith i'w cael." Gwedi hyny, pregethodd yntau, oddiar Eph. iii. 18, a chafodd odfa rymus anarferol. Y noson hono, aeth i Longhouse, lle y cadwodd seiat breifat, gan ymdrin â nifer o faterion, megys y pleser o gyfarfod Paul, Petr, a Dafydd, yn y nefoedd, gwobrau ffyddlondeb, a'r angenrheidrwydd am oddefgarwch. Ac yna aeth at ei hoff fater, sef dirgelwch Crist.

Dydd Mercher, cynhelid Cymdeithasfa Fisol yn Hwlffordd, ac aeth yntau yno. Ar y ffordd, gweddïai yn daer dros y brodyr, ar i hunan gael ei ddinystrio ynddynt, ar i Dduw fod oll yn oll, ac ar i bob un weled ei le ei hun, a lle eraill. Pwy oedd yn y Gymdeithasfa, ni ddywed, ac ni chronicla ymadroddion neb, oddigerth ei eiddo ei hun. Agorodd y gynhadledd gydag anerchiad, yn yr hwn yr aeth dros nifer mawr o wahanol faterion ; dangosodd y modd y tywynodd goleuni yr addewidion amodol arno gyntaf; y modd y dylai ffydd, gras, a gwaith, gael eu pregethu yn eu lleoedd priodol, a'r angenrheidrwydd am dlodi yspryd. Yr oedd yn dra llym wrth gyfeirio at falchder a difaterwch, ac at y rheidrwydd i bob un adwaen ei le, ei berthynas a'r corph, ac a'r Pen. Ymddengys fod rhywrai yn euog o dori eu cyhoeddiadau y pryd hwnw, a dywedai Harris y dylent gael eu hatal i bregethu am flwyddyn. Yna," meddai, "cyfeiriais at waith rhai o'r offeiriaid yn fy nghyhuddo o fod wedi cyfnewid mewn athrawiaeth, ac yn fy ngalw yn Antinomiad. Ymgyngorasom am y modd i dderbyn i'r seiat, ac i dori allan. Gwelwn nad oedd yr un dull ddim yn gweddu pob man, ac y rhaid i ni ymwadu a'n rheswm ein hunain. Yr oeddwn yn finiog wrth. gyfeirio at dderbyn wyneb, ac am yr angenrheidrwydd i ni gryfhau dwylaw ein gilydd, a dywedais fy mod wedi dod yno i gryfhau dwylaw yr offeiriaid. Yna, aethum i'r ystafell, lle y lleferais oddiar Mat. viii. 26." Gwedi y bregeth, bu seiat drachefn; eisteddodd y cynghorwyr a Harris i fynu hyd ddau o'r gloch y boreu, a dywed ei bod yn noswaith fendigedig. Ymddengys ei bod yn Gymdeithasfa hapus, a phawb yn cydweled; ond y mae yn dra thebyg nad oedd neb o'r offeiriaid yno, a bod Howell Harris yn cael pob peth yn ei ffordd ei hun. Oddiyma, pasia trwy Walton-West, Llangwm, a Mounton, ac yna dychwel i Drefecca, wedi taith o un diwrnod-ar-bymtheg. Y mae yn deilwng o sylw na alwodd y tro hwn yn y Parke, cartref Howell Davies, er ei fod yn pasio yn agos, nac ychwaith yn Llangeitho. Er ei fod yn cydweithio a'i frodyr hyd yn hyn, hawdd gweled fod ei deimladau atynt wedi oeri, ac nad oedd, fel cynt, yn dyheu am eu cymdeithas. Gyda golwg ar y cyhuddiad o Antinomiaeth, y cyfeiria ato fel wedi cael ei ddwyn yn ei erbyn gan un o'r offeiriaid, efallai fod rhyw gymaint of sail iddo. Cymdeithasai ormod a Beaumont, yr hwn a gyfeiliornasai yn bur bell i gyfeiriad Antinomiaeth; wedi bod yn nghyfeillach y brawd hwnw, a chael ei ddylanwadu i raddau ganddo, byddai yn defnyddio ymadroddion nas gellid eu cyfiawnhau, ac yn galw pregethu dyledswydd yn ddeddfol; ond wedi ymryddhau oddiwrth ddylanwad Beaumont, deuai yn ei ol drachefn.

Y mae yn ddrwg genym fod y dyddlyfr, o ganol Awst hyd ddiwedd mis Hydref, ar goll, ac y mae ein gofid yn fwy oblegyd iddo gymeryd taith i'r Gogledd yn mis Hydref. Cawn ef yn ysgrifenu at ei wraig o Lanbrynmair, Hydref 21; ac y mae olysgrif i'r llythyr o'r Bala, y dydd Gwener canlynol. Fel hyn y dywed: "Daethom yn ddiogel yma, a hynod fel y mae yr Arglwydd wedi bod gyda ni. Y mae Duw wedi cymeryd y lle hwn; ni chawsom ddim gwrthwynebiad; ond yr oedd pob peth yn dawel. Nid yw yn debyg y cawn ein rhwystro mwy. mhen deuddeg diwrnod yr wyf yn gobeithio eich gweled eto. Yr ydym yn myned i Sir Gaernarfon, a Môn, ac yna trwy Siroedd Dinbych, a Meirionydd." Tebygol fod James Beaumont gydag ef fel cydymaith. Cawn ef yn yr Amwythig, Hydref 31, yn dychwelyd adref, ac yn ei ddydd-lyfr ysgrifena fel y canlyn: "Daethum yma neithiwr, gwedi taith yn Ngogledd Cymru, lle y dysgwyliaswn y cawn fy llofruddio, a'r lle yr oedd y drws wedi cael ei gau yn fy erbyn am rai blynyddoedd, gan lid y werinos, a chwerwder y clerigwyr, y rhai a gawsent eu cynhyrfu yn waeth am fod y bobl yn gadael yr Eglwys yn hollol ar ol fy ngwrando. Yn awr y mae y drws yn agored, ac er i mi fod yn y Bala, a Sir Gaernarfon, lle y buaswn mewn perygl am fy mywyd, yr oedd y gelyn wedi ei gadwyno, ac yr wyf yn gobeithio i lawer o dda gael ei wneyd. Sefydlwyd seiadau; llawer o'r rhai a adawsent yr Eglwys a arweiniwyd i ddyfod yn eu hol, ac i aros ynddi. Cefais fy nerthu yn oruwchnaturiol i drafaelu o gwmpas deg-milltir-ar-hugain y dydd; it aros i lawr hyd ddeuddeg, a thri, a chwech o'r gloch y boreu; i drefnu seiadau, i holi eneidiau, ac i bregethu. O Arglwydd, ti a glywaist ein gweddïau, ac a roddaist i mi i ddychwelyd. Ti a roddaist i mi i weled dy iachawdwriaeth yn dyfod i Ogledd Cymru, druenus a thywyll. Ymwelaist a'r bobl a eisteddent mewn tywyllwch Aiphtaidd tew. Tebygol y gwneir gwaith mawr yn Siroedd Meirionydd, Caernarfon, Môn, a Dinbych; gellid meddwl fod tueddfryd at wrando yn y bobl; O na chyfrifid fi yn deilwng i ddwyn cenadwri y Brenhin." Felly yr ysgrifena y Diwygiwr yn yr Amwythig, ar ei ffordd adref. Hyfryd fuasai genym ei ganlyn trwy yr holl daith, gan ddeall â pha leoedd yr ymwelai, a pha fath odfa a gaffai yn mhob lle; ond o'r pleser hwn yr ydym wedi cael ein hamddifadu. O'r Amwythig, tramwyodd trwy Berriw, y Tyddyn, a Llanfairmuallt, gan bregethu yn mhob lle ar ei ffordd i Drefecca.

