Yn y Wlad/Plu'r Gweunydd

Oddi ar Wicidestun
Bedd y Morwr Yn y Wlad

gan Owen Morgan Edwards

Dyddiau Mafon Duon

V.

PLU'R GWEUNYDD[1]

Ychydig sy'n cofio haf mor ogoneddus a'r haf sy'n awr yn cilio i fysg hen hafau ein bywyd.[2] Haf goludog heulog ar y mynyddoedd,—beth sy'n well darlun o'r nefoedd na hynny?

Yn ystod ei ddyddiau euraidd hyfryd, gwnaeth haf eleni un gymwynas neilltuol â mi. Gwnaeth Gymru oll yn brydferth i'm golwg. Cyn hynny, yr oedd un llecyn nad oeddwn wedi gweled ei brydferthwch. Yr oedd yn rhaid i mi fyned heibio iddo droeon bob blwyddyn, bodd neu anfodd. Deuai iasau oerion drwof wrth feddwl am dano. Eto nid oeddwn wedi cwyno wrth neb fod un llecyn, yng nghanol Cymru, mor hagr i'm llygaid fel yr ofnwn edrych ymlaen at yr adeg y byddai raid i mi fynd heibio. Yr oedd cyfeillion i mi'n mynd heibio'n amlach na mi; ond ni chlywais hwy'n cwyno erioed. Y mae un o hen ysgolion enwocaf Cymru'n edrych i lawr ar y llecyn gashawn, ond ni lethwyd athrylith ei hysgolheigion gan ddwyster trymaidd yr olygfa. Bu rhai o feirdd mwyaf melodaidd Cymru yn byw ar ei ymylon, ond ni ddistawyd eu hawen hwy ac ni oerwyd eu gwladgarwch gan drem oerllyd y lle. A dyma finnau'n teimlo'm gwaed yn fferru, a'm meddwl yn crebachu, a phob teimlad gwladgarol yn oeri, wrth fynd heibio. Cors goch glan Teifi oedd y fan.

O orsaf Ystrad Fflur i orsaf Tregaron rhed y ffordd haearn dros gyrrau neu hyd finion cors am dros bum milltir o ffordd. Ar y chwith, wrth deithio tua'r de. ceir y mynyddoedd eang.—Berwyn canolbarth Cymru, sy'n gwahanu dyffryn Teifi oddiwrth gymoedd uchaf Claerwen a Thowi, a'u hafnau mynyddig mwynion. Ar y dde gwelir llethrau'r Mynydd Bach, a'i ffermdai clyd ar y godrau a'r llechweddau, a'i hanes yn ddiddorol o'r amser y cerddai llengoedd Rhufain ei Sarn Helen hyd ddyddiau yr athrawon a'r beirdd a'r efengylwyr roddodd fri ar ei bentrefydd,—Lledrod, Bronnant, Blaen Pennal, Penuwch, a Llangeitho.

Ond rhwng y mynyddoedd hyn gorwedd y gors farw, oer. Ar ei gwastadedd hi ni thyf blodau gweirglodd a gwndwn Cymru. Yn ei mynwes leidiog ddu cyll aberoedd Cymru, eu dwndwr mwyn a'u purdeb grisialaidd; yn lle ymuno âg afon fordwyol neu gyrraedd môr heulog, collir golwg arnynt yn y gors hagr,—Marchnant a Glasffrwd a Fflur a Chamddwr a'u chwiorydd llawen. Nid oes ffordd yn ei thramwy; craffwch o'r tren, ac ni welwch lwybr ar ei thraws o Ystrad Meurig i Dregaron. Nid yw'n llyn ac nid yw'n ddôl; ond y mae'n llenwi lle fuasai'n llyn tlws neu'n ddôl brydferth, ac y mae wedi cyfuno ynddi ei hun bopeth sy'n anhardd mewn dŵr a thir, a dim sydd hardd. Y mae hen ffyrdd dynion fel pe'n gochel, ac y mae'r ffordd haearn yn myned heibio iddi gan ei hosgoi.

