Y Tadau Methodistaidd Cyfrol II/Cynwysiad
← Rhagymadrodd i'r Ail Gyfrol | Y Tadau Methodistaidd Cyfrol II gan John Morgan Jones a William Morgan, Pant |
Cychwyniad Methodistiaeth yn Ngwahanol Ranau Gwynedd → |
XXI.—CYCHWYNIAD METHODISTIAETH YN NGWAHANOL RANAU GWYNEDD
Taith gyntaf Howell Harris i Sir Drefaldwyn—Llythyr pigog offeiriad Llandinam—Trefaldwyn yn cael yr un breintiau a'r Deheudir—Erlid yn y sir —Rhwystro John Elias i bregethu yn Llanidloes—Y seiat Fethodistaidd gyntaf yn Meirionydd—Lowri Williams yn ymsefydlu yn Mhandy—y—ddwyryd, ac yn dwyn yr efengyl i'r wlad—Tystiolaeth Lowri Williams, Benar Isaf, am yr amseroedd—Erlid enbyd yn Nolgellau—Y Methodistiaid yn eni yn Sessiwn y Bala—Dechreuad Methodistiaeth yn Lleyn—David Jenkins yn Lleyn Seiat Brynengan—Erlid y Methodistiaid yn Lleyn—Pressio Morgan Griffith—Cychwyniad Methodistiaeth yn Arfon—William Harry yn Llanberis —Yr achos yn cychwyn yn Siroedd Dinbych a Fflint—Pregethu yn Adwy'r Clawdd—Syr W. W. Wynne yn erlid—Methiant yr erlidwyr yn Nhrefriw—Capel Tanyfron—Edward Parry—Beddargraff Hugh Hughes, Coed—y—brain—Methodistiaeth yn gafaelu yn araf yn Môn—Richard William Dafydd yn cael ei amddiffyn gan ddau foneddwr—Richard Thomas, cynghorwr Methodistaidd cyntaf Mon.—Erlid yn Môn, a'r amaethwyr yn cael eu troi o'u tyddynnod oblegyd eu crefydd—Eto yr achos yn llwyddo.
XXII. JOHN EVANS, Y BALA
Ei rieni yn ddynion dychlynaidd, ond heb fod yn grefyddol—John Evans yn dysgu darllen yn ieuanc, ac yn cael blas ar ranau hanesiol y Beibl—Yn troi allan yn llanc gwyllt—Yn ammharod i gymeryd ei lw—Yn symud i'r Bala— Yn ymuno a'r Methodistiaid—Yn myned i Gymdeithasfa Trecastell, a bugail yn ei gyfarwyddo —Yn dechreu pregethu—Yn bregethwr syml a sylweddol— Yn mynychu Cymdeithasfaoedd Dê a Gogledd—Humphrey Edward—William Evans, Fedwarian—Evan Moses—Sion Moses—Adwaen ein gilydd yn y nefoedd—Nifer o ffraeth ddywediadau John Evans—Ei graffder yn y seiat— Cael oes hir—Yn cymeryd rhan yn yr ordeiniad cyntaf—Ei afiechyd olaf a'i farwolaeth.
XXIII. ROBERT ROBERTS, CLYNOG
Rhieni Robert Roberts—Yn tyfu yn fachgen gwyllt—Yn cael ei argyhoeddi dan Jones, Llangan—Dyfnder ei ofid—Yn cyfranogi yn helaeth o'r adfywiad— Ei afiechyd—Yn dechreu pregethu—Yn dyfod yn boblogaidd ar unwaith— Nerthoedd yn cydfyned a'i weinidogaeth—Desgrifiad Dewi Wyn o Eifion o hono—Desgrifiad Eben Fardd—Desgrifiad Dr. Thomas—Difyniadau o'i bregethau—Ei farwolaeth.