Cyn myned i'r Gogledd, ysgrifenodd lythyr pwysig at y Parch. Edmund Jones; ac er meithed y llythyr, teimlwn y dylai gael ei osod i mewn yn llawn, ar gyfrif ei eglurder, ei yspryd Cristionogol, a'r goleu a deif ar amryw gwestiynau. Fel hyn y darllena: "Anwyl frawd,-Yr wyf yn cael, oddiwrth lythyr o'r eiddoch at Mr. Price, fy mod yn cael fy nghyhuddo o haeru pethau croes i Air Duw, a chroes i'm hymadroddion fy hun ar adegau eraill. Ac nid hyny yn unig, ond hefyd o haeru. mai Duw sydd yn rhoddi hyn i mi yn ddigyfrwng, ac felly, fy mod yn gwneyd Duw yn gelwyddog. Yr ydych yn meddwl fod hyn yn beth enbyd; yr wyf finau yn meddwl yr un peth; ac oddiar pan ei clywais yr wyf wedi bod yn holi fy hun, gan wysio fy nghydwybod i gyflawni ei swydd, ond yr wyf yn methu cael fy hun Ar ba seiliau y gwneir y yn euog. cyhuddiad, nis gwn; a pheth a allaswn ddweyd, oddiwrth yr hyn y gallai rhai pobl dda, trwy gamddeall, trwy demtasiwn Satan, neu trwy fy mod yn llefaru yn aneglur, rywbryd neu gilydd, gasglu y cyfryw syniad, nis gallaf gofio; gan nad wyf wedi cael clywed pwy yw y cyhuddwyr, na pheth yw y geiriau a ddefnyddiais. Ond os defnyddiais y cyfryw ymadroddion, neu rywbeth yn ymylu arnynt, yr wyf yn datgan fy mod yn ofidus am danynt. Ond synwn fy mod yn cael fy nghyhuddo, fy mhrofi yn euog, a chael ymddwyn ataf felly, a minau heb glywed dim am y peth. Yr oeddwn yn tybio na wnelai Mr. Jones ymddwyn felly at neb. Efallai eich bod yn meddwl wrth ysgrifenu at arall, heb fy hysbysu i, y cymerwn y cerydd yn fwy tirion gan arall. Ond beth bynag am hyny, nid oedd hyn yn ganlyn y rheol wrth ba un yr ydym i rodio. Ar yr un pryd, gallaf ddweyd fy mod yn ddiolchgar i ddyfod i wybodaeth am fy ffaeleddau rywfodd, oblegyd gwn fy mod yn llawn o honynt. Os gellwch edrych arnaf mewn unrhyw ystyr fel yn cael fy nefnyddio gan Dduw, er fy mod, yn ol y goleu sydd genych chwi, yn cael fy nghamarwain; os gellwch edrych arnaf fodd yn y byd fel brawd, neu gydweithiwr, byddai yn dda pe na baech yn rhoddi coel i adroddiadau sydd yn rhwystro cariad brawdol, yr hwn, y gallaf ddweyd, fy mod yn ei gael yn fy enaid atoch chwi. Er fy mod wedi meddwl fod eich zêl dros Annibyniaeth wedi eich cario weithiau yn rhy bell, i geisio rhwystro y gwaith ag y mae yr Arglwydd, yr wyf yn gostyngedig dybio, wedi ei ymddiried i mi; ac er fy mod wedi ei chael yn ddyled swydd i wrthdystio yn erbyn rhai mesurau a gymerasoch; oni wnaethum hyn mewn gostyngeiddrwydd, a chyda chariad a phwyll, yr wyf yn edrych arno fel un o'r pethau ag y mae yn rhaid i mi alaru o'u herwydd bob dydd.

Bid sicr, y mae rhyw bethau yn ein golygiadau a'n barnau yn ein cadw i raddau yn mhell oddiwrth ein gilydd. Yr wyf wedi, a throsof fy hun yn, dymuno ar i bawb a arddelir i unrhyw fesur gan yr Arglwydd gael cyfleusderau cyffredinol i gyfarfod, i gydymddiddan, ac i benderfynu ar ryw reolau i rwystro oerfelgarwch, rhagfarn, celwydd, a gwanhau dwylaw ein gilydd. Gyda golwg ar y profion a ddygwch yn mlaen y byddai yn well i ni adael yr Eglwys Sefydledig, a'r haeriad ei fod yn ein bwriad i osod ein hunain i fynu fel eglwys; nid wyf yn foddhaol gyda golwg ar y naill na'r llall. Am y diweddaf, ni chlywais gymaint a son am dano o'r blaen. Am y cyntaf, buasai yn dda genyf pe baech yn fy hysbysu parthed defnyddioldeb y brodyr sydd wedi ein gadael. Yr ydych chwi yn addef fod crynswth y bobl ydynt yn marw o eisiau gwybodaeth yn perthyn i'r Eglwys Sefydledig; ac y mae drysau newyddion yn agor iddynt yn barhaus o fewn cylch eu Heglwys eu hun. Am y brodyr a'n gadawodd, y maent eu hunain yn cyffesu eu bod yn cael mwyaf o'r Arglwydd pan y cyfarfyddant a'u hen gyfeillion. Nid wyf yn cael eu bod yn cael eu bendithio i ail-ddeffro y proffeswyr cysglyd, yn mysg pa rai y maent. A chan fod arnom eisiau cymhorth i fyned allan yn erbyn byd tywyll a drwgdybus, nis gallaf lai na chredu ddarfod i gylch eu defnyddioldeb gael ei gyfyngu yn ddirfawr, o herwydd eu bod yn gadael y gwaith cyhoeddus am un llai cyhoeddus. Gyda golwg ar ein bod yn rhwystro pobl i uno â rhyw frodyr Ymneillduol, nis gallaf lai nag edrych ar y cyhuddiad fel un hollol annheg, gan ei fod yn gwbl wybyddus i'r nifer amlaf o'r cynulleidfaoedd (Ymneillduol), y darfu i ni sefydlu yn eu cymydogaeth, gael eu cynyddu a'u bywhau trwy ein hofferynoliaeth. Yn ol y goleuni a feddem, ymddangosai i ni nad oedd yr eneidiau yn llwyddo (yn mysg yr Ymneillduwyr), ac addefent hwy eu hunain mai yn ein mysg ni yr oeddynt yn cael eu porthi. Am eraill, oeddynt yn fywiog, ac yn taflu eu heneidiau i'r gwaith, tra gyda ni, gwedi iddynt ymneillduo, hwy a aethant yn glauar a difater. Felly, yn lle cynyddu mewn bywyd ysprydol, hwy a aethant yn ol. Eraill a gawsant eu tramgwyddo, a'u cadw rhag dyfod i wrando arnom, trwy dybio ein bod mewn cyfrwysdra yn honi perthynas ag Eglwys Loegr. Yr oedd rhagfarn y rhai hyn yn annyoddefol, a gwnaent eu goreu i dynu pobl o'r lleoedd, yn mha rhai y darfu i'r Yspryd Glân eu cadw, a'u porthi am amser maith. Os ar yr ystyriaethau hyn y darfu i mi lefaru yn erbyn ymddygiadau rhai o honoch, ond i chwi gadw mewn cof y rheol am wneyd i eraill fel yr ewyllysiech i eraill wneyd i chwithau, bydd i'ch digofaint gael ei leddfu i raddau mawr. Pe y deuai rhywrai i fysg y bobl y buoch chwi yn offerynol i'w galw, a'u casglu allan o'r byd, gan eu harwain ar gyfeiliorn; yn enwedig os oeddynt yn hollol dawel pe y cawsent lonydd; a phe y caech eu bod mewn canlyniad yn myned i wrando pregethwyr nad oeddych yn hollol foddhaus ar eu hathrawiaeth, oni theimlech hi yn galed fod y rhai hyn (sef y rhai a arweinient eich pobl ar gyfeiliorn) yn cwyno am eich bod yn ceisio cadw eich cynulleidfaoedd yn nghyd, tra mewn gwirionedd mai hwy oedd yr ymosodwyr, ac a ruthrasent i mewn i lafur rhai eraill?