I'm meddwl i, cyfunai bopeth wna aeaf a mynydddir yn anghysurus,—tir gwlyb didramwy, pyllau oerion lleiding, ambell goeden ddi—ffurf yn dihoeni, diffyg blodau a diffyg bywyd. Ai cryndod drwy'm enawd wrth ei gweled, fel pe bawn yn edrych ar Lyn Cysgod Angeu. Ond ni fedrwn beidio edrych arni wrth fynd heibio. Er fy ngwaethaf ni allwn dynnu fy llygaid oddiarni, yr oeddwn fel pe tan ei swyn oer. Wedi cyrraedd Tregaron, teimlwn fel pe bawn wedi cael fy nhraed ar dir—sych, yn oer a gwlyb, wedi bod yn ymrwyfo am oriau drwy laid. Ac ym mreuddwydion y nos cawn fy hun yn graddol suddo i'w mwd lleidiog du.

Ceisiais lawer gwaith ymryddhau oddiwrth yr atgasedd ati. Sefydlwn fy ngolwg ar ei theisi mawn. Ceisiwn ddychmygu am aelwydydd y ffermdai oddiamgylch yn y gaeaf, a'u tân mawn glân, siriol, a'u dedwyddwch yn dod o garedigrwydd y gors. Ond ofer oedd fy ymdrech. Llithrai fy meddwl yn ol er fy ngwaethaf at laid sugndynnol ac ymlusgiaid ffiaidd ac anobaith bywyd.

Pan ddanghosodd haf eleni ogoniant newydd i mi mewn golygfeydd ystyriwn yn berffaith o'r blaen, a phan ddanghosodd berffeithrwydd lle y tybiwn i fod amherffeithderau gynt, trodd fy meddwl at Gors goch glan Teifi. Tybed ai yr un oedd hi o hyd wedi wythnosau o sychter haf? A orweddai'n drom, wleb, farw, gan wrthod adlewyrchu dim o olud lliwiau a bywyd yr haul? Penderfynais fynd heibio iddi, rhag fod iddi hithau ei blodau. Unwaith newidiodd blodeuyn wedd gwlad i mi. Hwnnw oedd blodyn melyn dant y llew; gwnaeth amgylchoedd Glasgow, lle lleddir blodau eraill gan fwg y gweithydd, yn hyfryd â'i wên siriol.

Fel arfer, daethum hyd ddyffryn gwyrdd hyfryd Ystwyth. Yr oedd y gwres yn llethol, oherwydd mis Gorffennaf oedd hi. Yr oedd y gwair ysgafn yn sychu'n grin bron newydd ddisgyn oddiwrth y bladur, yr oedd pawb yn dianc i'r cysgod rhag y gwres. Oddiar ael y bryn, lle dringai'r tren dan goed hyfryd eu cysgod, gwelem danbeidrwydd yr haul ar y dolydd odditanom ac ar y bryniau a'r dyffrynnoedd draw. Toc daethom i ben y tir, lle y bu Ieuan Brydydd Hir yn hiraethu am dano,—

"O, Gymru lân ei gwaneg,
Hyfryd yw oll, hoyw—fro deg!
Hyfryd, gwyn ei fyd a'i gwel,
Ac iachus yw, ac uchel;
Afonydd yr haf yno,
Yn burlan ar raean ro,
A redant mewn ffloyw rydau,
Mal pelydr mewn gwydr yn gwau."

Dacw ysgol Ystrad Meurig ar ael y bryn. Mor hoffus oedd bywyd yr athraw Edward Richard, ac mor felys yw ei fugeilgerddi ar y mesur tri tharawiad. Bob tro y dof i'r llecyn hyfryd hwn, daw ei linellau melodaidd i'm meddwl, a hefyd y cof iddo. unwaith adael ei ysgol am flwyddyn oherwydd fod ei gydwybod yn dweyd y dylai ddysgu ychwaneg. Ac yn awr wele'r gors o'n blaen, ac yr ydym ninnau ar ei minion.

