Neidio i'r cynnwys

Yr Efengyl yn ôl Sant Marc/Pennod IV

Oddi ar Wicidestun
Pennod III Yr Efengyl yn ôl Sant Marc


wedi'i gyfieithu gan William Morgan
golygwyd gan John Davies, Mallwyd
Pennod V

PENNOD IV.

Dammeg yr hauwr, 14 a'i dehongliad. 21 Rhaid i ni gyfrannu goleuni ein gwybodaeth i eraill. 30 a'r gronyn mustard. 35 Crist yn gostegu y dymmestl ar y môr.

1 Ac efe a ddechreuodd dather: efe a ddechreuodd drachefn athrawiaethu yn ymyl y môr a thyrfa fawr a ymgasglodd atto, hyd oni bu iddo fyned i'r llong, ac eistedd ar y môr; a'r holl dyrfa oedd wrth y môr, ar y tir.

2 Ac efe a ddysgodd iddynt lawer ar ddamhegion, ac a ddywedodd wrthynt yn ei ddysgeidiaeth ef, 3 Gwrandêwch: Wele, hauwr a aeth allan i hau:

4 A darfu, wrth hau, i beth syrthio ar fin y ffordd, ac ehediaid yr awyr a ddaethant ac a'i difasant.

5 A pheth a syrthiodd ar greigle, lle ni chafodd fawr ddaear; ac yn y fan yr eginodd, am nad oedd iddo ddyfnder daear.

6 A phan gododd yr haul, y poethwyd ef; ac am nad oedd gwreiddyn iddo, efe a wywodd.

7 A pheth a syrthiodd ym mhlith drain; a'r drain a dyfasant, ac a'i tagasant ef, ac ni ddug ffrwyth.

8 A pheth arall a syrthiodd mewn tir da, ac a roddes ffrwyth tyfadwy a chynnyrchiol, ac a ddug un ddeg ar hugain, ac un dri ugain, ac un gant. 9 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Y neb sydd ganddo glustiau i wrandaw, gwrandawed.

10 A phan oedd efe wrtho ei hun, y rhai oedd yn ei gylch ef gyd â'r deuddeg a ofynasant iddo am y ddammeg.

11 Ac efe a ddywedodd wrthynt, I chwi y rhodded gwybod dirgelwch teyrnas Dduw eithr i'r rhai sydd allan, ar ddamhegion y gwneir pob peth:

12 Fel yn gweled y gwelant, ac na chanfyddant; ac yn clywed y clywant, ac ni ddeallant; rhag iddynt ddychwelyd, a maddeu iddynt eu pechodau.

13 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Oni wyddoch chwi y ddammeg hon? a pha fodd y gwybyddwch yr holl ddamhegion?

14 ¶ Yr hauwr sydd yn hau y gair.

15 A'r rhai hyn yw y rhai ar fin y ffordd, lle yr hauir y gair; ac wedi iddynt ei glywed, y mae Satan yn dyfod yn ebrwydd, ac yn dwyn ymaith y gair a hauwyd yn eu calonnau hwynt.

16 A'r rhai hyn yr un ffunud yw y rhai a hauir ar y creigle; y rhai, wedi clywed y gair, sydd yn ebrwydd yn ei dderbyn ef yn llawen

17 Ac nid oes ganddynt wreiddyn ynddynt eu hunain, eithr dros amser y maent yna, pan ddêl blinder neu erlid o achos y gair, yn y man y rhwystrir hwynt.

18 A'r rhai hyn yw y rhai a hauwyd ym mysg y drain; y rhai a hauwyd ym mysg y drain; y rhai a wrandawant y gair,

19 Ac y mae gofalon y byd hwn, a hudoliaeth golud, a chwantau am bethau eraill, yn dyfod i mewn, ac yn tagu y gair, a myned y mae yn ddiffrwyth.

20 A'r rhai hyn yw y rhai a hauwyd mewn tir da; y rhai sydd yn gwrandaw y gair, ac yn ei dderbyn, ac yn dwyn ffrwyth, un ddeg ar hugain, ac un dri ugain, ac un gant.

21 Ac efe a ddywedodd wrthynt, A ddaw canwyll i'w dodi dan Ïestr, neu dan wely? ac nid i'w gosod ar ganhwyllbren?

22 Canys nid oes dim cuddiedig, a'r nis amlygir; ac ni bu ddim dirgel, ond fel y delai i eglurdeb.

23 Od oes gan neb glustiau i wrandaw, gwrandawed.

24 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Edrychwch beth a wrandawoch. A pha fesur y mesuroch, y mesurir i chwithau; a chwanegir i chwi, y rhai a wrandêwch.

25 Canys yr hwn y mae ganddo, y rhoddir iddo: a'r hwn nid oes ganddo, ie, yr hyn sydd ganddo a ddygir oddi arno.

26 Ac efe a ddywedodd, Felly y mae teyrnas Dduw, fel pe bwriai ddyn had i'r ddaear;

27 A chysgu, a chodi nos a dydd, a'r had yn egino ac yn tyfu, y modd nis gŵyr efe.

28 Canys y ddaear a ddwg ffrwyth o honi ei hun; yn gyntaf yr eginyn, ar ol hynny y dywysen, yna yr ŷd yn llawn yn y dywysen.

29 A phan ymddangoso y ffrwyth, yn ebrwydd y rhydd efe y crymman ynddo, am ddyfod y cynhauaf.

30 ¶ Ac efe a ddywedodd, I ba beth y cyffelybem deyrnas Dduw? neu ar ba ddammeg y gwnaem gyffelybrwydd o honi?

31 Megis gronyn o had mwstard ydyw, yr hwn pan hauer yn y ddaear, sydd leiaf o'r holl hadau sydd ar y ddaear:

32 Eithr wedi yr hauer, y mae yn tyfu, ac yn myned yn fwy na'r holl lysiau, ac efe a ddwg ganghennau mawrion; fel y gallo ehediaid yr awyr nythu dan ei gysgod ef.

33 Ac â chyfryw ddamhegion lawer y traethodd efe iddynt y gair, hyd y gallent ei wrandaw:

34 Ond heb ddammeg ni lefarodd wrthynt: ac o'r neilldu i'w ddisgyblion efe a eglurodd bob peth.

35 ¶ Ac efe a ddywedodd wrthynt y dwthwn hwnnw, wedi ei hwyrhâu hi, Awn trosodd i'r tu draw.

36 Ac wedi iddynt ollwng ymaith y dyrfa, hwy a'i cymmerasant ef fel yr oedd yn y llong: ac yr oedd hef- yd longau eraill gyd âg ef.

37 Ac fe a gyfododd tymmestl fawr o wynt, a'r tonnau a daflasant i'r llong, hyd onid oedd hi yn llawn weithian.

38 Ac yr oedd efe yn y pen ol i'r llong, yn cysgu ar obennydd: a hwy a'i deffroisant ef, ac a ddywedasant wrtho, Athraw, ai difatter gennyt ein colli ni?

39 Ac efe a gododd i fynu, ac a geryddodd y gwynt, ac a ddywedodd wrth y môr, Gostega, distawa. A'r gwynt a ostegodd, a bu tawelwch mawr.

40 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Paham yr ydych mor ofnog? pa fodd nad oes gennych ffydd?

41 Eithr hwy a ofnasant yn ddirfawr, ac a ddywedasant wrth eu gilydd, Pwy yw hwn, gan fod y gwynt a'r môr yn ufuddhâu iddo?

Nodiadau

[golygu]