Yn y Wlad/Llanelwedd

Oddi ar Wicidestun
Y Glynnoedd Aur Yn y Wlad

gan Owen Morgan Edwards

Bedd y Morwr

III

LLANELWEDD

AR gyfnos yn yr haf, cefais fy hun yn Llanfairmuallt. Bum yn crwydro orig ar drumau'r twmpathau gleision,—yr oll sy'n aros o'r castell hardd y denwyd Llywelyn ato pan oedd haul anibyniaeth Cymru eto heb fachlud. Yr oedd yn ddiwrnod ffair; llenwid yr heolydd â hoglanciau hanner meddw, a'u bryd ar dynnu ysgwrs ynfyd â'r dyn 'dieithr prudd a blinedig. Ac ar y llecyn glas hyfryd sydd ar lan afon Gwy nid oedd nodded; yr oedd yno saethu, ac ymsiglo, a merry go round i sŵn byddarol peiriant. O'i gymharu â sŵn y peiriant hwn, buasai ffrae rhwng brain a moch yn gerddoriaeth.

Trois fy llygaid hiraethus at y bont hir sy'n croesi afon Gwy, ac yn arwain o sir Frycheiniog,— oherwydd ar ymyl y sir y saif Llanfairmuallt,—[1] sir Faesyfed. A thraw, ar y dde, gwelwn eglwys yn sefyll, yn dlos ac yn dawel, ar fin yr afon ddolennog. Mi gerddaf tuag acw," ebe fi wrthyf fy hun, feallai fod hanes rhyw hen bererin wedi ei gerfio ar garreg acw yn Gymraeg, ac y caf ryw gipolwg ar fywyd Maesyfed cyn iddi newid ei hiaith."

Cerddais yn araf dros y bont, ac hyd y ffordd wastad, nes cyrraedd mur y fynwent. Yr oedd y ffordd yn llychlyd a'r awyr yn llethol; ond yr oedd arogl hyfryd y gwair meillionog, oedd newydd ei ladd yn y caeau oddiamgylch, yn llenwi'r wlad. Sefais ennyd, yno ar fin y ffordd, ger y mur, i weld pobl Maesyfed yn mynd adre o'r flair. Dacw un yn dod ar ferlyn hoyw, ar garlam wyllt hyd y ffordd wen hir. Tra mae'r ceffyl yn mynd ymlaen ar garlam, y mae'r gyrrwr yn hercian o ochr i ochr, a'r syndod yw, sut y mae'n medru cadw heb syrthio? Golygfa ddigrifol i'r eithaf, oni bai fod arnoch ofn gweld ei hyrddio i dragwyddoldeb bob munud, yw gweld dyn meddw'n ceisio ymdaro ar gefn march carlamus. Prin yr oedd o'r golwg na welwn ddau lencyn yn dod, pob un ar ei geffyl haearn, a'u pennau'n rhy drymion i fedru cadw eu lle ond drwy gydio yn ei gilydd, a phwyso y naill yn erbyn y llall. Pe digwyddai ffrae godi, nid aent adre y noson honno. Ar eu holau dacw res o fechgyn yn dod, yn llond y ffordd. a'u traed afrosgo yn codi cwmwl o lwch i'w dilyn. Yn y pant draw ni welaf ond eu pennau, yn codi ac yn gostwng fel cyrc ar donnau. Och o'u haraeth! Yr oeddynt yn tyngu ac yn rhegu'n echrydus; ond distawasant beth, er coched eu hwynebau gan ddiod, wrth fy mhasio i a'r fynwent. Ni ddychrynnodd eu rhegfeydd fi; ond tarawodd. peth arall fi ag arswyd. Draw, o ael y bryn, clywn eu lleisiau bloesg, mewn cymysgfa anhyfryd yn y gwyll, yn nadganu,—

"Lead, kindly light, amidst the encircling gloom,
Lead Thou me on."

Nid oedd arnaf awydd am weled ychwaneg o wyr byw Maesyfed y noson honno; a throais fy llygaid at orweddle'r marw distaw yr ochr arall i'r mur. Yr oedd y glwyd yn gloedig, ac nid oedd dŷ clochydd. yn y golwg. Yr oedd y persondy gerllaw, ond nid oedd i mi gyfathrach â'r person, ac ni fynnwn flino dyn dieithr. Edrychais ar y wal; ni welais erioed wal mor fer. Edrychais ar fy nghoesau; ni sylweddolaswn erioed eu bod cyn hired. A fuasai'n iawn camu dros y mur? Tawelais fy nghydwybod trwy ei hysbysu y dylai pob mynwent ac eglwys fod yn agored, fel y maent ar y cyfandir, fel y medro'r myfyrgar a'r duwiolfrydig gael encilfan. Hwb a cham, a dyma fi drosodd. Ond, yr achlod fawr! Beth yw'r bwystfil sy'n ysgyrnygu arnaf? Ni welais beth hyllach erioed; a hanner feddyliais fod cabledd y llanciau meddwon wedi deffro un gŵn Annwn. Ond, wedi syllu arnaf am ennyd, distawodd y ci. Gwelodd fy mod yn debig i'r rhai defosiynol fyddai'n dod i'r eglwys ar y Sul, ac nid yn debig i dramp llechwraidd gyrchai at gefn tŷ'r person yn y nos. Llonnodd ei lygaid, daeth peth harddwch i'w wep anaearol; a bu'n sefyll fel delw yn gwylio fy symudiadau, ac yr oedd yn amlwg yr edrychai arnaf fel ffrynd.

