Yr Hen Lwybrau/Abram Jones Y Fedwen
← Ellis Wynne a Glan Hafren | Yr Hen Lwybrau gan John Davies (Isfryn) |
O'r Gogledd i'r De → |
VIII
ABRAM JONES Y FEDWEN
HEN ŵr 88 oed oedd Abram Jones, a'i breswylfod oedd y Fedwen, tyddyn ar randir o fynydd bedair milltir o'r ffordd fawr, a ffordd blwyf is fynd ato. Serth oedd y ffordd a'r llwybrau at y tŷ, ond wedi cyrraedd yno yr oedd y golygfeydd o ffrynt y tŷ yn ad-daliad da am y dringo a'r chwysu i'w gyrraedd.
Yno y trigai Abram Jones ar ei ben ei hun, ac ef ei hun a gyflawna bob goruchwyliaeth yn y tŷ, ac allan o'r tŷ. Am chwarter canrif ni fu llaw merch na neb arall yn cwrdd â'r un dodrefnyn. Pobai ei fara ei hun ar dân mawn, a'r mawn a gâi o'r gors gyfagos: golchai ei ddillad yn y ffrwd fechan a basiai heibio i'w ddrws. Nid ymwelai â thŷ neb yn y gymdogaeth, ac nid ymwelai neb â'i dŷ yntau er y perchid ef yn fawr. Yr ychydig dir ac meddai o amgylch ei breswylfod a osodai i eraill. Yr ardd yn unig a gadwai, a chodai ddigon at ei gynhaliaeth ohoni. Ychydig iawn oedd ei eisiau, ac ychydig iawn a dyr eisiau dyn, ond iddo roddi heibio borthi ei foethau. Yr unig dro y gwelid ef allan o'i diriogaeth ei hun oedd pan âi i siop neu farchnad i brynu'r ychydig yr oedd arno eisiau.
Edrychid arno yn yr ardal fel meudwy, ac weithiau gelwid ef wrth yr enw hwnnw, ond nid o deimlad drwg a chenfigen ato. Mawr oedd y dyfalu sut y gallai basio heibio'r amser.
Hirddydd haf a hwyrnos gaeaf nid oedd neb i dorri ar ei heddwch, ac nid oedd croeso i neb i aros yn hwy nag oedd eu neges yn gofyn. Yn hyn ni welais i neb yn debycach i Fyrddin Fardd. Gorfu i Fyrddin lawer tro ddweud wrth lawer un, "Fe ellwch chi fynd yn awr".
Clywed yn ddamweiniol fod Abram Jones yn cwyno a barodd imi fynd i ymweld ag ef. Yr ydoedd yn gynnar yn y prynhawn, a hwnnw yn un o'r prynhawnau na allech lai na theimlo ei bod yn werth byw. Ar ôl cerdded milltir neu ddwy ar y ffordd fawr fe dreiais ddringo hen ffordd ceffyl â phwn. Nid oedd yr un ffordd arall y gallwn fynd heb amgylchu rhai milltiroedd. Gwelais amser pan allwn ddringo'r ffordd gan chwiban tôn neu ddwy, ond yn awr nid oedd y fegin yn ddigon ystwyth i'r gwaith. O ddyfalbarhau a mynd o gam i gam cyrhaeddais ben fy siwrnai."
Gwelais yr hen ŵr led cae cyn mynd ato, a sefyll ydoedd yn ffrynt y tŷ. Amneidiodd arnaf i ddilyn y llwybr trwy ganol y cae yn hytrach na'i amgylchu. Prysurais yn ôl ei gyfarwyddyd, a heb fod yn hir cydeisteddwn ag ef ar fainc yn ffrynt y tŷ, a thŷ ydoedd o gynllun tai y ddeunawfed ganrif. Gorchuddid ffrynt y tŷ â dwy goeden rosod yn tyfu o bobtu i'r drws, ac yn ymledu gan blethu eu canghennau yn rhwydwaith ysblennydd trwy'i gilydd. Brithid hwynt gan glwstwr ar glwstwr o rosod cochion a gwynion. Yn gymysg â hwynt yr oedd canghennau coeden winwydd, a'r gwenyn yn ymwáu trwy'i gilydd yn brysur gasglu'r nectar, diod yr hen dduwiau gynt. Yno yr oedd siffrwd fel siffrwd y môr ar hwyrnos haf, neu'r sŵn a glywir ym mrig y morwydd, a hi yn bygwth storm.
Eisteddem gyda'n gilydd ar fainc yn ffrynt y tŷ a'n cefnau ar y pared a sŵn y gwenyn yn ein clustiau. Cyfeirai ef â'i fys at Amwythig; gwelir weithiau drumwydd o'r pinaglau, ac yn enwedig pinagl Eglwys Sant Mair. Heb fod ymhell y mae Hodnet, a chofiais mai yno y bu'r Esgob Heber, yn cyhoeddi a byw yr Efengyl, ac oddi yno yr aeth ef i'r India a glannau Caferi, ac yno y rhoddwyd ei gorff i orffwys cyn i benwynni ymdaenu drosto. Dywedai fy nghydymaith ar y fainc y cofiai ef hen bobl yn Hodnet yn sôn am Heber. Deellais ar unwaith y gwyddai ef am Heber ac am ficerdy Wrecsam, lle y cyfansoddodd yr emyn From Greenland's icy mountains, i'w ganu fore Sul drannoeth yn hen eglwys y plwyf, a'r Esgob yn dadlau dros baganiaid y byd. Ac fe wyddai fy nghydymaith fwy nag a dybiwn, ac fe ychwanegodd hyn fy niddordeb ynddo. Oedd, yr oedd Ceinion Alun ar ei silff lyfrau, ac fe adroddodd ddarnau helaeth o farwnad Alun i'r Esgob Heber.
