Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)/Rhagymadrodd

Oddi ar Wicidestun
Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol) Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)
Rhagymadrodd
gan John Morgan Jones

Rhagymadrodd
Cynwysiad

RHAGYMADRODD.

YR oedd dwyn allan lyfr darluniedig ar hanes Methodistiaeth Cymru yn amcan genym er ys blynyddoedd, a buom am amser maith yn casglu defnyddiau i'r pwrpas. Yn awr, dyma y Gyfrol Gyntaf allan o'r wasg. Fel awduron yn gyffredin, yr ydym wedi medru perswadio ein hunain fod angen a galwad am lyfr o'r fath, ac yr ydym yn credu na wnaethom gamgymeriad. Teimlir yn bresenol fwy o ddyddordeb nag erioed yn hanes dechreuad a chynydd Methodistiaeth; dangosir awyddfryd cryf am adnabod cymeriad ei Sylfaenwyr, a gwybod pob peth a ellir wybod am danynt, ac am eu gwaith. Cryfhawyd y dyddordeb yma yn ddirfawr gan y modd llwyddianus y dathlwyd Trydydd Jiwbili y Cyfundeb; a chredwn fod y teimlad a gynyrchwyd yn un naturiol ac iachus, ac yn teilyngu meithriniad.

Wrth gyflwyno Y Tadau Methodistaidd i sylw y cyhoedd, nid ydym mewn un modd yn ddiystyr o'r llyfrau gwerthfawr ar hanes y Cyfundeb sydd genym yn barod, yn arbenig Methodistiaeth Cymru, gan y diweddar Barch. John Hughes, Liverpool; a Welsh Calvinistic Methodism, gan y Parch. William Williams, Abertawe. Pan yr ymgymerodd Mr. Hughes a'i waith, yr oedd ein hanes, gan mwyaf, yn aros mewn traddodiad, ac mewn perygl o fyned yn hollol ar ddifancoll. Iddo ef, yn anad neb, yr ydym yn ddyledus am gasglu y traddodiadau gwasgaredig yn nghyd, a'u dwyn i ffurf hanesyddol. Eithr oedd toraeth o ffeithiau cysylltiedig â dechreuad Methodistiaeth nas medrodd ef ddod o hyd iddynt, yn guddiedig mewn llawysgrifau gwerthfawr, a llyfrau Saesnig henafol a phrin, ond yn benaf yn gorwedd yn Nhrefecca, heb fod neb wedi eu hastudio na'u darllen. Ymroddasom gyda phob dyfalwch i gasglu y rhai hyn. Buom yn chwilio yr Amgueddfa Frytanaidd yn Llundain, a gwahanol lyfrgelloedd, cyhoedd a phreifat, er ceisio dyfod o hyd i bob ffaith o bwys. Ac yn benaf, darllenasom ddydd-lyfr Howell Harris, a ysgrifenwyd ganddo ef ei hun, trwyddo; yr hyn, mor bell ag y gallwn gasglu, na wnaed gan neb o'n blaen. Trwy hyn, credwn ein bod wedi llwyddo i daflu goleuni newydd ar ddechreuad y Cyfundeb, ac ar hanes a chymeriad y rhai, dan fendith Duw, a fuont yn offerynol i'w ddwyn i fod.

Dichon mai nodwedd fwyaf amlwg a gwahaniaethol Y Tadau Methodistaidd yw ei fod yn llyfr darluniedig. Yr ydym yn gosod ynddo bob darlun sydd ar glawr a chadw o enwogion Methodistaidd; ac yr ydym wedi llwyddo tu hwnt i'n dysgwyliad i ddarganfod darluniau nas gwyddem eu bod mewn bodolaeth. Yn mhlith eraill, daethom o hyd i ddarlun anhysbys o Daniel Rowland, copi o ba un a geir yn nechreu y gyfrol hon. Cawsom ef yn llyfrgell yr Amgueddfa Frytanaidd. Heblaw y rhai a geir yn y Gyfrol Gyntaf, y mae genym ddarluniau o'r enwogion canlynol: Nathaniel Rowland ; Griffiths, Nevern; John Roberts, Llangwm; Simon Llwyd; John Jones, Edeyrn; Evan Richardson; John Rees, Casnewydd; John Thomas, Aberteifi; Griffiths, Lantwd; Morgan Howell; Theophilus Jones; Thomas Harris; Hopkin Bevan, &c., &c. Caiffy rliai hyn, yn nghyd a darluniau o leoedd dyddorol cysylltiedig â hwynt, addurno y gwaith; a phan ei gorphenir, dysgwyliwn y byddwn wedi llwyddo i osod yn nwylaw ein darllenwyr gasgliad o ddarluniau o werth a dyddordeb anmhrisiadwy.

Yr ydym yn rhwymedig i amryw gyfeillion am lawer o gymhorth gwerthfawr yn nygiad allan y gwaith hwn. Nis gallwn gydnabod pawb ag yr ydym mewn dyled iddynt, ond rhaid i ni nodi Mr. Daniel Davies, Ton, Cwm Rhondda; yn nghyd a'r Parchn. John Davies, Pandy; E. Meyler, Hwlffordd; J. E. Davies, M.A., Llundain; Owen Jones, B.A., Llansantffraid; E. WilHams, M.A., Trefecca; W. Williams, Abertawe; J. Cynddylan Jones, D.D., Caerdydd; T. Rees, D.D., Cefn; W. Evans, M.A., Pembroke Dock; Hugh WiHiams, M.A., Bala; a Joseph Evans, Dinbych. Derbynied y rhai hyn ein diolchgarwch goreu. Dymunem hefyd gydnabod caredigrwydd Cymdeithasfa y Deheudir, yn caniatau i ni fenthyca y llawysgrifau gwerthfawr sydd yn nghadw yn llyfrgell Trefecca; oni bai am y caniatad hwn, ni buasem yn alluog i gyflwyno i'r cyhoedd y rhan fwyaf dyddorol a gwerthfawr o'r gyfrol hon.

Gobeithiwn y bydd i ni, trwy gyfrwng y llyfr hwn, fod o ryw wasanaeth i'r Cyfundeb a gerir genym mor fawr, ac y bendithir ein llafur i fod o wasanaeth i achos crefydd.

JOHN MORGAN JONES, Caerdydd.

WILLIAM MORGAN, Pant.

Gorph 15, 1895