Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)/Rhai o'r Cynghorwyr Boreuaf (tud-04)

Oddi ar Wicidestun
Rhai o'r Cynghorwyr Boreuaf (tud-03) Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)
Rhai o'r Cynghorwyr Boreuaf
gan John Morgan Jones

Rhai o'r Cynghorwyr Boreuaf
Rhai o'r Cynghorwyr Boreuaf (tud-05)

gyda bendith Duw ar yr addysg, fod yn dra llesiol. Hyn yn ostyngedig, fy mrodyr, oddiwrth eich annheilwng frawd a chydfilwr, Richard Tibbot."

Dengys y llythyr hwn Richard Tibbot fel gŵr craff, nodedig o ddiragfarn, ac yn meddu gwroldeb digonol i ddweyd ei olygiadau wrth Gymdeithasfa a gynhwysai ddynion fel Whitefìeld, Rowland, a Harris. Yr oedd yn fwy o Fethodist nag o Annibynwr; ac nid oedd cefnu ar y Methodistiaid yn ei fwriad yr adeg yma; ond elai i mewn ac allan gyda phob plaid uniongred, gan deimlo yn gynnes at bawb oedd yn caru yr Arglwydd Iesu. Mor bell ag y gwyddom, efe, yn y llythyr hwn, a awgrymodd gyntaf y priodoldeb o gael Cyffes Ffydd a Rheolau Dysgyblaethol, a dyma hefyd y cyfeiriad cyntaf at gael athrofa. Mewn rhyw bethau diau ei fod o flaen ei oes. Y mae y crybwylliad a geir yn y llythyr am y brodyr yn Sir Forganwg yn cyfeirio at genadwri cynghorwyr y Groeswen at Gymdeithasfa Cayo, Gwanwyn 1745, yr hon a ddaw dan ein sylw eto. Tra yr oedd yr Ymneillduwyr ar y pryd wedi ymgladdu yn ormodol mewn defodau oerion, ac yn condemnio pob gwresowgrwydd crefyddol, gwelai Richard Tibbot berygl i'r Methodistiaid roddi pwys gormodol ar zêl, a phrofiad tumewnol; a hiraethai ei enaid am fwy o oddefgarwch a chariad brawdol o'r ddau tu.

Y mae yn sicr i'r llythyr roddi boddlonrwydd i'r Gymdeithasfa, oblegyd ychydig wedi hyn cawn holl eglwysi Gwynedd wedi eu gosod dan ei ofal; arolygai y cymdeithasau yn Siroedd Trefaldwyn, Meirion, Dinbych, ac Arfon. Wrth deithio, dyoddefodd ei ran o erledigaethau. Unwaith yn Sir Gaernarfon, pan ar ganol pregethu, ymosodwyd arno gan was bonheddwr, yr hwn a'i curodd a ffon o gwmpas ei ben yn ddidrugaredd, fel y syrthiodd mewn llewyg, ac y bu glaf am amser. Dro arall, pan ar daith yn yr un sir, dygwyd ef gerbron heddynad, yr hwn a'i triniodd fel vagabond, gan ei anfon adref o gwnstab i gwnstab, y naill yn ei roddi i fynnu i'r llall, fel pe byddai yn greadur peryglus. Yn yr ymraniad rhwng Rowland a Harris, ymunodd Tibbot ar y cychwyn a phlaid y diweddaf. Yr oedd yn naturiol iddo wneyd felly; Harris oedd y cyntaf o'r Methodistiaid i ennill ei fryd; Harris oedd y mwyaf ei ddylanwad o'r Diwygwyr yn Sir Drefaldwyn, a chydag ef y bwriodd yr holl seiadau yn y sir eu coelbren. Cawn enwau Tibbot, a Lewis Evan, Llanllugan, yn mysg y rhai oeddynt yn bresennol yn Nghymdeithasfa gyntaf plaid Harris, yr hon a gynhaliwyd yn St. Nicholas, Gorph. 25, 1758; a rhaid fod cryn zêl yn eu meddiannu cyn y teithient o ganol Trefaldwyn i Fro Morganwg er mwyn bod yno. Yn y Gymdeithasfa trefnwyd fod Richard Tibbot i ddwyn adroddiad am ystâd y seiadau yn Sir Drefaldwyn i'r Gymdeithasfa ddilynol, ac i fyned ar daith i'r Gogledd i bregethu am dair wythnos. Cawn ef hefyd yn Nghymdeithasfa Fisol Llwynyberllan, Rhagfyr 30, yr un flwyddyn, ac yr oedd yn un o'r rhai ddarfu ateb pan y gofynnodd Harris pwy oedd yn barod i roddi ei galon a'i law i'r Arglwydd. Nid oedd yn Nghymdeithasfa Dyserth y dydd lau canlynol, ond ceir nodiad yn y cofnodau yn dweyd iddo gael ei anfon y boreu hwnnw i'r Gogledd, yr hyn a ddengys mai nid diffyg cydymdeimlad a Howell Harris, a'r rhai a ymlynent wrtho, a achosai ei absenoldeb. Yn raddol, pa fodd bynnag, ymddengys i amheuaeth gref godi yn meddwl Tibbot gyda golwg ar yr yspryd a lywodraethai Harris a'i ganlynwyr. Ac yn Nghymdeithasfa y blaid, yr hon a gynhaliwyd yn Llwynbongam, Gorph. 2, 1751, daeth pethau i argyfwng. Gofynai Harris am arwydd, pwy oedd a ffydd ganddo i gymeryd y wlad, ac i sefyll yn unig yn y gwaith gyda'r Arglwydd, heb neb gydag ef. Ystyr hyn, dybygid, oedd myned o gwmpas y seiadau, er cael ganddynt gefnu ar yr offeiriaid Methodistaidd. Gwrthododd amryw arwyddo. Y nos gyntaf, yr oedd Tibbot yn anmhenderfynol; gwelai y brodyr heb fod yn sefydlog, a theimlai awydd am gael ymddiddan a'r blaid arall. Ceisiai Harris ymresymu ag ef, a dangos yr angenrheidrwydd am farn sefydlog; dywedai, yn mhellach, fod y rhai a ymadawsant wedi tramgwyddo, a bod pob moddion posibl wedi cael ei ddefnyddio i'w hadfer. Eithr ofer a fu yr ymresymu. A boreu drannoeth, trowyd Richard Tibbot allan am wrthod ufuddhau i fyned o gwmpas, ac am ei benderfyniad i fyned i ymddiddan a phlaid Daniel Rowland. Allan yr aeth, gan fwrw ei goelbren gyda Rowland, a pherthyn i'w blaid ef y bu tra mewn cysylltiad a'r Methodistiaid. Ni phallodd ei deimladau caredig at Harris er hyn, a phan fu gwraig y diweddaf farw ysgrifennodd Tibbot ato lythyr, yr hwn sydd yn awr ar gael, yn datgan ei gydymdeimlad



Nodiadau[golygu]