Yr Adarwr

Oddi ar Wicidestun

gan Dafydd ap Gwilym

Adarwr o rew dwyrain
Neu heod, eiry gawod gain,
Ym mrisg y dyd, amraisg, dioer,
Ym mron, wiwlon acafloer,
O daw, gwrthlys melgawad,
Ganthaw, a’u rhwydaw yn rhad,
Glud wiail a glydwyan’
Glannau gloyw ffynhonnau glân
Pan ddêl edo, poen ddeiliadaeth,
I Fôn gyfagos dros draeth,
Yr adnebydd, drarydd dro,
Dirionwch dyfrdir yno.
Disgyn a wna od ysgyg,
Ei blu mewn dyfrlud a blyg,
Oni ddêl, cof ryfel cawdd,
Llawr’r hwyliwr a’i llwyr heliawdd.


Felly y gwnaeth, gwyfoliaeth dad,
Da y’m cur, Duw â’m cariad,
Mal eiry y rhiw, lliw llywy,
Wyneb bun, mi a wn pwy.
Ffynhonnau difas glasddeigr,
Yw gloywon olygon Eigr,
Aeron glân, dirperan’ glod,
Eurychaeth Mab Mair uchod.
Cannoch fi, (pam y’m cenynt?)
Caeau Duw, nad caed ynt!
Glynodd serch a golwunwyf,
Rhwym y glod yrhôm o glwyf.
Drud ofeg, diriaid afael,
Nid â i ar fynod ael
Pelrlys pen cytgamus pwyll,
Meddwdod y llygaid modd-dwyll,
Mwy nog edn, mynawg ydyw,
O’r glud llaes, mawrglod ei lliw.


Hir gariad dybrydiad bryd,
Pwyll dirgel, pell yw d’ergyd.
Ei meinion dduin ddwyael
Yw’r gwiail glud, golud gael.
Mwy ar ddyn ael blu mwyalch
No llinyn saer ar gaer galch.
Breinawlwedd wybren eilun,
Hydraul bwyll, hyd ar ael bun,
Haulwyd, cadwynwyd cof,
Haul dawn, hoelied ynof.