Y mae hapusrwydd pawb o'r byd
Gwedd
← Newyddion braf a ddaeth i'n bro | Y mae hapusrwydd pawb o'r byd gan William Williams, Pantycelyn |
O Iesu mawr, y Meddyg gwell → |
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930 |
128[1] Angau'r Groes.
M. H.
1 Y MAE hapusrwydd pawb o'r byd
Yn gorffwys yn dy angau drud;
Hyfrytaf waith angylion fry
Yw canu am fynydd Calfari.
2 O holl weithredoedd nef yn un,
Y bennaf oll oedd prynu dyn;
Rhyfeddod mwyaf o bob oes
Yw Iesu'n marw ar y groes.
3 Darfydded canmol neb rhyw un,
Darfydded sôn am haeddiant dyn;
Darfydded ymffrost o bob rhyw—
'D oes ymffrost ond yng ngwaed fy Nuw.
William Williams, Pantycelyn
Ffynhonnell
[golygu]- ↑ Emyn rhif 128, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930