Yr Ywen Uwchbwn Bedd Dafydd
Gwedd
gan Gruffudd Gryg
- Yr Ywen i oreuwas
- Ger mur Ystrad Fflur a’i phlas,
- Da Duw wrthyd, gwynfyd gwŷdd
- Dy dyfu yn dŷ Dafydd.
- Dafydd llwyd a’th broffwydawdd
- Er cyn dy dyfu rhag cawdd,
- Dafydd, gwedy dy dyfu.
- A’th wnaeth o’I fabolaeth fu,
- Dy urddo yn dŷ irddail,
- Tŷ a phob llwyn yn dwyn dail,
- Castell cudd meirw rhag eirwynt
- Cystal â’r pren gwail gynt.
- Mae danad ym mudainaeth,
- Bedd rwym, nod o’r bodd yr aeth,
- Bydaf anglion bydoed,
- Bu ddew ef, mewn bedd yr oedd,
- A synnwyr cerdd, naws unyd,
- A gwse Ddyddgu pan fu fud.
- Gwnaeth ei theuluwas lasryw
- I’w hael dyfu tra fo fyw,
- Gwna dithau, geinciau dethol,
- Gywirder i nêr yn ôl.
- Addfwyn warchadw ei wyddfa,
- Drybedd yw fodrabaidd dda.
- Na ddos gam, na ddysg omedd,
- Ywen, odduwch ben y bedd.
- Geifre ni’th lwgr, nac afrad,
- Dy dwf yng ngwedre dy dad.
- Ni'th lysg tânanian annerch,
- Ni’th dyr saer ni’th dyfriw serch,
- Ni’th bilia crydd, mewn dydd dyn,
- Dy duded yn dy dyddyn
- Ni’th dyr hefyd, rhag bryd braw,
- A bwyall, rhag eu beiaw,
- Ir dy faich, i ar dy fôn,
- Taeog na chynuteion
- Dail yw’r to, da le yw’r tau,
- Diwartho Duw dy wyrthiau.