Y mae ein rhesymau dros aros yn yr Eglwys Sefydledig yn ymddangos i ni yn drymach o lawer na'r rhesymau dros ei gadael. Felly, credem y pechem yn erbyn yr Arglwydd a'i waith pe y troem ein cefnau arni; a rhoddem gyfle i'r gelyn i rwystro y diwygiad gogoneddus, yr hwn sydd yn helaethu ei derfynau bob dydd. Yn fy nhyb ostyngedig i, pe y codasai rhyw ddiwygiwr yn mysg yr eglwysi Ymneillduol, heb osod i fynu gynulleidfaoedd ar wahan, buasai yn gwneyd mwy o wasanaeth i eglwys Dduw, ac yn rhoddi llai o dramgwydd i eraill. Yr wyf yn dweyd hyn yn unig fel fy syniad i ar y mater; nid wyf yn barnu; gwn fod gan Dduw amrywiol fwriadau, felly, yr wyf yn ddystaw. . . . Fy marn i ydyw, a dyna oedd eich barn chwithau unwaith, fod yr Arglwydd yn gadael yr Ymneillduwyr, ac yn myned i fywhau ei waith yn yr Eglwys Sefydledig. Pe y deuech i'n mysg fel cynt, ac mewn dull na fyddai genym le i feddwl eich bod yn dyfod i geisio ein rhanu, yr wyf yn credu y gwelech ein bod yn y ffurf y mynai Duw i ni fod; a'i fod ef yn ein mysg, er ein llygredigaethau, ein gwendidau, a'n cymysgedd. Pe y deuech felly, cryfhaech ein dwylaw, yn lle eu gwanhau, gan weled ein bod yn dwyn pwys y dydd a'r gwres, a bod yr holl fyd ac uffern yn ein herbyn. Wrth ganfod yr anhawsderau à pha rai yr ydym yn ymladd, cynhyrfid eich calon ddewr ynoch eto, a llosgai eich yspryd mewn cydymdeimlad a'r dynion ieuainc sydd yn myned allan, a'u bywydau yn eu dwylaw, yn erbyn y Philistiaid. Deuwch. Na fydded cynhen rhyngom mwyach. Bydded i ni gytuno yn hyn, sef na byddo i ni wanhau dwylaw ein gilydd; ac os na ellwch gredu ein bod ni yn iawn wrth aros yn yr Eglwys Sefydledig, peidiwch a'n condemnio, pan y sicrhawn chwi mai mater o gydwybod yn hollol ydyw genym. Yr ydym yn gweled y fath waith wedi ei ddechreu; rhai clerigwyr o enwogrwydd wedi cael eu deffro; nifer o bersonau o'r safle fwyaf anrhydeddus yn dyfod i wrando, a rhai o honom wedi cael ein galw i bregethu yn breifat o flaen pendefigion, yn mysg pa rai y mae un ardalydd, un iarll, dwy arglwyddes, a dwy foneddiges o deitl. Yr ydym yn gweled rhagfarn yn syrthio, a drysau yn agor trwy yr oll o Loegr, yn mron, ac, o'r diwedd, yn Ngogledd Cymru, a hyd yn nod yn yr Iwerddon. Felly, peidiwch ein condemnio, os oes arnom ofn rhedeg o flaen yr Arglwydd. . . . Ni frysia yr hwn a gredo. Bydded i ni gymeryd ein dysgu gan Dduw, a bod yn amyneddgar, ac yn ddyoddefus, ac yn ffyddlawn iddo ef; yna, gwelwn y bydd i'r gwirionedd lwyddo yn amser da Ďuw, gan yru cyfeiliornad a phenrhyddid allan o'r Eglwys; neu ynte, caiff Satan y fath allu i greu erledigaeth o fewn i'r Eglwys, fel ag i yru allan yr holl ffyddloniaid. . . . Os ydyw yr hen Eglwys i gael ei gadael i wrthod y goleuni, a chynulleidfaoedd ar wahan iddi i gael eu ffurfio, yr hyn yr wyf yn gobeithio na fydd byth, yna, rhaid i Ragluniaeth drefnu yr amser a'r offerynau. O, gan Dduw, na allech chwi ddyoddef mwy gyda'r hen Ymneillduwyr, a llafurio yn eu mysg mewn amynedd, a cheisio cael dynion ieuainc llawn cariad i ddilyn yr hen weinidogion, a pheidio sefydlu cynulleidfaoedd ar wahan, gan geisio tynu pobl oddiwrthym ni; eithr ein gadael yn yr Eglwys Sefydledig. Yna, mi a allwn eich cyfarfod yn breifat, neu mewn Cymdeithasfa, i'r pwrpas o sefydlu pethau, a'ch anrhydeddu fel un nad wyf yn deilwng i olchi ei draed. Yna, mi a allwn agor fy holl galon i chwi gymaint ag erioed. Yr wyf yn gobeithio fy mod yn ysgrifenu yn symlrwydd yr efengyl. A gallaf yn ddiragrith alw fy hun mor gariadus ag erioed : Eich annheilyngaf Frawd, a chyd-bechadur, eithr wedi ei achub trwy ras, ac yn wir awyddus am eich cyfarfod fry, i gydfoli yn dragywyddol; ac i ymddwyn yma fel eich cyd-ddinesydd, a'ch cyd-lafurwr,-H. HARRIS."

Llythyr cryf, eto boneddigaidd, wedi ei ysgrifenu mewn yspryd Cristionogol, ac yn llawn o natur dda. Y mae rhai pethau sydd i raddau yn dywyll ynddo, megys yr anogaeth i Edmund Jones i lafurio mewn cydweithrediad a'r hen Ymneillduwyr. A oes yma awgrym fod y prophwyd o Bontypwl, er ei holl dduwioldeb, nid yn unig yn erlid y Methodistiaid, ac yn ceisio Iladrata eu pobl, ond hefyd yn ddraen yn ystlys ei frodyr ei hun, ac yn methu cydweithio â hwynt? Modd bynag, gwneir rhai pethau yn hollol glir yn y llythyr: (1) Dengys nad oes sail o gwbl i'r hyn a haerir gan Dr. Rees, Abertawe, a haneswyr eraill a'i canlynant, sef mai proselytiaid o fysg yr Ymneillduwyr oedd aelodau cyntaf y Methodistiaid. Dywed Harris yn bendant, fel ffaith oedd yn gyffredinol wybyddus, na ddarfu i'r Methodistiaid adeiladu ar sail yr Ymneillduwyr, na thynu pobl oddiwrthynt; ond, yn hytrach, i sefydliad seiadau yn nghymydogaeth hen eglwysi Ymneillduol, fod o fantais i'r eglwysi hyny, trwy ychwanegu eu rhif, a chynyddu eu gweithgarwch. (2) Er yr ymlynai Harris wrth yr Eglwys Sefydledig, nid oedd yn erlidgar o gwbl at y rhai a'i gadawsent. Ar yr un pryd, ofnai ddarfod iddynt gyfyngu ar gylch eu gweithgarwch trwy gefnu arni, a lleihau eu cyfleusterau i wneyd daioni. (3) Breuddwydiai fod yr Eglwys Sefydledig i gael ei lefeinio trwyddi gan y diwygiad; y deuai y pendefigion yn bleidiol i bregethu efengylaidd, ac efallai yn aelodau gweithgar o'r seiadau Methodistaidd. Nid rhyfedd, felly, ei fod yn wrthwynebol i ymneillduo oddiwrthi. Tra y byddai gobaith i'w freuddwyd gael ei sylweddoli, ystyriai mai rhedeg o flaen yr Arglwydd fyddai ei gadael.

