Yr Arglwydd biau'r ddaear lawr
Mae Yr Arglwydd biau'r ddaear lawr yn emyn gan Edmwnd Prys (1544 - 1623)
Yr Arglwydd biau'r ddaear lawr,
A'i llawnder mawr sy'n eiddo;
Yr Arglwydd biau yr holl fyd,
A'r bobl i gyd sydd ynddo.
Cans ef a roes ei sail a'i gwedd
Yn rhyfedd uwch y moroedd
Ac a'i gosododd hi yn lân,
Yn drigfan uwch llif-ddyfroedd.
Er hynny, pwy a ddringai'n hy
I gysegr fry yr Arglwydd?
A phwy a saif â theilwng wedd,
Yn ngorsedd ei sancteiddrwydd ?
Dyn â llaw lân, a meddwl da
Ac yn ddidraha'i enaid,
Diorwag, ac ni roes un tro
Er twyllo'i gyfneseifiaid
Fe gaiff hwn gan yr Arglwydd wlith
Ei raslawn fendith helaeth,
A bydd cyfiawnder i'r cyfryw
Gan Dduw yr iachawdwriaeth.
Dyrchefwch, byrth, eich pennau'n glau,
Ehengwch, ddorau bythol!
Cans Brenin mawr ddaw i'ch mewn chwi —
Brenin o fri gogonol.
Pwy, meddwch, ydyw'r Brenin hwn,
A gofiwn ei ogoniant?
Iôr lluoedd ydyw, Brenin hedd,
Gogonedd, a phob ffyniant.