Mynwent hyfryd yw mynwent Llanelwedd. Dolenna afon Wy gyda'i hymyl, gan furmur a sisial ar unwaith—nid oes daw ar felys ddwndwr y dŵr wrth fynd heibio. Draw, dros yr afon, cyfyd panorama ardderchog o fynyddoedd sir Frycheiniog, a Llanfairmuallt yn nythu wrth eu traed, i'w gweled oddiyma dros drofa brydferth yng nghwrs yr afon. Y tu cefn ymgyfyd bryniau Maesyfed yn serth, a'u llechweddau'n gartref rhedyn ac ysgaw. Mae arogl y gwair, dwndwr yr afon, distawrwydd y mynyddoedd pell a'r marw agos, yn gwneud y fynwent yn gartrefle myfyrdod a hedd.

Crwydrais ymysg y beddau, ond ni chefais air O Gymraeg,—bennill nac adnod. Ni welais feddargraff Cymraeg yn sir Faesyfed eto. Gwelais un Groeg ar feddrod athrawes fu farw'n ieuanc, adnod briodol, yn meddu mwy o fiwsig yn Gymraeg nag yn y gwreiddiol,—"Gwyn eu byd y rhai pur o galon, canys hwy a welant Dduw." Nid oedd sir Faesyfed wedi ymseisnigo cyn teimlo peth o'r diwygiad a'r dadeni; rhaid i mi chwilio mynwentydd eraill.

Ond y mae aml enw lle Cymraeg ar y cerrig, Goetre, Maes Pengoch, Noyadd Fach, Neuadd, Cwm Bach. "Penbenkin,"—dyna ddechre Seisnigo; "Cwmshepherd,"—dyna waeth.

Dyma feddrod hen deulu o uchelwyr fu gynt yn meddu Abaty Cwm Hir. A beth yw'r garreg yma a'r llun arni? Llun merch yn gorwedd fel mewn hûn ydyw, ac angel yn codi ar edyn ysgafn oddiwrthi. Methwn beidio credu i mi weled y llun o'r blaen, er na fum erioed yn y fynwent hon cyn heno. O'r diwedd cofiais ei fod yr un fath yn union a "Breuddwyd Olaf" Joseph Edwards. Dyma sydd ar y garreg.—

THY WILL BE DONE

SACRED

TO THE MEMORY OF

ANNA.

I WILL ARISE AND GO

TO MY FATHER."

This tablet was erected

by one who knew her worth.

Gymaint y mae'r garreg yn awgrymu, ac mor ychydig mae'n ddweyd. Rhyw hanner ddatguddio ei chyfrinach yr oedd pob carreg; a gadewais y fynwent hyfryd a'm meddwl yn llawn o gwestiynau na allwn eu hateb.

Drannoeth, dydd heulog tyner, tarewais ar berson Llanelwedd. Cefais ef yn Gymro aiddgar ac yn hanesydd ymchwilgar a medrus. A danododd fy nghydwybod i mi mai hi oedd yn iawn, ac na ddylaswn fod wedi hanner lechu yng nghysgod yr ywen, oedd rhyngof a ffenestr y person, wrth gamu tros y mur. Nid oeddwn wedi sylweddoli. hyd y munud hwnnw, fy mod wedi gwneud hyn. Addefais y trosedd wrth y person, gan gynnil awgrymu y dylai'r glwyd fod yn agored. Dywedodd yntau i'r fynwent a'r eglwys fod yn agored am ddwy flynedd. Ryw nawn tesog aeth Fandaliaid yno, a gadawsant fwg halog eu tybaco i lenwi'r eglwys. Ni oddefai'r plwyfolion i'r eglwys fod yn agored mwy. A phwy all eu beio?

C'efais ramant bywyd Anna hefyd. Flynyddoedd yn ol syrthiodd bachgen o deulu cyfoethog mewn cariad a geneth dlawd. Gwnaed cyfamod cariad rhyngddynt. Pan glywodd tad y bachgen, ffromodd yn aruthr, a dywedodd y di-etifeddai ef oni roddai yr eneth brydferth i fyny. Adroddodd yntau ei helynt wrth yr eneth; ac, er ei fwyn ef ac er ei waethaf, mynnodd hithau ei ryddhau o'i addewid.

Aeth blynyddoedd heibio. Daeth ef yn ŵr enwog, a phriododd; arhosodd hithau'n eneth dlawd. Ar ryw neges, ymhell o'i bro, digwyddodd hi fod yn teithio drwy Faesyfed. Pan yn ymyl Llanelwedd bu farw'n sydyn ar y ffordd, o glefyd y galon. Ac yma y claddwyd hi, ymysg pobl o Faesyfed, pobl garedig, naturiol, a rhadlon; er fod ganddynt ambell goll.

Ymhen blynyddoedd wedyn, daeth yr eneth aberthodd ei hun er ei fwyn, i gof y gŵr enwog, ac efe erbyn hyn a phlant wedi priodi. Holodd am dani. Daeth yma i weled ei bedd; ac efe osododd y garreg y bum yn syllu arni neithiwr.

Nodiadau[golygu]

  1. O'r gair Buallt y daw'r enw Seisnig Builth. "Bilt" y swnnir ef yn sir Faesyfed.