Yr Heulwen (Mynyddog)

Oddi ar Wicidestun
Neidio i: llywio, chwilio

(Y Gerddoriaeth gan D. Emlyn Evans).


Daw yr heulwen a’i gusanau,
Iechyd chwardda yn y gwynt,
Cymyl sydd fel heirdd lumanau
Bron a sefyll ar eu hynt;
Gawn ni fynd a’r haf o’r gweunydd,
Dwyn cusanau’r haul yn llu,
Ar ein bochau gwridog beunydd,
I addurno cartref cu?


Dringwn fry i gartre’r hedydd,
Chwarddwn, neidiwn megis plant,
Lle mae’r cwmwl yn cael bedydd
Yng ngrisialaidd ddwfr y nant;
Canwn gerddi a dyrïau,
Casglwn flodau gwyllt y wlad,
Ac mi gadwn y pwysïau
Harddaf oll i’n mam a’n tad.