Cyfeiriai at Uppington a Donnington, meysydd gweinidogaeth Goronwy Owen fel curad unwaith, ac yr oedd ganddo lawer i'w ddywedyd am y ddau le, a llawer iawn am Oronwy. Treuliodd ef rai blynyddoedd yn yr ardaloedd hynny. Dywedai i'r Gymraeg adael ei hôl yn ddwfn ar enwau tai a thiroedd, ac yn wir ar arferion y bobl. Cofiai glywed llawer iawn o Gymraeg hyd yn oed yn Amwythig. Yn amser ei dad, Henry Rees oedd gweinidog y capel Cymraeg yno. Ac i gapel Henry Rees yr âi ei dad, yn un peth am ei fod ef yn hanu o Lansannan, plwy genedigol Henry Rees, a Gwilym Hiraethog ei frawd. Clywais lawer am y ddau frawd hyn.
Yn y pellter o'n blaen gwelem Wrekin, Uriconium y Rhufeiniaid, pan wladychai eu llengoedd yn y fro. Draw eto yr oedd Breidden a'r Mynydd Hir, Caer Caradog, Betws-y-crwyn, a'r Anchor. A dyma wlad Powys Wenwynwyn a'i chastell ym Mhengwern, ac ar ôl hynny ym Mathrafal. Fe elwid Powys yn Baradwys Cymru gyda Hafren yn ymddolennu trwy'r broydd teg a bron yn ddolen am Bengwern. A hon oedd gwlad Beuno Sant cyn mynd ohono i Glynnog Fawr yn Arfon.
Wrth eistedd gyda'n gilydd fel hyn ar fainc yn ffrynt y tŷ gwelem orchudd tenau o niwl llwydwyn yn ymestyn dros y gwastadeddau eang, ac yn brysur esgyn llethrau'r mynydd-dir nes o'r diwedd iddo gyrraedd y llecyn tlws y safem ni arno, a thybiwyd mai gwell fyddai mynd i'r tŷ i lechu rhag y gawod drom o wlith a deimlen eisoes yn defnynnu arnom.
Yn y tŷ digwyddais eistedd gyferbyn â'i silff lyfrau, a bwriais olwg dros y cyfrolau destlus a addurnai'r silff. Ac yno yr oedd y Beibl mewn congl fwy parchus na'r un arall. A Beibl Eglwys ydoedd ef. Tynnais ei sylw at y gyfrol. Tua diwedd y bedwaredd ganrif neu ddechrau'r bumed y rhoed yr enw hwn arno gan Ierôm. Ac o'r amser pell hwnnw yn ôl hyd yn awr nid yw'r Beibl yn gyflawn heb yr Apocryffa, a'r Beibl cyflawn hwn a ddylai fod ar letring a phulpud pob eglwys. Y Feibl Gymdeithas, i arbed traul, a gyhoeddodd y Beibl ar wahân i'r Apocryffa.
Ar yr un silff â'r Beibl yr oedd Taith y Pererin, Yr Efelychiad, Robinson Crusoe, tri neu bedwar o lyfrau A. C. Benson, copi hardd o'r Llyfr Gweddi, Traethawd yr Iawn gan y Dr. Lewis Edwards, a'i Draethodau Llenyddol, Cysondeb y Ffydd yn ddwy gyfrol hardd, gan y Dr. Cynddylan Jones. Yno hefyd yr oedd y Dr. Harris Jones, y Dr. Cynhafal Jones, y Dr. Griffith Parry, ac amryw eraill o'r un dosbarth.
Cyfeiriais atynt a'i ateb oedd mai hwynt-hwy fu'n dyfrhau'r meysydd a heuwyd gan y Diwygwyr fel Rowlands, Harris, Jones Llangan, Thomas Charles, Pant-y-celyn, ac amryw eraill.
Ar hyn trodd ataf a dywedodd, "Pe cawsai'r dynion hyn", a phwyntiai atynt ar y silff, "lonydd, fe fyddai'r Corff Methodistaidd a'r Eglwys yng Nghymru ymhell ar eu ffordd i undeb, os nad wedi ei gyrraedd".
Bu i'r Archesgob Edwards, ac ef ar y pryd yn Ficer Caerfyrddin, ymddiddan â rhai o arweinwyr y Corff Methodistaidd ar y pwnc o undeb. Ond fe ddechreuwyd ymosod ac amddiffyn yr Eglwys, a rhoes hynny derfyn ar y pryd, ac am lawer blwyddyn, am hyd yn oed feddwl am adundeb crefyddol. A geiriau olaf Abram Jones cyn inni ymadael â'n gilydd oedd: "Ni welaf i, ac ni welwch chwithau y Corff Methodistaidd a'r Eglwys yn un, a rhwyg 1811 wedi ei gyfanu, ond fe wêl yr oes sy'n codi y dyddiau gwell y sydd yn ddiogel yng nghôl y dyfodol". Ac fe wêl hefyd gyflawni proffwydoliaeth Eben Fardd, pan ddywedodd, ac ef yn flaenor gyda'r Methodistiaid ar y pryd:
Plethir y capel a hithau—yn un
Nawn y Mil Blynyddau,
Trwy sigdod tyr y sectau,
Y rhif un fydd yn parhau.