XXIV. ROBERT JONES, RHOSLAN, A ROBERT DAFYDD, BRYNENGAN
Maboed Robert Jones—Yn ddarllenwr mawr, ond yn ddigrefydd—Ei droedigaeth—Ei awyddfryd am lesoli ei gydwladwyr—Cerdded ar ei draed i ymweled a Madam Bevan—Hithau yn ei benodi yn ysgolfeistr—Cadw ysgol yn Nghapel Curig—Dechreu pregethu—Cadw ysgol yn Rhuddlan—Ffair Rhuddlan—Erlid Robert Jones—Ceisio pregethu yn Dyserth—Symud i Frynsiencyn, yn Môn—Cael ei yru oddiyno gan yr offeiriad—Cadw ysgol mewn amryw leoedd yn Eifionydd—Ei fedr i drin plant—Ymsefydlu yn Rhoslan—Cael ei yru ymaith oblegyd derbyn pregethu i'w dy—Symud i Ty—bwlcyn—Efe y cyntaf i bregethu yn Meddgelert, Abergynolwyn, a Dyffryn Ardudwy—Gwaredigaethau hynod—Ei lafur mawr gyda'r efengyl—Ei lafur llenyddol—Ei lythyr at y Cyfarfod Misol—Ei farwolaeth a'i angladd—Robert Dafydd yn cael ei eni ger Beddgelert — Yn tyfu yn anwybodus ac yn ddigrefydd —Ei argyhoeddiad—Ei ymdrech i glywed pregethu—Yn symud i Frynengan, ac yn dechreu pregethu—Ei nodwedd fel pregethwr—Rhai odfaeon hynod a gafodd—Ei gymhwysder arbenig at gadw seiat—Yn ddysgyblwr llym, eto yn dyner a doeth—Ei awyddfryd am weled diwygiad arall cyn marw—Yr Arglwydd yn gwrando ei weddi—Diwygiad —Ei ddywediadau—Yn marw yn dawel yn ei gadair.
XXV. JOHN ROBERTS, LLANGWM
Robert Thomas, tad John a Robert Roberts, yn ddyn meddw, ac yn ymladdwr—Ei droedigaeth, a'i ymuniad a'r Methodistiaid—John Roberts yn llanc nodedig o gyflym—Ei fawr awydd am addysg—Pregeth Dafydd Morris, Twrgwyn, yn y Buarthau—John Roberts yn uno a'r seiat, ac yn cadw ysgol— Mathias, y Morafiad—John Roberts yn dechreu pregethu—Ei nodwedd fel pregethwr—John Roberts ac Evan Richardson yn pregethu yn Nghaernarfon —John Roberts yn ysgrifenydd Cymdeithasfa Gwynedd, a Chyfarfod Misol Arfon—Casgliad y ddimai—Rheolau y casgliad yn Sir Gaernarfon—Marwol— aeth Phoebe Roberts—John Roberts yn symud i Langwm—Yn cael ei ordeinio yn —Yn cymeryd rhan yn ffurfiad y Cyffes Ffydd—Yn marw.
XXVI. THOMAS FOULKES, MACHYNLLETH; DAFYDD CADWALADR; AC ERAILL
Argyhoeddiad Thomas Foulkes wrth wrando John Wesley—Yn dychwelyd i'r Bala, ac yn ymuno a'r Methodistiaid—Ei betrusder gyda golwg ar athraw— iaeth parhad mewn gras—Yn cael tawelwch trwy Mr. Charles—Mr. Foulkes yn dechreu pregethu—Ei lafur gyda'r efengyl yn Sir Feirionydd Yn cael ei daflu i'r afon yn Maentwrog—Yn pregethu yn gyntaf yn Llanarmon—Dyffryn— Ceiriog—Ei briodas a merch Simon Lloyd, Ysw.—Yn symud i Fachynlleth— Methodistiaeth yn Machynlleth yn adfywio mewn canlyniad—Haelioni diderfyn Mr. & Mrs. Foulkes—Ei farwolaeth—Genedigaeth a maboed Dafydd Cadwaladr — Ofn y farn—Yn ymroddi i ddarllen—Clywed pregethwr Methodist— aidd am y tro cyntaf—Dafydd Cadwaladr yn symud i fyw i gymydogaeth y Bala—Mewn petrusder rhwng Crist a Mahomet—Y cyfamod—Ei weddïau rhyfedd Cynyg pregethu yn Ngherig—y—druidion, ond yn methu — Cychwyn drachefn yn mhen dwy flynedd—Nodwedd ei weinidogaeth—Ei hynodrwydd fel cerddor ac fel cofiadur—Ei brofedigaethau gyda'r efengyl —Ei ffyddlondeb i'w gyhoeddiadau—Diwedd ei oes—John Jones, Bodynolwyn—Evan Evans, Waenfawr—John Griffith Ellis, Lleyn.
