Yr Hen Lwybrau/Pennod ym Mywyd Elis o'r Nant
← Yr Hen Lwybrau | Yr Hen Lwybrau gan John Davies (Isfryn) |
Awel o'r Dyddiau Gynt → |
III
PENNOD YM MYWYD ELIS O'R NANT
YM mlwyddyn y tair sbectol (1888) y deuthum i adnabyddiaeth gyntaf â'r gŵr sydd â'i enw uwchben yr ysgrif hon. Yr oedd hynny yn Awst neu Fedi—un o fisoedd ein Gŵyl Genedlaethol, a gynhaliwyd y flwyddyn honno yn Wrecsam. Ar un o ddyddiau'r ŵyl, rhodiannwn yn hamddenol o amgylch y babell, ac yn ddamweiniol hollol deuthum ar draws stondin lyfrau, a thu ôl iddi yr oedd dyn bychan, cringoch, a golwg ddigon sarrug arno. Rhedai fy llygaid dros y gwahanol lyfrau a osodwyd yn drefnus ar y bwrdd, ac wrth gwrs yr oeddynt i gyd yn Gymraeg. Wedi edrych drostynt, ac agor ambell un, pigais ramant hanesyddol ar Gruffydd Ap Cynan gan Elis o'r Nant. Teflais fy swllt i'r bwrdd tra gwichiai'r gŵr bach ei gymeradwyaeth i'm chwaeth lenyddol. Gydag imi droi ar fy sawdl, a'm trysor eto yn fy llaw, dyma Tudno yn cyfarch y llyfrwerthwr wrth ei enw, yr hwn oedd yn neb llai, er fy syndod, nag Elis o'r Nant. Ie, dyna'r hen Elis y deuthum wedyn mor gydnabyddus ag ef. Drannoeth neu dradwy, yr oeddwn yng ngorymdaith y beirdd i'r Orsedd erbyn wyth o'r gloch y bore. Rhagflaenid yr orymdaith gan Glwydfardd, yr Archdderwydd, a chydag ef Hwfa Môn (a gam-gyfieithiwyd yn Eisteddfod Caernarfon wedyn gan y London Illustrated News, yn Half Moon). Dilynid yr orymdaith gan dwysged o feirdd yn driphlith-draphlith. Wrth deithio ymlaen canfyddem rywun yn cysgu, neu yn honni cysgu, yn ochr y clawdd, ac wedi nesu ato gwelem ei becyn llyfrau dan ei ben, a'i ffon yn ei ymyl. Safodd yr Archdderwydd gan ysgwyd ei ben, fel nas gall neb wneud ond Archdderwydd, ac edrychai yn syn ar y cysgadur. Cyffyrddodd ag ef unwaith neu ddwy â blaen ei ffon. "Hei", meddai o'r diwedd, "pwy sydd yma ?" "Elis o'r Nant oedd yma neithiwr", meddai'r cysgadur gan rwbio ei lygaid, ac yn y man yr oedd mor hoyw â neb yn yr orymdaith.
Ymhen dwy flynedd wedyn yr oeddwn yn Llanrwst, ac yng nghwmni Tudno, Gwilym Cowlyd, Gwalchmai, a dreuliai ei hafau y blynyddoedd hynny yn Nhrefriw, ac eraill, ac yn eu plith Elis o'r Nant. Ymwelai Elis yn fynych â'r Prifardd Pendant yn Heol Watling mewn ystafell fechan y tu cefn i'r siop, a'r hon a elwid ganddo yn sanctum sanctorum. Un arall o'r frawdoliaeth oedd Penfro. Unwaith bob blwyddyn cynhelid yr Arwest ar lawnt llyn Geirionydd, dan gysgod Colofn Taliesin Ben Beirdd, gyferbyn â Bryn y Caniadau. Gwilym Cowlyd oedd y Prifardd Pendant, Elis o'r Nant y Cofiadur, a Phenfro yn Fardd yr Orsedd. Ar y pererindodau i'r Arwest ac yn ôl, mwynhad digyffelyb oedd cael bod yng nghwmni'r Prifardd Pendant a'r Cofiadur. Yr oedd Gwilym yn ddifrifolwch hyd flaenion ei fysedd, ac yntau Elis yn byrlymu o ddireidi. Pennid arholwyr i brofi gwybodaeth ymgeiswyr am urddau'r Orsedd. Trosglwyddwyd y beirdd un flwyddyn i ofal Elis a minnau. Y rhai hyn oedd ddisgyblion ysbas, ac yr oedd yr arholiad yn ddigon hawdd. Gofynnid mwy gan y disgyblion cyfallwy. Eisteddwyd i lawr ar garreg droed Colofn Taliesin, a dechreuwyd ar yr arholiad. I'm rhan i y disgynnai eu holi yn y cynganeddion. Ymysg yr ymgeiswyr yr oedd crydd, wedi dyfod yr holl ffordd o Riwabon am urdd bardd, a gofynnodd am ganiatâd i wneud un sylw, a chaniatâwyd iddo gan y Cofiadur ar y telerau ei fod yn fyr ac i bwynt. Dywedodd mai crydd oedd wrth ei alwedigaeth, ac nad oedd ganddo amser i ddysgu'r cynganeddion. Holwyd ef yn ei alwedigaeth yn fanwl gan Elis, a hawliai weled esgid o'i waith cyn y gallai ei gymeradwyo i'r Prifardd Pendant. Dangosodd yntau yr esgid am ei droed, a gyfrifid gan Elis yn gystal ag englyn. Rhoddwyd iddo ysnoden las, a thrwydded i'r Cylch Cyfrin ar Fryn y Caniadau. Ar ei ymadawiad cynghorwyd ef gan Elis i gadw wrth ei last a gadael i'r cynganeddion fod, yr hyn yn ddiamau a wnaeth, oherwydd ni chlywyd byth sôn amdano wedyn, hyd y gwn i.
