Yr Arglwydd yn wastadol yw

Oddi ar Wicidestun

Mae Yr Arglwydd yn wastadol yw yn emyn gan Edmwnd Prys (1544 - 1623)


Yr Arglwydd yn wastadol yw
Fy modd i fyw, a'm ffiol;
A thydi, Iôr, sy 'n rhoi i'm ran
A chyfran yn ddigonol.


Trwy Dduw y syrthiodd imi ran
O fewn y fan hyfrydaf;
Digwyddodd i mi, er fy maeth,
Yr etifeddiaeth lanaf.


Fy Ner bob awr rhois ger fy mron;
O'r achos hon ni lithraf ;
Cans mae ef ar fy neheu law,
Yma a thraw ni syfiaf.


Dangosi lwybr i'm i fyw'n iawn,
Dy fron yw'r llawn llawenydd;
Can's yn dy nerth, nid yn y llwch,
Digrifwch sy'n dragywydd.