Yr Ogof/Pennod IV

Oddi ar Wicidestun
Pennod III Yr Ogof

gan T Rowland Hughes

Pennod V


IV



NI chododd Joseff yn fore drannoeth. Melys, wedi'r daith hir o Arimathea, oedd gorffwys a gwylio patrymau'r heulwen ar y mur uwch ei wely. Dug un o forwynion Abinoam ei frecwast iddo, ac fel y mwynhâi'r ffrwythau wedi'u sychu, a'r bara a'r gwin, gwrandawai'n ddiog ar y gwahanol ieithoedd ac acenion a ddeuai o'r stryd islaw, a châi bleser yn dychmygu wynebau a gwisgoedd eu perchenogion. Yna, fel y codai'r cwpan gwin i yfed, arhosodd ei law yn sydyn.

"Y Nasaread! Y Nasaread!" meddai lleisiau cyffrous. "Ymh'le?"

"Ar ei ffordd i'r Deml! Ef a'i ddisgyblion!"

Ciliodd y lleisiau fel y brysiai'r bobl ymaith i fyny tua'r Deml. Cododd Joseff ar ei eistedd, gan feddwl eu dilyn, ond yna, gan daflu'i ben yn ddirmygus, pwysodd yn ôl ar ei fraich i orffen ei frecwast. Pam y dylai ef boeni am ryw ffŵl o saer fel hwn? Y ffordd orau i'w drin ef oedd peidio â chymryd sylw ohono. Beth oedd ei fwriad yr wythnos hon, tybed? Yr oedd yn amlwg ei fod yn manteisio ar yr Ŵyl a'i thyrfaoedd i geisio creu cynnwrf. Gobeithio'r nefoedd nad ymyrrai'r milwyr Rhufeinig ddim. Yr oedd y Rhaglaw Pilat yn un digon byrbwyll i orchymyn gwŷr Antonia i wasgaru'r dorf.

Pontius Pilat! Cofiodd Joseff am ei ddyfodiad i Ganaan a'r helynt a fu. Penderfynodd, cyn gynted ag y cyrhaeddodd y wlad, y dangosai'i awdurdod ei hun a nerth Rhufain i'r Iddewon hyn. Beth! meddai, y garsiwn yn Nhŵr Antonia yn Jerwsalem yn peidio â dwyn eu baneri i mewn i'r ddinas! Pam? Yn enw'r Ymerawdwr, pam? Ni adawai'r Iddewon i ddelw o fath yn y byd halogi'r Ddinas Sanctaidd, oedd yr ateb. O'n wir! gwaeddodd Pilat, yna caent weld pwy oedd pwy yn awr. Yr oedd garsiwn newydd ar fin cychwyn o Gesarea i Jerwsalem, a rhoes y Rhaglaw orchymyn iddynt fynd â'u heryrod Rhufeinig a'u cerfluniau o'r Ymerawdwr gyda hwy a llithro'n dawel i mewn i'r ddinas liw nos. Pan ddeffroes Jerwsalem fore trannoeth, cododd pob Iddew ei ddwylo mewn dychryn ac ymdaenodd y cyffro fel tân gwyllt drwy'r ddinas a thrwy'r wlad oddi amgylch. Llifodd y bobl i mewn yn gannoedd o'r pentrefi gerllaw, a cheisiai llawer o leisiau gwyllt chwipio'r dorf i wrthryfel. Ond cynghorion yr henuriaid yn eu plith a orfu, a phenderfynwyd danfon cynrychiolwyr i Gesarea i erfyn ar i'r Rhaglaw newydd ddileu'r gorchymyn a roesai i'w swyddogion yn Jerwsalem. Ac i Gesarea y brysiodd tyrfa ohonynt, yn barod i farw os byddai raid yn hytrach na dychwelyd heb lwyddo yn eu cais. Ond ni wrandawai Pilat arnynt. Syrthiasant ar y ddaear i ymbil tros eu pobl a'u Teml a'u Dinas Sanctaidd, ac yno y buont am bum niwrnod a phum nos. Ar y chweched dydd, galwodd y Rhaglaw hwy at ei orsedd yn y farchnadfa, ond cuddiodd filwyr yng nghefn y lle. Pan godasant yr un cri y tro hwn eto, amneidiodd Pilat ar swyddog, a rhuthrodd y milwyr i mewn â chleddyfau noeth. Ni ddychrynodd yr Iddewon: os marw a oedd raid, yna marw a wnaent. Tynnodd pob un ei wisg yn ôl oddi ar ei wddf a gŵyrodd ei ben o dan y cleddyf. Ildiodd Pilat yn sur ac anfoddog a gyrrodd orchymyn i Jerwsalem i gludo'r delwau'n ôl i Gesarea.

Pontius Pilat! Beth, gofynnodd Joseff iddo'i hun, a ddywedai ef pan glywai i'r Nasaread arwain gorymdaith i'r ddinas? Chwerthin yn ei ddwrn a wnâi'r Rhaglaw, yn fwy na thebyg, gan ei fod yn casáu'r Archoffeiriad Caiaffas, a chai hwyl wrth feddwl am y saer o Nasareth yn ennill y parch a hawliai Caiaffas a'i Deml sanctaidd.

Cofiodd Joseff ei addewid i Esther. Efallai y digwyddai rhywbeth yn y Deml a rôi gyfle iddo siarad â'r Archoffeiriad. Cododd i ymolchi ac ymwisgo'n frysiog.

"Aeth eich gwraig a'ch merch allan yn fore, Syr," meddai Abinoam wrtho yn y drws. "I'r siopau yn y Tyropoeon. He, rhai garw am wisgoedd newydd ydyw'r merched 'ma, onid e, Syr?"

"Byddaf yn ôl i ginio, dywedwch wrthynt, Abinoam." "Gwnaf, Syr. Mae ef i fyny yn y Deml y bore 'ma eto, Syr."

"Pwy?"

"Y Nasaread. Llawer o bobl yn rhuthro yno i'w weld a rhai yn dweud 'i fod e'n bwriadu . . . "

Ond brysiodd Joseff ymaith.

Fel y nesâi at y Deml, gwyddai oddi wrth y sŵn fod rhyw gynnwrf mawr yng Nghyntedd y Cenhedloedd. Prysurodd ymlaen, ac er ei syndod gwelai ddefaid ac ŵyn a geifr a gwartheg yn dianc drwy'r porth a'r gwerthwyr yn rhuthro'n wyllt ar eu holau. Beth yn y byd a oedd yn digwydd? Holodd ryw ddyn gerllaw.

"He, y Nasaread, Syr!" atebodd hwnnw, gan gilwenu arno. "Fe wylltiodd yn lân pan welodd y farchnad yn y Cyntedd. Ac fe glymodd reffynnau yn chwip a gyrru'r anifeiliaid a'r gwerthwyr ymaith am eu bywyd. Dacw'r olaf ohonynt yn gadael yn awr. A'r Nasaread a'i ddisgyblion. Dacw hwy, Syr."