Yr wythnos wedi iddo ddychwelyd of Ogledd Cymru, cynhelid Cymdeithasfa Fisol yn Nhrefecca. Nid oedd yr un o'r offeiriaid yno; felly, Howell Harris a lywyddai. Agorodd y Gymdeithasfa gyda phregeth, ac ymddengys iddo gael cyfarfod annghyffredin. Yn y seiat a ddilynai, anerchodd yr aelodau ar amryw faterion, ac yn arbenig cyfeiriodd eu golygon at waed Crist. "Y gwaed!" meddai; "y mae yn waed hollalluog, yn waed anfeidrol; pwy a fedr ei blymio? Y gwaed hwn a unodd fy enaid â Duw. Os oes arnoch awydd am fod yn sanctaidd, ymolchwch yn hwn. Os ydych am goncwerio pechod a Satan, dewch at y gwaed. Os ydych am fyned i'r nefoedd, cymerwch y gwaed gyda chwi." Ac wrth ei fod yn ymhelaethu ar rinwedd y gwaed, aeth yn floedd trwy y lle, nes y boddwyd ei lais yn gyfangwbl gan lefau y rhai a wrandawent. Teimlai ei fod wedi cael y fath awdurdod na chafodd yn fynych ei gyffelyb. Yr ail wythnos yn Tachwedd, cychwynodd am Lundain; pasiodd trwy Henffordd; bu mewn Cymdeithasfa berthynol i'r brodyr Saesnig yn Ross; ac ni chyrhaeddodd Drefecca yn ei ol, gwedi ei ymdaith yn y Brif-ddinas, hyd y Llun olaf o'r flwyddyn.

Tri diwrnod y cafodd fod gartref cyn ei fod yn cychwyn am daith faith i Orllewin Lloegr, yr hon oedd i barhau am fis. Torodd gwawr y flwyddyn newydd arno yn Cwmdu, lle rhwng Talgarth a Chrughywel. Dranoeth, cawn ef yn y New Inn, Sir Fynwy. Heblaw pregethu, yr oedd yn casglu at y capel newydd oedd wedi ei adeiladu yn Llanfair-muallt, ond yn groes i arfer casglwyr yn gyffredin, ni wnai dderbyn nac arian nac addewidion ar y pryd, rhag i'r rhoddion gael eu cyfranu o gariad ato ef, ac nid mewn ffydd. Yr un prydnhawn, cynhelid Cymdeithasfa Fisol yn y lle; gorchwyl penaf yr hon oedd adferu y brawd William Edward, o'r Groeswen, yr hwn a gawsai ei osod tan ddysgyblaeth, oblegyd cyfeiliornad mewn athrawiaeth. Dau gwestiwn a ofynodd Howell Harris iddo, ac y mae ffurf arbenig y cwestiynau yn dynodi syniadau neillduol yr holwr. (1) A oedd yn galonog yn medru addoli y baban Iesu? (2) A oedd yn credu fod datguddiad ysprydol o Grist i'w gael uwchlaw y wybodaeth am dano a geir yn y llythyren? Atebodd William Edward y ddau ofyniad yn foddhaol, a chafodd ei ail-sefydlu fel cynghorwr. Yn y Gymdeithasfa, hefyd, bu ymddiddan parthed priodas, am ofalu am ystafell (capel) New Inn, a derbyniwyd dau i ddechreu pregethu. Eithr derbyniodd lythyr oddiwrth ddau frawd yn ei gyhuddo o wneyd rhywbeth allan o le. Yr oedd y Gymdeithasfa yn hapus trwyddi; cydwelai ef a'r brodyr yn hollol ar bob peth. Yn Ngorllewin Lloegr ymwelodd ag Exon, Plymouth, Kingsbridge, a lleoedd eraill, ac ni ddychwelodd yn ei ol hyd ddechreu Chwefror.

Dranoeth i'w ddychweliad, yr oedd Cymdeithasfa Fisol yn Nhrefecca, ac agorodd hi gyda phregeth oddiar y geiriau: "Du ydwyf fi, ond hawddgar." Cymerodd achlysur ar ei bregeth i gyfeirio at y chwedlau anwireddus a daenid am dano gan yr Ymneillduwyr, sef ei fod yn elynol iddynt. "Yr unig reswm sydd ganddynt dros ddweyd hyn," meddai, "yw fy mod yn llefaru yn erbyn eu pechodau; ac ar yr un tir yn union gellid haeru fy mod yn elynol i Eglwys Loegr, gan fy mod yn ymddwyn yr un modd ati hithau. Ond

BYR-HANES O ERLEDIGAETH PETER WILLIAMS YN ADWY'R CLAWDD, FEL YR YSGRIFENWYD EF GANDDO EF EI HUN.

[Ceir copi gwreiddiol yn Athrofa Trefecca.]

dywedais fy mod bob amser yn gwahaniaethu rhwng y dieuog a'r euog; a'm bod yn adnabod llawer o ddynion da a grasol, yn bregethwyr ac yn bobl, yn mysg yr Ymneillduwyr, y rhai wyf yn garu; a phe bai yn fy ngallu, na wnawn roddi terfyn ar nac eglwys na chapel, eithr yn hytrach eu llanw o Dduw." Yn nghyfarfod neillduol y Gymdeithasfa, bu ef a'r pregethwyr yn ymdrin â gwahanol faterion, ac yn trefnu eu teithiau, a gorphenwyd y cyfan yn hynod hapus. Ar y dydd olaf o Ionawr, y mae yn cychwyn am daith i Siroedd Caerfyrddin, Aberteifi, a Phenfro. Y mae nodiad yn ei ddydd-lyfr ar gyfer Llangamarch sydd yn haeddu ei groniclo.Ymgynghorais a'r Arglwydd am lawer o bethau," meddai, "a chefais nerth mawr i ymdrechu â Duw gyda golwg ar Syr Watkin Williams Wynne; gelwais arno yn lew, ar iddo amlygu ei allu. Na ad i'r ymgais yma o eiddo Satan lwyddo,' meddwn; achub enaid y boneddwr, ond dymchwel ei gynlluniau."" Yr oedd Syr Watkin yr adeg yma yn erlid saint Duw gyda llaw uchel. Teil y difyniad canlynol o lythyr, a ysgrifenwyd gan Howell Harris at chwaer grefyddol yn Llundain, oleuni ar ymddygiadau y barwnig of Wynnestay: "Yr ydych wedi clywed rhyw gymaint am y driniaeth a dderbynia ein brodyr a'n chwiorydd ar law Syr Watkin Williams Wynne. Darfu iddo osod dirwy o bedwar ugain punt ar y bobl dlawd am dderbyn a gwrando ein brodyr, fel y mae amryw trwy hyn wedi cael eu dinystrio yn hollol, a'r efengyl wedi cael ei rhwystro am amser. Yr wyf yn dymuno ar y brawd Jenkins, os yw yna, i alw yr eneidiau yn nghyd ar ryw amser penodol i weddio, ac i ysgrifenu parthed hyn at yr holl seiadau. Byddwch wrol, fy chwaer, newydd da ydyw; y mae yr Arglwydd yn dyfod, ac y mae Satan yn rhuo. Bydded i bob un edrych at ei arfogaeth, y mae amseroedd ardderchog a gogoneddus gerllaw." Yr ydym yn gweled oddiwrth lythyr Peter Williams i'r gŵr da hwnw orfod teimlo llid Syr Watkin. Yn ychwanegol at hyn, yr oedd yn bygwth troi ymaith oddiar ei ystâd bawb a feiddiai ymgysylltu a'r Methodistiaid, a chan mai efe a berchenogai yr holl wlad, yn mron, golygai ei fygythiad, pe y cai ei gario allan, ddiwreiddiad crefydd agos yn llwyr allan o'r fro. Felly, yr oedd ugeiniau heblaw Howell Harris yn agoshau at yr Arglwydd i geisio ganddo gyfryngu. Atebwyd eu gweddïau mewn ffordd ofnadwy. Un prydnhawn, tua blwyddyn ar ol hyn, marchogai Syr Watkin ar gefn ei farch yn mharc Wynnestay; ac ar ddaear wastad tripiodd yr anifail rywsut, nes y cwympodd ei farchogwr, gan ddisgyn ar ei ben ar y llawr, fel y bu farw yn y fan. Yn ddiau, y mae Duw a farna y ddaear. Ceir traddodiad arall am yr helynt yn y Gogledd, sef fod nifer o bobl druain dlodion wedi cydymgynull mewn cyfarfod gweddi, yn nghymydogaeth y Bala, a darfod i un o'r gweddïwyr gael y fath afael wrth grefu ar i'r Arglwydd. gyfryngu i atal yr erledigaeth, fel y teimlai yn sicr wrth gyfodi oddiar ei liniau fod ei ddymuniadau wedi cyrhaedd y nefoedd. A rhoddodd benill allan i'w ganu, o'i gyfansoddiad ei hun, yn cofnodi ei deimlad:

"Mae Esther wedi cychwyn
I mewn i lys y Brenhin,
Caiff pardwn iddi ei estyn,
Ac ofer waith Syr Watkin."

