Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)/Sefyllfa Foesol Cymru Adeg Cyfodiad Methodistiaeth (tud-19)

Oddi ar Wicidestun
Sefyllfa Foesol Cymru Adeg Cyfodiad Methodistiaeth (tud-18) Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)

gan John Morgan Jones

Sefyllfa Foesol Cymru Adeg Cyfodiad Methodistiaeth (tud-20)

fwyaf o ymrafael, ac y bu ei chanlyniadau fwyaf alaethus, oedd yr hon a elwir Y Ddadl Fawr Arminaidd. Dechreuodd syniadau Arminaidd lefeinio eglwysi Ymneullduol Cymru tua dechreuad y ddeunawfed ganrif. Cafodd y syniadau hyn gefnogydd yn Mr. Perrot, athraw yr athrofa Ymneillduol yn Nghaerfyrddin; o leiaf yr oedd y nifer fwyaf o'r efrydwyr a aent ato i astudio yn dyfod allan yn Arminiaid rhonc. Yr oedd yr Arminiaeth yma o nodwedd isel a hollol anefengylaidd; y gwir enw arni fuasai Pelagiaeth; ymylai ar Ariaeth, ac ymddadblygodd yn raddol i fod yn Undodiaeth. Dyma y rheswm fod llawer o eglwysi, a fuont unwaith yn uniongred, ac yn perthyn i'r Annibynwyr neu yr Henaduriaethwyr, yn siroedd Ceredigion, Caerfyrddin, a Morganwg, yn awr yn hollol Sosinaidd. Achosodd yr heresi newydd ddadleuon brwd, a chyffro dirfawr, yn yr eglwysi Ymneillduol. Ymdrechai y pleidiau orchfygu eu gilydd yn mhob dull a modd. Os mai y blaid Galfinaidd fyddai drechaf, mynai ddewis gweinidog o'r un golygiadau yn fugail ar yr eglwys. Yn mhen ychydig, efallai yr enillai yr Arminiaid y dydd, a mynent yru y Calfin ymaith, a dewis gweinidog Arminaidd yn ei le. Weithiau byddai dau weinidog, un yn Galfiniad a'r llall yn Arminiad, yn cydweinyddu i'r un bobl; a hyny nid oblegyd eu lliosogrwydd, ond er mwyn cyfarfod a golygiadau y ddwy adran ddadleuol yn yr eglwys. Pa fodd y pregethent, nis gwyddom; ai ar yn ail Sabbath ynte ar yn ail odfa; ond gwaith penodol y naill weinidog oedd tynu i lawr a dinystrio yr hyn oedd wedi cael ei adeiladu yn mhresenoldeb yr un gynulleidfa gan ei gyd-weinidog.

"Cawn engrhaifft o hyn yn eglwys Cwmyglo, ger Merthyr Tydfil,[1] lle yn ol pob tebyg, yr adeiladwyd y capel Ymneillduol cyntaf yn Nghymru. Yn nechreu y ganrif, gweinidog yr eglwys oedd y Parch. Roger Williams, gŵr o syniadau Arminaidd, ac yn pregethu ei olygiadau gyda hyfdra, er mawr foddlonrwydd i un dosparth. Ond aeth yr adran Galfinaidd yn anesmwyth; ymddengys hefyd iddi gynyddu mewn nerth; a mynodd ordeinio Mr. Jas. Davies, gŵr o ardal Llanwrtyd, fel gweinidog ychwanegol Cymerodd hyn le rywbryd rhwng 1720 a 1725. Pan fu farw Roger Williams, a neb ond James Davies yn gweinidogaethu i'r gynulleidfa, dechreuodd yr Arminiaid rwgnach; a chawn Sion

———————————

Adfeilion Capel Cwm y Glo

———————————



Nodiadau[golygu]

  1. Hanes Eglwysi Annibynol Cymru Cyfrol II tudalen 248-249