Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)/Howell Harris (tud-49)

Oddi ar Wicidestun
Howell Harris (tud-48) Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)

gan John Morgan Jones

Howell Harris (tud-50)

gariad, a thynerwch, a charedigrwydd at bawb. Dydd Mercher y mae yn Llangranog; teimlai yn hyfryd wrth weddïo, a chynghori oddiar y geiriau: "Pa fodd y gwnaf y mawr ddrwg hwn, a phechu yn erbyn Duw?" Erbyn un daeth i Twrgwyn, a llefarodd oddiar Matt. xii. 43. Yma dywedai: "Yr wyf yn benderfynol i beidio gadael yr Eglwys dywyll hon (Eglwys Loegr); ond mi a safaf yn y bwlch, ac a lefaf ar y mur; nis gallaf roddi i fynu y weinidogaeth na'r bobl. Nid oedd y cyfarfod mor rymus ag yn Llangranog. Am chwech yr un dydd y mae yn Castellnewydd-yn-Emlyn. Datgana yma eto ei benderfyniad i beidio gadael yr Eglwys; ymddengys na chymerodd destun, ond iddo lefaru oddiar amryw adnodau oeddynt yn ateb ei bwrpas. Llefarodd dan gryn arddeliad. Wedi myned i'r tŷ clyw fod gwrthwynebiad yn cael ei barotoi iddo; wrth glywed, llanwyd ei enaid ynddo a nerth; teimlai y gallai wynebu pob erlid. Dywed fod y dyn ieuanc a fwriadai ei gael yn gynorthwywr iddo, John Belcher, neu James Ingram, gydag ef ar ei daith; ac y mae yn trafferthu llawer i'w gynghori a'i gyfarwyddo, a gweddïa yn fynych ar iddo gael ffydd. Dydd Iau, y mae yn Blaenporth; ei fater yma eto oedd: "Pa fodd y gwnaf y mawr ddrwg hwn? " Dymuna fod ganddo gan mil o fywydau i'w rhoi i'r Iesu. Aeth oddi yno tua thref Aberteifi; a chafodd gymdeithas felus a'r nefoedd ar y ffordd. Teimlai nerth dirfawr wrth weddïo a phregethu; ni chafodd erioed y fath nerth wrth efengylu. Gweddïa yn daer dros ei gydymaith: "O Arglwydd, cymhwysa ef ar fy nghyfer; gwna ef yn gryf i fyned trwy anhawsterau; gwna ef yn ffyddlon, yn ufudd, yn ostyngedig, ac yn dringar. Yr wyf yn hyderu yn awr, nad oes dim ond angau a'n gwahana."

Dydd Gwener, y mae yn gadael Aberteifi, wedi trafaelu y sir o Langeitho i'r gwaelod, ac yn cyrhaedd Dygoed, yn Mhenfro. Cafodd wrthwynebiad mawr yno gan Satan, yr hwn a safai ar ei ddeheulaw; ond wrth weddïo tynwyd ef y tu fewn i'r llen mewn modd na theimlodd ei gyffelyb o'r blaen; a phregethodd oddiar y geiriau: " Megys gan hyny y derbyniasoch Grist Iesu yr Arglwydd, felly rhodiwch ynddo." Ymddengys Sir Benfro iddo mewn cyflwr truenus. " Nid wyf yn gwybod," meddai, "ond am ychydig yn y wlad hon gymaint ag wedi eu dihuno i weled eu bod yn ddamnedig yn Adda." Llefarodd hyd yn agos i wyth; oddi yno hyd 11 bu gyda y dychweledigion ieuainc, yn eu ffurfio yn seiadau, ac yn eu hyfforddi mewn dysgyblaeth eglwysig. Dangosai iddynt natur gweithrediadau yr Yspryd; ei fod weithiau yn fawl, bryd arall yn alar; ei fod yn hyfforddi, yn arwain, yn bywiocau ac yn cadarnhau. Dangosodd ddyledswyddau aelodau y seiat, ac na ddylent gyfeirio yn gyhoeddus at bechodau gweinidogion yr efengyl, heb yn nghyntaf alaru o'u herwydd. Cyfeiriodd at y seiadau yn Llundain, ac fel yr oedd y gwaith mawr yn myned yn mlaen dros y byd. Gweddïodd gyda nerth, ac aeth i gysgu o gwmpas un, gan deimlo ei hun yn ddedwydd yn Nuw. Pregethodd boreu dydd Sadwrn drachefn yn Dygoed, ar, "Arhoswch ynof fi." Ty'r Yet, ger Trefdraeth, yw y lle y cyrhaeddodd nos Sadwrn. O gwmpas deg boreu Sabboth pregethodd ar hunan-ymwadiad; cafodd lawer o oleuni, a pheth nerth, ond yr oedd yn sych. Erbyn un yr oedd yn Llysyfran; ar y ffordd tuag yno bu yn cynghori yr ŵyn, y rhai, gobeithiai, oedd yn ddwfn argyhoeddedig o bechadurusrwydd hunan. Daethai cynulleidfa anferth ynghyd i Lysyfran; cyfrifa ef hi yn bum miÌ; ond yr oedd ef yn dywyll ac yn sych iawn ar y dechreu; "ni feddwn ddim nerth," meddai; ond yn raddol tosturiodd yr Arglwydd wrtho; tynwyd ef allan o hono ei hunan wrth weddïo, a chynorthwywyd ef i bregethu ar Had y wraig yn ysigo pen y sarff. Pregethai yn Gymraeg ac yn Seisneg; a soniai am y cyfamod cyntaf, modd ei torwyd, a'r felldith a ddilynodd, a'n bod oll trwyddo mor ddamniol ein cyflwr a'r diaflaid. Yna trodd i ddangos natur y cyfamod newydd. "Cefais nerth, a goleuni, a hyfrydwch mawr," medd, "fel yr wyf yn arfer gael ar y pen hwn, pan y'm harweinir ato gan Dduw. Yr wyf yn gobeithio i lawer gael eu hachub a'u troi; yr oedd yn felus mewn gwirionedd yma; ond yr oeddwn yn dra chyfeiriol a llym yn y rhan flaenorol, fel na allai cnawd fy nyoddef, gan ddangos nas gallent gadw eu calonau yn sefydlog ar Dduw am bum mynyd, pe y caent ddeng mil o fydoedd am hyny, o honynt eu hunain, nac edrych ar yr hwn a wanasant." Mewn ymddiddan preifat a ddilynodd, cafodd y beuai rhai ef yn fawr am beidio rhoddi rhagor o le yn ei weinidogaeth i foesoldeb, ac am osod dynion moesol ac anfoesol ar yr un tir o ran cyflwr. Gwelodd fod arno eisiau doethineb oddiwrth Grist yn gystal a nerth; teimlai yn barod, os dywedasai



Nodiadau[golygu]