XXVII.—WILLIAM THOMAS, Y PIL; A SIENCYN THOMAS, PENHYDD
William Thomas yn cael ei argyhoeddi trwy Howell Harris—Ei briodas— Yr yspryd yn y ty—William Thomas yn symud i'r Pil—Ei haelioni diderfyn— Yn dechreu cynghori — Ei ddefnyddioldeb yn y seiadau—Ei ryddfrydigrwydd— Ei farwolaeth—Genedigaeth a maboed Siencyn Thomas, Penhydd—Iefan, Tyclai—Siencyn yn cael ei argyhoeddi—Ei ddwyn i ryddid yr efengyl trwy Dafydd Morris, a William Davies, Castellnedd—Tori clun yr ych —Siencyn yn dyfod yn enwog fel gweddiwr—Desgrifiad o'i berson—Yn dechreu cynghori— Amryw o'i sylwadau Y dyn a awyddai am gael ei fedyddio —Y ddwy wraig ymrysongar—Yr anghydfod yn seiat Caerphili—Y ddynes yn Llanarthney— Ymdrechion Siencyn a'r diafol—Y Gwylmabsant—Y gronfa ddwfr Ymddiddan a blaenoriaid—Helynt y llanc oedd ar gael ei ddanfon o'i wlad—Y diacon a'r gwair llwyd—Y ty a'r to tyllog—Siencyn yn pregethu yn y Creunant—Thomas Price yn pregethu yn y Cyfarfod Misol—Helynt y menyg a'r bilwg—Gelyniaeth Siencyn Thomas at falchder—Ei farwolaeth.
XXVIII. CHRISTOPHER BASSET, THOMAS GRAY, AC EDWARD COSLET
Christopher Basset yn hanu o deulu pendefigaidd Yn cael addysg dda— Yn dewis y weinidogaeth, ac yn graddio yn Rhydychain—Yn cael ei benodi yn guwrad i Mr. Romaine—Yn cael cuwradiaeth St. Ffagan—Y mae yn bwrw ei goelbren gyda'r Methodistiaid —Ei Fethodistiaeth yn rhwystr iddo i gael bywioliaeth Eglwysig—Ei iechyd yn gwaelu—Yn symud i Borthceri—Cael anwyd wrth bregethu yn Crai—Yn marw yn nhy ei chwaer yn Mryste— Troedigaeth Thomas Gray—Y mae yn dechreu pregethu—Gwrando ar Daniel Rowland yn agos i'r Fenni—Y mae Mr. Gray yn cael ei benodi yn olynydd Mr. Pugh Yn cael ei droi allan o Neuaddlwyd, oblegyd ei wresawgrwydd— Adeiladu capel Ffosyffin—Thomas Davies, Ty'nyporth—Eglwys Llwynpiod— Pregethu yn Llwynrhys—Mr. Gray yn ymwasgu at y Methodistiaid, ac yn treulio ei fywyd yn eu mysg—Ei ddull o bregethu—Ei bregeth yn Nghymdeith— asfa Abergwaun —Yn marw—Edward Cosiet yn tyfu yn ddigrefydd Yn cael ei argyhoeddi trvy William Edward, Groeswen—Mewn canlyniad i bregethwr yn tori ei gyhoeddiad, y mae yn dechreu cynghori — Symud i Gasbach, ac ymuno a'r Methodistiaid—Y seiat yn nhy Edward Coslet—Gorfod symud i Laneurwg—Coslet yn gerddwr mawr—Gwneyd pregethau rhwng y tan a'r eingion—Yn cael odfa nerthol yn Nghymdeithasfa Caernarfon—Ei frwydrau a'r diafol—Ei ffraethineb —Yn marw yn y flwyddyn .
