Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)/Y Gymdeithasfa (tud-20)

Oddi ar Wicidestun
Y Gymdeithasfa (tud-19) Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)
Y Gymdeithasfa
gan John Morgan Jones

Y Gymdeithasfa
Rhai o'r Cynghorwyr Boreuaf (tud-01)

Yna a ymlaen i ddweyd mai amcan rhannu yr aelodau i ddosparthiadau o sengl, priod, a gweddw, oedd er mwyn cael cyfrif eglur, ac hefyd allu cymhwyso cynghorion priodol at eu gwahanol sefyllfaoedd. Awgryma fod hyn yn cael ei wneyd yn yr Eglwys Apostolaidd; fod Ioan yn ysgrifenu at y gwŷr ieuainc, a Phaul yn cynghori y rhai oeddynt yn wir weddwon, yr hyn a dybia eu bod yn ffurfio dosparth ar wahan yn yr eglwys. Diwedda trwy achwyn ar ryw William Christopher yn ysgrifenu mewn arddull anweddaidd at Daniel Rowland, a thrwy ei gynghori ef, John Richard, i chwilio o ba yspryd yr ydoedd. Y genadwri a anfonwyd at Rhisiart William Dafydd oedd ceisio ganddo ddarllen y llythyr a anfonasid at John Richard.

Tueddwn i feddwl yr ystyriai Howell Harris lythyr Whitefield yn rhy amddifad o dynerwch, ac o ras yr efengyl, ac felly ysgrifennodd at y ddau frawd tramgwyddus ar ei gyfrifoldeb ei hun. Wrth John Richard dywed: "Mi a wn beth yw profedigaethau o'r fath hyn; er mwyn yr Iesu byddwch arafaidd a phwyllog; y mae'r gelyn yn ceisio eich temtio i wneuthur rhwyg yn ein mysg, a'n dod i wanhau dwylaw ein gilydd. Byddwch ostyngedig; ofnwch eich hunan; gelyn dirgel yw yn wir, anhawdd ei adnabod. Y mae yn bosibl i ni (sef John Richard a Harris) gamsynied; maent hwy (aelodau y Gymdeithasfa) yn llawer, a bagad o honynt o leiaf yn agos at yr Arglwydd, ac yn chwilio ei Air ef, ac yn disgwyl wrth ddysgeidiaeth ac arweiniad ei Yspryd mor glos a ninau; ac y maent yn bwyllog, ac wedi gwrando fy rhesymau i, yn ofn yr Arglwydd, yn methu gweled fel fi. Myfi, yn hytrach, a ofnaf fod yn anffaeledig, ac a ddisgwyliaf wrth yr Arglwydd, rhag i mi wneuthur terfysg yn ei waith ef, a blino ysprydoedd ei anwyl weision, y rhai oeddynt yn Nghrist o'm blaen i, ac wedi bod a'u bywyd yn eu dwylaw drosto, ac yn ei gyngor cyn ein geni ni yn ysprydol-y fath feddyliau a'r rhai hyn a fu fuddugol i mi yn fy mhrofedigaethau. Y mae fy enaid i, anwyl bererin, yn dy garu yn wresog, a chyda phob tiriondeb ac anwyldra brawdol yr wyf yn dyweddu.—Dy ostyngedig gydfilwr, How. Harris."

Wrth Rhisiart William Dafydd dywed: "Fy anwyl, anwyl frawd, er pan adnabûm i chwi gyntaf, yr ydych wedi bod yn anwyl i mi. Er nad wyf yn fy nghalon yn teimlo fy hun yn deilwng i olchi eich traed, goddefwch i mi ofyn genych er mwyn yr Iesu, yr hwn sydd anwyl genych, am ymdrechu cadw undeb yr Yspryd yn nghwlwm tangnefedd, a bod yn wyliadwrus rhag y gelyn cyffredinol, cyhuddwr y brodyr. Un corph ydym, ac ni all un aelod fod heb y llall, gadewch i ni gyd-ddwyn a'n gilydd. Mae'r gwaith yn fawr, a ninau yn anghymwys iawn iddo; gochelwn redeg o flaen ein gilydd. Gan obeithio eich bod yn credu fy mod yn ostyngedig yn eich gwir garu yn yr Arglwydd, fel eich brawd a'ch cydfilwr tlawd, dymunaf annerch yr holl ŵyn yn fy enw i."

Ysgrifenwr llythyrau heb ei fath oedd Howell Harris; teimlir cynhesrwydd ei galon yn mhob brawddeg o'r rhai blaenorol; ac nid rhyfedd i'r ddau frawd tramgwyddus doddi, a syrthio i mewn a'r trefniadau. Cawn John Richard yn y llwch mewn canlyniad, ac yn ysgrifenu llythyr edifeiriol i'r Gymdeithasfa nesaf: "Blin gennyf, anwyl frodyr," meddai, "ddarfod i mi sefyll yn gyndyn yn eich erbyn cyhyd. Credu yr wyf na wyr neb yn iawn, ond a gafodd brofiad, pa mor ddichellgar yw yr hen sarph, fel y bu gyda mi yn yr amgylchiad hwn, ac mor gyflawn oeddwn yn meddiant y diafol, fel y tybiais fod yn rhaid i chwi ymostwng i fy marn i. Ond yr wyf yn credu fod y diafol wedi twyllo ei hun. Bendigedig fyddo Duw, yr hwn a ddug ddaioni allan o ddrwg; oblegyd fe'm dysgwyd gan Dduw, fel yr wyf yn credu, i beidio byth eto a meddwl fod mwy o oleuni gennyf nag sydd gan holl blant Duw; ac heblaw hyn, fe fu yr amgylchiad yn gymorth i mi i sefyll yn erbyn yr un a'r unrhyw yspryd yn rhai o'r brodyr yn Llansamlet yn ddiweddar. Oddiwrth eich annheilwng frawd, John Richard."

Felly y terfyna cofnodau Trefecca am 1743; dygir y gweddill i mewn i'r hanes wrth fyned yn y blaen.



Nodiadau[golygu]