Neidio i'r cynnwys

Ysgrifau Puleston/Yr Iawn (i)—"Ag un offrwm"

Oddi ar Wicidestun
Beth yw'r Groes heblaw Datguddiad Ysgrifau Puleston

gan John Puleston Jones

Yr Iawn (ii)—Yr Iawn yn Elfen Dragwyddol yn Nuw

V

YR IAWN.

PENNOD I.

"AG UN OFFRWM."

NEILLTUOLRWYDD yr Efengyl ydyw iechydwriaeth trwy un offrwm. "Megis trwy un camwedd y daeth barn ar bob dyn i gondemniad, felly hefyd trwy un weithred o gyfiawnder y daeth y dawn ar bob dyn i gyfiawnhad bywyd."[1] Od oes rhywbeth na fedrodd y feirniadaeth lymaf ei dynnu o'r Testament Newydd, dyma fo. A amheuo hyn, darllened Dale a Denney. Y mae'r ddau ddysgawdr wedi trin y wedd Ysgrythyrol i'r pwnc mor lwyr ac mor ddiwrthdro, nad oes dim eisiau mynd dros y rhan yna o'r maes drachefn; ac y mae'r ddau wedi traethu mewn Saesneg mor syml a di-gwmpas, fel na bydd raid i Gymro a fedro rywfaint o Saesneg ofni methu eu dilyn. Pe bai'n addas beirniadu, am a wn i nad yw'r rhan Ysgrythyrol o waith y Dr. Dale yn fwy diwrthdro na'r rhan athronyddol. Ond er bod y Testament Newydd ym mhob man yn dysgu iechydwriaeth trwy un offrwm, neu ynte'n cymryd y pwnc yn ganiataol, y man lle y ceir yr athrawiaeth wedi'i grisialu berffeithiaf ydyw'r Epistol at yr Hebreaid. "Hynny a wnaeth efe unwaith pan offrymodd efe ef ei hun." "Crist, wedi dyfod yn Archoffeiriad y daionus bethau a fyddent, trwy dabernacl mwy a pherffeithiach, nid o waith llaw, hynny yw, nid o'r adeiladaeth yma, nid chwaith trwy waed geifr a lloi, eithr trwy ei waed ei hun, a aeth unwaith i mewn i'r cysegr, gan gael i ni dragwyddol ryddhad." "Unwaith yn niwedd y byd yr ymddangosodd efe, i ddileu pechod trwy ei aberthu ei hun." "Trwy yr hwn ewyllys yr ydym ni wedi ein sancteiddio trwy offrymiad corff Iesu Grist unwaith." Ag un offrwm y perffeithiodd efe yn dragwyddol y rhai sydd wedi eu sancteiddio."[2]

Prin y mae eisiau dwyn ar gof i'r darllenydd fod yr un weithred, yr un offrwm, yn cynnwys mwy na marw ar y pren, fel digwyddiad noeth. Yr oedd i'r digwyddiad ei gysylltiadau. Fe gynhwysai'r offrwm y bywyd a offrymwyd; ac fe gynhwysai hefyd, nid yn unig roi'r bywyd hwnnw i fyny ar y Groes, ond ei gymryd drachefn fore'r trydydd dydd, a'i gyflwyno drwy'r eiriolaeth yn y cysegr fry. Yr oedd cyflwyno'r gwaed yn y cysegr yn rhan o'r offrwm mor wirioneddol a lladd yr aberth. Ond y groes oedd canolbwnc offrwm Crist; ac er bod yr Apostolion, fel y cawn ni weled eto, aml i waith yn cysylltu'n cadwedigaeth ni â'r atgyfodiad, y groes, y rhan amlaf, yw'r arwyddlun cryno ganddynt am holl waith y prynedigaeth.

Nid ymdry'r Ysgrifennydd i egluro sut yr oedd yn wiw achub dynion trwy ddioddefaint un arall. Yr unig eglurhad sy ganddo ef ar hynny ydyw "trwy yr hwn ewyllys." Y mae offrymiad corff Iesu Grist unwaith wedi'n sancteiddio ni, am mai felly yr oedd Duw yn dewis iddi fod. Prin yn wir yr oedd gwaith y naill berson yn dioddef dros un arall yn gymaint o anhawster i'r Iddew ag ydyw i ni. Iddo ef yr oedd euogrwydd a chyfiawnder yn perthyn llawn cymaint i'r cylch ag i'r dyn unigol. Ein priodoriaeth eithafol ni sydd wedi ei gwneud hi'n anawdd i ni sylweddoli'r perthynasau cudd sydd rhwng dynion a'i gilydd.

