Ymddiddan Rhwng Dau Fardd
Gwedd
gan Gwerful Mechain a Dafydd Llwyd
- Dywed ym, meinir, meinion - yw d'aeliau,
- mae d'olwg yn dirion;
- oes un llestr gan estron,
- a gwain hir y gannai hon?
- Braisg yw dy gastr, bras gadarn - tyfiad
- fal tafod cloch Badarn;
- brisne cont, bras yn y carn,
- brasach yw na membr isarn.
- Hwde bydew blew, hyd baudblin, - Ddafydd,
- i ddofi dy biden;
- hwde gadair i'th eirin,
- hwde, odoi hyd y din.
- Haf atad, gariad geirwir, - y macwy,
- dirmycer ni welir.
- Dof yn d'ol oni'm delir,
- y gwas dewr hael a'r gastr hir.
- Gorau, naw gorau, nag arian - gwynion
- gynio bun ireiddlan;
- gorau'n fyw gyrru'n fuan
- a'r taro, cyn twitsio'r tan.