Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)/William Williams, Pantycelyn (tud-12)

Oddi ar Wicidestun
William Williams, Pantycelyn (tud-11) Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)
William Williams, Pantycelyn
gan John Morgan Jones

William Williams, Pantycelyn
William Williams, Pantycelyn (tud-13)

amgylchiadau ei argyhoeddiad, a pha mor llwyr yr oedd dan arweiniad Rhagluniaeth fawr y nef. Gwnaed hyn heb ddyben, heb feddwl, heb barotoad o'i du ef; trwy foddion annhebygol, ac mewn amser annhebygol. Cyflawniad ydoedd, debygid, o'r brophwydoliaeth: " Ceisiwyd fi gan y rhai ni ymofynasant am danaf, cafwyd fi gan y rhai ni'm ceisiasant."

Pa un ai ei glwyfo yn unig a gafodd Williams ar fynwent Talgarth y boreu hwnnw, neu ynte a dywalltwyd olew yn ei glwyfau ar yr un adeg? Hwyrach nas gellir rhoddi atebiad pendant i'r cwestiwn hwn. Dywed ef ei fod wedi ei ddal gan wŷs oddi uchod, ond nid yw yn dweyd hefyd ei fod wedi derbyn rhyddhad yr efengyl. Fel hyn y mae efe yn mynegu:-

"Dyma'r boreu byth mi gofiaf,
Clywais inau lais y nef;
Daliwyd fi wrth wŷs oddi uchod
Gan ei sŵn dychrynllyd ef;
Ac er crwydro dyrys anial
O! a gwrthol dilesâd,
Tra bo anadl yn fy ffroenau
Mi a'i galwaf ef fy Nhad."

Swn taranau Sinai a glywir yn y pennill hwn, a gweinidogaeth gyffelyb a geir yn mhregeth Boanerges, lle y tybir fod y bardd yn desgrifio ei dröedigaeth ei hun:-

"Ac yna Boanerges,
Agora'i enw pur
Rhwng awyr dudew, dywyll,

A nefoedd oleu glir;
Mil oedd o glustiau'n gwraado
A Theomemph yn un,
Ac ofn yn ei galon,
A chryndod yn ei lin.

Uwch corryn mynydd Sina,
Yn uchel, uchel fry,
Ar aden cwmwl gwibiog
Mewn awyr dywyll, ddu,
Lle clywai gwlad o ddynion,
Lle y dadseiniai'r nef,
Mewn eitha' godidawgrwydd
'Roedd ei sefyllfa ef.

Ei lais oedd fel taranau
Amrywiol iawn ynghyd,
Neu fel yr udgorn olaf
A eilw'r meirw ynghyd;
Yn creu rhyw arswyd rhyfedd,
Trwy'r ddaear faith a'r nef,
A miloedd yn llewygu
Wrth sŵn ei eiriau ef."

Ond os nad esgynodd Harris i fynydd Seion y pryd hwnw, diau i Williams ei weled wedi hyny yn esgyn yno, ac mai trwy ei weinidogaeth ef y cafodd efe ei ryddhad; pe fel arall, prin y buasem yn dysgwyl iddo arddel Howell Harris yn dad ysprydol iddo. Y mae Williams yn gosod allan Harris fel cenad hedd fel yma:

"Dewch, gwrandewch ef yn agoryd
Ddyfnder iachawdwriaeth gras!
Gosod allan y Messiah
Yn y lliw hyfryda' maes;
Ac yn dodi'r cystuddiedig
Ag sy'n ofni ei ras a'i rym,
Fel i chwerthin o orfoledd,
Ac i 'mado heb ofni dim."

Argyhoeddiad rhyfeddol o rymus a gafodd Williams. Diau ddarfod i'r saeth gyrhaedd i ddyfnder ei enaid, ac iddo deimlo ingoedd angau. Ond pan gymhwyswyd i'w archoll y balm sydd yn iachau, fe'i meddyginiaethwyd yn llwyr. Yr oedd bellach yn ddyn newydd - hollol newydd, a daeth yn fyw i ystyriaethau ag yr oedd hyd yma yn farw iddynt. Dyma'r pryd y daeth gyntaf i gyffyrddiad ffyddiog a gwirioneddau mawrion yr efengyl. Cafodd yn awr ddatguddiad o'r ysprydol a'r tragywyddol. Difrifolwyd ei feddwl, sancteiddiwyd ei yspryd, dyrchafwyd ac unionwyd ei amcanion; a daeth i gysylltiad a phobl oedd yn llosgi mewn awydd am achub eneidiau. Cyflwynodd ei galon ei hun i'r Gwaredwr, ac ymddiriedodd ynddo am ei gadwedigaeth; a meddiannwyd ef gan awydd angerddol am ddwyn eraill at Grist. Daeth i ofyn cwestiwn Saul, " Arglwydd, beth a fyni di i mi ei wneuthur," a chafodd dystiolaeth yn ei fynwes fod yr Iesu yn gofyn am holl wasanaeth ei fywyd. Penderfynodd ufuddhau i'r alwad nefol, a chefnu am byth ar yr alwedigaeth ddaearol yr oedd wedi cymhwyso ei hun iddi, a chysegru ei holl fywyd i weinidogaeth y gair. Ei gymdeithion newydd oeddynt Howell Harris, Daniel Rowland, a'r cynghorwyr oedd yn eu canlyn; ac fe yfodd yn helaeth o yspryd y diwygiad Methodistaidd. Hyd yma yr oedd wedi troi yn hollol o fewn cylchoedd Ymneullduol a gwrth Eglwysig; ac y mae yn debygol ei fod yn cyfranogi o egwyddorion a rhagfarnau ei bobl. Gwir nad oedd yn meddu argyhoeddiadau cryfion ar bethau crefyddol, ond prin y gellir tybied nad oedd gwrthwynebiad i'r Eglwys Wladol yn deimlad dwfn yn ei fynwes. Cadarnheir hyn i fesur gan un gair a ddefnyddir gan Williams am Howell Harris, offeryn ei droedigaeth, a'i dad yn Nghrist. Yn y pennill a ddifynwyd gennym o'r blaen i amcan arall, dywed Williams:-

"Trwy ' foddion annhebygol '
Y denwyd fi, oedd ffol;
Mewn amser anhebygol
I alw ar dy ol."



Nodiadau[golygu]