Yr Adfail
Gwedd
gan Dafydd ap Gwilym
- “Tydi, y bwth tinrhwth twn,
- Yrwng weundir a gwyndwn,
- Gwae a’th weles, dygesynt,
- Yn gyfannedd gyfedd gynt,
- Ac a’th wŷl heddiw’n friw frig
- Dan do ais, dwyndy ysgig;
- A hefyd ger dy hoywfur
- Ef a fu ddydd, cerydd cur,
- Ynod, ydd oedd ddiddanach
- Nog yr wyd, y gronglwyd grach,
- Pan welais, pefr gludais glod,
- Yn dy gongl un deg yngod,
- Forwyn, bonheddig fwyn fu,
- Hoywdwf yn yonghydu,
- A braich pob un gofl fun fudd,
- Yn gwlm arngylch ci gilydd;
- Braich meinir, briwawch clod;
- A’m braich innau, somau syml,
- Dan glast asw dyn glwys disyml
- Hawddfyd gan fasw i’th laswydd,
- A heddiw nid ydyw’r dydd.”
- “Ys mau gŵyn, geirswyn gwersyllt,
- Am hynt a wnaeth y gwynt gwyllt.
- Ystorm o fynwes dwyrain
- A wnaeth gur hyd y mur main.
- Uchenaid gwynt, gerrynt gawdd,
- Y deau a’m didoawdd.”
- “Ai’r gwynt a wnaeth helynt hwyr?
- Da y nithiodd dy do neithiwyr.
- Hagr y torress dy esyth;
- Hudol enbyd yw’r byd byth.
- Dy gongl, mau ddeongl ddwyoch,
- Gwely ym oedd, nid gwål moch.
- Doe’r oeddud mewm gradd addwyn
- Yn glyd uwchben fy myd mwyn;
- Hawdd o ddadl, heddiw’dd ydwyd,
- Myn Pedr, heb na chledr na chlwyd.
- Amryw bwnc ymwnc amwyll,
- Ai hwn yw’r bwth twn bath twyll?”
- “Aeth talm o waith y teulu,
- Dafydd å chroes; da foes fu.”