XXIX.—JOHN WILLIAMS, PANTYCELYN; JOHN EVANS, CILYCWM; A MORGAN RHYS
John Williams yn ddysgwr rhagorol—Yn cyfarch Esgob Tyddewi ar yr heol —Yn cael eu urddo yn guwrad Llanfynydd—Ficer Llanfynydd a Jones, Llangan—John Williams yn symud i Langrallo—Yn cael ei benodi berigloriaeth Llanfair—muallt—Ei droedigaeth—Y mae yn ymwasgu at y Methodistiaid—Yn ymadael a'r Eglwys, ac yn cael ei benodi yn athraw Athrofa yr Iarlles Huntington—Ei lafur dirfawr—Yn symud i Bantycelyn at ei fam—Yn ymweled a Gogledd Cymru ddwy waith—Ei hynodion—Ei haelioni—Ei nodweddion fel pregethwr—Yn cymeryd rhan yn yr ordeiniad cyntaf—Ei hoffder o'r Methodistiaid—Ei farwolaeth a'i gladdedigaeth— Ychydig o hanes John Evans, Cilycwm, ar gael—Melusder arbenig ei ddawn —Efe yn un o'r cyntaf i bregethu yn y Wyddgrug—John Evans a Dafydd Morris—Tywyllwch yn gorchuddio boreu oes Morgan Rhys—Dim crybwylliad am dano yn nghofnodau seiat Cilycwm—Yn byw yn Llanfynydd Yn emynydd nodedig, a'r agosaf at Williams—Ei gyfansoddiadau—Rhai o'i emynau annghyhoeddedig.
XXX.—THOMAS CHARLES, B.A., BALA ...
Rhieni Thomas Charles—Helyntion ei ieuenctyd—Mater ei enaid yn dyfod i wasgu arno yn foreu—Rhys Hugh—Thomas Charles yn myned i Athrofa Caerfyrddin Yn gwrando Daniel Rowland yn Capel Newydd, ac yn cael ei ddwyn i oleuni yr efengyl—Yn myned i Rydychain—Rhagluniaeth yn cyfryngu ar ei ran—Ei ymweliad cyntaf a'r Bala —Ei urddiad i fod yn guwrad yn Ngwlad yr Haf—Difyniadau o'i ddydd—lyfr—Ei newynu allan o Queen Camel—Y mae yn symud i guwradiaeth Milbourn Port—Ei briodas a Miss Sarah Jones—Yn ymsefydlu yn y Bala—Yn cael ei droi allan o ddwy eglwys —Ei yru o Lanymawddwy—Apelio yn ofer at Esgob St. Asaph—Ei bryder— Y mae yn ymuno a'r Methodistiaid—Na edifarhaodd byth—Yn gweled yn hyn arweiniad amlwg Rhagluniaeth.
XXXI. THOMAS CHARLES, B.A., BALA—(parhad)
Llafur Mr. Charles wedi ymuno a'r Methodistiaid—Ei ymdrech i gael capel yn Nolgellau—Thomas Pugh, Brynbella—Sul cymundeb yn y Bala—Yr eglwysi yn dewis blaenoriaid am y tro cyntaf—Mr. Charles yn cael ei erlid yn Nghorwen—Esgob Llanelwy yn bygwth cyfraith arno Y mae yn dyfod yn arweinydd yn Ngwynedd—Desgrifiad y Parch. Roger Edwards o hono fel pregethwr—Sefydlu yr ysgolion cylchynol Cymreig — Yn dilyn yn ol traed Griffith Jones—Lewis Williams, Llanfachreth—Sefydlu yr Ysgol Sabbothol— Mr. Charles yn dad y symudiad—Gwrthwynebiad yr hen bobl dda—Eu rhag— farn yn cilio yn raddol—Y Cymanfaoedd Ysgolion—Eu dylanwad ar y wlad.
XXXII. THOMAS CHARLES, B.A., BALA—(parhad)
Newyn am Feiblau yn Nghymru —Y Gymdeithas er Taenu Gwybodaeth Gristionogol yn gwrthod argraffu ychwaneg o Feiblau Cymraeg—Ystori Mary Jones—Y ferch fechan yn y Bala—Mr. Charles yn penderfynu cael Cymdeithas i ddiwallu Cymru a Beiblau— Gosod y mater gerbron Cymdeithas y Traethodau Crefyddol—Sefydliad Cymdeithas y Beiblau—Mr. Charles yn dad y Gymdeithas —Ei lafur dibaid Ei afiechyd peryglus—Gweddi am arbed ei oes bymtheg mlynedd—Ei lafur llenyddol "Y Drysorfa Ysprydol"—"Y Geiriadur Ysgrythyrol"—Taith Mr. Charles i'r Iwerddon—Dadl yr ordeiniad—A edifarhaodd Mr. Charles ?—Helynt Peter Williams — Diwedd oes Mr. Charles —Ei farwolaeth.