Yr oedd yn amlwg fod y dyn wrth ei fodd, a chyda threm ddig ato brysiodd Joseff tua'r Cyntedd. Safodd yn syn pan gyrhaeddodd y porth. Yn lle'r dadwrdd arferol—gwerthwyr croch yn canmol eu hanifeiliaid, brefiadau ŵyn a defaid ac ychen, y bargeinio a'r dadlau gwyllt, a lleisiau chwyrn y cyfnewidwyr arian—yr oedd y Cyntedd eang yn gymharol dawel. Y corlannau'n agored ac yn wag, y gwerthwyr colomennod wedi dianc â'u cawellau rhwyllog gyda hwy, y stondinwyr a werthai ddysglau clai a gwin ac olew a halen ar gyfer aberthau a swper y Pasg wedi diflannu'n sydyn. Sylwodd Joseff fod y Canwriad Longinus yn sefyll gerllaw iddo, tu fewn i'r clawstyr eang ar fin y Cyntedd.

"A, Longinus!" meddai, gan geisio swnio'n llon.

"Bore da, Syr."

"Mynd am dro o gwmpas y ddinas?"

"Ie, a digwyddais edrych i mewn i'r Cyntedd yma pan oedd y Proffwyd yn gyrru'r . . .

"Hy! Proffwyd, wir! Peidiwch â gwrando ar y storïau a glywch chwi am y dyn, Longinus. Y mae'n ddrwg gennyf i chwi fod yn dyst o'r gwylltineb hwn."

"Yr wyf fi'n falch, Syr," atebodd y canwriad yn dawel. Edrychodd Joseff arno, heb ddeall. Yna gwelodd un o'i gyd—Gynghorwyr, yr hen Falachi, yn dawnsio ac yn ysgwyd ei ddyrnau tu fewn i'r Cyntedd. Gadawodd Longinus a mynd ato.

"Beth yw'r helynt Malachi?"

"Helynt! Helynt! Yna troes at ei fab Arah a oedd yn cropian hyd farmor amryliw'r llawr gerllaw. "A gefaist ti bob sicl, Arah?"

"Naddo, 'Nhad. Mae'n rhaid bod y taclau 'na o Galilea wedi codi rhai ohonynt. Yr wyf dros ddeugain sicl yn fyr.'

"Beth! Beth ddwedaist ti?"

"Dros ddeugain sicl yn fyr, 'Nhad."

Ysgydwodd Malachi ei ddyrnau'n chwyrn eto a dawnsiodd o gwmpas yn ei ddicter. Yna gwaeddodd ar fab arall ryw ugain cam i ffwrdd. Yr oedd hwnnw hefyd yn cropian hyd y llawr.

"A wyt tithau'n fyr, Samuel?"

"Ydwyf, 'Nhad. Chwech ar hugain, y mae arnaf ofn."

"Beth a ddigwyddodd, Malachi?" gofynnodd Joseff. "Gresyn na fuasech chwi yma ychydig ynghynt." atebodd yr hen ŵr.

"Hei!" gwaeddodd ar ŵr ifanc hirwallt a frysiai heibio iddynt ar ei ffordd allan o'r Cyntedd. Safodd hwnnw, gan gilwenu, ac yna poerodd yn ddirmygus tuag atynt cyn troi ymaith a thrwy'r porth.

"Yr oedd hwn'na gydag ef," meddai Malachi. Un o'i ddisgyblion."

"Y Nasaread?"

"Ie.

"Fe ddaeth yma, fe ollyngodd yr anifeiliaid yn rhydd, fe yrrodd y gwerthwyr drwy'r porth, ac yna . . . O, na fedrwn i gael fy nwylo arno!"

"Yna?"

"Fe gydiodd ym mwrdd Arah a'i droi nes oedd yr arian hyd y llawr i gyd . . . O na chawn i afael ynddo! . . . Wedyn ym mwrdd Geser . . . Y mae'n rhaid i'r Sanhedrin weithredu ar unwaith, Joseff . . . Wedyn ym mwrdd Serug. . . Rhaid inni ei ddal a'i labyddio, Joseff . . . Wedyn ym mwrdd Samuel . . .

Nodiodd Joseff yn ddwys, gan gymryd arno gydymdeimlo â'r hen Falachi. Ond, yn slei bach, yr oedd yn falch i hyn ddigwydd. Malachi oedd y gŵr cyfoethocaf a'r cybydd mwyaf yn Jerwsalem, a gwyddai pawb am y triciau a wnâi ef a'i feibion a'u meibion hwythau i dwyllo'r pererinion. Buasai Malachi ei hun yn gyfnewidiwr arian ar un adeg, ond erbyn hyn yr oedd yn fodlon yn ei hen ddyddiau ar wylio'i ddau fab a'i ŵyrion yn hocedu mor ddeheuig ag y gwnaethai ef. A chyn hir byddent hwythau mor gyfoethog—ac mor ddienaid—ag ef.

Rhaid oedd i bob un o'r pererinion dalu hanner sicl i Drysorfa'r Deml. Ond deuent hwy o bob rhan o'r byd, gan ddwyn gyda hwy arian llawer gwlad. Yr oedd delw o'r Ymerawdwr neu o ryw frenin neu dduw neu dduwies ar yr arian hynny, a phechod yn erbyn Iafe oedd dod â "delw gerfiedig" yn agos i'w Deml sanctaidd. Nid oedd cerflun ar arian y Deml nac ar arian Galilea, ac felly, y rhai hynny'n unig a oedd yn gymeradwy ger bron Duw. Rhaid oedd i'r pererinion fynd at fyrddau'r cyfnewidwyr i newid eu harian ac i dalu'n hallt am y gymwynas. Pwysai'r cyfnewidiwr y darnau o arian dieithr a'u cael, bron yn ddieithriad, yn brin. Uchel oedd y gweiddi a'r dadlau, ond wedi hir ymryson, y cyfnewidiwr a enillai, a thalai'r pererin druan gan regi'n chwyrn. Yna troai ymaith at werthwr anifeiliaid i brynu oen neu golomen i'w haberthu. Y cnaf hwnnw'n gwrthod cydnabod gwerth yr arian tramor. Yn ôl eto at fwrdd y cyfnewidiwr i newid mwy o arian ac i ddadlau'n ffyrnig unwaith yn rhagor. Dychwelyd at y gwerthwr a chael bod pris yr oen neu'r golomen wedi'i godi'n sydyn ar ryw esgus. Ond rhaid oedd aberthu onid i hynny y daethai'r pererin bob cam o Bersia neu'r Aifft neu, efallai, o Ysbaen? Mynd at fwrdd y cyfnewidiwr y trydydd tro—i gael ei dwyllo eto. Ac yn ei blas islaw'r Deml, gwenai'r cyn—Archoffeiriad Annas, er gwybod ohono mai "bythod meibion Annas" oedd yr enw a roddid i'r byrddau melltigedig hyn gwenai am mai i'w goffrau ef a'i deulu yr âi llawer o'r elw.

"Yr oedd y dyn yn cablu, Joseff," chwanegodd Malachi, gan ddal i ysgwyd ei ddyrnau ac i ddawnsio o amgylch.

