Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)/Howell Harris (1743—44) (tud-17)

Oddi ar Wicidestun
Howell Harris (1743—44) (tud-16) Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)
Howell Harris (1743—44)
gan John Morgan Jones

Howell Harris (1743—44)
Howell Harris (1743—44) (tud-18)

yr amser yma rhag i'r Ffrancod oresgyn y deyrnas; cyfranogai Harris ei hun o'r ofn, a dywed ddarfod i lynges elynol ddyfod unwaith i fynu y Thames. Ymddengys fod ei iechyd hefyd yn wael trwy yr holl amser; weithiau methai godi o'i wely hyd ganol dydd. Cyrhaeddodd Gaerloyw nos Wener, Mawrth 16, ac amcanai fod yn y brawdlys, yn mhrawf terfysgwyr Hampton. Ni wnaethant fawr o ddiffyniad, a dyfarnwyd hwy yn euog, ond gadawyd maint y ddirwy i'w thalu ganddynt i'w phenderfynu gan Lys y King's Bench, yn Llundain. Meddai Whitefield, yr hwn yntau hefyd. oedd yn bresenol: "Yr wyf yn clywed fod y terfysgwyr wedi dychrynu yn enbyd; ond nid ydynt yn gwybod mai ein hamcan yw dangos beth a allwn wneyd, ac yna maddeu iddynt." Ychydig o enghreifftiau a geir o ddynion mor alluog i faddeu i'w gelynion, a thrwy hyny gyflawni gorchymyn Crist, a'r Methodistiaid.

Nos Sul, Mawrth 19, y cyrhaeddodd Drefecca, yn lluddedig ac yn llesg. Dydd Mercher, yr wythnos ganlynol, yr ydym yn ei gael mewn Cymdeithasfa Chwarterol yn y Fenni. Daethai Whitefield yno i gymeryd y gadair; yr oedd Daniel Rowland, Williams, Pantycelyn, a Howell Davies, yn bresenol, yn nghyd â chryn nifer o'r arolygwyr. Y mae yn clywed, gyda ei fod yn cyrhaedd y lle, am gwymp rhai brodyr. "Rhoddodd yr Arglwydd "Rhoddodd yr Arglwydd i mi," meddai, "i deimlo baich o alar oblegyd ein bod yn pechu fel hyn yn erbyn ein hanwyl Dad; ein bod ni, sydd yn cael ein ffafrio mor fawr, yn pechu yn ei erbyn. Cyfarfyddais a brawd arall, Mr. William Evans, yr hwn oedd dan ryw feichiau, a theimlais yn fwy nag erioed fod ei faich yn gwasgu ar fy yspryd." Yna dywed iddo fyned yn mhell oddiwrth yr Arglwydd, i lygredd ei natur ymdori i'r golwg mewn llid, iddo golli ei dymher, a phoethi, a chlywodd ddarfod i'w boethder daflu rhywun i lewyg. Gwelodd mor anghyfaddas ydoedd i'w le, ac mor annheilwng i fod yn ŵr priod, yr hyn yn awr a bwysai yn drwm ar ei feddwl; ac aeth i'w ystafell i ymddarostwng ger bron yr Arglwydd. Bu yn drallodus iawn yno. Ond galluogwyd ef cyn dod allan i ddiolch i Dduw am guddio ei wyneb oddiwrtho, ac am adael i'w lygredd amlygu ei hun, gan fod tuedd yn hyn i'w gadw yn ostyngedig. Daeth yn foddlon rhoddi i fynu ei ddarpar-wraig, ei le yn yr eglwys, a phob rhodd a dawn a gawsai. Agorodd Whitefield y Gymdeithasfa trwy bregethu ar y geiriau, "A wyt ti yn fy ngharu i yn fwy na'r rhai hyn?" Dangosodd nodau cariad at Grist, ei fod yn llawenhau wrth glywed am lwyddiant yr efengyl, ei fod yn awyddu marw, yn gallu caru ei elyn, yn meddwl ac yn siarad am dano ef, ac yn caru plant Duw perthynol i bob plaid grefyddol. Ei fod yn ein galluogi i agor ein calonau i'n gilydd; nas gallwn garu Crist heb wybod hyny; a'i fod yn peri i ni roddi pob peth i fynu iddo ef. Wrth weddio ar derfyn y cyfarfod cafodd nerth anarferol. Yn y cyfarfod neillduol, gosodwyd ar Harris i weinyddu dysgyblaeth ar frawd oedd wedi troseddu; gwelai ei hun, wrth wneyd hyny, yn waeth na'r un a ddysgyblai, ond fod Duw yn cuddio. ei ddrwg, tra y daethai drwg y brawd oedd ger bron i'r golwg. Gwanai hyn ef fel pe ei trywanid a dagr yn ei galon. Tranoeth pregethodd gyda llawer o nerth.

Heblaw trefniad y Cyfarfodydd Misol am y misoedd dyfodol, yr unig benderfyniadau o eiddo y Gymdeithasfa a groniclir yn nghofnodau Trefecca yw a ganlyn:-

"Cydunwyd yn ddifrifol nad oes neb i fod yn absenol o Gymdeithasfa, oddigerth iddo allu rhoddi rheswm am hyny a ddeil yn nydd y farn.

"Fod y Gymdeithasfa Chwarterol nesaf i gael ei chynal yn Nhrefecca, y dydd cyntaf wedi pen y chwarter.

"Fod y brawd John Richard i barhau i fyned o gwmpas hyd y Gymdeithasfa nesaf, ac yn y cyfamser, fod Mr. Harris i ymweled a'i seiadau, er eu cymhell i ddwyn ffrwyth iddo. Yr oedd yn absenol, ond anfonodd adroddiad am y seiadau, yr hwn oedd yn hynod felus.

"Fod y brawd Dafydd Williams i ddyfod i'r Gymdeithasfa Chwarterol nesaf, i ateb i'r pethau a roddir i'w erbyn.

"Fod pregethu i gael ei gynal yn mhob Cymdeithasfa Chwarterol; yr offeiriaid i weinyddu yn eu cylch; y Gymdeithasfa i ddechreu am ddeuddeg, a'r brodyr wedi cymeryd lluniaeth yn flaenorol. Mr. Rowland i bregethu y tro nesaf."

Ychydig sydd yn y cofnodau yma yn galw am sylw. Gwelwn fod yr hen frawd John Richard, Llansamlet, yn dlawd ei amgylchiadau, ac mai amcan ymweliad Harris a'i seiadau oedd eu cymhell i estyn cymhorth arianol iddo. Gwelwn hefyd y lle mawr a gaffai pregethu yn y Cymdeithasfaoedd o'r dechreu.

Ebrill 2, 1744, yr ydym yn cael Harris



Nodiadau[golygu]