XXXIII.—O GYMDEITHASFA GYNTAF WATFORD HYD Y NEILLDUAD
Methodistiaeth yn gwreiddio yn Ngwynedd —Adeiladu Capelau—Cymdeith asfa y Gogledd agos a dyfod i brofedigaeth—Teuluoedd cyfrifol yn ymuno a'r Cyfundeb, yn arbenig yn y De—Dylanwad yr offeiriaid Methodistaidd yn gwanychu—Erlid y Methodistiaid dan Ddeddf y Tai Cyrddau Mr. Corbett yn anrhreithio y wlad o gwmpas Towyn, Aberdyfi, a Chorris —Lewis Morris yn ffoi i Lwyngwair—Y pregethwyr yn gorfod cymeryd trwyddedau fel Ymneillduwyr—Cyfodiad Wesleyaeth yn y Dywysogaeth—Y dadleuon dilynol.
XXXIV.—Y NEILLDUAD CYNTAF A'I GANLYNIADAU
Anniddigrwydd yn dechreu yn foreu yn mysg y Methodistiaid oblegyd cymuno yn yr Eglwys—Cais am ordeinio lleygwyr yn dyfod i'r Gymdeithasfa —Gwrthwynebiad cryf Howell Harris —Ordeinio gweinidogion ar Eglwysi y Groeswen, New Inn, Mynyddislwyn, ac Aberthyn—Cyfranu mewn lleoedd annghysegredig—Yr ail do o offeiriaid yn mysg y Methodistiaid yn gulach na'r rhai cyntaf—Cymuno yn yr Eglwys yn dyfod yn ammhosiblrwydd—Rhaid neillduo gweinidogion neu i'r Cyfundeb ddarfod—Y cwestiwn yn dechreu cael ei ddadleu yn mhen isaf Sir Aberteifi—Evan Davies, Pensarn, yn dwyn y mater gerbron y Gymdeithasfa —Cyffro Mr. Jones, Llangan—Yr offeiriaid yn gwrthwynebu yn gryf—Ebenezer Morris yn gadarn o blaid —Agwedd Mr. Charles, o'r Bala—Mr. Thomas Jones, Dinbych, ar gais yr eglwys yn bedyddio baban—Argyhoeddi Mr. Charles—Marwolaeth Mr. Jones, Llangan—Cymdeith— asfaoedd y De a'r Gogledd yn penderfynu o blaid ordeinio—Y Neillduad cyntaf yn y Bala, ac yn Llandilo Fawr—Amryw o'r offeiriaid yn gadael y Methodist— iaid—Capelau yn cael eu colli mewn canlyniad—Erlid y Methodistiaid—Y "Welsh Looking—glass."
XXXV. —YR OFFEIRIAID DDARFU LYNU
Rhieni y Parch. John Williams, Lledrod, yn ddyeithr i grefydd—Ei dad yn marw pan yn ieuanc, ac yntau yn cael ei ddwyn i fynu gan ei fodryb—Y mae yn llanc gwyllt, ond yn ddysgwr gwych—Yn cael ei ordeinio i guwradiaeth Lledrod a Llanwnws—Profi nad oedd yn Fethodist—Ofergoeledd yr ardal— Mr. Williams yn cael ei argyhoeddi trwy Williams, Llanfair—Yn pregethu gyda nerth—Ei Fethodistiaeth yn peri iddo orfod ymadael a'r Eglwys Sefydledig—Yn bwrw ei goelbren yn mhlith y Methodistiaid—Yn cael odfaeon nerthol Ei ffraeth ddywediadau mewn cyfarfodydd eglwysig — Yn troi yn gryf o blaid y Neillduad—Ei nodwedd fel pregethwr—Ei farwolaeth—Geni y Parch. Howell Howells, Trehill, yn ardal Ystradgynlais—Y mae yn cael troedigaeth yn ieuanc—Ei hynodrwydd fel gweddiwr—Yn dechreu pregethu pan ar daith yn y Gogledd gyda Mr. John Evans, Cilycwm—Yn myned i'r offeiriadaeth—Yn guwrad yn Glyncorwg, a chwedi hyny yn St. Nicholas— Crefydd yn uchel yn Mro Morganwg ar y pryd—Llangan yn Jerusalem y wlad —Gwrthwynebiad Mr. Thomas, Tresimwn, iddo gael ei ferch yn wraig—Yn dyfod yn y blaen yn y byd—Gorfod ymadael a St. Nicholas—Cael ei droi allan o guwradiaeth Llanddiddan Fach—Ei ymlyniad wrth y Methodistiaid— Llythyrau—Ei nodwedd fel pregethwr—Marwolaeth y Parch. Howell Howells.