A rhyfedd iawn, wele hi, nid yn ddu a thrist fel arfer, ond yn wen fel pe bai dan gaenen o eira. Nid eira mo hono, gwyddwn hynny'n dda, ar haf fel hwn. Yr oedd y gwynder yn fwy cain na gwynder eira, yr oedd yn wyn cynnes disglair hefyd, gwyn fel gwyn edyn angylion oedd. Nid oedd y gors yn wen i gyd, ond yr oedd y llanerchau gwynion oedd hyd—ddi fel pe'n taenu eu purdeb gwyn a chynnes hyd y banciau a'r mawnogydd i gyd. Yr oedd y ffosydd wedi eu gwedd newid dan wên heulog yr haf, nid oedd eu duwch yn edrych yn hagr na'u dŵr yn oer. Yr oedd golwg gartrefol groesawgar ar y teisi mawn, dygent i gof y mwg glas fydd yn esgyn o simneiau bythod Cymru ar nawn haf. Yr oedd y gors wedi ei gweddnewid.

Plu'r gweunydd, hen gyfeillion mebyd i mi, oedd wedi gwneud y gwaith. Yr oeddynt yno wrth eu miloedd, yn llanerchi o wynder ysgafn, tonnog, byw, heulog. Hwy roddodd i'r hen gors ddu hagr ei gogoniant gwyn. Yr oedd eu plu tuswog yn llawnion, ac eto'n ysgeifn. Gwyddwn mor esmwyth yw eu cyffyrddiad, un o bleserau mebyd oedd eu tynnu ar draws ein bochau. Ond ni welais hwy erioed yn edrych mor ieuanc, a'u gwyn mor gannaid, a'u hysgogiadau mor fywiog. Yr oedd yr awel ysgafnaf yn gwneud iddynt wyro, fel pe baent filoedd o angylion yn addoli. Yna'n sydyn taflent eu pennau'n ol, ac ysgydwent, fel pe baent dyrfaoedd rianedd mewn gwisgoedd gwynion yn dawnsio. A thoc ymdawelent, a gorffwysent yn eu gogoniant, dan adlewyrchu goleu'r haul, yn esmwythach ac yn burach goleu na phan y disgynnai arnynt. Tybiwn fod y bryniau a'r mynyddoedd o amgylch yn codi y tu ol i'w gilydd i edmygu plant angylaidd y gors, a bod llwybrau dynion yn cadw oddiwrthynt rhag torri ar heddwch mor dyner a difwyno tlysni mor bur. Yr oedd cyfuniad o wynder, disgleirdeb, a chynhesrwydd yn y fan olaf yng Nghymru y buaswn yn mynd i chwilio am dano.

Daeth llond fy nghalon o ddedwyddwch. Yr oeddwn mewn heddwch â'r lle na hoffwn gynt; yr oedd pob llecyn yng Nghymru yn awr yn brydferth i mi. A'r dydd hwnnw sylweddolais lawenydd y ddynol ryw pan welodd gyntaf dlysni hedd y mynydd, y rhostir, a'r môr. Yn llenyddiaeth Lloegr, beth bynnag, diweddar yw'r gwelediad hwn. Nid oes yn Shakespeare a Milton gydymdeimlad a mawredd y mynydd, ag eangder y rhostir maith, â bywyd diflino'r môr; edrychid arnynt fel pethau aruthr ac ofnadwy. Ond danghosodd Gray fawredd y mynyddoedd, a Cowper brydferthwch pruddglwyfus y tiroedd gwastad, a Collins swyn yr anialwch, a Byron ardderchowgrwydd y môr. phan ddanghosodd Wordsworth i'w genedl holl dlysni natur wyllt, daeth dyn i heddwch â'r hyn a ofnai gynt; a daeth i'w galon lawenydd fel y llawenydd hwnnw deimlais i pan ddanghosodd plu'r gweunydd imi brydferthwch y gors.

