Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)/Rhai o'r Cynghorwyr Boreuaf (tud-16)

Oddi ar Wicidestun
Rhai o'r Cynghorwyr Boreuaf (tud-15) Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)
Rhai o'r Cynghorwyr Boreuaf
gan John Morgan Jones

Rhai o'r Cynghorwyr Boreuaf
Rhai o'r Cynghorwyr Boreuaf (tud-17)

un o'r fyntai a aeth allan. Yn Nghymdeithasfa Fisol Glanyrafonddu, a gynhaliwyd Mawrth i, 1743, penodwyd ef i arolygu seiadau y rhan ddwyreiniol o Forganwg, can belled a Llantrisant, a chafodd hyn ei gadarnhau yn Nghymdeithasfa nesaf Watford. Y mae amryw o'r adroddiadau am ansawdd yr eglwysi, a osodasid dan ei ofal, yn awr ar gael, ac y maent yn dra dyddorol. Pan y cyfododd anesmwythid yn meddyliau cynghorwyr y Groeswen, parthed cymuno yn yr Eglwys Wladol, yr oedd Thomas William yn un o'r rhai ddarfu arwyddo y llythyr hanesyddol, a anfonwyd at Gymdeithasfa Cayo, Mawrth 30, 1745. A chan nad oedd atebiad y Gymdeithasfa yn ei foddloni, cymerodd ef, mewn undeb a William Edwards, yr adeiladydd, ei ordeinio yn weinidog i'r Groeswen, yn ol dull yr Ymneillduwyr, ac yno y bu yn llafurio, gan weinyddu y sacramentau, hyd ddydd ei farwolaeth. Nid yw yn ymddangos ei fod yn ystyried ei hun trwy hyn yn ymadael a'r Methodistiaid, o leiaf yn llwyr; ac yr oedd y Diwygwyr yn arfer ymweled a'r Groeswen ar eu teithiau fel cynt. Nid hir y bu fyw gwedi ei ordeiniad, bu farw yn nghanol ei ddefnyddioldeb, a chladdwyd ef yn mynwent Eglwys y llan, am nad oedd claddfa yn perthyn i'r Groeswen y pryd hwnw.

Am ei gyd—weinidog, sef William Edward, a elwir yn gyffredin, " William Edwards, yr adeiladydd," y mae ei hanes yn fwy adnabyddus. Cafodd ei eni mewn ffermdy bychan, yn mhlwyf Eglwys llan, rhwng Pontypridd a Chaerphili, o'r enw Bryn, yn y flwyddyn 1719. Efe oedd yr ieuangaf o bedwar o blant, a phan nad oedd ond dwy flwydd oed, bu farw ei dad. Ychydig o ysgol a gafodd, prin digon i'w alluogi i ddarllen ac ysgrifenu Cymraeg. Treuliodd ei faboed yn llafurio ar y tyddyn. Wrth adgyweirio y cloddiau cerig oedd ar y tir, dechreuodd ymhoffi



Nodiadau[golygu]