Neidio i'r cynnwys

Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)/Y Gymdeithasfa (tud-07)

Oddi ar Wicidestun
Y Gymdeithasfa (tud-06) Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)
Y Gymdeithasfa
gan John Morgan Jones

Y Gymdeithasfa
Y Gymdeithasfa (tud-08)

  • Richard Jones, a John Deer, Aberthyn, Llanilltyd, ac Aberddawen.
  • Charles Powell, Glasbury a Bronllys.
  • John Jones, Cwmdu a Grwynefechan.
  • Morgan John, Palleg, Creunant, Llanddeusant, a Cwmaman.
  • Cymeradwywyd Wm. Harry, a John Richards.
  • Cydunwyd ar i'r brodyr a deimlent betrusder gyda golwg ar dderbyn y sacrament yn yr Eglwys, oblegyd annuwioldeb yr offeiriaid; a chyda'r Ymneillduwyr, oblegyd eu clauarineb, barhau i dderbyn yn yr Eglwys, hyd nes yr agorai yr Arglwydd ddrws amlwg i ni adael ei chymundeb.
  • Cydunwyd na fyddai i'r un cynghorwr gael ei dderbyn i'n mysg ond y sawl a fyddai wedi ei gymeradwyo; ac nad oedd neb i fyned dros ei derfynau gosodedig heb gael ymgynghoriad a chyfarwyddyd yn gyntaf.
  • Cydunwyd fod i bob cynghorwr anghyoedd ddwyn adroddiad am y cymdeithasau sydd dan ei ofal, ynghyd a phwy a fydd wedi cael eu derbyn i aelodaeth, i'r Gymdeithasfa, yr hon sydd i gael ei chynnal y Mercher cyntaf gwedi y 25ain o Fawrth, 1743.

"Gwelodd yr Arglwydd yn dda fod yn mysg y brodyr, ac, yn ôl pob ymddangosiad, i lewyrchu ei wyneb ar eu hymgynghoriad. Gogoniant yn y goruchaf i Dduw." Gwelir fod yspryd yr ysgrifennydd, yr hwn nid oedd yn neb amgen na Howell Harris, wedi gwresogi o'i fewn wrth groniclo y cofnodion; y mae ei draed ar yr uchelfannau; ac ymdora ei deimlad brwdfrydig allan mewn moliant i'r Arglwydd, yr hwn a'u harweiniasai yn eu holl ymgynghoriadau. Y mae amryw bethau yn y cofnodion sydd yn galw am sylw. Gwelwn fod Watford yn cael ei wneyd yn fath o ganolbwynt i'r symudiad. Ai sefyllfa gyfleus y lle, fel man canolog rhwng Cymru a Lloegr, oedd y rheswm am hynny, ynte cymhwysder Thomas Price, perchennog a phreswylydd palas Watford, at y gorchwylion y rhaid eu cyflawni mewn lle o'r fath, nis gwyddom. Y mae y penderfyniad yn annog y rhai oeddynt yn betrusgar gyda golwg ar pa le y derbynient y cymundeb, i barhau i wneyd hynny yn yr Eglwys Wladol, wedi cael ei feirniadu yn llym. Meddai y Parch. T. Rees, D.D:[1] "Y mae y penderfyniad yn arddangos ymlyniad dull arweinwyr cyntaf y Methodistiaid wrth yr Eglwys Sefydledig, pan yr anogent eu canlynwyr i gymuno yn yr eglwysydd plwyfol gydag offeiriaid annuwiol, yn hytrach na chyda yr Ymneillduwyr clauar, pa mor dduwiol bynnag y gallent fod." Fod yr arweinwyr Methodistaidd, yn arbennig Howell Harris, yn dwyn mawr zêl dros yr Eglwys Sefydledig, sydd sicr; fel Eglwyswyr yr edrychent arnynt eu hunain; ac nid oeddynt am adael ei chymundeb, oni orfodid hwynt. Ond efallai nad oedd eu hymlyniad mor ddall ag y myn Dr. Rees. Gellir dwyn y rhesymau canlynol dros y penderfyniad y daethent iddo: (i) Anogaeth ydoedd i'r rhai oeddent hyd hyny wedi arfer cymuno yn yr Eglwys; profir hyny gan y gair "parhau;" nid oes yma gymaint ag awgrym i'r Ymneillduwyr i adael yr enwad i ba un y perthynent. (2) Yr oedd yr oerni a'r clauarineb ysprydol oedd wedi meddiannu llawer o'r eglwysi Ymneillduol yr adeg hon, yn gymaint rhwystr ar ffordd crefydd yn mryd y Tadau Methodistaidd, a buchedd anfoesol yr offeiriaid. Yn eu golwg hwy nis gallai oerni ysprydol a duwioldeb gyd-drigo. Nis gallai dyn wedi ei ferwi gan y diwygiad, a'i galon yn llosgi ynddo gan gariad at y Gwaredwr, lai na theimlo gwrthnaws o'i fewn wrth weled gwasanaeth y cymundeb yn cael ei gyflawni gan weinidog a'i yspryd ynddo mor oer a'r rhew. Ac mewn aml i fan yr oedd yr oerni yn gynnyrch syniadau anefengylaidd am berson Crist, a natur yr iawn a roddodd. Yn yr Eglwys, pa mor anfucheddol bynag y gallai yr offeiriad a weinyddai fod, yr oedd y gwasanaeth a ddarllenid ganddo yn ardderchog, ac yn llawn maeth i dduwioldeb. (3) "Hyd nes y rhoddai yr Arglwydd ddrws agored iddynt i adael cymundeb yr Eglwys," yr oedd yr anogaeth. Felly y dywed y penderfyniad. Ymddangosai yr adeg yn ymyl iddynt ar y pryd; yr oedd gwaith rhai o'r offeiriaid yn gwrthod y sacrament i'w canlynwyr fel yn dwyn pethau i argyfwng; ac os y dymunent i'r rhai a gawsent eu hargyhoeddi trwy eu gweinidogaeth barhau ynghyd, heb fod rhai yn ymuno a'r blaid yma, a'r lleill a'r blaid arall, pwy a fedr eu beio? (4) Yr oedd yspryd diflas, ac, i raddau, erledigaethus, at y Methodistiaid, fel yr ydym wedi sylwi yn barod, wedi cael lle erbyn hyn yn mynwesau llawer o'r gweinidogion Ymneillduol, ac yn eu heglwysi. Mewn rhai



Nodiadau[golygu]

  1. History of Protestant Nonconformity in Wales.