Ond tra nad yw'r Awdur yma'n aros nemawr ddim gyda'r mater yna, y mae yn ymhelaethu ar y pwnc arall, iechydwriaeth trwy un offrwm. Yr oedd hwn yn anhawster i'r Iddew. Fe droisai'r Iddew ei gefn ar grefydd a chanddi gyflawnder o ddefodau rhwysgfawr a chofleidio un blaen, seml—foel i'w olwg efcrefydd a roddai bopeth i droi o amgylch un offrwm. Beth oedd yn fwy naturiol nag iddo deimlo hiraeth am yr hen grefydd?

Ond wedi'r cwbl, er mai gan yr hen grefydd yr oedd y defodau, yn y cyfamod newydd yr oedd diben crefydd yn cael ei gyrraedd. Beth oedd y cyfamod newydd? Beth ydoedd ef i fod yn ol yr addewid am dano yn Jeremiah? Perthynai iddo amryw fendithion; ond yr oedd dwy o'r rheini ag y mynnai'r Awdur yma i ni ddal yn arbennig arnynt, dodi'r gyfraith yn y meddwl a maddeuant pechodau. Y mae'n amlwg mai'r rheini ydyw'r prif bethau at ei bwrpas ef; oblegid at y rheini y dychwel efe yn y ddegfed bennod, wrth gloi'r ymdriniaeth i fyny. "Wedi iddo ddywedyd o'r blaen, Dyma'r cyfamod a amodaf fi â hwynt ar ol y dyddiau hynny, medd yr Arglwydd; myfi a osodaf fy nghyfreithiau yn eu calonnau, ac a'u hysgrifennaf yn eu meddyliau; y mae yn dywedyd drachefn, A'u pechodau a'u hanwireddau ni chofiaf mwyach." A dyna ddau bwnc mawr crefydd ei dau begwn hi—cael Duw at ddyn trwy roddi'r gyfraith yn y meddwl, a chael dyn at Dduw trwy faddeuant; ac o'r ddau maddeuant ydyw'r sylfaen yn ol Pennod viii. "Hwynt—hwy oll a'm hadnabyddant i, o'r lleiaf o honynt hyd y mwyaf o honynt. Canys trugarog fyddaf wrth eu hanghyfiawnderau." Dyna'r rheswm mawr dros roi'r gyfraith yn y meddwl, a thros holl fendithion y cyfamod newydd. Maddeuant ydyw'r sylfaen. Ac er bod gan y grefydd Iddewig lawer iawn o aberthau, ac amryw olchiadau a defodau cnawdol, ni lwyddodd hi fel system ddim i roddi'r ddau beth mawr, maddeuant a'r gyfraith yn y meddwl. Yr oedd dynion yma ac acw, bid siwr, yn eu cael hwy dan yr orchwyliaeth honno, ond nid trwy'r orchwyliaeth honno ddim. Nid oedd ganddi hi mo honynt i'w rhoi. Ac os nad atebodd y defodau lawer y diben, ac od yw'r grefydd newydd a'i defodau syml yn ateb y diben, beth a gollasoch chwi wrth gofleidio honno a throi cefn ar yr hen?

"Os oedd gwaed teirw a geifr, a lludw anner, wedi ei daenellu ar y ihai a halogwyd, yn sancteiddio i bureiddiad y cnawd," yn derbyn dyn i seiat yr hen gyfamod, wedi iddo golli'r fraint, pa faint mwy y bydd i waed Crist, yr hwn trwy ysbryd tragwyddol a'i hoffrymodd ei hun yn ddifai i Dduw, buro'ch cydwybod chwi oddi wrth weithredoedd meirwon, i wasanaethu'r Duw byw?" Y mae'r peth y methodd yr hen gyfamod, er ei holl wychter, ei gyflawni, wedi ei gael yng Nghrist—y pechadur wedi ei ddwyn a'i dderbyn i wir gysegr presenoldeb Duw, a Duw megis wedi rhoi benthyg ei gydwybod i'r troseddwr.

