Yn y Wlad/Ewenni
← Dyddiau Mafon Duon | Yn y Wlad gan Owen Morgan Edwards |
Dyffryn Banw → |
VII
EWENNI
CYN i lwydnos fer canol Mehefin daenu hedd a gorffwys ar Fro Morgannwg cefais fy hun yn disgyn i lawr i hen dref Penybont ar Ogwr. Bryd bynnag y dof yn agos at y lle, a phryd bynnag y clywaf yr enw, daw rhamant brudd Wil Hopcin i'm meddwl, a phedair llinell syml i'm cof,—
"Ym Mhen y Bont, ar ddydd y farchnad,
Cwrdd a 'nghariad wnes i 'n brudd ;
'Roedd hi'n prynu'r wisg briodas,
A'r diferyn ar ei grudd."
Ond nid gyda gofid serch Wil Hopcin a'r ferch o Gefn Ydfa y mynnai fy meddwl aros, ac ni chawn foddlonrwydd wrth wylio'r llanciau a'r gwyryfon dedwydd, ar eu taith i'r wlad, oedd yn dangos i mi y bydd bugeilio gwenith gwyn tra bo haf yn bod.
Gwyddwn fod Ewenni yn rhywle o'm blaen ar y gwastad y tu allan i'r dref, a throais fy wyneb yno. O hen etholfan sir Forgannwg dringais riw y dengys ei enw mai Cymreig fyddai'r dref, a dull ei sillebu fod llawer o ymseisnigo wedi bod ynddi. Cyrhaeddais drwy ystrydoedd culion heol weddol lydan ac union; ac ymlaen a mi hyd-ddi gan wrthod troi ar y dde i fynd drwy ganol y Fro i'r Bont Faen nac ar yr aswy dros hen byllau a thrwy gaeau gwair aroglus i'r Merthyr Mawr.
Wedi bod dipyn dan goed cefais fy hun toc ar y gwastadedd o gaeau gwair ac yd, a mwyn i mi oedd y persawr hyfryd ymgodai oddiar y fro lwys fel diolchgarwch y duwiol ddiwedd dydd. O'm blaen, ac ar dde ac aswy, yr oedd cylch o fryniau heirdd. Wrth eu gweled daeth pregethwr yn y pulpud i'm cof, ac oddiwrth enw Edward Matthews y deallais i gyntaf fod y fath le ag Ewenni'n bod. Gwelwn ef yn codi ei lygaid, yn edrych ar y gorwel, yn darlunio cylch y mynyddoedd acw â'i law, ac yn dangos i dyrfa ddychrynedig fel y mae dull y byd hwn yn myned heibio. Aros mae'r mynyddau mawr o hyd, beth bynnag welaf o amgylch Ewenni heno, ni welaf y wyneb pwyllog a'r llygaid craff y bu miloedd o Gymry mewn llesmair o ofn neu lawenydd ger eu bron.
Ar hyd y ffordd tynnwn ysgwrs â rhywun beunydd, oherwydd y mae Cymraeg Bro Morgannwg wrth fy modd i. Pan oeddwn yn croesi afon Ewenni, arosodd hogyn oedd ar ei ferlyn aflonydd, i ddweyd wrthyf mewn Cymraeg gloyw beth oedd enwau'r lleoedd welwn. ""Ewenni" y galwai yr afon. Afon araf a digynnwrf yw, ca llysiau dŵr gwyrddion ynddi dawelwch wrth eu bodd. Mor hyfryd yw clywed enw pur yr afon wedi darllen am "ewyn wy" y ffug ddysgedigion. Nid oes yma nac ewyn nac wy, mwy nag oes o frenin Basan ac wy yn afon Ogwr.
A dyma fi yn y pentref bach gwasgarog. Troais at dŷ prydferth y safai dwy enethig fochgoch wrth ei ddrws. Dychrynnodd fy Nghymraeg hwy, a daeth gofid i'm calon wrth feddwl y gall unrhyw Gymraeg seinio'n aflafar neu'n estronol yng Nghymru. Galwasant "mam," a chefais rhwng tair wybodaeth fanwl mewn Cymraeg cain am y ffordd at gapel Ewenni.
Troais ar y chwith, a chodai'r ffordd i fyny'n weddol serth. Fel yr esgynnwn ymddadlennai Bro Morgannwg yn raddol o'm blaen. Yr oedd distawrwydd dwys awr hûn, a lledneisrwydd pur yr hwyr, yn gorffwys ar lesni cang y wlad o'm cwmpas. Teimlwn, prun bynnag ai dan wên haul ynte'n pruddhau o'i golli, mai gwlad ardderchog yw.