XXXVI.—YR OFFEIRIAID DDARFU LYNU—(parhad)
William Howells yn Fethodist—Teulu Llwynhelyg—William yn gwrthod myned yn gyfreithiwr—Yn parotoi i'r offeiriadaeth, ac yn myned i Rydychain —Cael siomedigaeth tra yno, a'i iechyd yn gwanychu mewn canlyniad—Ei ordeiniad—Dadl rhyngddo a'r Esgob Watson—Yn dyfod yn guwrad i Langan— Ei boblogrwydd fel pregethwr—Marwolaeth Mr. Jones, Llangan—Gwrthod y fywioliaeth i'r Parch. William Howells am ei fod yn Fethodist—Ei guwrad— iaeth gyntaf yn Llundain—Esgob Llundain yn ymholi yn ei gylch—Ei boblogrwydd dirfawr yn mysg pob gradd—Gwrthod y fywioliaeth iddo ar farwolaeth Mr. Goode—Y mae yn cymeryd prydles ar gapel esgobol Longacre —Ei nodweddion fel dyn, ac fel pregethwr—Hanesion am dano—Darnau o'i bregethau—Ei farwolaeth—Rhieni y Parch. William Lloyd, Caernarfon— Y mae yn tyfu yn ddifater am grefydd—Yn graddio yn Rhydychain—Y mae yn ffafrddyn gan Esgob Bangor, a boneddigion Môn—Ei droedigaeth hynod— Y mae yn myned i'r seiat at y Methodistiaid—Ei ymadawiad a'r Eglwys— Y mae yn gwisgo ffedog ledr fel barcer—Yn preswylio yn Nefyn, yna yn Brynaera, ac yn ddiweddaf yn Nghaernarfon—Ei nodweddion fel pregethwr— Ei gystudd olaf, a'i farwolaeth—Haniad y Parch. Simon Lloyd, B.A.—Yn cael addysg dda, ac yn dyfod yn ysgolor gwych—Ei helynt gyda'r Esgob— Ei ymuniad a'r Methodistiaid—Ei nodweddion fel llenor a phregethwr—Ei farwolaeth.
XXXVII.—YR OFFEIRIAID DDARFU GEFNU...
Pwy a feddylir wrth yr Offeiriaid Methodistaidd—Coffadwriaeth y rhai ddarfu gefnu wedi cael ei esgeuluso—Nathaniel Rowland yn cael ei ddwyn i fynu i'r offeiriadaeth—Ei enwogrwydd mewn dysgeidiaeth ac mewn dawn— Ei yspryd trahaus a thra—arglwyddaidd —Helynt y capelau yn Hwlffordd— Nathaniel Rowland yn cael ei ddiarddel oddiwrth y Methodistiaid—Teulu y Parch. David Griffiths, Nefern—Yn cael ei ddwyn at grefydd yn ieuanc—Yn priodi Miss Bowen, Llwyngwair—Yn cael ei urddo yn offeiriad—Yn ymwasgu at y Methodistiaid, ac yn pregethu mewn lleoedd annghysegredig—Ei wroldeb —Boneddigeiddrwydd ei ymddangosiad—Yn bregethwr nodedig—Desgrifiad o hono fel pregethwr—Elfenau eraill yn amlwg yn ei gymeriad—Yn blaenori yn yr ymdrech yn erbyn y Neillduad—Ei fywyd gwedi ei ymadawiad a'r Methodistiaid—Cyfarfod weithiau a'i frodyr gynt—Ei farwolaeth—Y Parch. William Jones, Llandudoch—Y Parch. D. Davies, Cynwil—Offeiriaid eraill y dywedir iddynt gefnu ar y Methodistiaid. Lle genedigaeth Ebenezer Morris—Ei rieni yn symud i ddyffryn Troedyraur —Tyfu yn fachgen direidus a gwyllt—Yn symud i Drecastell—Ei argyhoeddiad — Yn dechreu pregethu—Y mae yn enill sylw ar unwaith—Yn dychwelyd i Dwrgwyn—Yn cael ei osod i bregethu yn Llangeitho—Marwolaeth Rowland— Marwolaeth Dafydd Morris—Ebenezer Morris yn cael ei alw yn fugail, ac yn priodi—Desgrifiad o hono—Ei ddewrder—Diarddeliad Nathaniel Rowland— Gosod taw ar y ddiacones—Tynerwch Mr. Morris—Michael Penuwch—Nerth a phereidd—dra llais Mr. Morris—Yn ei ogoniant ar faes y Gymdeithasfa— Rhai o'i odfaeon hynod.