"Oedd. Dyfynnu'r Proffwydi, os gwelwch chwi'n dda." "Beth oedd ei eiriau, Malachi?"

"Tŷ gweddi y gelwir fy nhŷ i,' gwaeddodd â'i chwip yn ei law, eithr chwi a'i gwnaethoch yn ogof lladron.' Pwy yw ef i ŵyrdroi geiriau cysegredig y Proffwydi i'w amcanion ei hun? Pwy yw ef? Pwy yw ef?"

"Ie, pwy yw ef?" cytunodd Joseff, er y teimlai fod y term "ogof lladron" yn un pur gywir yn y cyswllt hwn.

"Gabledd yw peth fel yna, Joseff, cabledd a dim arall."

Edrychai'r hen frawd yn ddwys ar y llawr, ond goleuodd ei lygaid mewn llawenydd wrth ganfod sicl gloyw wrth ei draed.

"Hei, Arah, Arah, dyma iti un!' gwaeddodd yn gyffrous ar ei fab. 'Faint gefaist ti?"

"Dim ond hanner sicl, 'Nhad," meddai llais digalon o dan y bwrdd gerllaw.

Gadawodd Joseff Malachi a'i feibion i'w hymchwil, gan geisio teimlo'n ddig tuag at y Nasaread a'i ehofndra. Yr oedd y dyn yn un gwyllt a digywilydd, a gorau po gyntaf y delid ac y cosbid ef. Ie, gorau po gyntaf y rhoid y terfysgwr hwn mewn cell . . . Ac eto, yr oedd hanner—gwên yn llygaid Joseff wrth iddo feddwl am brofedigaethau'r cyfnewidwyr arian.

Aeth ymlaen ar draws y Cyntedd enfawr a thrwy fwlch yn y Soreg, y clawdd rhyngddo a'r Deml ei hun. Yna dringodd y grisiau marmor i Gyntedd y Gwragedd. Cerddai'n gyflym a phenderfynol: hwn oedd ei gyfle i roi awgrymiadau Esther ar waith. Os oedd yr Archoffeiriad yn y Deml, meddai wrtho'i hun fel y brysiai drwy Gyntedd Israel ac i fyny'r grisiau i Gyntedd yr Offeiriaid a thua'r Allor, âi i siarad ag ef. A cheisiai, yn ffigurol, ysgwyd ei ddyrnau.

Arafodd ei gamau ac yna safodd, gan dynnu'i law trwy ei farf. Cymerai arno feddwl yn galed am rywbeth, ond mewn gwirionedd gwrandawai'n astud ar sgwrs dau Pharisead a safai yn nrws un o'r ystafelloedd a neilltuwyd ar gyfer aelodau'r Sanhedrin.

"Fe ddywedais i ddigon yn y Sanhedrin diwethaf," meddai un—gŵr bychan tew o'r enw Esras, o Gapernaum.

Cytunodd y llall, Isaac o Jericho—dyn tenau, hirdrwyn, a’i wefusau culion yn un llinell syth—drwy wneud sŵn hir yn ei wddf.

"Petai rhai ohonoch chwi'n dod i fyny i Gapernaum acw," aeth Esras ymlaen, "caech weld trosoch eich hunain. Y bobl wedi gwirioni'n lân ac yn ei ddilyn o le i le gan frefu fel defaid. Efallai y coeliwch chwi yrwan, wedi i chwi weld â'ch llygaid eich hunain."

Y sŵn yn ei wddf oedd ateb Isaac eilwaith.

"Wedi i'r un peth ddigwydd o dan eich trwynau chwi," chwanegodd Esras. "Yma yn Jerwsalem. A bore heddiw wel, gwelsoch wynebau'r bobl pan yrrodd y dyn y gwerthwyr a'r cyfnewidwyr arian o'r Cyntedd. Wrth eu bodd, Isaac, wrth eu bodd! A'r plant yn gweiddi Hosanna!' Yng Nghyntedd y Deml sanctaidd ei hun, Isaac!

Y sŵn gyddfol eto, ac yna, "Efallai y dylem ni roi'r hanes i'r Archoffeiriad," meddai Isaac.

Troes Joseff i ymuno â hwy yn y drws. Nid oedd ef, y Sadwcead cyfoethog, yn hoffi'r Phariseaid, a phur anaml y llefarai air wrth un ohonynt. Ond yr oedd y ddau hyn yn weddol flaenllaw yn y Sanhedrin, ac ni fynnai iddynt fynd at yr Archoffeiriad o'i flaen ef.

"Clywais chwi'n sôn am y Nasaread hwn," meddai wrthynt. "Y mae'n hen bryd inni weithredu, gyfeillion."

"Ni"? "Cyfeillion"? Cododd y ddau aeliau syn.

"Ddoe," chwanegodd Joseff, "fe farchogodd fel Brenin i'r ddinas. A gynnau . . . "

"Fe'i gwelsom â'n llygaid ein hunain," meddai Esras. Gwnaeth Isaac sŵn yn ei wddf.

"Pwy y mae'r dyn yn feddwl ydyw?" gofynnodd Joseff.

"Fe ddaeth drwy Jericho 'cw ar ei ffordd yma," meddai Isaac. "A chyda phwy y lletyodd? Gyda'r pen-publican, Sacheus, dyn wedi'i werthu ei hun i Rufain, ac wedi pentyrru cyfoeth trwy dwyllo'r bobl. Ac un felly, un o gyfeillion Sacheus, sy'n galw'r Deml yn ogof lladron'! Os bu lleidr erioed, Sacheus y Publican yw hwnnw. Ond y mae'n debyg y gellir maddau iddo ond cael gwledda wrth ei fwrdd! A chlywais fod gwinoedd gorau'r wlad yn seler Sacheus!"

"Bwriadaf fynd i weld yr Archoffeiriad ynghylch y dyn,' meddai Joseff. "Yr ydym wedi dioddef yn ddigon hir."

Pam yr oedd y Sadwcead hwn wedi'i gyffroi fel hyn? oedd y cwestiwn ym meddwl Esras ac Isaac. Am fod y Nasaread wedi ymyrryd ag arian y Deml, yn sicr. Câi'r Sadwceaid eu cyfran o drethi'r Deml bob Pasg, ac ofnent, efallai, weld yr elw hwnnw'n lleihau Edrychodd y ddau Pharisead ar ei gilydd yn awgrymog. Ond Sadwcead neu beidio, meddyliodd Isaac yn gyflym, da o beth fyddai i hwn ddod gyda hwy at yr Archoffeiriad gwnâi'r unfrydedd argraff ar Gaiaffas.

"Yr oeddwn i'n awgrymu'r un peth i Esras 'ma," meddai. "Beth ped aem ein tri i siarad ag ef?"

Yr oedd gan yr Archoffeiriad ystafell iddo'i hun yng Nghyntedd yr Offeiriaid. Ond nid oedd ef yno, a brysiodd y tri o'r Deml a thros Bont y Tyropoeon tua'i blas mawr ar lechwedd Seion. Wedi iddynt ddringo'r grisiau o farmor a mynd i mewn i'r cwrt eang, agored, arweiniodd morwyn hwy i fyny i risiau llydain ac ar hyd oriel at ystafell Caiaffas.