O'r diwedd deuais at goed, ac yng nghysgod y coed safai capel. Dyma'r capel y cyrchai amaethwyr y wlad iddo i wrando ar feddyliau beiddgar y gŵr oedd yn un ohonynt, ac yn eu deall i'r dim. Ond mor unig yw, ac mor brudd. Mae llwydni'r nos yn cymeryd gwawr ddu yn awr, ond rhaid mai trymaidd yw'r capel ganol dydd. Tywyll a hagr yw gwydr ei ffenestri, a'u hamcan i guddio prydferthwch y dydd rhag y rhai sydd a'u meddwl ar wlad na raid wrth oleu haul na ser ynddi. Yn uwch ar fin y ffordd na'r capel y mae ystabl, a'r llecyn gwyrdd rhyngddi a'r capel wedi ei orchuddio gan dyfiant bras anfaethlon, a'i drws yn agored i bob crwydriaid budr esgymun i droi iddi. Nid rhoi rhaff i'm dychymyg yr wyf; clywais fod ystabl y capel yn noddi "show o dramps" pryd bynnag y goddiweddo'r nos hwy yn y gymydogaeth hon. Ni raid gofyn i ba enwad y perthyn y capel. Nid oes ond un enwad yng Nghymru, er ei urddas a'i drefn, sydd mor ddiofal am ei eiddo a hyn. Ni theimlais ddim erioed mor fud a'r capel hwn, wrth gofio am yr hyawdledd y bu'n gartref iddo. Ni welais unlle mor brudd ychwaith. Nid pruddle mynwent oedd, nid oes yno fynwent. Yr oedd y coed trymaidd, y gwydr digroeso, a'r chwyn tal yn gwneud yr addoldy yn ddarlun o anghyfanedd-dra. Ac eto, yn ei unigedd a'i brudd-der, yr oedd y capel yn syml ac yn urddasol. Hwyrach, o ran hynny, pe buaswn yno yng ngwres y dydd, y cawswn y prudd-der wedi troi'n gysgod adfywiol; ac y cawswn gipolwg ar eangder Bro Morgannwg o le cyn hyfryted ag Elim.
Gwych gan drigolion Ewenni son am Edward Matthews. Yr oedd gwraig radlon ganol oed, y bu ei rhieni yn eistedd wrth ei draed, "yn ei gofio fe'n nêt," ac yr oedd yn rhoi pris mawr ar ryw ddodrefnyn fu unwaith yn eiddo iddo. Dywedai un arall nad yw'r amaethwyr yn tynnu i'r capel ar lethr y bryn fel y byddent, nit oes pwer o aelote yno 'nawr." Ne, ne," ebe un wedyn, "nid yw crefydd yn awr y peth fydde hi yn y wled." Ond cytunent ar un peth, fod y pregethwr eto'n fyw ar y Fro ac ym meddwl pawb a wrandawai arno.
Troais yn ol, gan gofio yr hyn a wrandewais innan, yn blentyn ac yn llanc. Ar gwr y pentref cefais fy hun heb yn wybod yng nghanol twr o lanciau. Cyferchais hwy, yn ol fy arfer, yn Gymraeg. Medrai rhai Gymraeg da, a rhai Gymraeg carbwl, ni feddai rhai eraill ond olion ar eu Saesneg double negative. Ond cymerent ddiddordeb yn yr iaith Gymraeg. Esbonient i mi'r enwau Saesneg oedd ar fynegbost gerllaw, mai y Wig oedd Wick, ac mai Tregolwyn oedd Colwinston. Dywedent fod y plant i gyd yn dysgu Cymraeg yn yr ysgolion yn awr; ond daeth hynny "too late for us." ebe rhai ohonynt yn eithaf prudd.
Yr oedd yn nos haf pan gerddwn i Benybont yn ol. Ar y dde i mi, yn rhywle yn y tywyllwch, yr oedd priordy Ewenni. Clywswn lawer o son amdano. Benedictiaid a'u hadeilasent. Ar y gwastadeddau yr hoffent hwy fod, a chyda gerddi a pherllannoedd a gwartheg yr oedd eu diddordeb hwy; tra ar y mynyddoedd y byddai'r Cisterciaid, a'u bryd ar unigeddau a defaid a gwlan. Darllennais lawer am gyflwr yr adeiladau, gan ysgrifenwyr o adeg Gerallt Gymro hyd Ddafydd Morgannwg. A hoffaswn weled yr adeiladau fy hun. Ond yr oedd yn rhy hwyr i weled dim heno. Rhown raff i'm dychymyg i leddfu fy siom. Gwelwn yr eglwys yn cynnwys rhan o hen eglwys y mynachod; gwelwn furiau amddiffynfeydd ac addoldy'n gymysg; gwelwn yr eiddew'n araf ymlwybro dros ddaeargell a mur a thwr fel pe'n ceisio tyner guddio hanes yr hen amseroedd oddiwrth lygaid amseroedd gwell. A thros feddau hefyd, oherwydd y mae llawer o feddau Clare, Turberville. Carne, gorweddant yma'n ddigon llonydd, heb awydd am dir nac am ddial mwy. Ac yma y gorwedd y Maurice de Londres gododd fraich haearn dros ardal hoff Cydweli, ac a ddaeth allan o'i gastell i orchfygu a lladd Gwenllian, merch arwrol Gruffydd ab Cynan a gwraig Gruffydd ab Rhys; un gysylltai nerth y ddau deulu amddiffynnai Gymru. Ac ar fedd rhywun tebig i'r Maurice hwn y mae gweddi Ladin am i'r Arglwydd gymeryd trugaredd ar ei enaid. Yr oedd digon o eisio gweddio fel hyn wrth wely marw'r barwn Normanaidd, gŵyr pawb.
Tan feddwl, wele fi yn dod o'r nos i heolydd goleu a thorfeydd siaradus Penybont ar Ogwr. Y peth fynnai aros yn eglur yn fy meddwl oedd y capel bach unig ger y ffordd ar lethr y bryn.