XXXVIII. EBENEZER MORRIS
Lle genedigaeth Ebenezer Morris—Ei rieni yn symud i ddyffryn Troedyraur —Tyfu yn fachgen direidus a gwyllt—Yn symud i Drecastell—Ei argyhoeddiad Yn dechreu pregethu—Y mae yn enill sylw ar unwaith—Yn dychwelyd i Dwrgwyn —Yn cael ei osod i bregethu yn Llangeitho—Marwolaeth Rowland— Marwolaeth Dafydd Morris—Ebenezer Morris yn cael ei alw yn fugail, ac yn priodi—Desgrifiad o hono—Ei ddewrder—Diarddeliad Nathaniel Rowland— Gosod taw ar y ddiacones—Tynerwch Mr. Morris—Michael Penuwch—Nerth a phereidd—dra llais Mr. Morris—Yn ei ogoniant ar faes y Gymdeithasfa— Rhai o'i odfaeon hynod.
XXXIX.—THOMAS JONES, DINBYCH.. Thomas Jones yn hanu o deulu cyfoethog — Ei rieni yn ei fwriadu i'r offeiriadaeth — Yn yr ysgol yn Nghaerwys ac yn Nhreffynon — Yn cael amrai waredigaethau hynod — Dechreuad Methodistiaeth yn Nghaerwys — Y Capel Main Trallod Thomas Jones gyda golwg ar ei gyflwr Y mae yn ymuno a'r Methodistiaid—Ei faich yn aros—Dyfod i dir rhyddid—Tuedd at yr offeriadaeth Y mae yn penderfynu na à yn offeiriad, ac yn dechreu pregethu—Ei lafur dirfawr—Ei afiechyd—Yn priodi, ac yn symud i'r Wyddgrug—Eiafiechyd yn parhau—Ei briod yn marw—Yn ail briodi, ac yn symud i Ruthyn—Ei ail wraig yn marw—Yntau yn priodi y drydedd waith, ac yn symud i Ddinbych.
XL. THOMAS JONES, DINBYCH—(parhad)
Y Parch. Thomas Jones yn annhueddol i ddadl. er yn meddu cymhwysder arbenig at ddadleuaeth—Y ddadl Wesleyaidd "Y Drych Athrawiaethol "— Y Parch. Owen Davies yn ei ateb—Amryw lyfrau yn cael eu hysgrifenu o'r ddau tu—Y Parch. Thomas Jones yn ysgrifenu y "Merthyıdraeth "— Gwasanaeth mawr Mr. Jones i Fethodistiaeth ac i Gymru fel gwrthwynebydd Uchel Galfiniaeth—Llyfr y Parch. Christmas Evans—Pregeth John Elias— Y mae yn amddifyn iawn cydbwys—Mr. Jones yn myned allan o'r odfa yn Ninbych—Cymdeithasfa Ruthyn yn penderfynu o blaid Calfiniaeth gymhedrol —Rhai pregethwyr o hyd yn cyfyngu ar werth yr iawn—Llythyr y Parch. Thomas Jones at Gymdeithasfa Llani wst—Atebiad y Gymdeithasfa—Pregeth fawr y Parch. Thomas Jones yn y Bala—Mr. Jones yn symud i Syrior Goch— Henry Rees yn was iddo—Llythyr ato o Gymdeithasfa Caernarfon—Cenadwri o'r Deheudir at Gymdeithasfa Gwynedd—Pethau yn dyfod i argyfwng—Y cyfarfod yn Mangor Cymdeithasfa Pwllheli—Y ddadl rhwng y Parch. T. Jones a Mr. John Roberts—Y ddadl rhyngddo a'r Parch. Christmas Evans— Desgrifiad o Mr. Jones fel dyn ac fel pregethwr—Ei farwolaeth a'i gladdedig— aeth.