Un tro yr oeddem i gychwyn yn dra bore i Fryn y Caniadau i arolygu'r Meini Gwynion a'r Gwyngyll. Cyrhaeddwyd preswyl Gwilym oddeutu saith o'r gloch. Yno yr oedd Gwilym yn gwneud y darpariadau angenrheidiol, a'r Cofiadur yn trefnu rhestr yr ymgeiswyr, tra oedd Robin Un Llygad—rhyw fath o factotum i Gwilym—yn paratoi coginio bacwn, a berwi dwfr i wneud cwpanaid o goffi, ac yr oedd y bacwn a'r coffi am y duaf. Ni fynnai Elis am y byd gyfranogi o'r fath bryd. Nid am nad oedd yn hoff o facwn a choffi, ond am fod y ddau yn rhy debyg i liw wyneb a dwylo'r coginiwr.
Cyrhaeddwyd lawnt y llyn yn brydlon, ac ar awr anterth yr oedd y Cofiadur wedi gosod Ceidwad y Meini a Gwŷr y Gwyngyll yn eu safleoedd priodol, ac yng ngŵydd tyrfa bur fawr arweiniodd Gwilym yr Archdderwydd am y dydd i'w le—a'r Archdderwydd y dwthwn hwnnw oedd hynafgwr urddasol o dref Llanrwst. Erbyn deuddeg o'r gloch yr oedd popeth yn barod, a'r gair olaf wedi ei ddywedyd gan Elis. I'r funud am ddeuddeg dyma orchymyn o'r orsedd ar i bawb noethi eu pennau, er ei bod yn annioddefol o boeth. Rhaid oedd ufuddhau canys beth am y canlyniadau. Yr oedd cnwd o wallt ar ben Gwilym ac Elis, ond am yr Archdderwydd, druan ohono, yr oedd ei wallt ac yntau wedi ymadael â'i gilydd ers ystalm o amser. Gwnaed ymdrech i gyfryngu ar ran yr Archdderwydd, iddo gael rhywbeth i guddio ei gorun moel, ond yr oedd difrifolwch Gwilym a direidi Elis yn ormod o wrthglawdd i wthio'r cyfryngiad trwodd. Ofnem am y canlyniadau pan glywyd gorchymyn arall yn dyfod o'r orsedd ar i bawb o fewn y cylch roddi eu llaw ddeau ar eu morddwyd aswy. I gyflawni hyn rhaid oedd ystumio'r corff, a'i gadw yn yr ystum honno am ysbaid hir. Gofynnwyd am heddwch ar lafn noeth y cledd, a chafwyd taranau ohono. Pan weiniwyd y cledd drachefn yr oedd wedi un o'r gloch. Ar ddiwedd y gweithrediadau, da oedd gan lawer ohonom dynnu at lan y llyn i oeri tipyn ar ein pennau yn ei ddyfroedd grisialaidd.
Drannoeth cyfarfûm â phriod yr Archdderwydd, a'n condemniai yn ddigon haeddiannol am gadw hynafgwr moel yng ngwres yr haul am gymaint o amser. Gwaeddai am heddwch yn ei gwsg, ac os na châi ateb boddhaol pwniai ei gymar nes ei bod yn ddu ac yn las.
