Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)/Sefyllfa Foesol Cymru Adeg Cyfodiad Methodistiaeth (tud-16)

Oddi ar Wicidestun
Sefyllfa Foesol Cymru Adeg Cyfodiad Methodistiaeth (tud-15) Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)

gan John Morgan Jones

Sefyllfa Foesol Cymru Adeg Cyfodiad Methodistiaeth (tud-17)

led; yr hyn sydd yn profi yn eglur mai cyfrif bys a bawd a roddir, ac nas gellir ymddiried nemawr ynddo. Am rai o'r ffugrau gwelir yn amlwg wrth ystyried poblogaeth y wlad yr adeg hono y rhaid eu bod yn gyfeiliornus. Er enghraifft, rhoddir cynulleidfaoedd Llanafan a Llanwrtyd, cymydogaethau anghysbell yn nghanol mynyddoedd Brycheiniog, fel yn rhifo wyth cant. Y mae yn amheus a gynwysai yr adran yma o'r wlad gynifer a hyny o drigolion yr adeg hono, hyd yn nod pe y cyfrifid y babanod ar y fron. Pa fodd bynag, proffesa yr ystadegau roddi holl nerth Ymneillduaeth, mewn rhifedi, cyfoeth, ac urddas sefyllfa. Oni wnaent hyny, ni chyrhaeddent yr amcan mewn golwg; yn wir, gellid eu defnyddio fel arfau ymosodol gan y gelynion. Heblaw rhif y gwrandawyr, rhoddir eu safle gymdeithasol, gan nodi yn fanwl rifedi y boneddwyr, ynghyd a'r rhai a berchenogent bleidlais yn eu mysg, fel y gwelir oddiwrth y fac simile (tudal. 15).

Buasai yn dda genym pe y gallasem adael yn y fan hon ystadegau Dr. John Evans, ynghyd a'r cofnodiad o honynt gan y Parch. Thomas Rees, D.D., ond ni feiddiwn; y mae ffyddlondeb i wirionedd, ynghyd a pharch i goffadwriaeth y Tadau Methodistaidd yn ein gorfodi i fyned yn mlaen, i ddynoethi y twyll dybrid sydd wedi cael ei arfer. Cofnoda Dr. Rees yr ystadegau, fel y maent yn y llawysgrif, yn ei History of Protestant Nonconformity in Wales; a phroffesa wneyd hyny yn llawn, air am air, ffugr am ffugr, a llythyren am lythyren. A darfu iddo wneyd hyny yn gywir gydag un eithriad. Ond y mae yr un eithriad hwnw mor bwysig fel y mae yn gwneyd yr oll o'r ystadegau yn gamarweiniol. Penawd y bumed golofn yn llawysgrif Dr John Evans yw "rhif y gwrandawyr " (number of hearers); ac amlwg yw, fel y darfu i ni sylwi, y cyfrifid pawb y gellid mewn unrhyw ffordd edrych arnynt fel yn perthyn i gynulleidfaoedd yr Ymneillduwyr. Ond y mae Dr. Rees yn rhyfygus, ac heb awgrymu ei fod yn gwyro oddiwrth y gwreiddiol, wedi newid y penawd i "canolrif y rhai presenol " (average attendance)[1] Gwel y cyfarwydd ar unwaith pa mor bwysig yw y newidiad hwn. Rhifai Dr. John Evans bawb a wrandawent gyda'r Ymneillduwyr, er na fyddent oll yn bresenol hyd yn nod pan fyddai y gynulleidfa fwyaf; ond ystyr "canolrif y gwrandawyr " yw nifer y rhai presenol pan na fydd y gynulleidfa nac yn fach nac yn fawr. Gwyddai Dr. Rees yn dda ei fod yn gwyrdroi y cyfrif, er gwneyd rhif yr Ymneillduwyr yn ddwbl yr hyn ydoedd, oblegyd y mae yn eglur ei fod wedi astudio y llawysgrif yn fanwl; wrth ei ddarllen daeth drachefn a thrachefn ar draws y penawd "rhif y gwrandawyr," fel yr oedd yn anmhosibl i'r gwall ddigwydd mewn camgymeriad. Yn wir, galwodd y Parch W. Williams,[2] Abertawe, sylw cyhoeddus ato; a chawn Dr. Rees yn y rhagymadrodd i'r ail argraffiad, yn ceisio ateb Mr. Williams ynglyn a rhai pethau, ond gadawa y mater pwysig hwn, sydd yn cyffwrdd a'i gymeriad fel hanesydd geirwir, heb ei gyffwrdd; yn hytrach, gesyd y daflen a lyrguniodd i mewn yn ei lyfr fel yn yr argraffìad cyntaf. Gwyddai Dr. Rees yn drwyadl pa mor bwysig a pheth oedd ystyr y cyfnewidiad a wnelai yn y penawd, oblegyd brysia i fanteisio ar y camwri a gyflawnodd, trwy ddweyd nad yw [3] canolrif y presenolion un amser yn fwy na haner rhif y gwrandawyr; felly y rhaid fod nifer yr Ymneillduwyr yn Nghymru pan wnaed y cyfrifiad yn ddwbl yr hyn a geir yn y daflen, ac nas gallent fod yn llai na haner can mil, sef tuag un rhan o wyth o'r holl drigolion. Y mae yn wir ofidus fod gweinidog yr efengyl o safle barchus, ac un a ystyrid yn gyffredin yn hanesydd gofalus, wedi ymostwng i gyflawni gweithred anonest, yr hon yn ddiddadl a fwriedid i gamarwain. Y mae ein gofid yn fwy pan y cofiwn ei fod yn seilio yn benaf ar y twyll hwn ei gyhuddiad yn erbyn y Tadau Methodistaidd, sef ddarfod iddynt yn fwriadol gamddarlunio sefyllfa Cymru ar y pryd o ddirmyg at yr Ymneullduwyr, ac er mwyn tra-ddyrchafu eu gwaith eu hunain. Dyma enghraifft fyw o ddyn a thrawst yn ei lygad yn ceisio tynu brycheuyn allan o lygad ei frawd. Profa yr ymddygiad hwn o'i eiddo nas gellir rhestru Dr. Rees mwy yn mhlith haneswyr credadwy; o leiaf mewn amgylchiadau ag a fyddo yn tueddu i ddeffro ei ragfarnau enwadol. Yn ol ystadegau Dr. John Evans, yr oedd rhifedi yr Ymneullduwyr



Nodiadau[golygu]

  1. History of Protestant Nonconformity in Wales tudalen 259
  2. Welsh Calvanistic Methodism
  3. History of Protestant Nonconformity in Wales tudalen 226