Ymddarostyngwn dan law Duw:

Oddi ar Wicidestun

Mae Ymddarostyngom dan law Duw yn emyn gan Morris Davies (1796-1876)


Ymddarostyngwn dan law Duw:
Fe ddichon eto'n cadw'n fyw;
Er inni haeddu gŵg y nef,
Mae aml ymwared gydag Ef.


Cyfrannwr mawr y gwlith a'r gwlaw,
A phob rhyw fendith
inni ddaw,
O! cofia'n daear, clyw ein llef,
I'w mwydo â chawodydd nef.


Yr y'm yn beiddio gofyn hyn -
Ein holl gamweddau ymaith tŷn;
Bydd foddlawn ini byth er mwyn
Dy unig Fab, a gwrando'n cŵyn.


O! glawia ar y crindir crâs
Iachâ ein llesgedd trwy Dy ras;
Adfywia ein heneidiau gwyw,
Fel y moliannom Di, ein Duw.