Ymhen rhyw ddwy neu dair blynedd wedyn yr oeddwn yn gymydog i Elis yng ngwlad y gog, chwedl yr ardalwyr am Ddolwyddelan. Treuliais lawer o amser yn ei gwmni tra oeddwn yma. Arferwn ei weled bron yn ddyddiol, ac nid oedd trai ar ei arabedd a'i ddireidi. Y trosedd mwyaf y gellid ei gyflawni yn ei erbyn oedd holi prisiau llyfrau yn ei siop heb brynu yr un. Un tro yr oedd Proffeswr o Rydychen ar ymweliad â'r lle, aeth i siop Elis, a rhedai ei lygaid dros y silffoedd llyfrau, gan holi pris ambell un. Treuliodd dipyn o amser felly, ac Elis o'r tu ôl i'r cownter yn gwichian ei atebion. O'r diwedd trodd y Proffeswr i ymddiddan am yr ardal. Ac ymysg pethau eraill dywedodd mai'r hyn a'i trawodd ef fwyaf oedd tlodi'r ardal o foneddwyr. "Welais i ddim boneddwr yma o gwbl", meddai'r gŵr dieithr—"I don't know so much about that", oedd yr atebiad. "Fodd bynnag", medd y Proffeswr, "ni welais i yr un er pan wyf yn y lle". "Nid wyf innau", meddai Elis, "yn gweled boneddwr yn awr", a'r funud honno yr oedd ei law yng nghoes y brws, a'r Proffeswr yn ei goleuo hi ar draws y ddôl am ei einioes. Hyfrydwch digymysg oedd clywed Elis yn adrodd yr ystori hon, a gwnâi hynny pan oedd mewn hwyl ag eneiniad, gan roddi rhyw ychwanegiad bychan cryno ati. Yr oedd yn hollol ddirodres, ac mor olau â'r dydd.
Cofiaf ddathliad Diamond Jubilee y Frenhines Victoria. Yr oedd yr ysgoldy yn orlawn o'r trigolion yn trefnu gogyfer â rhoddi te i'r plant a'r oedrannus, ac Elis yn ysgrifennydd. Cyfododd y cwestiwn sut i dreulio'r noson honno mewn undeb â'n gilydd. Awgrymai un y priodoldeb o gynnal Cwrdd Gweddi Undebol. Ar amrantiad dyma Elis ar ei draed ac yn dywedyd "Taw yr ynfyd (ond gair mwy sathredig a ddefnyddiodd ar y pryd), pwy ddaw i wrando ar dy weddi di?--ddo' i ddim". Rhoddodd hyn derfyn ar y Cwrdd Gweddi. Nid taflu unrhyw ddiystyrwch ar Gwrdd Gweddi oedd amcan Elis, oherwydd nid oedd neb yn fwy parchus o bethau cysegredig nag ef yn eu lle a'u hamser priodol.
"Fachgen", meddai un diwrnod, "y mae arnaf ofn y bydd yn rhaid i mi gwrtio hwn a hwn am driswllt. Ond yr wyf yn myned i roddi un cynnig iddo". Gwyddwn yn dda nad oedd dim ymhellach o feddwl Elis na chwrtio, na dim ymhellach o feddwl y dyledwr na chael ei gwrtio. Ymhen ychydig ddyddiau wedyn gwelwn Elis yn wên o glust i glust wedi cael ei driswllt, ac englyn i'r fargen, a phleser oedd clywed Elis yn adrodd yr englyn, yr hyn a wnâi ac eithrio'r drydedd linell—
Rhaid hwylio i'r brawd Elis—ei driswllt,
Neu drysa'i ben dibris ;
Rhaid rhoi i rog ei grogbris
Neu fe brawf yn fwy o bris.