Ar yr adeg benodol hon, meddir, tra y cenid y penil yn y cyfarfod gweddi, y cyfarfyddodd y barwnig a'i angau yn mharc Wynnestay.

O Langamarch, aeth Harris i Lanwrda, ac oddiyno i Lanbedr-Pont-Stephan, trwy oerni dirfawr, lle yr oedd Cymdeithasfa Chwarterol i gael ei chynal. Clywodd chwedlau anhapus ar y ffordd, parthed teimlad ei frodyr tuag ato, fel yr oedd ei yspryd ynddo yn llwythog wrth nesu at y dref. Wedi llawer o gymhell, cafwyd ganddo bregethu yn Llanbedr, boreu y Gymdeithasfa. Teifl brawddeg neu ddwy o'i eiddo oleuni ar y syniadau neillduol a goleddai. goleddai. "Dangosais nad oes ond un Duw," meddai; "nad oes un Duw i fynu nac i lawr, ond Iesu Grist. Eglurais y modd yr oedd rhai yn gwneuthur eilun, gan ei alw y Tad, a'i osod uwchlaw Iesu Grist, a'u bod yn addoli yr eilun hwn. yn lle yr unig wir a'r bywiol Dduw. Dangosais fel yr oeddynt gystal a bod yn Ariaid, wrth osod Crist i roddi boddlonrwydd i'r Tad; ac os gwnaeth efe hyny, pwy a roddes foddlonrwydd i'r Mab, a'r Yspryd. Gwrthddadl Eithr yr ydych chwi yn addoli yr Iesu? Ateb: Yr ydym yn addoli y Tad, y Mab, a'r Yspryd ynddo (sef yn yr Iesu); tri yn un, ac un yn dri." Dengys y difyniad hwn fod Harris yn dra chymysglyd o ran ei olygiadau ar y Drindod, a'i fod yn nesu yn bur agos at Sabeliaeth.

Yn nghyfarfod neillduol y Gymdeithasfa bu dadleu brwd, a rhyw gymaint o deimlad anhapus. "Tra y mynwn i roddi i fynu y gyfraith mewn ffydd, yn Ngogledd Cymru," meddai, "ac y ceryddwn hunan ac yspryd cnawdol, un a ddaethai oddiyno. i ofyn am gyfarwyddyd, daeth Satan i lawr. Cyhuddodd rhywun fi o falchder. Gwrthodais inau weithredu heb i'r brodyr gydnabod eu bai, a datgan gofid, gan fy ngosod yn fy lle priodol; a dywedais nad oedd genyf un amcan wrth ddyfod yno heblaw gwasanaethu Crist, ac y rhaid i bob un sefyll yn ei le ei hun. Daeth yr Cefais Arglwydd i'n mysg drachefn. Cefais gyfleustra i egluro ein rhesymau dros aros yn yr Eglwys. Yr wyf yn cael fod yr Arglwydd, trwy amrywiol ffyrdd, yn dwyn y brodyr i ymsefydlu o'i mewn. Cydunasom i gasglu i ddwyn yn mlaen y gyfraith yn erbyn Syr Watkin Williams Wynne. Trefnodd y brodyr eu teithiau. Yn breifat, cefais ateb oddiwrth yr Arglwydd gyda golwg ar y gyfraith, a chyda golwg ar gyflogi Mr. Williams, Caerlleon, i'w chario yn mlaen. Yr wyf yn cael Yspryd Duw ynof yn gwaeddi yn gryf yn erbyn Syr Watkin." Byddai yn ddyddorol gwybod sut y terfynodd helynt y gyfraith, ac ai marwolaeth ddisymwth y boneddwr a roddodd ben arni. Dranoeth, aeth pethau yn mlaen yn bur hwylus; eithr bu Harris yn rhoddi gwers lem i rai brodyr am eu hysgafnder a'u cnawdolrwydd, ac aeth yn ddadl rhyngddo a Rowland, a Williams, Pantycelyn, am reolau i droi proffeswyr cnawdol allan. Dadleuent hwy fod hyn yn anhawdd ac yn beryglus. "Ond," meddai Harris, "deliais i yn gryf fod yna lygad, neu oleuni ysprydol, yn y Cristion, yr hwn sydd yn barnu ac yn mesur pob peth." Mynai ef osod y rhai difraw oll dan ddysgyblaeth. Sut y terfynodd y ddadl, nis gwyddom, ond gwnaed llawer o drefniadau, ac ymwahanodd y brodyr mewn teimlad hapus at eu gilydd. Eithr y mae yn anmhosibl darllen adroddiad Howell Harris ei hun am y Gymdeithasfa, heb deimlo ei fod yn dra arglwyddaidd, ac yn honi llywodraeth; a'i fod yn cyfeirio yn rhy fynych at "ei le" yn y Gymdeithasfa, fel pe buasai wedi cael ei osod yn oruchaf ar ei frodyr. Y mae yn ofidus gweled un mor llawn o natur dda, a mor gynhes ei yspryd, wedi cael ei feddianu gan y fath deimlad.

O Lanbedr, aeth Harris ar daith bur fanwl trwy ranau isaf Sir Aberteifi, rhanau o Benfro, Caerfyrddin, a Morganwg. Heblaw pregethu, a threfnu materion yn y seiadau, yr oedd hefyd yn casglu at Dŷ yr Amddifaid, a sefydlasid gan Whitefield yn Georgia. Ar amlen y dydd-lyfr, ceir y swm a gasglwyd yn mhob lle, a chan mai dyma yr adroddiad cyntaf o gasgliad cyffredinol yn mysg Methodistiaid Cymru, yr ydym yn ei groniclo. Heblaw ei fod yn ddyddorol, teifl ryw gymaint o oleuni ar nerth cymharol y gwahanol seiadau. "Derbyniais," meddai, "at Dŷ yr Amddifaid yn—

