Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)/Daniel Rowland, Llangeitho (tud-13)

Oddi ar Wicidestun
Daniel Rowland, Llangeitho (tud-12) Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)

gan John Morgan Jones

Daniel Rowland, Llangeitho (tud-14)

er mor ddysglaer ei ddoniau, ni chynygiwyd iddo unrhyw ddyrchafiad gan yr Esgob. Yn guwrad, gyda deg punt y flwyddyn o gyflog, am wasanaethu tair eglwys, y cafodd fod trwy'r blynyddoedd. Yn y flwyddyn 1760, bu ei frawd, John Rowland, yr hwn a ddaliai y fywioliaeth, farw; boddodd wrth ymdrochi yn y môr gerllaw Aberystwyth. Ni chynygiwyd y fywoliaeth i Daniel Rowland; yr oedd ei fod yn Fethodist yn rhwystr anorfod ar ei ffordd i'w chael; ond rhoddwyd hi i'w fab hynaf, yr hwn a'i daliodd tra y bu byw; a gwasanaethai yntau fel cuwrad i'w fab ei hun. Achwynid arno yn barhaus gerbron yr Esgob, ac nid anfynych gwysid ef i ymddangos ger ei fron. Weithiau rhybuddid ef yn arw, a gollyngid ef ymaith gyda bygythion. Bryd arall ceisid ei ddarbwyllo gyda geiriau têg. Am un o'r troion hyn, ysgrifena un William John, cynghorwr, at Howell Harris, tua diwedd 1743:[1] " Gwrthododd yr Esgob ordeinio Mr. Wilhams (Williams, Pantycelyn). Bu y Parch. Mr. Rowland gyda'r Esgob dydd Llun, yr hwn a ymddygodd yn garedig ato, a chyda hawer o barch." O'r diwedd, rhoddwyd ar ddeall iddo fod yn rhaid iddo beidio gweinidogaethu allan o'i blwyf, a phregethu mewn lleoedd anghysegredig, onide nas gellid ei oddef yn hwy. Atebodd yntau yn dawel, fod amgylchiadau y wlad ar y pryd yn ei farn ef yn galw am weinidogaeth deithiol, ai fod yn credu fod ei waith wedi derbyn cymeradwyaeth y nefoedd, ac nas gallai ymatal, beth bynag

—————————————

Llangeitho
Llangeitho

Llangeitho

—————————————

fyddai y canlyniadau. Mewn canlyniad, prysurwyd i'w ddihatru o'i swydd. Ceir dosparth o'r clerigwyr yn bresenol yn tueddu i wadu ddarfod i Rowland gael ei atal, a seiliant ei dadl ar y ffaith nad oes unrhyw gyfeiriad at hyn yn nghofnodau llys yr Esgob yn Nhyddewi. Ond y maent yn anghofio nad rhaid wrth erlyniad cyfreithiol i droi Rowland allan; nid oedd ond cuwrad; gallai yr Esgob gymeryd ei drwydded oddiarno wrth ei ewyllys, a hyny nid yn unig heb brawf yn ei lys, ond



Nodiadau[golygu]

  1. Weekly History