"I mewn!" gwaeddodd llais mewn ateb i'w churo.

"Cynghorwyr i'ch gweld, f'Arglwydd."

"Dewch i mewn, gyfeillion, dewch i mewn. Eisteddwch . . . Gwin?"

"Dim, diolch, f'Arglwydd," atebodd y tri. Aeth y forwyn ymaith.

"Daethom i'ch gweld . . . " dechreuodd Isaac.

"Ynglŷn â'r Nasaread," meddai Esras. "Clywsoch, y mae'n debyg, ei hanes yn marchogaeth fel Brenin i mewn i'r ddinas ddoe."

"Do."

"Wel, y bore 'ma . . .

"Clywais yr hanes hwnnw hefyd," meddai'r Archoffeiriad. "Newydd fy ngadael y mae'r Archoffeiriad Annas, a buom yn ymgynghori ar y pwnc."

"Y mae'n bryd inni wneud rhywbeth, f'Arglwydd," meddai Joseff. "Ydyw, wir, yn hen bryd." Araith y byddai Esther yn rhoi bendith arni, meddai wrtho'i hun. Ond pe gofynnai'r Archoffeiriad, "Gwneud beth?" gwyddai na wnâi ond ffwndro.

Cerddodd Caiaffas o amgylch yr ystafell, gan ymddangos yn ddwys a phryderus. A oedd ef felly mewn gwirionedd? gofynnodd Joseff iddo'i hun. Neu ai actio a wnâi? Ni wyddai neb pa bryd yr oedd y dyn hwn yn ddiffuant.

Ei dad yng nghyfraith, yr hen Annas deheuig a chyfrwys, a gymhellodd y Rhufeinwyr i wneud Caiaffas yn Archoffeiriad. Buasai Annas ei hun yn y swydd am naw mlynedd, ac yna, pan ddiorseddwyd ef, aeth ati i reoli drwy eraill a'i feibion a'i fab yng nghyfraith yn eu plith. Gan mai ef a oedd tu ôl i farchnad enfawr y Deml, yr oedd yn graig o arian—ac yn barod i ddefnyddio'r cyfoeth i'w amcanion ei hun. Os tywalltai Annas arian y Deml i goffrau pob Rhaglaw Rhufeinig wel, ei fusnes ef oedd hynny.

Clai yn ei ddwylo fuasai'r Archoffeiriaid o flaen Caiaffas. Codai Annas ei fys, a brysient ato fel gweision taeog at eu harglwydd. Ond nid felly Caiaffas. Diplomat oedd ef, yn cymryd arno ddilyn pob awgrym a wnâi 'i dad yng nghyfraith ond, mewn gwirionedd, yn awdur a pherffeithydd yr awgrymiadau hynny bron bob gafael. Ai at Annas gyda rhyw awgrym, ond gofalai drafod y mater yn wylaidd a gofyn cyngor ei dad yng nghyfraith. Arweiniai'r sgwrs i gyfeiriad yr awgrym y daethai ef i'w wneud ac yna, pan ddeuai'r awgrym hwnnw o enau Annas, goleuai'i lygaid gan edmygedd a diolch. A theimlai'r hen Annas yn glamp o ddyn, "yn ardderchog o gyngor a gwybodaeth."

Ni hoffai Joseff yr Archoffeiriad hwn. Yr oedd yn ŵr tal ac urddasol yr olwg ac ni cheid neb mwy cwrtais a boneddigaidd yn yr holl wlad. Cerddai o amgylch yr ystafell yn awr wedi'i wisgo yn ei harddwch offeiriadol, ac ni allai neb beidio ag edmygu'i feistrolaeth lwyr arno'i hun. Yr oedd yn actor gwych; yn wir, ni wyddai'i gyfeillion agosaf—ei gydnabod a'i gynffonwyr, yn hytrach, oherwydd nid oedd gan ei uchelgais le i gyfeillion—pa bryd yr oedd ei wyneb yn fiswrn neu beidio. Llygaid mawr a ymddangosai'n freuddwydiol; gwên ddidwyll, garedig; llais tawel, mwyn—wrth y pethau hynny yr hoffai Caiaffas i chwi ei farnu. A llwyddai'n hynod o dda. Hyd yn oed wedi i chwi wybod mai gŵr caled, uchelgeisiol, cyfrwys, oedd ef, teimlech yn ansicr o hynny dan gyfaredd ei wên gyfeillgar. Efallai, meddech wrthych eich hun, i chwi wneud cam â'r dyn a ffurfio barn fyrbwyll amdano; efallai ei fod mor ddiniwed â'i wên, mor wylaidd â'i lais. Chwi, meddai'r wên, oedd ei gyfaill pennaf; nid oedd neb tebyg i chwi. Ac aech ymaith bron yn credu hynny. Bron.

"Yr oeddwn ar gychwyn i'r Deml, gyfeillion," meddai yn awr, "ac wedi cyrraedd yno bwriadwn ymgynghori â rhai ohonoch chwi'r Cynghorwyr mwyaf blaenllaw.'

Teimlai'r tri'n falch o gael eu galw'n "flaenllaw." Ymsythodd Joseff ar ei sedd; gwenodd Esras; gwnaeth Isaac sŵn boddhaus yn ei wddf.

"Gwir a ddywedwch," aeth Caiaffas ymlaen. "Y mae'n hen bryd inni atal y Nasaread haerllug hwn. Edwyn f' Arglwydd Annas un a all ein cynorthwyo i'w ddal. Gyr negesydd at y dyn hwnnw ar unwaith. Caiff ateb yfory. A gawn ni gyfarfod drennydd, yn bwyllgor bach o bedwar yn y Deml?"

"O'r gorau, f'Arglwydd Caiaffas," meddai'r tri.

"Campus. Beth pe cyfarfyddem yn yr ystafell bwyllgor yn gynnar yn y prynhawn? Ar . . . ar y seithfed awr? A fydd hynny'n gyfleus i chwi?"

"Yn berffaith gyfleus, f'Arglwydd," atebodd Esras ac Isaac yn wasaidd. Nodiodd Joseff, gan gymryd arno fod yn ddidaro.

"Yr wyf yn ddiolchgar iawn i chwi, gyfeillion," meddai Caiaffas fel yr aent o'r ystafell. "A chredaf y llwyddwn i ddal y proffwyd bondigrybwyll o Nasareth. Ni feiddiwn roi'n dwylo arno yng ngwydd y bobl, wrth gwrs. Gwahodd helynt a chynnwrf fyddai hynny. Ond,"—a gwenodd yn frawdol arnynt—"y mae gan f'Arglwydd Annas a minnau gynllun."