Teithiai Howell Harris yn ddiorphwys yn ystod y Gwanwyn hwn; nid oedd ball ar ei ymdrechion: cawn ef weithiau yn Morganwg a Mynwy; bryd arall yn Sir Drefaldwyn, neu Sir Gaerfyrddin; a phan na fyddai yn mhell o gartref, ymwelai a'r lleoedd cyfagos yn Mrycheiniog a Maesyfed. Ofer i ni geisio ei ganlyn i bob man, a phrin y byddai yn fuddiol i'r darllenydd. Yr wythnos gyntaf yn mis Mai, cynhelid Cymdeithasfa Chwarterol yn Nghaerfyrddin. Dywed Harris iddo fyned i'r ystafell, a phregethu yno i dorf anferth. Awgryma hyn fod y Methodistiaid wedi adeiladu capel yn y dref. Ei destun ydoedd: "Trwy ras yr ydych yn gadwedig," a chafodd nerth a goleuni anarferol i ganmol gras Duw. Yn nghyfarfod neillduol y Gymdeithasfa, daeth rhyw awel dyner wrth ganu ar y cychwyn. Yna, darllenwyd cofnodau y Gymdeithasfa flaenorol; derbyniwyd arian o wahanol leoedd at y gyfraith; ymgynghorwyd am y modd i'w chario yn mlaen; a phenderfynwyd fod Harris, a Price, o Watford, i ymweled a'r cyfreithiwr. Trefnwyd brodyr, hefyd, i ymweled â Gogledd Cymru. Boreu yr ail ddiwrnod, darllenwyd yr adroddiadau, ac yr oeddynt yn dra melus. "Ond," meddai Harris, "yr oedd y brawd Rowland yn eiddigus o honof fi gyda golwg ar y Drindod. Yr oedd wedi digio oblegyd rhywbeth a ddywedais gyda golwg ar ein bod yn rhanu y Duwdod yn gnawdol, ac yn gosod y Tad uwchlaw y Mab. Dywedais wrtho fy mod yn ofni nad oedd yn adnabod yr Arglwydd, a bloeddiais gydag awdurdod: Nid oes ond un Duw, ac fe ymleda y goleuni hwn dros y byd, er gwaethaf pob gwrthwynebiad! Pan y darllenaf y Puritaniaid, nid wyf yn cael fy mod yn gwahaniaethu oddiwrthynt mewn un dim. Dirmygodd (Rowland) fi, a dywedodd nad oeddwn yn darllen nac yn pregethu yr Ysgrythyr. Syrthiais dan hyn, a dywedais: Y mae yn wir nad wyf yn astudio nac yn myfyrio digon ar yr Ysgrythyrau; hoffwn fyfyrio ynddynt bob moment, a'm gofid yw fy mod yn methu !' Gwrthwynebai dystiolaeth yr Yspryd. Atebais, er fod llawer yn twyllo eu hunain, eto, rhoddir ateb i weddi. Yna, yr ystorm a chwythodd drosodd, a phan oedd pob peth yn dawel, gwahoddodd fi yn galonog i Sir Aberteifi." Amlwg yw fod y naill a'r llall yn meddu tymherau poethlyd, ac yn eu cyffro yn dweyd pethau caledion am eu gilydd. Prin yr oedd heddwch wedi ei adfer, pan y daeth llythyr i'r Gymdeithasfa, yn anuniongyrchol oddiwrth fyfyrwyr athrofa y dref, yn cynwys hèr i ddadl, gyda golwg ar rywbeth a ddywedasai Harris yn ei bregeth. Yn ganlynol, rhuthrodd y myfyrwyr i'r cyfarfod, ac etholasant un o'u mysg i fod yn enau drostynt mewn dadl. Yr oedd hyn yn ymddygiad tra anweddus; a chan mai pregethwyr ieuainc yr athrofa Ymneillduol oedd y nifer amlaf o honynt, yr oedd yr hyn a wnaethant yn fwy annheilwng fyth. Dywed Harris fod llawer o dymher ddrwg wedi cael ei hamlygu o'r ddwy ochr; yn neillduol o'i du ef, pan y ceryddai hwy am eu balchder. Maentymient hwy, igychwyn, fod Harris yn dinystrio rheswm. Atebai yntau fod teimlad dwfn yn rhwym o ymddangos. "Beth," meddai, "pe bai drwgweithredwr ar y ffordd i'r crogbren yn derbyn pardwn o law'r brenhin; a mwy, yn cael sicrwydd ei fod i gael ei fabwysiadu i deulu y brenhin, ai ni floeddiai dros y lle?" Addefodd yr efrydwyr fod ei gymhariaeth yn anwrthwynebol. Yn ganlynol, dechreuodd wneyd gwawd o honynt, gan ddweyd eu bod wedi dysgu ymresymu wrth reol, a holai iddynt paham na ddygasent eu meistr gyda hwynt. Pan yr achwynent oblegyd y wawdiaeth, dywedai ei fod yn dilyn y cyfarwyddyd Ysgrythyrol, sef ateb y ffol yn ol ei ffolineb. Dywedodd, yn mhellach, ei fod yn synu at eu balchder, a'u gwaith yn ymosod ar gorph o bobl lafurus gyda chrefydd, ac mai hyn oedd yr ymosodiad agored cyntaf a wnaed ar y Gymdeithasfa. Cyhuddai un o honynt ef o ddweyd y gosodai yr Ymneillduwyr ef, pe y medrent, yn uffern. Gwadodd Harris i'r fath ymadrodd ddisgyn erioed dros ei wefusau. "Dywedais," meddai, nas gallwn oddef i neb fychanu y gweinidogion Ymneillduol, fy mod yn meddwl yn uchel am lawer o honynt, a'm bod am heddwch. Ceryddais y dyn ieuanc, Evan William, a ddychwelasai o Ogledd Cymru, am mai efe oedd wedi cyffroi yr Ymneillduwyr yn erbyn gwaith Duw." Yn sicr, yr oedd yn syn gweled Evan William, a fuasai yn gynghorwr yn mysg y Methodistiaid, yn awr yn mysg y terfysgwyr a ruthrent i'r Gymdeithasfa. Ceryddodd ŵr ieuanc arall, yr hwn a daenasai y chwedl trwy y dref fod yr offeiriaid yn dyfod i wrthwynebu Harris a'i ganlynwyr, a bod rhagolygon golygus am derfysg. "Yr wyf yn gobeithio," meddai, "y bendithir hyn iddynt, i ddarostwng eu balchder, oblegyd teimlwn gariad at eu heneidiau."

Ar y nawfed o Fai, agorodd ysgol yn Nhrefecca, ac aeth o gwmpas y rhieni i'w cymhell i anfon eu plant yno. Yr oedd er ys rhai blynyddoedd yn adeiladu tŷ yn Nhrefecca; a oedd casglu teulu mawr yno, o wahanol gymydogaethau, er rhoddi iddynt fanteision crefyddol, yn fwriad ganddo ar hyn o bryd, sydd anhawdd ei benderfynu. Yr wythnos ganlynol, cawn ef mewn Cyfarfod Misol yn Dyserth. Adroddodd wrth y brodyr hanes y Gymdeithasfa yn Nghaerfyrddin; y gwrthwynebiad a gawsid oddiwrth yr efrydwyr; eglurodd ei ymddygiad tuag at yr Ymneillduwyr; trefnodd gyda golwg ar gael ysgol yno; a phenderfynodd fod y dydd Iau canlynol i gael ei dreulio mewn gweddi. Yr oedd yno gynghorwyr o Sir Drefaldwyn, a gawsent eu gosod dan gerydd gan Howell Harris oblegyd eu balchder; gobeithiai allu eu derbyn yn awr; ond nid oedd eu pechod wedi ei ddarostwng; a rhaid ydoedd parhau y ddysgyblaeth. Bu gyda hwy drachefn a thrachefn yn ceisio eu perswadio; yr oedd y boreu yn gwawrio pan y rhodd y gorchwyl i fynu; a phan y methodd ei hun, anfonodd y cynghorwr Thomas James atynt. Eithr ofer a fu ymgais y ddau. Eu gwir drosedd oedd cyfeiliorni mewn athrawiaeth. Ganol mis Mai, aeth i Lundain, ac arosodd yno hyd ddechreu Gorphenaf. Yn ystod yr amser hwn, disgynodd i'w ran y gorchwyl annymunol o droi Herbert Jenkins allan o'r Cyfundeb.

Y mae y dydd-lyfr, o ddechreu Gorphenaf hyd ganol Awst, ar goll. Yr ydym yn cael Daniel Rowland a Howell Harris, Awst 19, yn teithio yn nghyd i Drefynwy, ac yn hynod gyfeillgar. Agorodd Harris ei holl fynwes iddo, gan egluro y rheswm am ddiarddeliad Herbert Jenkins, ac hefyd esbonio rhai ymadroddion o'i eiddo yn Ngogledd Cymru. Tueddwn i feddwl mai dychwelyd yr oeddynt, wedi bod yn hebrwng yr Iarlles Huntington yn ei hol i Loegr, ar ol treulio rhai wythnosau yn Nghymru. Yr oeddynt hwy eu dau, yn nghyd â Griffith Jones, a Howell Davies, wedi cyfarfod yr Iarlles yn Mryste; teithiasant trwy y rhan fwyaf o Ddeheudir Cymru yn araf; byddai rhai o'r offeiriaid yn pregethu yn y pentrefydd, trwy ba rai yr oeddynt yn myned, neu ynte, rai o'r prif gynghorwyr, a chafwyd odfaeon y cofiodd y foneddiges dduwiol am danynt hyd ei bedd. Buont yn aros am rai dyddiau yn Nhrefecca, a chafodd Griffith Jones odfa ryfedd yno ar y maes. Yn The Life and Times of Selina, Countess of Huntington, dywedir i'r daith hon gymeryd lle ddiwedd Mai a dechreu Mehefin. Ond yn ol dydd-lyfr Howell Harris, nis gell hyn fod yn gywir, oblegyd bu ef yn Llundain yn gweinidogaethu trwy y rhan fwyaf of Fai, a thrwy yr oll o Fehefin. Tebygol, mai diwedd Gorphenaf, a dechreu Awst, "rhwng y ddau gynhauaf," fel y dywedir, y cymerodd yr Iarlles y daith hon.

