Yr Arglwydd yw fy ngolau i gyd
Mae Yr Arglwydd yw fy ngolau i gyd, yn emyn gan Edmwnd Prys (1544 - 1623)
Yr Arglwydd yw fy ngolau i gyd,
A'm hiechyd; rhag pwy'r ofnaf?
Yr Arglwydd yw nerth f' oes; am hyn,
Rhag pwy doi dychryn arnaf ?
Un arch a erchais ar Dduw Nef,
A hynny a archaf eto :
Cael dyfod i dŷ f' Arglwydd glân,
A bod â'm trigfan ynddo.
Fel hyn mae 'nghalon o'm mewn i,
Yn holi ac yn ateb;
"Ceisiwch fy wyneb ar bob tro;"
"Fy Nuw, 'rwy'n ceisio 'th wyneb."
Os gwrthyd fi fy nhad a'm mam,
A'm di-nam gyfeseifiaid,
Ar Dduw gweddïaf; ef, er hyn,
O'i ras a dderbyn f ' enaid.
Duw, dysg i mi dy ffordd yn rhwydd,
O herwydd fy ngelynion;
Ac arwain fi o'th nawddol rad
Yn wastad ar yr union.
Disgwyl di wrth yr Arglwydd da,
Ac ymwrola'th galon;
Efe rydd nerth i'th galon di,
Os iddo credi'n ffyddlon.