Ni ddywedodd beth oedd y cynllun, ac ar ei ffordd i lawr tua Llety Abinoam ceisiai Joseff ddyfalu beth a allai fod. Annas yn adnabod rhywun a'u cynorthwyai? Un o ddisgyblion y dyn, efallai? Neu berthynas i un ohonynt? Dim gwahaniaeth yr oedd ef, y Cynghorwr Joseff o Arimathea, ar y pwyllgor cyfrin a gyfarfyddai drennydd ar y seithfed awr. Byddai Esther wrth ei bodd. Cerddodd Joseff yn dalog tua'r Llety i adrodd yr hanes wrth ei wraig. Ni sylwodd ar ei fab Beniwda'n llechu yng nghysgodion rhyw ddrws gerllaw.

Wedi i'w dad fynd heibio, brysiodd Beniwda i lawr tua siop Dan y Gwehydd yn Heol y Farchnad. Galwasai yno'r prynhawn cynt, yn union wedi iddo gyrraedd Jerwsalem, dim ond i ddeall bod ei ffrind Ben-Ami i ffwrdd ar ymweliad â'r milwyr cudd yn y bryniau. Ond disgwylid ef yn ôl yn ystod y nos neu yn oriau mân y bore.

Ped âi rhyw ddieithryn i mewn i siop Dan y Gwehydd, ni sylwai ar ddim anghyffredin ynddi. Gwelai Dan yn brysur wrth ei wŷdd, ei fab Ben-Ami wrth un arall neu wrth y droell nyddu, un neu ddau o wŷr diniwed a diog yr olwg yn teimlo darnau o frethyn ac efallai'n dadlau'n swrth yn eu cylch, eraill yn segura yn erbyn y mur neu'n eistedd ar yr hen fainc yng nghongl y siop i hel straeon, a'r hen hen ŵr Lamech, tad Dan, yn plygu'n anystwyth ymlaen ac yn ôl wrth ryw ddyfais anhydrin i gribo gwlân. A chlywai'r dieithryn, uwch sŵn gwenoliaid y ddau wŷdd, gwyno am y tywydd neu am brisiau gwlân neu am yr afiechydon a gludai'r cardotwyr aneirif i'r ddinas. Neu efallai y gwrandawai ar lais uchel a chrynedig Lamech yn adrodd ei helyntion ym myddin Jwdas o Gamala pan fanteisiodd y gwladgarwr hwnnw ar farw Herod Fawr i daro yn erbyn y Rhufeiniaid; a châi weld yr hen frawd yn ceisio, er gwaethaf y boen yn ei gymalau, actio'r gorchestion gynt, gan yrru'i waywffon eto ar un trywaniad drwy gyrff pedwar o'i elynion. Wedi iddo orffen ei neges, crwydrai'r dieithryn ymaith, yn sicr mai siop Dan y Gwehydd oedd cyrchfan rhai o glebrwyr huotlaf Jerwsalem.

Cyn gynted ag y troai'r dieithryn ei gefn, ailgychwynnai gwŷdd Dan neu Ben-Ami, a fu'n gweini arno, ac âi'r siarad ymlaen drwy'r sŵn i gyd. Ond nid yr un siarad. Ciliai pob gwên a phob chwerthin ac ymlusgai'r hen Lamech yn wylaidd yn ôl at ei beiriant cribo. Anghofiai'r cwmni hel straeon neu gwyno am y tywydd. Yn siop Dan y Gwehydd y cyfarfyddai rhai o wŷr blaenaf Plaid Ryddid.

Y gwŷr blaenaf a doethaf. I'r rhai gwyllt a phenboeth yr oedd Dan yn rhy bwyllog, a beient ef am aros ei gyfle yn lle taro ar unwaith. Hoffent hwy gael arweinydd mwy mentrus a rhyfelgar—fel y gwylliad Tera, a gasglasai dyrfa o wŷr o'i amgylch yng nghilfachau'r bryniau. Ond gwyddai dynion callaf y Blaid nad oedd neb sicrach ei gamau yn yr holl wlad na Dan y Gwehydd.

Wedi iddo fynd i mewn a chyfarch ei gyfaill, pwysodd Beniwda yn erbyn y mur yn ymyl Dan, gan gymryd arno wylio'r patrwm yn tyfu yn y gwŷdd. Ymddangosai'r gwehydd yn ŵr cadarn a dwys, araf a myfyriol ei ffordd, braidd yn rhy dew ac yn rhy lydan i fod yn un o arweinwyr y Selotiaid o bawb. Yn dawel a phwyllog hefyd y siaradai, â rhyw nodyn lleddf a hiraethus yn ei lais. Tyngai'r dieithryn mai bardd a breuddwydiwr oedd Dan a bod llawer salm yn ogystal â brethyn yn cael eu gweu ar y gwŷdd o'i flaen. Ond tu ôl i'r llais a'r llygaid tawel yr oedd cyffro rhyw eiddgarwch mawr. Bu adeg pan edrychid arno fel un o wŷr mwyaf beiddgar Plaid Ryddid, ond erbyn hyn daeth i gredu mai'n araf, o awr i awr ac o ddydd i ddydd, yr achubid enaid y genedl.

"Lol i gyd," meddai'r ifainc—ac yn arbennig ei fab Ben-Ami, penboethyn mwyaf y Blaid—ond er hynny, gwrandawai pawb yn astud a gwylaidd pan lefarai Dan. Ychydig a ddywedai, gan adael i'r siarad a'r dadlau lifo heibio iddo fel un â'i feddwl ymhell; ond wedi i'r huodledd ddechrau diffygio, codai'i olwg o'r gwŷdd a thynnu bysedd drwy'i farf. Tawai pob un, gan wybod y deuai geiriau doethineb o enau Dan.

Ei fab Ben-Ami a oedd wrthi yn awr yn gyffrous fel arfer. Ef oedd un o gyfeillion pennaf Beniwda, a thrwyddo y daeth mab y Sadwcead cyfoethog yn aelod o'r Blaid ac yn ymwelydd rheolaidd â siop y Gwehydd yn Jerwsalem. Yr oedd y ddau yn debyg iawn i'w gilydd, a'u hwynebau yn denau a llym, heb fawr o hiwmor yn y gwefusau ond â'r llygaid yn fflachio'n wyllt bron yn ddibaid.

"Bûm i fyny yn y bryniau," meddai Ben-Ami. "Y mae Tera yn barod, yn aros am yr arwydd i daro. Y mae ganddo dros bedwar cant o wŷr, Beniwda, pob un yn werth dau o'r milwyr Rhufeinig. Cleddyfau, gwaywffyn, meirch—popeth yn barod. Un gair, a bydd ef a'i filwyr yn cychwyn liw nos." Siaradai'n gyflym a nerfus, rhwng ei ddannedd, gan droi ei ben yn sydyn i bwysleisio pob brawddeg. Ni ellid dychmygu neb mwy gwahanol i'w dad na'r gŵr ifanc anesmwyth hwn.

"Y mae'n aros am yr arwydd," meddai eto, gan edrych yn wyllt tuag at Dan. Ond yr oedd holl sylw'r gwehydd ar y gwŷdd.