XLI. JOHN ELIAS
Dygiad i fynu John Elias—Ei daid yn ei gymeryd i'r eglwys, ac yn ei gynghori—Argraffiadau crefyddol boreuol—Myned i wrando pregethwyr y Methodistiaid, ac yn darllen i'r bobl—Yn y pwlpud am y tro cyntaf—Ymladd â llygredigaeth ei galon—Myned i Gymdeithasfa y Bala—Symud i fyw at Griffith Jones, Penmorfa—Cyfyngder meddwl—Ymuno a'r eglwys—Yn dechreu pregethu Yn dyfod yn boblogaidd ar unwaith—Trawsder rhai o'r hen frodyr —Gwrthod caniatau iddo fyned i Manchester i'r ysgol—Yn yr ysgol gyda Mr. Richardson—Y tro cyntaf yn Ynys Môn—Ebenezer Morris yn llwyddo i'w gael am daith i'r Deheudir—Odfaeon rhyfedd ar y ffordd yno—Ei daith trwy y De fel cyffro daeargryn—Y mae yn priodi ac yn symud i Fon—Mrs. Elias yn ddynes nodedig—Elias yn ymosod ar anfoesoldeb Mon—Ail daith i'r Deheudir —Y mae yn ymosod ar ffair Rhuddlan—Ei boblogrwydd yn Liverpool a Llundain—Yn cael ei erlid—Ei lafur anferth a'i boblogrwydd.
XLII.—JOHN ELIAS—(parhad)
Marwolaeth Mr. Charles yn gwthio y Parch. John Elias i'r ffrynt—Nad aeth Mr. Elias yn mhell i gyfeiriad Uchel Galfiniaeth—Ei weinidogaeth yn parhau yn gymhelliadol—Marwolaeth Mrs. Elias—Ei ail briodas—Yn cyfarfod a damwain ar ei ffordd i'r Bala—Odfaeon rhyfedd—Odfa nerthol tu hwnt yn Nghymdeithasfa y Bala—Odfaeon gorchfygol eraill—Mr. Elias yn eu deulu— Mr. Elias yn ei ardal—Mr. Elias yn ei fyfyrgell—Mr. Elias yn y pwlpud—Mr. Elias yn y Gymdeithasfa—Mr. Elias ar yr esgynlawr—Mr. Elias fel arweinydd y Cyfundeb—Mr. Elias fel Ymneillduwr—Diwedd ei oes.
XLIII.—EBENEZER RICHARD, TREGARON
Henry Richard, Trefin—Genedigaeth a dygiad i fynu Ebenezer Richard— Ei ymuniad a'r eglwys—Y mae yn symud i Frynhenllan i gadw ysgol—Bron cael ei lethu gan argyhoeddiad—Yn ddyn newydd mewn canlyniad—Yn dechreu pregethu—Jones, Llangan, yn ei holi ef a'i frawd yn Nghyfarfod Misol Sir Benfro Y mae yn symud i Aberteifi i fod yn athraw i feibion Cadben Bowen—Ei lafur mawr, yn enwedig gyda'r Ysgol Sabbothol—Ei daith gyntaf i'r Gogledd—Odfa effeithiol yn Nghymdeithasfa y Bala—Ei briodas— Yn symud i Dregaron—Ei ymosodiad ar lygredigaeth y wlad—Ei neillduad i gyflawn waith y weinidogaeth—Diwygiad 1811—Ei benodi yn Ysgrifenydd y Gymdeithasfa—Mr. Richard yn bregethwr o'r dosparth blaenaf—Yn meddu holl gymhwysderau arweinydd—Ei ddawn gyda'r Ysgol Sabbothol—Ei yspryd cenhadol— Yn nodedig am ei fedr i ysgrifenu llythyrau—Ei afiechyd olaf a'i farwolaeth.