Neidio i'r cynnwys

Yr Efengyl yn ôl Sant Marc/Pennod XVI

Oddi ar Wicidestun
Pennod XV Yr Efengyl yn ôl Sant Marc


wedi'i gyfieithu gan William Morgan
golygwyd gan John Davies, Mallwyd

44 A rhyfedd oedd gan Pilat o buasai efe farw eisoes: ac wedi iddo alw y canwriad atto, efe a ofynodd iddo a oedd efe wedi marw er ys meityn.

45 A phan wybu gan y canwriad, efe a roddes y corph i Joseph.

46 Ac efe a brynodd lian main, ac a'i tynnodd ef i lawr, ac a'i hamdódd yn y llian main, ac a'i dododd ef mewn bedd a naddasid o'r graig; ac a dreiglodd faen ar ddrws y bedd.

47 A Mair Magdalen a Mair mam Jose, a edrychasant pa le y dodid ef.

PENNOD XVI.

1 Angel yn mynegi adgyfodiad Crist i dair o wragedd. 9 Crist ei hun yn ymddangos i Mair Magdalen: 12 i ddau oedd yn myned i'r wlad: 14 yna i'r apostolion, 15 y rhai y mae efe yn eu hanfon allan i bregethu yr efengyl: 19 mae yn esgyn i'r nefoedd.

1 AC wedi darfod y dydd Sabbath, Mair Magdalen, a Mair mam Iago, a Salome, a brynasant bêraroglau, i ddyfod i'w enneinio ef.

2 Ac yn fore iawn, y dydd cyntaf o'r wythnos, y daethant at y bedd, a'r haul wedi codi.

3 A hwy a ddywedasant wrth eu gilydd, Pwy a dreigla i ni y maen ymaith oddi wrth ddrws y bedd?

4 (A phan edrychasant, hwy a ganfuant fod y maen wedi ei dreiglo ymaith;) canys yr oedd efe yn fawr iawn.

5 Ac wedi iddynt fyned i mewn i'r bedd, hwy a welsant fab ieuangc yn eistedd o'r tu dehau, wedi ei ddilladu â gwisg wenllaes; ac a ddychrynasant.

6 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Na ddychrynwch. Ceisio yr ydych yr Iesu o Nazareth, yr hwn a groeshoeliwyd efe a gyfododd; nid yw efe yma: wele y man y dodasant ef.

7 Eithr ewch ymaith, dywedwch i'w ddisgyblion ef, ac i Petr, ei fod ef yn myned o'ch blaen chwi i Galilea: yno y cewch ei weled ef, fel y dywedodd i chwi.

8 Ac wedi myned allan ar frys, hwy a ffoisant oddi wrth y bedd; canys dychryn a syndod oedd arnynt. Ac ni ddywedasant ddim wrth neb: canys yr oeddynt wedi ofni.

9 A'r Iesu, wedi adgyfodi y bore y dydd cyntaf o'r wythnos, a ymddangosodd yn gyntaf i Mair Magdalen, o'r hon y bwriasai efe allan saith o gythreuliaid.

10 Hithau a aeth, ac a fynegodd i'r rhai a fuasent gyd âg ef, ac oeddynt mewn galar ac wylofain.

11 A hwythau, pan glywsant ei fod ef yn fyw, ac iddi hi ei weled ef, ni chredent.

12 Ac wedi hynny yr ymddangosodd efe mewn gwedd arall i ddau o honynt, a hwynt yn ymdeithio, ac yn myned i'r wlad.

13 A hwy a aethant, ac a fynegasant i'r lleill: ac ni chredent iddynt hwythau.

14 ¶ Ac ar ol hynny efe a ymddangosodd i'r un ar ddeg, a hwy yn eistedd i fwytta; ac a ddannododd iddynt eu hanghrediniaeth a'u calon-galedwch, am na chredasent y rhai a'i gwelsent ef wedi adgyfodi.

15 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Ewch i'r holl fyd, a phregethwch yr efengyl i bob creadur.

16 Y neb a gredo ac a fedyddier a fydd cadwedig: eithr y neb ni chredo a gondemnir.


17 A'r arwyddion hyn a ganlynant y rhai a gredant: Yn fy enw i y bwriant allan gythreuliaid; ac â thafodau newyddion y llefarant;

18 Seirph a godant ymaith; ac os yfant ddim marwol, ni wna iddynt ddim niwed; ar y cleifion y rhoddant eu dwylaw, a hwy a fyddant iach.

19 Ac felly yr Arglwydd, wedi llefaru wrthynt, a gymmerwyd i fynu i'r nef, ac a eisteddodd ar ddeheulaw Duw.

20 A hwythau a aethant allan, ac a bregethasant ym mhob man, a'r Arglwydd yn cyd-weithio, ac yn cadarnhâu y gair trwy arwyddion, y rhai oedd yn canlyn.Amen.

Nodiadau

[golygu]