"Bûm yn siarad â degau ohonynt," aeth ei fab ymlaen. "Pob un yn dyheu am yr ornest. Byddai Jerwsalem yn eu dwylo cyn i wŷr Antonia ddeffro."

"Cyn iddynt droi yn eu cwsg," ategodd Beniwda.

"Yr wythnos hon amdani," chwanegodd Ben-Ami. "Heno nesaf," meddai Beniwda.

"Ie, heno nesaf," Edrychodd Ben-Ami eto ar ei dad. "Byddai'r pererinion i gyd yn ymuno â hwy. Y mae arfau gan ugeiniau o'r rheini. Hwn yw'r cyfle, 'Nhad. Ni ddaw un arall am fisoedd. Tan Ŵyl y Pebyll, efallai.'

Nid atebodd Dan: yr oedd y patrwm o'i flaen yn un hynod ddiddorol. Dechreuodd Ben-Ami golli amynedd.

"Dim ond gyrru negesydd at Tera," meddai, "ac fe gychwynnai ef a'i fyddin ar unwaith. Byddai'r negesydd yno mewn teirawr."

"Mi awn i," cynigiodd Beniwda.

"A ninnau," meddai dau frawd, yr efeilliaid Abiram a Dathan, a eisteddai ar y fainc.

Clywyd rhywun yn chwibanu alaw hen ddawns Iddewig yng nghyfeiriad y drws. Hwn oedd yr arwydd iddynt newid pwnc yr ymddiddan.

"He, he, he!" chwarddodd yr hen Lamech tu ôl i'w beiriant cribo. "A chan mai dim ond un llygad a oedd ganddo, haerai y dylai gael mynd i mewn i'r arena am hanner y pris! Hanner yr hyn a âi ymlaen yno a welai ef, meddai, ac felly . . . "

Tawodd i nodio'n gyfeillgar ar y ddau filwr Rhufeinig a roddai'u pennau i mewn drwy'r drws.

"Lookin a bit like rain this mornin', isn't she?" meddai wrthynt mewn Groeg. "Yes, indeed, she is, very like."

Hylldremiodd Ben-Ami ar ei daid. Pechod mawr yn ei olwg ef oedd i Iddew siarad Groeg, a dywedai'r gwenau ar wynebau'r Rhufeinwyr nad oedd hwn yn Roeg clasurol.

Aeth y milwyr ymaith, a daeth alaw arall o'r ffordd tu allan cyhoeddai honno fod y perygl drosodd.

"A pheth arall," meddai Beniwda, "hwn yw'r cyfle i achub y rhai sydd yn y carchar."

"Fy mrawd Dysmas yn un," meddai gŵr ifanc a safai wrth ymyl yr hen Lamech.

"A Gestas a Barabbas," ebe Ben-Ami. "Os na wnawn ni rywbeth yn fuan fe fydd Pilat yn condemnio'r tri ohonynt."

"Bydd, yfory neu drennydd, yn sicr i chwi.

Ac yna.. Syllodd brawd Dysmas ar y llawr, yn ofni llefaru'r gair "croeshoelio."

"Ie, cyn yr Ŵyl," cytunodd Ben-Ami.

cytunodd Ben-Ami. "Yn esiampl i'r holl bererinion. Nid oes amser i'w golli. Dim awr, heb sôn am ddiwrnod neu ddau. Heno nesaf amdani."

Apeliodd ei lygaid yn ffyrnig at ei dad, ond nid oedd Dan fel petai'n gwrando.

"Petawn i hanner can mlynedd yn ieuangach," meddai'r hen Lamech, yn chwilio o wyneb i wyneb am wrandawr, "mi fuaswn i . . . mi fuaswn i . . . Hm." Gan na chymerai neb sylw ohono, tawodd yn rwgnachlyd.

Daeth alaw arall, hen salm—dôn y tro hwn, o'r tu allan i'r drws un o aelodau'r Blaid a nesâi. Crwydrodd dyn canol oed, braidd yn dlawd ei olwg, yn ddidaro i mewn i'r siop. Aeth at Dan ac estyn hen wisg iddo.

"A fedrwch chwi drwsio ysgwydd hon imi, Dan?" Cymerodd Dan y wisg oddi arno a'i dal yn erbyn y golau. "Gallaf, er i'r brethyn fynd yn lled fregus . . . Wel, Laban?" "Dim gobaith, Dan, dim siawns o gwbl."

Syllai'r ddau ar y wisg, a thaerai pwy bynnag a âi heibio mai amdani hi y siaradent.

"A lwyddaist ti i fynd i mewn i'r Praetoriwm?" gofynnodd Dan, a'i fysedd yn teimlo'r gwnïad hyd ysgwydd y wisg.

"Do. Heno y mae'r Rhaglaw yn cyrraedd."

Yn y Praetoriwm y trigai'r Rhaglaw Rhufeinig Pontius Pilat pan ddeuai i Jerwsalem, ac o dan y lle yr oedd celloedd llu o garcharorion a oedd yn aros eu praw.

"Bûm yn helpu dynion i gludo gwin i'r seler," meddai Laban. "Y mae'n amlwg fod y Rhaglaw a'i wŷr yn bwriadu yfed tros yr Ŵyl!"

"Wel?"

"Rhoddais ddarn arian i un o'r gweision i adael imi fynd at y celloedd. Daeth hefo mi â lantern."

"A'r esgus a roddaist iddo?"

"Fy mrawd ar goll ers dyddiau a minnau'n ofni iddo gyflawni rhyw drosedd a chael ei ddal."

"Fe gredodd y gwas y stori?"

"Do. Un o Galilea oedd ef, fel finnau, a daethom yn gyfeillgar. Digwyddwn adnabod cefnder iddo pan oeddwn i'n gweithio i fyny yn Nhiberias, ac wedyn . . .

"Wel?" Swniai Dan yn swrth a breuddwydiol, ond gwyddai pawb a'i hadwaenai nad oedd neb mwy effro nag ef.

"Darn arian arall i'r gwyliwr Rhufeinig, a chawsom fflachio'r lantern i mewn i bob cell." Ysgydwodd y dyn ei ben yn llwm. "Dim gobaith, dim siawns o gwbl, Dan."

Taflodd y gwehydd y wisg tros fwrdd cul gerllaw iddo a rhoes ei fys ar un o linellau'r patrwm ynddi.

"Dyma'r grisiau i lawr i'r celloedd," meddai. "Troi i'r chwith yn y fan yma, wedyn rhyw ddeg cam i'r dde—ac yna?" "Yna i'r chwith. Y gell bellaf un. Y mae'r tri yn yr un gell. Barrau haearn, clo mawr ar y drws, y tri wedi'u cadwyno wrth biler yn y graig. Dim ond ysbryd a fedrai ddianc, Dan."

"Hm. Ie, y mae arnaf innau ofn." Swniai Dan yn siomedig.

"Fe ddangosodd wyneb Barabbas ei fod yn adnabod fy llais. Ond yn ffodus, yr oedd y gwas yn edrych ymaith y munud hwnnw."

Cymerodd Dan y wisg oddi ar y bwrdd a'i rhoi o'r neilltu.