Yn ganlynol, yr ydym yn ei gael ar daith trwy Siroedd Aberteifi a Phenfro. Nis gallwn ei ddilyn o le i le, ond hyfryd gweled fod Howell Davies yn gyfaill ac yn gydymaith iddo ar ei ymweliad a Phenfro. Ac yr oedd cynulleidfaoedd aruthrol yn dyfod i'w wrando yn mhob man. Yn y Parke yr oedd mewn cyfyng gyngor gyda golwg ar beth i bregethu, gan fod nifer mawr o offeiriaid yn bresenol, "a llawer o Ymneillduwyr rhagfarnllyd. Ymddengys ei fod ef a'r Ymneillduwyr yn pellhau yn gyflym oddiwrth eu gilydd. Wedi ymgynghori â Duw, cymerodd yn destun, 1 Cor. ii. 2: "Canys ni fernais i mi wybod dim yn eich plith ond Iesu Grist, a hwnw wedi ei groeshoelio." "Dangosais" meddai, "y modd yr oeddynt wedi blino Paul a'u dadleuon; ond yn awr ei fod wedi penderfynu na chaent ei flino mwy; na fyddai a fynai ychwaneg ag unrhyw wybodaeth ond Crist croeshoeliedig. Yna, arweiniwyd fi i lefaru ar ddirgelwch duwioldeb. Pwysleisiais mai dirgelwch ydyw, ai fod tu hwnt i ddadl. Yn unol a'm harfer, llefarais yn gryf parthed Duwdod Crist, ei fod yn Dduw yn y preseb, ac yn Dduw ar y groes; ac er mai y natur ddynol a ddyoddefodd, eto fod ei ddyoddefiadau yn Ddwyfol. Eglurais ei eiriau gyda golwg ar ei fod yn israddol i'r Tad, ac yn gydraddol ag ef. Cyfeiriais at y lleidr yn gweddio ar y Dyn hwn, iddo fentro ei enaid arno, gan ei weled yn Oruchaf Lywodraethwr, ac yn Dduw ar y tragywyddoldeb i ba un yr oedd ar gymeryd naid. Ni ddarfu iddo yntau wrthod y weddi, ond atebodd hi gyda mawrhydi teilwng o Dduw. Cyfeiriais at Stephan yn gweddïo arno. Dangosais, nid yn unig ei fod ef—y Dyn hwn-y Person hwn—yn Dduw, ond ei fod yn Dduw tragywyddol; mai efe yw yr unig Dduw, mai efe a wnaeth y bydoedd, ac nad oes yr un Duw arall ar wahan nac uwchlaw iddo; ein bod yn credu yn y Duwdod, yn ol credoau Athanasius, Nicene, a'r Apostolion, fod tri o gyd-dragywyddol Bersonau, ond nad oes ond un Duw; ac mai yr un Duw hwn yn mherson y Mab a ddaeth yn ddyn, ac a roddodd ei fywyd i lawr. Yna, troais atynt, a gofynais ai nid oeddynt yn gwneyd tri Duw? Ac ai nid oeddynt yn myned heibio iddo at Dad, yr hwn a ystyrient yn fwy nag ef? Dangosais nad oedd y fath Dad, oddiwrth ei ymadrodd ef ei hun wrth Phylip; ac nad oes na mwy na llai, na chynt na chwedin, yn y Duwdod; a bod yr hwn sydd yn gweled y Mab yn gweled yr oll o'r Duwdod, yr hwn a leinw bob lle, a phob peth ar unwaith. Yn awr, os mai efe yw yr unig Dduw, ac os nad oes ond efe, ai nid oes rhai o honoch wedi bod yn addoli Duw dyeithr, ïe, yn addoli llun a delw yn eich deall? Yr ydych yn pasio heibio y Duw byw, i addoli hwn, y duw ac nad oes yr un Duw arall ar wahan nac uwchlaw iddo ; ein bod yn credu yn y Duwdod, yn ol credoau Athanasius, Nicene, a'r Apostohon, fod tri o gyd-dra- gywyddol Bersonau, ond nad oes ond un Duw ; ac mai yr un Duw hwn yn mherson y Mab a ddaeth yn ddyn, ac a roddodd ei fywyd i lawr. Yna, troais atynt, a gofyn- ais ai nid oeddynt yn gwneyd tri Duw ? Ac ai nid oeddynt yn myned heibio iddo at Dad, yr hwn a ystyrient yn fwy nag ef ? Dangosais nad oedd y fath Dad, oddiwrth ei ymadrodd ef ei hun wrth Phyhp ; ac nad oes na mwy na llai, na chynt na chwedin, yn y Duwdod ; a bod yr hwn sydd yn gweled y Mab yn gweled yr oU o'r Duwdod, yr hwn a leinw bob lle, a phob peth ar unwaith. Yn awr, os mai efe yw yr unig Dduw, ac os nad oes ond efe, ai nid oes rhai o honoch wedi bod yn addoh Duw dyeithr, íe, yn addoh Ihm a delw yn eich deall ? Yr ydych yn pasio heibio y Duw byw, i addoh hwn, y duw dychymygol yma a elwch yn Dad. Yr oeddwn yn gryf ar hyn, er y rhaid i mi arfer pob tynerwch at bawb, eto fod yn rhaid i mi sefyll wrth y gwaed hwn." Yr ydym yn cofnodi ei sylwadau yn helaeth, er dangos natur ei olygiadau. Yna aeth yn mlaen i ddangos ei berthynas a'r Ymneillduwyr, ei fod yn eu parchu, ac yn pregethu yn eu capelau; mai ei holl amcan oedd eu dyrchafu at Dduw; nad oedd y Methodistiaid yn bwriadu gosod i fyny blaid, mai yn yr Eglwys Sefydledig yr oeddynt wedi eu galw. Cyfeiriodd hefyd at ryw lythyr a daenid trwy Gymru a Lloegr gyda golwg arno, yr hwn a gynwysai gyhuddiadau hollol anwireddus.

Yr oedd y wasg Saesnig yn tywallt allan bob math o lysnafedd ar y Methodistiaid yr adeg hon. Mewn un pamphledyn, dywedid eu bod yn gwneyd eu canlynwyr yn wallgof; ddarfod i amryw o honynt yn Nghymru gyflawni mwrddradau, a'u bod yn hongian mewn gefynau ar y pryd. Desgrifid Whitefield fel un a melin wynt yn ei ben, ac fel yn myned o gwmpas y byd i geisio rhywun y gallai daro ei ymenydd allan. Ond Griffith Jones, Llanddowror, a enllibid waethaf o bawb. Honai ysgrifenydd arall, yr hwn, fel y mae'r gwaethaf, oedd ŵr dysgedig, fod Methodistiaid Cymru yn arfer godineb, ac na ystyrid puteindra yn bechod ganddynt o gwbl. Dywedai, yn mhellach, fod y pregethwyr Methodistaidd yn peri i'r aelodau gyffesu eu pechodau iddynt, a bod un o honynt, Will Richard, wrth ei enw, a chobler wrth ei gelfyddyd, pan fyddai yn maddeu pechodau un, yn estyn iddo ddarn o bapyr, gan sicrhau y cyfryw y gwnelai y papyr agor drws y nefoedd iddo. Nid annhebyg y cyfeiriai Harris at un o'r rhai hyn.

