Yr Annerch
Gwedd
gan Dafydd ap Gwilym
- Annerch, nac annerch, gennad,
- Ni wn pwy, gwraig macwy mad.
- Arch i'r ferch a anerchais.
- Ni wn pa beth rhag treth trais,
- Ddyfod yfory'n fore,
- Pŵl wyf, ac ni wn pa le.
- Minnau a ddof, cof cawddsyth,
- Ni wn pa bryd o'r byd byth.
- O gifyn hi, gyfenw hawdd,
- Poen eirchiad, pwy a anerchawdd,
- Dywed dithau dan dewi,
- Ysgoewan wyf, "Nis gwn i."
- O gwely deg ei golwg,
- Er nas gwelych, nid drych drwg,
- Gwiw loywbryd haul goleubrim,
- Ar dy gred na ddywed ddim.