"Bydd yn barod ymhen deuddydd," meddai, gan eistedd eto a gyrru'r wennol ar ei thaith yn ôl a blaen ar draws y gwŷdd.

"Edrychai Barabbas a Gestas yn o dda," sylwodd Laban, "ond yr oedd Dysmas druan yn torri'i galon yn lân ac yn . . .

"Ymhen deuddydd," meddai Dan eto, braidd yn gwta. "O'r gorau. Diolch." Ac aeth Laban ymaith.

Bu orig o ddistawrwydd. Gwyddai rhai ohonynt i Dan ddyfeisio cynllun i achub y tri Selot o'u cell o dan y Praetoriwm, a gwelent oddi wrth ei wedd yn awr na weithiai'r cynllun hwnnw.

"Byddai'r Praetoriwm a Chaer Antonia yn nwylo Tera a'i wŷr mewn awr," meddai Ben-Ami, yn ailgydio yn ei ddadl. "Ac y mae'r bobl i gyd yn barod i godi. Yn erbyn y trethi, heb sôn am ddim arall."

Wrth ochr y ddau efaill, Abiram a Dathan, ar y fainc, eisteddai dyn tawel a syn yr olwg, a'i wallt, er nad oedd ond rhyw bump a deugain, cyn wynned ag eira Mynydd Hermon. Syllai'n ddwys ar y llawr, ond cododd ei ben yn awr.

"Trethi Trethi!" meddai'n chwyrn ac uchel.

Tynnodd Dan ei fainc yn nes at y gwŷdd, ei ffordd o atgoffa'r siaradwr nad mewn cyfarfod cyhoeddus yr oedd. "Trethi!" meddai'r dyn yn dawelach ond yn llawn mor ffyrnig. "Y mae'r bobl yn fy ardal i yn llwgu i geisio'u talu. Y dreth flynyddol, treth y dŵr, treth y ddinas, treth y ffordd, treth y tŷ, tollau wrth y pyrth, tollau yn y farchnad—y mae gennym hawl i anadlu, a dyna'r cwbl. Wedi inni dalu ein trethi i'r Deml, beth sy gennym ar ôl?"

"Dim digon i gadw corff ac enaid ynghyd, heb son am roi arian i'r Rhufeinwyr," chwyrnodd un o'r efeilliaid wrth ei ochr.

"I'r Rhufeinwyr?" meddai Beniwda. "Mi hoffwn i wybod faint o'r trethi sy'n mynd i bocedi'r casglwyr. Y mae pob publican y gwn i amdano yn dew fel mochyn."

"Fel mochyn?" gofynnodd Ben-Ami. "Fel rhai o offeiriaid y Deml wyt ti'n feddwl, Beniwda!"

Rhoes Lamech y gorau i gribo'r gwlân ac edrychodd yn llym ar ei ŵyr yr oedd taflu sen ar offeiriaid y Deml yn gabledd yng ngolwg yr hen frawd.

"Yr wyt ti'n anghofio mai i'r Arglwydd dy Dduw y cyflwyni drethi a degymau a rhoddion y Deml," meddai'n ddwys.

Yr oedd ateb gwyllt ar flaen tafod Ben-Ami, ond cododd ei dad a chroesi ato.

"Patrwm hardd, Ben-Ami," sylwodd, gan nodio tua'r gwŷdd. "Y mae'r coch a'r du yn mynd yn dda gyda'i gilydd.

Ydynt, wir, fachgen, yn dlws iawn." A throes Dan yn ôl i'w sedd, gan fwmial salm.

"Cefais i fy magu'n grefyddol iawn," meddai dyn y gwallt gwyn" Mor ddefosiynol â neb. Y synagog a'r Deml oedd popeth yn yr hen gartref. Ond yn wir, fe aeth y baich yn drwm i un a chanddo bump o blant. Offrwm-pechod, offrwm-diolchgarwch, aberthau, hanner-sicl y wraig a minnau i Drysorfa'r Deml, blaenffrwyth y coed ffigys sy gennyf, degwm ar y ddwy fuwch, ac ar y tipyn ŷd.

"A hyd yn oed ar lysiau'r ardd erbyn hyn, Amos," chwanegodd Ben-Ami. "Ar y mintys a'r anis a'r cwmin! O, y mae gan Iafe gystal publicanod â'r Rhufeiniaid unrhyw ddydd!"

Clywodd yr hen Lamech a safodd mewn braw.

"Beth ddywedaist ti, Ben-Ami?"

"Dim ond bod yr Offeiriaid a'r Ysgrifenyddion a'r Phariseaid yn rhai cydwybodol a thrwyadl iawn," atebodd ei ŵyr yn dawel, gan giledrych arno.

"A beth wyt ti'n feddwl wrth hynny?" gofynnodd yr hen ŵr, a'i lais yn dechrau crynu.

Gwelai Dan fod ystorm ar dorri. Rhoes y gorau i'w waith a chododd oddi ar ei fainc, gan afael eilwaith yn y wisg a ddygasai Laban i'w thrwsio. Daliodd hi i fyny yn erbyn y golau â'i law chwith a thynnodd fysedd ei law arall yn araf drwy'i farf. Edrychai pob llygad arno, a darfu pob siarad. Suddodd yr hen Lamech yn wylaidd yn ôl i'w bentwr o glustogau. Yr oedd Dan y Gwehydd, llywydd answyddogol Plaid Ryddid, ar fin llefaru.

"Y mae'r ifanc yn eiddgar—ac yn fyrbwyll weithiau," meddai. "Clywsoch fod gan Tera dros bedwar cant o wŷr, pob un yn werth dau o'r milwyr Rhufeinig. Y gwir yw fod ganddo ryw ddau gant a hanner, llawer ohonynt heb arfau o werth. Clywsoch y buasai Jerwsalem yn eu dwylo cyn i wŷr Antonia ddeffro—cyn iddynt droi yn eu cwsg. Y mae rhyw dri chant o filwyr yn Antonia yr wythnos hon a rhyw ddeugain yn y Praetoriwm. Gwŷr profedig a'u harfau'n rhai i'w hofni."

Rhoes Dan y wisg eto ar y bwrdd cul, gan gymryd arno graffu ar y patrwm ynddi.

"Clywsoch y gallai negesydd gyrraedd Tera mewn rhyw deirawr. Gallai. Ond cymerai Tera hanner diwrnod i alw'i wŷr ynghyd o'r pentrefi a'r tyddynnod. Nid byddin ar flaenau'i thraed, ar fin cychwyn, sydd ganddo. 'Heno nesaf amdani,' ebe'r ifanc. Pe gyrrem y negesydd yr ennyd hon, a fyddai Tera a'i wŷr yma cyn y wawr yfory?"

Holi'r wisg yn dawel a wnâi Dan, ond arhosodd yn awr fel petai'n disgwyl ateb ganddi. Yna aeth ymlaen,

"Y mae tri o aelodau mwyaf selog y Blaid mewn cell o dan y Praetoriwm. Ni welaf ond un ffordd i'w hachub."

