Yr Hen Lwybrau/Rhagair
← Yr Hen Lwybrau | Yr Hen Lwybrau gan John Davies (Isfryn) |
Cynnwys → |
RHAGAIR
Os ewch ar hyd y ffordd fawr o Gaersws i'r Drenewydd yn yr haf, ymhen ychydig ar ôl gadael y "Filltir Hir" gwelwch ar y chwith, wedi i'r ffordd droi dros bont y trên, dŵr eglwys fechan. Y mae'n debyg y gwelwch ŵr lluniaidd ac urddasol yn dod allan o'r ardd sydd ar ymyl y ffordd, ac yn cau'r llidiart. Gwelwch wrth ei wisg mai clerigwr ydyw, ond ni thybiech ei fod yn un o hogiau'r pedwar ugain. Cyn iddo gyrraedd llidiart bach y rheithordy y mae'n debyg y byddwch wedi ei ddal, yna fe dry gan gyfarch gwell i chwi. Os byddwch chwi mewn hwyl cael sgwrs fe ddywed wrthych cyn bo hir eich bod yn cerdded yr hen ffordd Rufeinig o Uriconium i Gaersws, ac efallai y sonia hefyd am y carcharorion rhyfel o'r Eidal a fu'n cerdded yr un ffordd heb wybod bod eu hynafiaid wedi ei cherdded fel concwerwyr. O dipyn i beth ewch i siarad am eich plwyf eich hun, a chewch fod y person yn gwybod llawer amdano, ei hynafiaethau a'i gymeriadau. Os Cardi ydych, bydd yn amser te cyn gorffen y sgwrs, ac yna cewch wahoddiad i mewn trwy'r llidiart bach. Braint fawr a fydd honno, oherwydd byddwch yn cael pryd o de gyda'r Parchedig John Davies (Isfryn), rheithor Penstrowed, deon gwlad Arwystli, a chanon Bangor.
Gŵr o sir Aberteifi yw Isfryn, o ardal Lledrod, lle y mae hen atgofion a hen draddodiadau yn byw yn hir. Ysgrifennodd ei frawd, David Davies (Lledrod), lawer o storïau a choelion y fro i'r "Cymru Coch"; cafodd hwy o enau hen bobl yr ardal; a chyhoeddwyd hwy wedi hynny yn llyfryn, "Ystraeon y Gwyll". Cofia Isfryn siarad â hen wraig a gofiai Ieuan Brydydd Hir yn mynd drwy fuarth Ffos-y-bleiddiaid i gyfeiriad ysgol Ystrad Meurig. Y mae'n rhaid dod â'r ysgol hon i mewn wrth sôn am Isfryn. Nid yw fyth yn blino ar sôn am yr hen ysgol, ei gyd-efrydwyr, a'r hen brifathro enwog, John Jones. Diwylliant ei ardal a roddes i Isfryn ei ddiddordeb mewn llenyddiaeth Gymraeg a thraddodiadau Cymru; ysgol Ystrad Meurig a roddes iddo'r diddordeb mewn llenyddiaeth Saesneg a'r iaith Ladin. Gwelir y diddordebau hyn yn ei ysgrifau, a daw'r cwbl allan yn hollol ddirodres. Rai blynyddoedd yn ôl darlledodd ran o'i atgofion, o Fangor. Gyferbyn ag ef ar yr un bwrdd, yn tynnu'r atgofion allan, yr oeddwn i, a'm teulu o un ochr o ardal Lledrod; yn cyhoeddi, yr oedd Nan Davies, a'i theulu hithau o'r un ardal ; ac ar y ffordd adref, cyn gadael Bangor, dyna daro ar Ambrose Bebb yn dod o un o bwyllgorau'r Cyngor Tref, a mynd i mewn i'w achau yntau, o'r un ardal eto. Cyn gadael Bangor teimlai'r pedwar Cardi eu bod yn perthyn yn agos iawn i'w gilydd.
Bu Isfryn yn gwasanaethu mewn llawer ardal, ac oherwydd bod ei wreiddiau yn niwylliant a hanes Cymru medrodd fwrw gwreiddiau ym mhob lle ac ymddiddori yn ei hanes. Cyn gynted ag y daeth i Benstrowed dechreuodd chwilio i hanes y plwyf hwnnw,—canlyniad hynny yw ei ysgrif ar "Ellis Wynne a Glan Hafren" yn y gyfrol hon. Ac eithrio ardal ei febyd efallai mai'r ardal y sonia fwyaf amdani yw ardal Llanrwst. Yr oedd yno doreth o hanes, cymeriadau fel Elis o'r Nant a Gwilym Cowlyd, a defodau fel Arwest Llyn Geirionydd. Teithiodd lawer ar hyd y wlad o dro i dro, a'i wybodaeth o hanes gwahanol ardaloedd yn gwneud y teithio hwnnw yn fyw iawn. Bu'n fawr ei barch ym mhob lle, oherwydd y mae'n medru cymdeithasu â gwreng a bonheddig, â'r hen a'r ieuanc, yn medru cydlawenhau gyda'r rhai sydd yn llawenychu a chydymdeimlo â'r rhai sydd yn galaru.
Yn eu tro daeth i fywoliaeth Penstrowed rai o wŷr enwog yr Eglwys yng Nghymru, i dreulio'u hwyrddydd yn nhawelwch glannau Hafren; a chewch lythrennau cyntaf enwau ambell un ar y ffawydd tal o amgylch y rheithordy. Bu W. L. Richards yma, y mae ei enw wrth Emyniadur yr Esgob Lloyd; D. Basil Jones; Henry Morris, nai Henry Richard; William Williams, caplan Esgob Bangor; a'r Canghellor Cadwgan Pryce. Y mae gan Isfryn rywbeth i'w ddweud amdanynt oll, ac y mae yntau yn deilwng o'r llinach. Bu'n olygydd "Yr Haul" am dros bymtheng mlynedd, ac yr oedd ar is-bwyllgor geiriau "Emynau'r Eglwys". Arferai Senedd Rhufain nodi ei chymeradwyaeth o rywun a roddasai wasanaeth arbennig drwy ddatgan, mewn penderfyniad swyddogol, ei fod wedi haeddu diolch ei wlad. Hwnnw a fydd fy ngair olaf am Isfryn,—De re publica bene meritus est. Gwn y bydd yn falch fy mod wedi defnyddio'r frawddeg Ladin. Gwn hefyd y dywed gyda chwerthiniad bach, "Dydw i ddim yn haeddu hwnna chwaith". Ond myfi sydd i benderfynu beth fydd yn y rhagair.