Ymado wnaf â'r babell
Gwedd
← Am graig i adeiladu | Ymado wnaf â'r babell gan Morgan Rhys |
→ |
670[1] Llawenydd yn wyneb Angau
76. 76. D.
1 YMADO wnaf â'r babell
'R wy'n trigo ynddi'n awr;
Colofnau'r tŷ ddatodir,
Fe'u cŵympir oll i lawr;
A pob gwahan-glwyf ymaith;
Glân fuddugoliaeth mwy!
'R wy'n canu wrth gofio'r bore
Na welir arnaf glwy'.
2 Fe dderfydd imi bechu,
Iacheir yn lân fy nghlwy',
Ond byth ni dderfydd canu
Am faddau pechod mwy;
Caf gorff yr hen farwolaeth
I lawr, na chyfyd byth;
Teyrnasaf gyda'r Iesu
Fry, oesoedd rif y gwlith.
Gweled Iesu yn y Nefoedd.
Morgan Rhys
Ffynhonnell
[golygu]- ↑ Emyn rhif 670, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930