"A honno, Dan?" gofynnodd brawd Dysmas.

"Fe soniodd Ben-Ami am y pererinion,. Gwelsom dyrfaoedd ohonynt ddoe yn llawn cyffro, yn dilyn y Nasaread.'

Cydiodd Dan yn y wisg a mynd â hi gydag ef i ganol y siop, fel pe i chwilio am fan goleuach.

"Y mae ar y Blaid angen arweinydd," meddai, gan edrych o gwmpas arnynt am y tro cyntaf.

Syllodd pawb yn syn arno. Arweinydd? Onid ato ef, Dan y Gwehydd, yr edrychai'r Blaid—y rhai callaf, beth bynnag? Croesodd dyn mewn oed, a safai wrth y drws, ato a chymryd y wisg o'i ddwylo.

"Beth ydych chwi'n geisio'i ddweud, Dan?" gofynnodd. "Oni welsoch chwi'r orymdaith ddoe, Saffan?"

"Do, ond, . . . "

"A chlywsoch am y cynnwrf yng Nghyntedd y Deml y bore 'ma?"

"Do, ond . . . "

"Wel?"

Edrychodd Saffan yn ddryslyd ar y gwehydd.

"Nid ydych . . . nid ydych yn awgrymu y dylem ofyn i'r Nasaread hwn ein harwain, Dan?"

"Y mae'n boblogaidd. Ac yn eofn."

"Hy, Galilead i'n tywys!" meddai Abiram, y mwyaf o'r ddau efaill.

Daeth golwg gas i wyneb, Dan. "Dywedais ganwaith fod yn hen bryd i'r elyniaeth rhwng De a Gogledd ddiflannu,' meddai, gan gydio eto yn y wisg a hylldremio ar y rhwyg yn ei hysgwydd. "Heb unoliaeth, marw a wna'r genedl. Y mae rhai o ddynion gorau'r Blaid yn Galilea."

"Beth oeddech chwi'n feddwl wrth ddweud bod ffordd i achub fy mrawd a'r ddau arall?" gofynnodd brawd Dysmas.

"Ni welaf ond un ffordd. Fel yr awgrymodd Ben-Ami, y mae'n bryd inni daro. Nid heno, ond nos yfory.'

Goleuodd wynebau Beniwda a Ben-Ami. O'r diwedd yr oedd Dan y Gwehydd yn bwriadu gweithredu yn lle cynllunio ac aros am ei gyfle.

"Gyrraf negesydd at Tera i'w rybuddio. Caiff yr hen Shadrach fynd yno i brynu gwlân. Ni fydd neb yn ei amau ef. Ac yna, yfory, danfonwn negesydd arall i ddweud wrth Tera a'i wŷr am gychwyn. Neu i'w hatal rhag cychwyn.'

"I'w hatal, 'Nhad?" gofynnodd Ben-Ami, braidd yn siomedig.

"Ie. Yr ydym yn taro yn awr am fod y pererinion yn fyddin fawr yn y ddinas ac o'i hamgylch. Ac am fod y Nasaread yma dros yr Ŵyl."

"Beth yw eich cynllun, Dan?" gofynnodd Saffan.

Ai Ben-Ami ymlaen â'i waith wrth y gwŷdd a phlygai'r hen Lamech yn ôl ac ymlaen wrth ei beiriant cribo. Ond yr oedd cyffro lond yr awyrgylch.

"Dibynna'r cynllun ar y Nasaread hwn. Ni wn ddigon amdano eto. Ond gwn, drwy un o'i ddisgyblion, y bydd yn athrawiaethu yng Nghyntedd y Deml bore yfory. Awgrymaf fod pedwar ohonom—Saffan ac Amos a . . . a Beniwda a minnau yn mynd yno i wrando arno. Gwyddom ei fod yn ddigon eofn i herio awdurdodau'r Deml. A ydyw'n ddigon gwrol i herio Rhufain? Os ydyw, gofynnwn iddo'n harwain, a gyrrwn negesydd cyflym at Tera. Fe heidia'r pererinion eto o amgylch y Nasaread, ac, fel y dywedodd Ben-Ami, y mae arfau gan lawer ohonynt.'

Dychwelodd Dan at y gwŷdd, gan daflu'r wisg o'r neilltu "Ond yn ôl a glywais i amdano," meddai Amos ymhen ennyd, "nid yw'r Nasaread hwn yn ŵr rhyfelgar."

"Y mae'n gyfeillgar â phublicanod, mi wn i hynny," sylwodd Abiram.

"Ac ag ambell ganwriad Rhufeinig," meddai brawd Dysmas. "Clywais iddo iacháu gwas yr un sydd yng Nghapernaum.

"Yn nhŷ publican y lletyai yn Jericho," ebe Saffan.

"A phublican oedd un o'i ddisgyblion unwaith," meddai Ben-Ami.

Edrychai pob un ohonynt ar Dan wrth daflu'r brawddegau hyn ato.

"Bore yfory, tua'r drydedd awr," meddai yntau. Edrychodd pawb ar ei gilydd a dechreuodd rhai sisial yn gyffroes. Yr oedd y dydd y breuddwydiasent amdano ar dorri o'r diwedd. Dydd y taro. Dôi Tera a'i wŷr o'r bryniau a chodai pererinion y Pasg yn un fyddin fawr yn erbyn y gorthrymwyr.

"Sut y cawn wybod a fydd y Nasaread yn barod i arwain y pererinion, Dan?" gofynnodd Amos ymhen ennyd.

"Trwy ofyn un cwestiwn syml iddo," atebodd Dan."

"A'r cwestiwn hwnnw?"

"Ai cyfreithlon inni dalu teyrnged i Gesar?' Os 'Ydyw' fydd ei ateb, yna gadawn ef i'w bregethu a'i wyrthiau.

"Ac os Nac ydyw '?"

"Os Nac ydyw,' rhown yr arwydd i Tera. A chasglwn at ei gilydd yma yn Jerwsalem bob un sydd â chleddyf ganddo.

"Ymh'le yr ymosodwn gyntaf, 'Nhad?" gofynnodd Ben-Ami.

"Cawn drafod y manylion eto," meddai Dan.

"Mynd yn syth i'r Praetoriwm a fyddai orau," sylwodd brawd y carcharor Dysmas.

"Ie, ac wedyn i Gaer Antonia," meddai Beniwda.

"Os cawn ni feddiant ar y ddau le hynny," meddai Abiram, "buan y bydd y ddinas i gyd yn ein dwylo."

"Beth am y pyrth i mewn i'r ddinas, Dan?" gofynnodd Saffan.

"Gallai'r pererinion ofalu am y rheini," atebodd Amos.

"A beth am y muriau, Dan?" gofynnodd Saffan eto.

"A ydych chwi'n sicr y byddai plismyn ac offeiriaid y Deml gyda ni, 'Nhad?" oedd cwestiwn Ben-Ami.

Ond rhoddai Dan ei holl sylw i'r patrwm yn y gwŷdd. Dywedasai ef yr hyn a oedd ganddo i'w ddweud.

Nodiadau[golygu]