Cododd awydd arnaf am aros yn nyffrynnoedd Ceredigion, i lenwi f'enaid â thlysni. Crwydrais i lawr dyffryn Teifi, i weled ei bethau prydferthaf. Yr oedd y dŵr ddaethai heibio i blu'r gweunydd o'r gors yn glir fel y grisial, ac yr oedd dwndwr Teifi mor felys a chywyddau Dafydd ab Gwilym,—

"Teifi lân, man y ganwyd
Dafydd y prydydd, pur wyd;
Dy lif, y loywaf afon
Fal Dafydd y sydd yn son."

Y rhan fwyaf arbebig i gors Caron ar gwrs afon Teifi yw y dyffryn swynol o Landyssul i'r môr. Pe cychwynem yn hamddenol o Landyssul i lawr yr afon, caem olygfeydd digymar pan fo lliwiau'r haf ar y wlad. Yn Llandyssul daw cof am Wilym Marles, am ei fywyd egniol a'i awen leddf. Newydd adael yr orsaf, aiff y tren drwy agorfa gul yn y mynydd, lle mae'r afon wedi torri llwybr trwy'r creigiau. Yna ymegyr o'n blaen ddyffryn coediog, goludog o wair ac yd. Yr oedd arogl y gwair yn persawru pob awel. Yr oedd yr amaethwyr wedi codi'n fore, ac yr oedd gwair caeau cyfaeon yn ei ystordiau, a chribiniau llanciau a morwynion yn eu prysur daenu. Wrth sychu, llenwid y wlad â sawr hyfryd y gwahanol ddail. Rhwng y lliwiau a'r peraroglau, hawdd oedd meddwl fod tlysni dyffryn Teifi'n berffaith. Buom yn ymdroi'n hir yng Nghastell Newydd Emlyn. Gwelsom y castell ar ei fryncyn, a'r afon yn troi o'i amgylch, a'i furiau cadarnaf, sef y rhai oedd yn wynebu'r gorllewin diamddiffyn, eto'n aros. Gwelsom y wennol yn llaw'r gwehydd diwyd, a'r brethyn cartref yn graddol ymestyn; mewn ychydig iawn o leoedd yng Nghymru'n awr y clywir sŵn y wennol hon. Gwelsom Drefhedyn, ar ochr sir Aberteifi i'r afon, lle bu'r argraffu cyntaf yng Nghymru. Gwelsom gapel y Parch. Evan Phillips, yr oeddym newydd weled cynulleidfa fawr Sasiwn y Bala yn foddfa o ddagrau wrth wrando ar ei lais mwyn yn rhoddi neges yr efengylydd yn null meddwl bardd. A chawsom gysgu yn sŵn dwndwr afon Teifi.

Yn blygeiniol iawn cychwynasom ar hyd y ffordd tua'r môr. Cyn hir daethom o goed i'r wlad agored. Ar y chwith i ni yr oedd ochrau sir Gaerfyrddin, cymoedd byrrion coediog, y llethrau oll yn llwythog o wair ac yd; a bryniau pell, oll dan lafur, y tu hwnt iddynt. Ond, er ardderchoced yw golygfeydd sir Gaer yn y pellter, y mae i'r dyffryn odditanom swynion mwy. Daethom i Genarth, lle mae'r afon yn dawnsio o graig i graig o gwm cul, a gwelsom un o'r pentrefydd tlysaf yng Nghymru. Ond hyd yn oed yma gwelsom dai gweigion ac adfeiliedig, y mae'r bobl yn gadael hyd yn oed y lle paradwysaidd hwn. Wedi dilyn tro yn yr afon, daethom i olwg dyffryn cul hir, yn mynd ymhell i'r bryniau ar y chwith. Ynddo y mae enw Pontseli yn dod a Herber Evans i'r meddwl, pan oedd yn swyno gwlad wrth son am glod David Livingstone a Florence Nightingale yn mynd "hyd ymhell." Ac mae enw'r dyffryn.—Glyn Cuch.—yn dod ag un o'r mabinogion mwyaf swynol i'r cof. Onid yma y daeth Pwyll, ac onid oddiyma y cychwynnodd, "yn ieuenctid y dydd," i'r anturiaethau wna i'r ieuanc ddal ei anadl, hyd yn oed yn yr oes faterol hon, wrth ddarllen eu hanes? Ac y mae'r dolydd gleision, dros yr afon lonydd heddychlon, dan niwl teneu'r bore, yn lle y gallasem bron ddychmygu gweled y ddwy erchwys o gŵn hela yn cyfarfod ei gilydd. pan gyfarfyddodd Pwyll ac Arawn.

