Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)/Rhai o'r Cynghorwyr Boreuaf (tud-17)

Oddi ar Wicidestun
Rhai o'r Cynghorwyr Boreuaf (tud-16) Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)
Rhai o'r Cynghorwyr Boreuaf
gan John Morgan Jones

Rhai o'r Cynghorwyr Boreuaf
Rhai o'r Cynghorwyr Boreuaf (tud-18)

mewn adeiladaeth; ac yn bur fuan aeth ei glod fel gwneuthurwr cloddiau sychion dros y wlad. Wedi gweled seiri meini wrth eu gorchwyl, a sylwi pa fath arfau a ddefnyddient, teimlai ei hun yn alluog i adeiladu tai, a daeth i ragori yn y gelfyddyd. Yn agos i'w gartref yr oedd hen gastell enwog Caerphili, gyda ei furiau cryfion, a'i fŵau celfydd, yn sefyll i fynu, gan herio ystormydd y canrifoedd. Yr oedd athrylith adeiladu yn y llanc William Edward, a threuliai bob awr a allai hebgor mewn astudio nodweddion yr adeilad, ac yn fuan daeth i ddeall egwyddor bŵa (arch). Pan tuag un-ar-hugain mlwydd oed, gosododd weithfa haiarn (iron forge) i fynu yn Nghaerdydd, ac aeth i'r ysgol yno at ddyn dall, o'r enw Walter Rosser, lle y dysgodd Saesneg, ac elfenau gwyddoniaeth. Tua'r flwyddyn 1749, ymgymerodd ag adeiladu pont dros afon Taf, yn Mhontypridd, yr hyn orchwyl a gyflawnodd gyda medr mawr. Ond yn mhen tua blwyddyn, daeth llifeiriant enbyd; cauwyd bŵau y bont gan y coed a'r llwyni a ddeuent gyda'r dwfr i lawr o'r cymoedd uwchlaw; cronodd y dwfr, a than y pwysau anferth rhoddodd y bont ffordd. Y mae yntau yn ymosod i adeiladu pont arall, ac fel na ddigwyddai anffawd gyffelyb drachefn, penderfyna ei gwneyd o un bwa. Eithr cyn fod y bont wedi ei gorphen, darfu i'r pwysau ar y ddau pen wasgu y gareg glo allan, a syrthiodd hithau i'r afon. Ni wangalonodd William Edward; canfyddodd ble y camgymerasai; ac ymosododd i adeiladu trydedd bont, sef y bont fwyaf o un bŵa yn y byd. Y mae y bont hon yn sefyll hyd heddy w, ac yn brawf o athrylith a dewrder y gŵr a'i lluniodd.

Ond a hanes grefyddol William Edward y mae a fynom ni. Argyhoeddwyd ef dan weinidogaeth Howell Harris, pan nad oedd ond llanc pedair—mlwydd—ar—bymtheg oed. Ymroddodd ar unwaith i wasanaethu Crist, a dechreuodd gynghori ei gydbechaduriaid. Yn Nghymdeithasfa Watford, pan y penodwyd ei gyfaill, Thomas William, yn arolygydd, gosodwyd William Edward, fel cynghorwr anghyoedd, i fod yn un o'i gynorthwywyr. Y mae yn debyg nad diffyg dawn na chymhwysder oedd yr achos na osodwyd ef yn arolygwr, ond amledd a phwysigrwydd ei orchwylion bydol, gan ei fod, heblaw cynghori, yn cadw tyddyn, ac yn adeiladydd prysur. Prawf ei fod yn dra derbyniol yw penderfyniad Cymdeithasfa Watford, Ebrill 24, 1744, sef nad oedd y cynghorwyr anghyoedd i lefaru yn gyhoeddus, eithr yn y seiadau preifat, gyda'r eithriad o William Edward, am yr hwn yr oedd galw i Lantrisant a'r Groeswen. Cawn ei enw ef wrth lythyr cynghorwyr y Groeswen i'r Gymdeithasfa, a chafodd ei ordeinio yn weinidog yno yr un pryd a Thomas William. Ar farwolaeth ei gyfaill, daeth yn unig weinidog y Groeswen, ac yno y bu yn llafurio, gyda mawr gymeradwyaeth, hyd ddydd ei farwolaeth. Methodist yr ystyriai ei hun hyd ddiwedd ei oes. Cymerai ychydig gydnabyddiaeth gan yr eglwys am ei lafur, ond ni roddodd i fynu ei orchwylion bydol; yn hytrach parhaodd i adeiladu pontydd a thai, ac i amaethu ei dyddyn, yn ogystal a phregethu yr efengyl. Bu farw yn y flwyddyn 1789, yn dri-ugain-a-deg mlwydd oed, a chafodd ei gladdu yn mynwent Eglwys llan. Y mae crefydd wedi aros yn ei deulu hyd y dydd hwn. Gorŵyr iddo yw Dr. Edwards, Caerdydd, yr hwn nid yn unig sydd yn enwog fel meddyg, ond hefyd yn ŵr tra chrefyddol.

Am y tri arall o gynghorwyr y Groeswen a ddarfu arwyddo y llythyr i'r Gymdeithasfa, sef Thomas Price, John Belsher, ac Evan Thomas, nid rhyw lawer o'u hanes a wyddom. Nid oes dim ond enw Evan Thomas wedi ein cyrhaedd. John Belsher oedd y dysgleiriaf ei ddoniau o'r pump, a'r mwyaf poblogaidd. Pan y penderfynwyd yn Watford, Ebrill 27, 1744, fod un i gael ei ddewis i lwyr ymroddi i'r gwaith, er mwyn bod yn gymorth i Howell Harris, a chynorthwyo yr arolygwyr yn eu gwahanol adranau, wedi cryn ymddiddan parthed ei gymhwysderau mewnol ac allanol, syrthiodd y coelbren ar John Belsher, fel yr addasaf i lanw y swydd. Tybia y Parch. John Hughes mai ar gyfer y Gogledd yn benaf y gwnaed y penodiad hwn; ond y mae hyny yn anghywir; dywed y penderfyniad mai ei faes oedd Siroedd Mynwy, Marganwg, a Chaerfyrddin. Ceir nodiad yn nghofnodau Cymdeithasfa Fisol Llanfihangel, Mai 3, 1744, yn awgrymu fod cryn betrusder wedi codi yn ei feddwl gyda golwg ar gymuno yn yr Eglwys WIadoI, ond iddo addaw cadw ei amheuaeth iddo ei hun. Tua diwedd y flwyddyn 1745, neu ddechreu y ganlynol, cafodd ei benodi, gyda thri o gynghorwyr eraill, i fyned i Wynedd, er ceisio ei darostwng i'r efengyl. Dyma yr hanes olaf sydd genym am dano. A



Nodiadau[golygu]