Yr Haf

Oddi ar Wicidestun

gan Dafydd ap Gwilym

Gwae ni, hil eiddil Addaf,
Fordwy rhad, fyrred yr haf.
Rho Duw, gwir mai dihiraf,
Rhag ei ddarfod. Dyfod haf,
A llednais wybr chwybraf
A llawen haul a’i lliw’n haf,
Ac awyr erwyr araf,
A’r byd yn hyfryd yn haf.
Cnwd da iawn, cnawd dianaf,
O’r ddaer hen a ddaw’r haf.
I dyfu, gasu glwysaf,
Dail ar goed y rhoed yr haf.
Gweled mor hardd, mi chwarddaf,
Gwalt ar ben hoyw fedwen haf.
Paradwys, iddo prydaf,
Pwy ni chwardd pan fo hardd haf?
Glud anianol y’i molaf,
Glwysfodd, wi o’r rhodd yw’r haf.
Deune geirw dyn a garaf
Dan frig, a’I rhyfyg yw’r haf.
Y gog serchog, os archaf,
A gân, ddechrau huan haf,
Glasgain edn, glwys ganiadaf
Gloch osber am hanner haf.
Bangaw llais eos dlosaf
Bwyntus hy dan bentis haf.
Ceiliog, o frwydr ciliaf,
Y fronfraith hoywfabiaith haf.
Dyn Ofyss, hirddydd harddaf,
A draid, gair hyfaidd, yr haf.
Eiddig, cyswynfab Addaf,
Ni ddawr hwn oni ddaw’r haf.
Rhoed I’w gyfoed y gaeaf,
A rhan serchogion yw’r haf.
Minnau dan fedw ni mynnaf
Mewn tai llwyn ond mentyll haf.
Gwisgo gwe lân amdanaf,
Gwnsallt bybyr harddwallt haf.
Eiddew ddail a ddadeilaif.
Annwyd ni bydd hirddydd haf.
Lledneisferch os anerchaf,
Llon arail hon ar ael haf.
Gwawd ni lwydd, arwydd oeraf,
Gwahardd ar hoywfarrd yr haf.
Gwynt ni ad, gwasgad gwisgaf,
Gwŷdd ym mhwynt, gwae ddow am haf.
Hiraeth, nid ymddiheuraf,
Dan fy mron am hini haf.
O daw, hydref ef aeaf.
Eiry a rhew, i yrru’r haf,
Gwae finnau, Grist, gofynnaf,
Os gyr mor rhyfyr, “Mae’r haf?”