Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)/William Williams, Pantycelyn (tud-14)

Oddi ar Wicidestun
William Williams, Pantycelyn (tud-13) Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)
William Williams, Pantycelyn
gan John Morgan Jones

William Williams, Pantycelyn
William Williams, Pantycelyn (tud-15)

ydynt yn fanwl gywir. Sicr ydyw fod Williams yn gydnabyddus a Daniel Rowland yn mhell cyn iddo adael yr Eglwys, a chyn iddo ymuno a hi. Yr oedd Daniel Rowland yn pregethu yn Ystrad-ffin yn dra chynarol. Daethai Rowland a Harris i gydnabyddiaeth a'u gilydd flwyddyn cyn tröedigaeth Williams, ac y mae yn rhesymol meddwl pan ddarfu i Williams ddyfod i gydnabyddiaeth a'r naill, na fu yn hir cyn dyfod yn gydnabyddus a'r llall. Y cyfeiriadau cyntaf a gawsom at Williams yn llythyrau y Diwygwyr Cymreig ydynt y rhai canlynol, pa rai a argraffwyd yn y Weekly History. Mewn llythyr dyddiedig Hydref 20, 1742, cawn Daniel Rowland yn ysgrifennu at Howell Harris fel hyn: " Yr wyf yn clywed fod y brawd Williams wedi ei roddi yn Nghwrt yr Esgob, am nad yw yn byw yn ei blwyf."

A chawn gyfeiriad arall ato yn niwedd yr un flwyddyn, mewn llythyr oddiwrth Howell Harris at y brawd H——t.

" Ymadewais y boreu hyn a'r brawd W——ms, cuwrad Ll——d. Gyda yntau hefyd y mae gallu rhyfeddol. Y mae yn llosgi o gariad a zêl."

Mewn llythyr oddiwrth Evan Williams, cynghorwr, dyddiedig Awst 29, 1743, dywedir:

"Yr wyf newydd ddychwelyd ar ol bod yn gwrando ar y nodedig ŵr Duw, Mr. Rowland, pellder o ugain milldir. Rhyfeddol oedd gallu Mr. Rowland ar y Sabbath, a Mr. Williams ar y Sadwrn cyn hyny, ac yn y seiat. . . . Dymuna Mr. Williams ar i mi hysbysu y brawd Harris fod yr esgob wedi gwrthod iddo ei gyflawn urddau, am ei fod yn Fethodist, er fod ganddo lythyrau cymeradwyol oddiwrth amryw o offeiriaid, ac oddiwrth ei blwyfolion ei hun. Fe anghymeradwyd fod y plwyfolion yn datgan eu cymeradwyaeth o hono."

Yn olaf, ysgrifenna y brawd Thomas Jones at Howell Harris, Awst 30, 1743:

"Am un o'r gloch yr oeddwn yn Llangamarch, lle yr oedd seiat newydd gael ei sefydlu. Erbyn chwech yn yr hwyr, daethum i Bronydd, pan y cyfarfyddais a'r anwyl frawd Williams. Gwrthododd bregethu. Wedi yr odfa, cawsom seiat felus o ugain o rifedi." Dengys y dyfyniadau uchod fod Williams yn gwbl hysbys i weinidogion a chynghorwyr cyntaf y diwygiad, a'i fod yn cael ei gydnabod yn gydweithiwr a hwy tra yr oedd yn yr Eglwys Sefydledig. Nid ymddengys i'w gysylltiad ef a'r Eglwys fod o nemawr gwasanaeth i'r diwygiad, nac o ddim mantais personol iddo ef ei hun. Pe buasai wedi llwyddo i gael llawn urddau Eglwysig, tra yn y sefydliad hwnnw, diau y buasai ei barch a'i gyfleusderau i wneyd daioni yn helaethach. Rhoddid bri mawr ar urddau yr Eglwys Wladol yn yr oes honno gan y Methodistiaid, ac yr oeddynt yn bethau a fawr chwenychid. Pobl yn meddu urddau yn unig a bregethaiit yn yr eglwysi, ac oddiar y tir cysegredig. Ganddynt hwy yn unig yr oedd hawl i weinyddu y sacramentau. Ystyrid offeiriad yn ŵr o anrhydedd digyffelyb, perchid ef, telid gwarogaeth iddo, ac yr oedd ei awdurdod yn mron yn ddiderfyn. Methodd Williams gyrhaedd yr anrhydedd hon, a methodd yn unig o ddiffyg arafwch a phwyll. Yn lle ymgadw o fewn y terfynau gosodedig, ymdaflodd i weithgarwch, gan ddilyn esiampl Howell Harris, ac enynnodd ddigofaint yr offeiriaid tuag ato, a chauwyd ei lwybr ef i ddyrchafiad ac anrhydedd Eglwysig a drain. Cyhuddid ef, meddai ef ei hun, o dori cynifer phedwar-ar-bymtheg o ddeddfau yr Eglwys yn ystod tair blynedd o amser. Pechodau bychain, dibwys, y galwai Mr. Charles hwynt, ond pechodau ysgeler a rhyfygus iawn yr ystyriai yr awdurdodau Eglwysig hwynt. Cafodd ddwyn ei benyd, a chanlyniad ei weithredoedd; a gorfu iddo fod yn ŵr syml, heb lawn urddau am ei holl fywyd. Ymddengys fod Williams ei hun yn gosod llawn bris ar urddau Eglwysig, ac iddo gael ei siomi yn fawr pan y nacawyd hwynt iddo. Fel yma y dywed Mr. Charles: " Nid oedd (Williams) yn cymeradwyo yr afreolaeth hwn, yn ei feddwl, dros ei holl fywyd. Gweithred fyrbwyll ynddo yr oedd yn ei barnu, ac y gallasai fod yn fwy defnyddiol pe buasai yn fwy araf a phwyllog; ond geill Duw ddwyn ei amcanion i ben trwy ffolineb dynion; a hwyrach mai fel yr oedd, yr oedd yn fwyaf addas i gyflawni ei amcanion doeth ef." Yn ein tyb ni, y mae brawddeg Mr. Charles wedi ei cham-ddeall a'i cham-esbonio gan ysgrifenwyr diweddar. Addefwn ei bod yn amwys, ond nid yw yn anhawdd iawn i'w deongli. Beth oedd yr afreolaeth ag yr oedd Williams yn ei anghymeradwyo ynddo ei hun? Nid ei fynediad i'r Eglwys Wladol, fel y tybia rhai, na'i ymadawiad o honni, fel y barna eraill. Y mae Mr. Charles yn deffinio yr "afreolaeth" yn ddigon clir, sef " pregethu yn mhob



Nodiadau[golygu]