Yr Efengyl yn ôl Sant Matthew/Pennod II
← Pennod I | Yr Efengyl yn ôl Sant Matthew wedi'i gyfieithu gan William Morgan golygwyd gan John Davies, Mallwyd |
Pennod III → |
PENNOD II.
1 Y doethion yn cael eu cyfarwyddo at Grist trwy weinidogaeth seren: 11 yn ei addoli ef, ac yn cyflwyno eu hanrhegion. 14 Joseph yn ffoi i'r Aipht, efe, a'r Iesu a'i fam. 16 Herod yn lladd y plant; 20 ac yn marw. 23 Dwyn Crist yn ei ol i Galilea i Nazareth.
1 AC wedi geni yr Iesu yn Bethlehem Judea yn nyddiau Herod frenhin, wele, doethion a ddaethant o'r dwyrain i Jerusalem,
2 Gan ddywedyd, Pa le y mae yr hwn a anwyd yn Frenhin yr Iuddewon? canys gwelsom ei seren ef yn y dwyrain, a daethom i'w addoli ef.
3 Ond pan glybu Herod frenhin, efe a gyffröwyd, a holl Jerusalem gyd âg ef.
4 A chwedi dwyn ynghyd yr holl arch-offeiriaid ac ysgrifenyddion y bobl, efe a ymofynodd â hwynt pa le y genid Crist.
5 A hwy a ddywedasant wrtho, Yn Bethlehem Judea: canys felly yr ysgrifenwyd trwy y prophwyd:
6 A thithau, Bethlehem, tir Juda, nid lleiaf wyt ym mhlith tywysogion Juda: canys o honot ti y daw Tywysog, yr hwn a fugeilia fy mhobl Israel.
7 Yna Herod, wedi galw y doethion yn ddirgel, a'u holodd hwynt yn fanwl am yr amser yr ymddangosasai y seren.
8 Ac wedi eu danfon hwy i Bethlehem, efe a ddywedodd, Ewch, ac ymofynwch yn fanwl am y mab bychan; a phan gaffoch ef, mynegwch i mi, fel y gallwyf finnau ddyfod a'i addoli ef.
9 Hwythau, wedi clywed y brenhin, a aethant; ac wele, y seren a welsent yn y dwyrain a aeth o'u blaen hwy, hyd oni ddaeth hi a sefyll goruwch y lle yr oedd y mab bychan.
10 A phan welsant y seren, llawenychasant â llawenydd mawr dros ben.
11 ¶ A phan ddaethant i'r tŷ, hwy a welsant y mab bychan gyd â Mair ei fam; a hwy a syrthiasant i lawr, ac a'i haddolasant ef: ac wedi agoryd eu trysorau, a offrymmasant iddo anrhegion; aur, a thus, a myrr.
12 Ac wedi eu rhybuddio hwy gan Dduw trwy freuddwyd, na ddychwelent at Herod, hwy a aethant drachefn i'w gwlad ar hyd ffordd arall.
13 Ac wedi iddynt ymadaw, wele angel yr Arglwydd yn ymddangos i Joseph mewn breuddwyd, gan ddywedyd Cyfod cymmer y mab bychan a'i fam, a ffo i'r Aipht, a bydd yno hyd oni ddywedwyf i ti: canys ceisio a wna Herod y mab bychan i'w ddifetha ef.
14 Ac yntau pan gyfododd, a gymmerth y mab bychan a'i fam o hyd nos, ac a giliodd i'r Aipht;
15 Ac a fu yno hyd farwolaeth Herod: fel y cyflawnid yr hyn a ddywedwyd gan yr Arglwydd trwy y prophwyd, gan ddywedyd, O'r Aipht y gelwais fy mab.
16 Yna Herod, pan weles ei siommi gan y doethion, a ffrommodd yn aruthr, ac a ddanfonodd, ac a laddodd yr holl fechgyn oedd yn Bethlehem, ac yn ei holl gyffiniau, o ddwy-flwydd oed a than hynny, wrth yr amser yr ymofynasai efe yn fanwl â'r doethion.
17 Yna y cyflawnwyd yr hyn a ddywedasid gan Jeremias y prophwyd, gan ddywedyd,
18 Llefa glybuwyd yn Rama, galar, ac wylofain, ac ochain mawr, Rachel yn wylo am ei phlant; ac ni fynnai ei chysuro, am nad oeddynt.
19 ¶ Ond wedi marw Herod, wele angel yr Arglwydd mewn breuddwyd yn ymddangos i Joseph yn yr Aipht,
20 Gan ddywedyd, Cyfod, a chymmer y mab bychan a'i fam, a dos i dir Israel: canys y rhai oedd yn ceisio einioes y mab bychan a fuant feirw.
21 Ac wedi ei gyfodi, efe a gymmerth y mab bychan a'i fam, ac a ddaeth i dir Israel.
22 Eithr pan glybu efe fod Archelaus yn teyrnasu ar Judea yn lle ei dad Herod, efe a ofnodd fyned yno. Ac wedi ei rybuddio gan Dduw mewn breuddwyd, efe a giliodd i barthau Galilea.
23 A phan ddaeth, efe a drigodd mewn dinas a elwid Nazareth: fel y cyflawnid yr hyn a ddywedasid trwy y prophwydi, Y gelwid ef yn Nazaread.