Neidio i'r cynnwys

Yr Efengyl yn ôl Sant Matthew/Pennod IV

Oddi ar Wicidestun
Pennod III Yr Efengyl yn ôl Sant Matthew


wedi'i gyfieithu gan William Morgan
golygwyd gan John Davies, Mallwyd
Pennod V

PENNOD IV.

1 Ympryd Crist, a'i demtiad. 11 Yr angelion yn gweini iddo. 13 Efe yn trigo yn Capernaum, 17 yn dechreu pregethu, 18 yn galw Petr ac Andreas, 21 Iago ac Ioan; 23 ac yn iachâu yr holl gleifion.

1 YNA yr Iesu a arweiniwyd i fynu i'r anialwch gan yr yspryd, i'w demtio gan ddiafol.

2 Ac wedi iddo ymprydio ddeugain niwrnod a deugain nos, ar ol hynny efe a newynodd.

3 A'r temtiwr pan ddaeth atto, a ddywedodd, Os mab Duw wyt ti, arch i'r cerrig hyn fod yn fara.

4 Ac yntau a attebodd ac a ddywedodd, Ysgrifenwyd, Nid trwy fara yn unig y bydd byw dyn, ond trwy bob gair a ddaw allan o enau Duw.

5 Yna y cymmerth diafol ef i'r ddinas sanctaidd, ac a'i gosododd ef ar binacl y deml;

6 Ac a ddywedodd wrtho, Os mab Duw wyt ti, bwrw dy hun i lawr; canys ysgrifenwyd, Y rhydd efe orchymyn i'w angylion am danat; a hwy a'th ddygant yn eu dwylo, rhag taro ohonot un amser dy droed wrth garreg.

7 Yr Iesu a ddywedodd wrtho, Ysgrifennwyd drachefn, Na themtia yr Arglwydd dy Dduw.

8 Trachefn y cymmerth diafol ef i fynydd tra uchel, ac a ddangosodd iddo holl deyrnasoedd y byd, a'u gogoniant;

9 Ac a ddywedodd wrtho, Hyn oll a roddaf i ti, os syrthi i lawr a'm haddoli i.

10 Yna yr Iesu a ddywedodd wrtho, Ymaith, Satan; canys ysgrifennwyd, Yr Arglwydd dy Dduw a addoli, ac ef yn unig a wasanaethi.

11 Yna y gadawodd diafol ef: ac wele, angylion a ddaethant, ac a weiniasant iddo.

12 ¶ A phan glybu'r Iesu draddodi Ioan, efe a aeth i Galilea.

13 A chan adaw Nazareth, efe a aeth ac a arhosodd yn Capernaum, yr hon sydd wrth y môr, y'nghyffiniau Zabulon a Nephthali:

14 Fel y cyflawnid yr hyn a ddywedwyd trwy Eseias y proffwyd, gan ddywedyd,

15 Tir Zabulon, a thir Nephthali, wrth ffordd y môr, tu hwnt i'r Iorddonen, Galilea'r Cenhedloedd:

16 Y bobl oedd yn eistedd mewn tywyllwch, a welodd oleuni mawr; ac i'r rhai a eisteddent ym mro a chysgod angau, y cyfododd goleuni iddynt.

17 ¶ O'r pryd hwnnw y dechreuodd yr Iesu bregethu, a dywedyd, Edifarhêwch: canys nesaodd teyrnas nefoedd.

18 ¶ A'r Iesu yn rhodio wrth fôr Galilea, efe a ganfu ddau frodyr, Simon, yr hwn a elwir Petr, ac Andreas ei frawd, yn bwrw rhwyd i'r môr; canys pysgodwyr oeddynt:

19 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Deuwch ar fy ol i, a mi a'ch gwnaf yn bysgodwyr dynion.

20 A hwy yn y fan, gan adael y rhwydau, a'i canlynasant ef.

21 Ac wedi myned rhagddo oddi yno, efe a welodd ddau frodyr eraill, Iago fab Zebedeus, ac Ioan ei frawd, mewn llong gyd â Zebëdeus eu tad, yn cyweirio eu rhwydau; ac a'u galwodd hwy.

22 Hwythau yn ebrwydd, gan adael y llong a'u tad, a'i canlynasant ef.

23 ¶ A'r Iesu a aeth o amgylch holl Galilea, gan ddysgu yn eu synagogau, a phregethu efengyl y deyrnas, ac iachâu pob clefyd a phob afiechyd ymhlith y bobl.

24 Ac aeth sôn amdano ef trwy holl Syria; a hwy a ddygasant ato yr holl rai drwg eu hwyl, a'r rhai yr oedd amryw glefydau a chnofeydd yn eu dala, a'r rhai cythreulig, a'r rhai lloerig, a'r sawl oedd a'r parlys arnynt; ac efe a'u hiachaodd hwynt.

25 A thorfeydd lawer a'i canlynasant ef o Galilea, a Decapolis, a Jerwsalem, a Jwdea, ac o'r tu hwnt i'r Iorddonen.

Nodiadau

[golygu]