Boreu dranoeth, derbyniodd lythyr oddiwrth ddau weinidog Ymneillduol, gyda golwg ar ei bregeth y noson cynt. Gwelai y rhaid iddo ddyoddef oblegyd ei weinidogaeth. Aeth i lawr i ymddiddan â hwynt. Dywedodd un o honynt, Thomas Morgan, wrth ei enw, nad oedd y Dyn a ddyoddefodd yn Dduw tragywyddol. Oblegyd yr ymadrodd hwn galwodd Harris ef yn heretic, a dywedodd y gwnai bregethu yn ei erbyn hyd at waed, ond os galwai ei eiriau yn ol, neu yr addefai ei fod yn ddall, y gwnelai yntau fod yn ddystaw hyd nes y caffai ef (Thomas Morgan) oleuni pellach oddiwrth Dduw. "Dywedais ei fod yn fater cydwybod genyf," meddai, "ac y rhaid i mi ymdrechu drosto hyd at waed, mai efe yw y Duw tragywyddol. Dangosais iddynt eu hanwybodaeth, ac na all neb adnabod Crist ond yn ngoleu yr Yspryd Glân; fod yr undeb rhwng y ddwy natur yn Nghrist yn dragywyddol, ac felly mai y cabledd a'r digywilydd-dra mwyaf yn fy ngolwg i, oedd dweyd ei fod yn cyflawni unrhyw beth, neu yn dyoddef fel dyn, ac nid fel y tragywyddol Dduw." Datganai ei obaith y llewyrchai gogoniant y Person hwn yn mysg yr Ymneillduwyr. Ymadawsant yn y diwedd yn hapus; gair diweddaf Howell Harris wrthynt ydoedd: "Peidiwch gwneyd mân wahaniaethau deillion; fflamiwch ar led ogoniant y Dyn hwn, ac yna mi a ddymunaf i chwi ffawd dda." Oddiyma dychwelodd trwy Lacharn, Caerfyrddin, Pontargothi, Capel Llanlluan, Llandremore, Abertawe, Gelly-dorch-leithe, a'r Hafod, gan gyrhaedd Trefecca ar y 24ain o Fedi. Cafodd gynulleidfaoedd. anferth yn mhob man, ac ymddengys fod cryn arddeliad ar ei weinidogaeth. Dirgelwch Crist, ac agosrwydd undeb y ddwy natur ynddo, fel yr oedd y ddynoliaeth yn cael ei dwyfoli fel rhan o'r Person; dyna oedd y mater y pregethai arno yn mhob man, er y byddai yn amrywio ei destynau.

O Medi 25 hyd Rhagfyr 18, y mae y dydd-lyfr ar goll, felly nis gallwn gael unrhyw wybodaeth am ei lafur yn ystod y cyfnod hwn. Dranoeth i'r Nadolig, cynhelid Cyfarfod Cyffredinol—felly y geilw Harris ef yn Nhrefecca. A ydoedd yn Gymdeithasfa reolaidd, nis gwyddom; ond nid oes grybwylliad fod yr un o'r offeiriaid yn bresenol. Agorwyd y cyfarfod gyda phregeth gan Harris, ar yr angelion yn ymweled a'r bugeiliaid pan anwyd Crist. Nid yw yn ymddangos fod llawer o drefn ar y bregeth; aeth ar draws liaws o faterion; dywed iddo lefaru am dair awr, a bod cryn lawer o nerth yn cydfyned a'r genadwri. Fel arfer, ymhelaethodd ar ddirgelwch Crist, gan brofi mai efe oedd y gwir a'r tragywyddol Dduw; nad oes yr un Duw uwchlaw iddo, a bod y Drindod trwy yr undeb sydd yn y Duwdod yn preswylio ynddo. Dangosodd ei Ddwyfol ymostyngiad yn preswylio yn mru y wyryf, ac yn cymeryd ein natur ni, a thrwy hyn, ffurfio y fath Berson na welwyd ei gyffelyb erioed o'r blaen. Yna cyfeiriodd at yr Ymhonwr, gan ddatgan nad oedd arnynt awydd am un brenin i lywodraethu dros eu cyrph ond y brenhin George; ond fod y Brenhin Iesu uwchlaw iddo ef. "Awn lle y mynwn," meddai, "ni a fyddwn yn nheyrnas yr Iesu. Pan yr oedd y gwaith hwn yn cychwyn, creodd Satan wrthwynebiad iddo; eithr daeth i'r dim. P'le mae Satan yn awr?" Yn y seiat a ddilynai, bu yn dra llym wrth y proffeswyr am nad oeddynt yn dwyn ffrwyth. Dywedai ei fod wedi talu ardreth yr ystafell yn Nhrefecca ei hun am gryn amser; na ddaeth neb ato i ofyn sut yr oedd yn gallu fforddio; ei bod yn ddigon iddo ef bregethu y Gair iddynt heb roddi ystafell yn ogystal; ai fod wedi cynhal ysgol yn y lle am amser ar ei draul ei hun. Condemniodd hwy am beidio cydymdeimlo a'u brodyr, gan ddweyd fod rhai o'r cynghorwyr yn dlodion, ac mewn perygl o gael eu hanfon i'r carchar. "Beth a fyddai i gynifer o seiadau eu cynorthwyo?" meddai. Gallwn feddwl fod ei eiriau yn cyrhaedd i'r asgwrn. Buont yno hyd ddau o'r gloch y boreu, a Harris yn dangos i'r brodyr eu diffygion. Yna, trefnwyd amryw faterion. Bu achos James Beaumont dan sylw, yn yr hwn yr oedd yspryd cyfeiliorni wedi ymaflyd. Dadleuai Harris yn erbyn ei droi allan, eithr ymddwyn ato mewn modd efengylaidd, yn y gobaith y byddai i Dduw ei ddwyn i'r iawn. Cyn diweddu, daeth y dylanwadau nefol i lawr yn helaeth; llamai y brodyr gan faint eu llawenydd; a chwedi bod yn canu ac yn bloeddio concwest, yr oedd yn bump o'r gloch y boreu ar Howell Harris yn myned i'w wely.

Y mae yn debygol fod Harris yn fwy rhydd i'r gwaith yn Nghymru yr haner olaf o'r flwyddyn 1748 nag y buasai am gryn amser yn flaenorol, gan i Whitefield, ar ol bod yn yr Amerig am bedair blynedd a haner, ddychwelyd i Lundain ddechreu Gorphenaf. Yn y Gymdeithasfa a gynhelid yn Llundain, Gorphenaf 20, 1748, Whitefield a lywyddai. Fel math o isgadben dan Whitefield, yr edrychai Harris arno ei hun yn ei berthynas a'r brodyr Saesnig. Nid oedd Whitefield, modd bynag, yn hollol barod i gymeryd ei le fel cynt yn eu mysg. Dywedai fod y fath annhrefn wedi dod i mewn i'w plith, trwy fod y pregethwyr ieuainc yn myned tu hwnt i'w terfynau priodol, fel nas gwyddai beth i'w wneyd. Y mynai glywed o wahanol gyfeiriadau cyn gwneyd ei feddwl i fynu, ond ei fod yn benderfynol o beidio cydlafurio â neb na ddangosai barodrwydd i gymeryd ei ddysgu, ac i fod tan ddysgyblaeth. Nid oedd, meddai, yn awyddu am fod yn ben, ond y rhaid iddynt (y pregethwyr ieuainc) adnabod eu lle, ac edrych arnynt eu hunain fel ymgeiswyr ar brawf, ac arno yntau fel tad arnynt, onide na ddaliai gysylltiad â hwynt. Mewn canlyniad i'r araeth hon, plygodd y brodyr, a dywedasant eu bod am ymostwng yn gyfangwbl iddo, a defnyddio pob moddion i gynyddu mewn defnyddioldeb. Cymerodd dyfodiad Whitefield ran o faich Harris oddiar ei war; a diau fod cynghor a chydymdeimlad cyfaill mor ddiffuant, yn falm i'w enaid yn y treialon trwy ba rai yr oedd yn pasio.

Nodiadau

[golygu]



Nodiadau

[golygu]