Fel mae'r haul yn gwasgaru'r niwl, mae hyfrydwch y dyffryn yn ymddadlennu. Y mae'r ffermdai gwyngalchog yn fflachio fel gemau o'u hymylwaith o goed gwyrddion. Y mae sir Benfro ar ein chwith yn awr. Dros yr afon a'r coed a'r caeau llechweddog gwelwn fynyddoedd tawel gleision, llwydion, pell. Dywedir wrthym ein bod yn gweld y Frenni Fawr dan haul y bore.

Os gofynnir enw'r eglwys sy'n sefyll mewn man mor hyfryd ar drofa'r afon draw, atebir mai Manor Deifi. Yn y fynwent acw y gorffwys Alun, y melusaf o feirdd Cymru, un yr oedd ei awen yn debig iawn i ysbryd y fro dyner a glwys hon.

Lle tlws iawn yw Llechryd, lle mae llawer cwrwgl ger yr afon lonydd, a phont yn croesi i Gilgeran. Oddiyno mae'r ffordd yn sythach na'r afon. Dolenna'r afon yn hamddenol heibio i gastell Cilgeran, ceidw'r ffordd ei huniondeb hyd y tir uchel. Ar y llechwedd o'n blaen gwelwn laweroedd o dai gwynion ar lechweddau hyfryd. Llandudoch yw, y tu draw i'r afon. Yr ydym ninnau'n disgyn yn gyflym yn awr at yr afon eto. A dyma ni yn cyrraedd tref lân a phrydferth Aberteifi. Nid oes gennyf eiriau i ddarlunio golud tlysni dyffryn Teifi. Ond er teced yw bronnydd Llandyssul, er maint swyn Castell Newydd Emlyn, er fod y wlad ar ei thlysaf yng Nghenarth a'r môr ar ei hawddgaraf yn Aberteifi, ehed fy meddwl yn ol at blu'r gweunydd yn y gors a ofnwn gynt. Hwy yw plant pur y mynyddoedd, lle mae'r awel iach yn deffro'r meddwl, ac yn rhoi hoen yn lle suo i gwsg.

Yr wyf yn cofio imi, pan yn fachgen, orfod mynd heibio mynwent yn y wlad tua hanner nos ar ddiwedd taith hir. Yr oedd bachgen hŷn na mi gyda mi, a gofynnais iddo a oedd arno ofn. "Nac oes," oedd yr ateb syml, "y mae mam yn gorwedd yna." Pan af finnau heibio i Gors goch glan Teifi eto, ni theimlaf fy ngwaed yn oeri. Gwn fod yno'n huno filoedd ar filoedd o blu'r gweunydd, ac y deffroant pan ddaw pob haf, ac y bydd y gors yn llety mwyn a chynnes i angylion.

Nodiadau[golygu]

  1. Yr wyf yn gobeithio na themtia pennawd yr ysgrif hon yr un llysieuydd i'w darllen. Nis gwn, cyfaddefaf yn rhwydd, ai Eriophorum vaginatum ai Eriophorum polystachyum welais yn y pellter.
  2. Ym mis Gorffennaf 1911 yr ysgrifennwyd yr erthygl hon.