Rhag ofn i drydedd llinell yr englyn direidus hwn adael argraff annheg ar goffadwriaeth Elis, dywedaf yma na fu dim ymhellach o'i feddwl na rogni, na dim ymhellach o feddwl yr awdwr na rogni—englyn hollol ddireidus ydyw. I'r gorlan Fethodistaidd yr arferai Elis fyned ar y Sul, ond pan glywai fod awdur yr englyn direidus uchod i bregethu yn yr Eglwys hwyliai ei hun yn barod i ddyfod yno. Gyda dyfodiad y trên i'r orsaf, gellid ei weled yn dyfod ar bwys ei ffon i'n cyfarfod. Ac ar ganiad y gloch cyfeiriai tua'r Eglwys yng nghwmni y diweddar Mr. Davies, Penlan, un o'r wardeniaid. Ac ni fu dau erioed yn mwynhau'r gwasanaeth a'r genadwri yn well. Rhaid oedd myned gydag ef un diwrnod i Benmachno a'r Cwm heibio i ffriddoedd Tŷ Mawr, yr Wybrnant a Than-y-clogwyn a heibio i'r meini â'r croesau, ar hyd hen lwybr y ceffyl pwn, a oedd mewn rhai mannau wedi hen ddiflannu. Dyma'r fro fynyddig y bu'r Esgob Morgan yn bugeilio defaid ei dad yng nghwmni'r hen fynach hwnnw, a osododd yn ei ddisgybl sylfeini ei ddyfodol, ac a'i gwnaeth ef yn brif gymwynaswr Cymru. Aethom heibio i graig a elwid yn bulpud yr Esgob Morgan, oddi wrth y traddodiad yr arferai bregethu ar y graig honno pan oedd ar ffo. Ie, dyma'r cerrig a'r croesau ynddynt yn llawn mwsogl, a hyn oedd yn arwydd i fam yr Esgob Morgan fod y wlad yn myned yn ddiweddi. Duwioldeb y fam a llafur yr hen fynach a roddodd ei gyfeiriad i'r Esgob Morgan. Cwymp mynachaeth yn Nyffryn Conwy a fu yn foddion anuniongyrchol i roddi'r Beibl yn yr iaith Gymraeg yn gyflawn a chyda'i gilydd. Ymlaen â ni hyd nes dyfod at ffos o ddwfr, ac arhoswyd i ystyried y sefyllfa. Gan fod Elis yn gloff o'i goes dde a wnâi K bob cam, cymerais fy siawns i neidio drosodd yn gyntaf gyda'r canlyniad i'm coes dde innau suddo yn y ffos hyd gymdogaeth y ben-glin. Tra fûm i yn ceisio sychu tipyn arni gwelwn Elis yn brasgamu â'i holl nerth. Gwaeddais arno i b'le yr oedd yn mynd. "I gwrdd â chwi yn Awstralia", meddai yntau yn ddigon direidus.
Yr oedd Elis a minnau ar bwyllgor yr Eisteddfod Genedlaethol a gynhaliwyd ym Mlaenau Ffestiniog, ac yn un o'r cyfarfodydd yr oedd dewis beirniaid. Croes i feddwl Elis yr âi pethau ymlaen, a gwelai yn ddigon amlwg y gwifrau, a methu dal a wnaeth, ac allan ag ef fel mellten, gan ysgwyd ei ddwrn yn wyneb rhyw weinidog a fynnai ormod o'i ffordd ei hun yn ôl tyb Elis. Wedi ailgyfarfod ag ef allan, a hithau yn bwrw glaw y Blaenau, a'r ffordd yn lleid-wlyb, "Yr oeddech braidd yn bigog heno", meddwn wrtho. "Fachgen", meddai yntau, "mi pilsiais i nhw", a chyda hyn chwarddodd nes y ffrwydrodd ei ddwy res o ddannedd gosod allan o'i enau ac i'r ffordd, a dyna lle yr oedd Elis yn eu casglu â'i law, a'u rhoddi ym mhoced ei drowsus. Adroddais yr ystori hon wrth yr un englynwr ag o'r blaen, ac yn ddiymdroi adroddodd yr englyn a ganlyn:—
Ai Elis welir isod—yn ei warth
Herwydd chwerthin gormod?
Yn y baw mae'n mynnu bod
I geisio'i ddannedd gosod.
Gellid ychwanegu llawer i'r cyfeiriad uchod, ond teimlaf fod hynyna yn ddigon o fynegiad o gymeriad ein gwrthrych.
Prif nodweddion ei gymeriad oedd:—
i. Direidi hyd at wamalwch. Yr oedd yn Gelt i'r gwraidd, a disgynnai o wehelyth yr Esgob Morgan, ac mewn canlyniad o un o'r llwythau Cymreig. Anodd oedd cael golwg ar ochr ddifrifol ei gymeriad.
ii. Meddai ar allu meddyliol cryf a chrebwyll buan, ac ysgrifennodd rai pethau a bery yn hir yn yr iaith. Y mae ei Nanws ach Robert yn rhagorol. Ychydig o ddisgyblaeth ar ei feddwl afreolus a fyddai wedi ei ddyrchafu yn uwch ym mysg llenorion ei wlad.
iii. Rhyddfrydwr ac Ymneilltuwr ydoedd. Oddi adnabyddiaeth bur fanwl ohono, nid wyf yn meddwl fod Rhyddfrydiaeth ac Ymneilltuaeth ei ddydd yn gydnaws â'i ysbryd aflonydd pe treiddid yn ddigon dwfn i'w fodolaeth i wneud ymchwiliad. Fel llawer un arall, Celt Ceidwadol ac Eglwysig oedd wedi myned ar grwydr, ac wedi colli'r ffordd i ddyfod yn ôl.
iv. Yr oedd yn ddyn caredig a chymwynasgar, parod i gydymdeimlo â'r gwan, a chynorthwyo'r rheidus.
v. Meddai ar ddynoliaeth gref, yn byrlymu o natur dda. Wedi'r helynt a'r direidi, y syrthio a'r sefyll:—
Y bedd oedd diwedd ei daith.