Neidio i'r cynnwys

Ysgrifau Puleston/Rhagair

Oddi ar Wicidestun
Ysgrifau Puleston Ysgrifau Puleston

gan John Puleston Jones

Y Cynnwys

RHAGAIR

DDWY flynedd a hanner yn ol cyhoeddwyd "Gair y Deyrnas," cyfrol o bregethau gan y Diweddar Barchedig John Puleston Jones, M.A., D.D.. Croesawyd honno yn siriol odiaeth, a chaed ail-argraffiad o honi. Llawn fwriadai'r awdur, pe cawsai fyw, gyhoeddi ail gyfrol o bregethau, ond galwyd ef oddiwrth ei waith at ei wobr cyn cyflawni'r bwriad hwnnw. Ar gais cyfeillion lawer, cesglais ynghyd nifer o'r llu ysgrifau o waith yr annwyl Buleston a geid mewn gwahanol gylchgronau a newyddiadaron. Dewiswyd y rhain am y tybiwn eu bod yn enghreifftiau teg o wahanol arweddau ar ei ddawn, a'u bod hefyd o ddiddordeb i gylch eang o ddarllenwyr.

Diolchwn yn gynnes am y caniatad parod a roed i ail-gyhoeddi erthyglau gan Olygwyr Y Drysorfa, Y Geninen, Yr Efrydydd, Y Goleuad, Y Cymro, Y Genedl, Y Brython.

Dyma'r tro cyntaf i'r Ysgrifau ar "Yr Iawn " ymddangos. Cynlluniasai'r awdur i ysgrifennu llyfr o naw pennod ar y pwnc mawr hwn; darllenasai'n helaeth ers blynyddoedd ar gyfer hynny, ac ar hyn yr oedd ei fryd yn ystod ei gystudd trwm. Pan ballodd ei nerth, ar gychwyn y bumed bennod ar "Ystyr Maddeuant" yr oedd. "Beth," meddai, "ar fyr eiriau sy mewn maddeu heb law tynnu ymaith y gosb? Gellid ateb mewn llawer ffordd; ond y pennaf peth y medraf fi feddwl am dano yw adfer dyn i ymddiried y Brenin Mawr. Y mae canlyniadau i bechod nas gall maddeuant cu symud; ond am yr ymddiried a gollwyd, a'r help a'r cymundeb y mae'r ymddiried yn ei olygu, fe geir hwnnw i gyd yn ol." Yna addawai'r Dr. Puleston Jones drafod y syniad o faddeuant a ddysgid gan Moberley, James Drummond, a Thomas Davies, bachgen o Gymro a fu farw yn Awstralia, ond cyn cyflawni'r addewid hon, symudwyd ef i "lawenydd ei Arglwydd."

Cywirwyd ychydig yma ac acw ar yr orgraff er mwyn unffurfiaeth; ond gadawyd rhai ffurfiau fel deud yn lle dweyd neu dywedyd, gwneud yn lle gwneuthur, chi yn lle chwi pan wyddem fod gan yr ysgrifennydd ei resymau ei hun drostynt.

Hyderwn y try darllen y Gyfrol hon yn faeth i feddwl a chalon y darllenydd.

R. W. JONES.
Caergybi.
TACHWEDD 15, 1926.

Nodiadau[golygu]