Neidio i'r cynnwys

Yr unwedd ag y bref yr hydd

Oddi ar Wicidestun

Mae Yr unwedd ag y bref yr hydd yn emyn gan Edmwnd Prys (1544 - 1623)


Yr unwedd ag y bref yr hydd
Am yr afonydd dyfroedd,
Felly y mae fy hiraeth i
Am danat ti, Dduw'r nefoedd.


Fy enaid i, sychedig yw
Am fy Nuw byw a'i gariad;
Pa bryd y dof fi ger dy fron,
Fy Nuw a'm cyfiawn ynad?


Tydi yw Duw fy nerth i gyd,
Paham y'm bwrid ymaith?
Paham yr af mor drwm a hyn
Gan bwys y gelyn diffaith?


O gyr dy oleu, moes dy wir,
Ac felly t'wysir finnau;
Arweiniant fi i'th breswylfeydd,
I'th fynydd, ac i'th demlau.


Yna yr af at allor Duw,
Y Duw goruchel hyfryd;
Ac ar y delyn canaf fawl
Duw, Duw, fy hawl a'm gwynfyd.