Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)/Howell Harris (1749-50) (tud-02)

Oddi ar Wicidestun
Howell Harris (1747-48) (tud-01) Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)

gan John Morgan Jones

Howell Harris (1749-50) (tud-03)

Rowland. Cyn terfynu, modd bynag, trodd at bethau mwy cysurlawn, ac aeth yn ganu ac yn folianu dros y lle. Oddiyma aeth i Glanyrafonddu, a dywed iddo. lefaru y dydd hwnw saith o weithiau, rhwng pregethu ac anerch seiadau. Teithiodd trwy Langathen, Llanegwad, a Glancothi, gan gyrhaedd Caerfyrddin erbyn y Gymdeithasfa Fisol, a gynhelid yno Ionawr 5. Ofnai fod treialon dirfawr i'w gyfarfod yma, ac aeth at yr Arglwydd am gymborth. Ymweliad yr angelion a'r bugeiliaid ar feusydd Bethlehem, oedd pwnc y bregeth agoriadol yn Nghaerfyrddin; ond nid yw yn ymddangos ei fod yn cadw yn glos gyda ei destun. "Cefais lawer o awdurdod," meddai, "i geryddu pechod, i ddangos yr angenrheidrwydd am edifeirwch, ac i rybuddio y rhai a ymdroent mewn anwiredd. Yr oeddwn yn arswydlawn wrth draethu am hollwybodaeth Duw, ac am ei fygythion, a'i wiail." Gyda ei fod yn gorphen pregethu, a chyn i gyfarfod neillduol y Gymdeithasfa ddechreu, deallodd fod ei was wrth y drws, yn dwyn y newydd galarus fod ei ferch fechan -yr anwylaf, y brydferthaf, a'r ffelaf o fewn y byd, yn marn ei thad-wedi marw. Aeth at yr Arglwydd ar ei union i ofyn am gyfarwyddyd; datganai ei barodrwydd i fyned yn y blaen ar ei daith, a gadael i'w wraig gladdu y marw, os mai hyny oedd yr ewyllys ddwyfol. Cafodd ateb, am iddo drefnu y materion perthynol i'r Gymdeithasfa, a dychwelyd tranoeth. Hyny a wnaeth. Dangosodd le y brodyr, a'i le ei hun; fod rhyw Moses neu gilydd, llawn o awdurdod, yn barhaus yn yr eglwys; fod ei fantell yn disgyn oddiar ei ysgwyddau wrth fyned i'r nefoedd; eithr fod rhywun arall yn barhaus yn ei chael, a bod dawn ac awdurdod yr apostolion yn perthyn i rywun yn awr, oblegyd fod yr un angenrheidrwydd am danynt. Braidd nad oes yma fwy nag awgrym mai Harris a wisgai y fantell ar hyn o bryd. Anogodd y cynghorwyr i ymwadu a hwy eu hunain, ac i feddu undeb yspryd a chalon. Bu yma lawer o ganu a molianu. Cychwynodd tua Threfecca am dri o'r gloch boreu dranoeth, a chyrhaeddodd yno, pellder o driugain milltir, erbyn yr hwyr.

Dydd Mercher, Ionawr 12, cychwyna i daith arall. Yr oedd yn nos, ac yn enbyd o dywyll arno, cyn cyrhaedd Cantref, wrth draed Bannau Brycheiniog; rhuai y gwynt yn ofnadwy, y gwlaw a ddisgynai fel rhaiadr, ac yr oedd y teithiwr blin yn oer, ac yn wlyb. Ond ni theimlai y gronyn lleiaf o anghysur. "Gwnaeth yr Arglwydd y tywyllwch a'r dymhestl yn felus i mi," meddai, "gwelwn fy hun y dyn hapusaf o fewn y byd; ni newidiwn sefyllfa a'r mwyaf cyfoethog." Tranoeth, pasiodd trwy y Glyn, a Blaen-Glyn-Tawe, gan gyrhaedd Gelly-dorch-leithe, ffermdy pur fawr yn nghymydogaeth Castellnedd, erbyn yr hwyr. Ar y ffordd, myfyriai ar fawredd ei ragorfreintiau, ac ar ogoniant Duw, y Tri yn Un wedi ymgnawdoli. Dydd Gwener, pregethodd yn Llangattwg, oddiar 1 Ioan iii. 8; dangosodd fawredd y prynedigaeth, i Dduw greu y byd mewn chwe' diwrnod, ond iddo fod bedair mil o flynyddoedd yn parotoi ar gyfer gwaith yr iachawdwriaeth. Yna, aeth at ei hoff bwnc, dirgelwch y ddwy natur yn Nghrist. Cynhelid Cymdeithasfa Fisol yma, eithr cyn iddi ddechreu, clywodd Harris newyddion tra anghysurus, sef fod rhywrai a adwaenai mewn dyled, a bod gŵr o ddylanwad wedi bod yn rhedeg y Methodistiaid i lawr, gan ddweyd eu bod yn dyfod i'r dim; a'i fod ef, Harris, wedi cyfnewid. Disgynodd hyn yn drwm arno; ond, fel arfer, aeth a'i faich at yr Arglwydd ar ei union. Yn y cyfarfod neillduol, anerchodd y cynghorwyr a'r aelodau yn ddwys, parthed darllen yr Ysgrythyrau, a'u gwneyd yn rheol yn mhob dim; am wneyd casgliadau yn fwy cyson; am aberthu hunan, a dywedai ei fod ef yn ddiweddar wedi ymwrthod a chan' punt yn y flwyddyn. Anogodd hwy i fod yn ffyddlawn i'r goleuni oedd ganddynt. "Nid wyf yn eich gweled ond dim o flaen y diafol," meddai, "os pechwch Dduw ymaith." Teimlodd undeb anarferol a'r holl frawdoliaeth. Pasiodd trwy Nottage, lle y pregethodd ar Grist wedi dyfod i geisio ac i gadw yr hyn a gollasid; a'r Hafod, lle y bu yn dra llym wrth y proffeswyr cnawdol; a Chefncribwr, lle y cafodd nerth na chawsai ei gyffelyb o'r blaen, i anog am roddi iau Crist yn drom ar yddfau y Cristionogion ieuainc. Dydd Llun, yr oedd yn Llantrisant. Dywed ei fod yn gwisgo y dillad gwaelaf o'i holl frodyr, ac yn marchog y ceffyl salaf, ond ei fod yn hollol foddlawn. Yna, cadwai seiat breifat, ac anogai yr aelodau i beidio ymgyfathrachu gormod a'r Ymneillduwyr, y rhai oeddynt yn farw i Dduw, i raddau mawr, ac wedi ymroddi i ffurfioldeb, ond heb ddim awdurdod i gadw y byd a hunan allan. Yna, eglurodd drefn y Methodistiaid, a'i le ei hun.



Nodiadau[golygu]