Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)/Howell Harris (tud-47)

Oddi ar Wicidestun
Howell Harris (tud-46) Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)

gan John Morgan Jones

Howell Harris (tud-48)

Dydd Sul, Tachwedd 21, y mae yn Llandilo, ger y Fenni, ac achwyna ei fod yn wanaidd o ran ei gorff. Gwelodd a theimlodd ei fod yn caru ei Dduw mor glir ag y gwelsai ei bechod. Arllwysodd ei deimhid gyda golwg ar ei ofid i'r brawd Price. Gwedin aeth i Cwm Iau i wrando yr Hybarch Thomas Jones. Ar ol ciniaw cyfeiriodd ei gamrau tua seiat Longtown, collodd ei ffordd ar y mynyddoedd, ac yr oedd yn agos i saith arno yn cyrhaedd. Cafodd un ymweliad neillduol oddiwrth yr Arglwydd ar ei daith. Ac eto, yr oedd yr helynt yn pwyso ar ei yspryd; ofnai i'r gwaethaf ddigwydd, ac i ganlyniadau gwarthus ganlyn, fel ag i beri i'r achos gael ei ddinystrio. Yna gwawriodd ar ei feddwl nad oedd y gwaith yn dibynu arno ef, nac ar ei enw, fod y gwaith o Dduw. Dydd Llun y mae yn Clydach, lle y cafodd awel hyfryd oddiwrth Yspryd yr Arglwydd. Teimla nad oes ganddo yr un dymuniad ond gogoniant Duw, na'r un ofn ond rhag ei ddianrhydeddu. Dywed na chafodd y fath ymweliad erioed o'r blaen. Wrth deithio yr oedd y brawd Price gydag ef, a gwnaed y naill yn fendith i'r llall. Dywed ei fod yn ddedwydd, yn dragywyddol ddedwydd.

Cyrhaeddodd Drefecca nos Lun, a dywed fod nifer o'r ŵyn anwyl wedi dyfod i'w gyfarfod, i ba rai yr agorodd ei galon ar amryw faterion, yn arbenig ei briodas. Arosodd yn Nhrefecca dydd Mawrth, aeth i Erwd, nid yn nepell o Lanfair-muallt, dydd Mercher; i Ddolyfelin dydd Iau; a chawn ef yn Llansantffraid, Sir Faesyfed, y Sul. Yma pregethodd ar y geiriau: " Myfi yw yr adgyfodiad a'r bywyd," a chafodd lawer o ryddid ymadrodd. Gobeithia i lawer gael eu gosod yn rhydd. Y mae yn Erwd eto y Llun, a rhed ei fyfyrdodau ar Miss Ann Williams. Dywed fod ei weddïau gyda golwg arni yn mron cael eu hateb, a'i bod yn ymyl cael ei pherswadio; yn flaenorol ofnai y croesau, a'r treialon, a'i dymher erwin yntau; ond yn awr rhoddasai yr Iesu iddo ymysgaroedd o dynerwch. Yr oedd yn nerthol iawn wrth bregethu; cafodd ddiwrnod a noswaith i'w cofio byth; yr oedd y bobl yn fflam o gariad, a chawsant eu goleuo, eu porthi, a'u deffro. Daeth y tân i lawr, a phrofwyd melusder dirfawr. Cyrhaeddodd Drefecca nos Lun. Dydd Mawrth, y mae yn nhŷ John Price, yn Merthyr Cynog, rhyw bymtheg milldir o bellder, a thestun ei bregeth oedd: "Canys byw i mi yw Crist." Dydd Mercher, ceir ef yn Cantref, wrth droed Bannau Brycheiniog, dydd Iau yn Beiliau, a dydd Gwener yn Llanwrtyd, lle y teimla fod Duw gydag ef. Cawn ef dydd Sadwrn yn Llwynyceiliog, ger Caio. Yma y teimla mai efe yw y pechadur duaf ar wyneb yr holl ddaear. Cyrhaeddodd Lancrwys, yn ngodreu Cwmtwrch, o gwmpas deuddeg, a daeth i Langeitho yn hwyr yr un diwrnod. Dywed ei fod yn cael ei ddisgwyl yno, ac wrth weddïo, pledia yn daer ar ran yr ŵyn, ac am iddo yntau gael ei waredu oddiwrth y natur uffernol oedd ynddo. "O gariad rhyfedd," meddai, nad wyf yn uffern, wedi temtio cymaint ar Dduw."

Dydd Sul, Rhagfyr 5, y mae yn Llangeitho, ac yn myned i'r eglwys yn y boreu, lle y pregethodd yr anwyl Rowland, oddiar y geiriau: "Canys gŵr halogedig o wefusau ydwyf fi;" a chythruddwyd enaid Harris o'i fewn gan lymder y genadwri. Teimlai mai efe oedd yr adyn gwaethaf o fewn y byd. Yn y prydnhawn, aeth i Lancwnlle, un o'r eglwysi a wasanaethai Rowland; ac wrth glywed y Gair yn cael ei ddarllen cafodd olwg ar ogoniant Crist fel cyfaill publicanod a phechaduriaid. Gwnaed ef yn ddiolchgar wrth glywed Rowland yn pregethu. Yna cyfranogodd o'r sacrament, a gwelodd ei hun y tlotaf, y gwaethaf, a'r dallaf o bawb. " Y mae arnaf eisiau bywyd," medd, "a goleuni, a nerth, a chyfiawnder." Ymddengys fod y gyfeillach ar y ffordd rhyngddo a'r apostol o Langeitho yn nodedig o felus. " Ni wna Crist fy nghondemnio," meddai, " er fy mod yn haeddu, canys dyna ei ewyllys. Yna torodd goleuni arnaf. Eiddof fi yw Rowland; yn fwy nag erioed, gwelais mai eiddof fi yw Crist; ac felly eiddof fi yw pob peth." Yn yr hwyr, ar y maes ger Llangeitho, pregethodd Howell Harris i gynulleidfa o ddwy fil, hyd nes oedd yn wyth o'r gloch. Y mater oedd dydd y Pentecost, ac yspryd yr Arglwydd fel tân. Ymddengys fod yr odfa yn un dra nerthol; wrth lefaru am y tân, daeth y tân i lawr, ac yna aeth yn floedd trwy y lle. Ar y diwedd gweddïodd dros yr esgobion, dros yr eglwys yn gyffredinol, dros amryw o'r Diwygwyr erbyn eu henw, dros y seiadau yn Sir Forganwg, a thros ei fynediad yntau y tu hwnt i'r môr. Awgryma y gair diweddaf fod yn ei fryd ddilyn esiampl Whitefield, a chymeryd taith i'r America. Yn y tŷ bu ef a Rowland yn ymddiddan hyd dri o'r gloch y boreu,



Nodiadau[golygu]