Neidio i'r cynnwys

Y Wawr

Oddi ar Wicidestun

gan Dafydd ap Gwilym

Uchel y bûm yn ochi,
Echnos y bu hirnos hi,
Echnos, dyn goleudlos gŵyl,
Wythnos fu unnos f’annwyl,
A bernos medd y beirniad,
A bair gwen heb ungair gwad.


Neithiwyr y bûm mewn uthur bwyll,
Nyf gain gyda nef gannwyll,
Yn mynnu tâl am anun,
Yn arnl barch yn ymyl bun.
Pan oedd ffyrfaf fy ngafael,
A gorau mhwynt gwren ei hael,
Uchaf len awch aflonydd,
Och wir Dduw nachaf wawr ddydd.


“Cyfod,” eb gewn len liwloyw,
“Cêl hyn, weldyna’r coel hoyw,
Deigr anial dy garennydd,
Dos i ddiawl, weldiso ddydd.”


“Hirfan dda hwyr fain ddiell,
Hyn nid gwir, hynny neud gwell,
Lleuad a roes Duw Llywydd,
A sêr yn ei chylch y sydd,
Hyn o dodaf henw didyb,
Honno y sydd dydd o dyb.”


“Gair honnaid, pei gwir hynny,
Paham y cân y frân fry ?”


“Pryfed y sydd yn profi,
Lluddio ei hun, ei lladd hi.”


“Mae cŵn dan lef ny dref draw
Ag eraill yn ymguraw.”


“Coelia fy nâg yn agos,
Cyni a wna cŵn y nos.”


“Paid â’th esgusawd wawdwas,
Pell boen a fynaig pwyll bas,
Wrth gael taith anthaith unrhyw,
Antur i’th ddydd anterth yw.
Er Crist, cyfod yn ddistaw,
Ac agor y dromddor draw,
Rhyfras camau y ddeadroed
Rhydaer yw’r cŵn, rhed i’r coed.”


“Ochan Nid pell y gelli,
A chynt wyf finnau no chi,
Oni’m gŵyl ffel ni’m delir,
O rhan Duw, ar hyn o dir.”
“Dywed di, fardd diwyd da,
Er Duw ym o doi yma.”


“Deuaf, mi yw dy oes,
Diau, ‘y nyn, o daw nos.”