Er mwyn helpio'r meddwl Iddewig dros y gamfa, fe ddefnyddir dwy gymhariaeth—marw a thestament, yn gyntaf, marw a barn yn ail. Ni gawn gyfle i egluro'r ddiweddaf o'r ddwy yn nes ymlaen. Gair ar y gyntaf yn unig sydd raid wrtho yn y fan hyn.

Y gair cyfamod a awgrymodd y gymhariaeth, gan ei fod yr un un yn Roeg a'r gair testament. "Ac am hynny y mae efe yn gyfryngwr cyfamod (neu destament newydd "; nid y Testament Newydd ddim yn y fan yma, ond math newydd o destament, testament ar linellau newyddion), "fel trwy fod marwolaeth wedi digwydd er ymwared oddi wrth y troseddau oedd dan y testament cyntaf, y câi y rhai a alwyd dderbyn addewid yr etifeddiaeth dragwyddol." Marwolaeth Crist oedd y farwolaeth honno, fel y mae'n eithaf eglur ond cyfieithu fel yna. Ac y mae'r cyfieithiad cywir o ix. 15 yn gwneuthur trawsgyweiriad esmwyth i'r ymhariaeth sydd yn yr adnodau nesaf. "Lle byddo testament, rhaid yw digwyddo marwolaeth y testamentwr. Canys wedi marw dynion y mae testament mewn grym, oblegid nid oes eto nerth ynddo tra fyddo'r testamentwr yn fyw." Fel pe dywedasai fo wrth yr Hebreaid: "Methu dygymod yr ydych a'r syniad o un offrwm yn lle'r offrymau lawer—un digwyddiad yn peri'r fath wahaniaeth. Ni ddylai hynny ddim bod mor anhygoel i chwi chwaith. Ambell dro fe wna un digwyddiad wahaniaeth mawr ym mysg dynion, yn enwedig un marw. Y cwestiwn yw, pwy a fu farw? a pheth a wnaeth ef cyn marw. Peth posibl yw ei fod wedi gwneuthur addewidion mawr, a bod ganddo fodd i'w cyflawni hwy; ond addewidion testament oeddynt, a thra'r oedd ef yn fyw, ni roddai neb nemawr o bwys arnynt." Ni a welsom weithiau ddarllen ewyllys yr ymadawedig ar ddydd yr angladd. Tamaid sych iawn yng nghanol cyflawniadau y diwr nod ydyw hwnnw—rhyw doriad oer ar draws y wawr o brydferthwch prudd a ymdaenasai dros bopeth. Yng nghanol y galar, cyn i'r cwmni braidd eistedd i lawr ar ol dyfod o'r fynwent, dacw ryw ŵr swyddogol ei ddull a'i osgo yn brathu ei ben o'r parlwr, ac yn gofyn: "a wêl y teulu'n dda ddowad yma i ni gael darllen hon?" A dyna sydd ganddo, rhyw ddernyn o bapur wedi ei 'sgrifennu mewn Saesneg cyfreithiol; ond ni waeth hynny na rhagor, fe wnaeth y tamaid papur wahaniaeth mawr i'r sawl a ennwyd ynddo. Gwnaeth bobl dlodion yn bobl gefnog mewn ychydig funudau. Gynnau ni chawsai rhai o honynt goel am bapur pum—punt, y maent yn werth rhai cannoedd bob un weithian. Ac eto'r oedd y papur yno ers tro, yh gorwedd yn segur yn nesg rhyw gyfreithiwr, yn safe rhyw fanc; ond erbyn heddyw y mae'r addewidion wedi dyfod i rym. Y mae'r neb a'u gwnaeth hwy wedi marw. Felly yma, os ydyw hi'n edrych yn beth rhyfedd fod marw pen Calfaria yn gwneuthur y fath ragor i feibion dynion, cofiwn fod y Gŵr a fu farw yn wr—bonheddig pur fawr. Y mae'n werth bod yn perthyn iddo heddyw. Heddyw y mae y rhai y cofiodd ef am danynt yn dyfod i'w hystâd. Paham? Y testamentwr sydd wedi marw. Nid un digwyddiad noeth, di—gysylltiad, oedd y marw hwnnw. Na, yr oedd holl eiddo'r gŵr i gael ei rannu bellach. "Holl addewidion Duw," neu yn gywirach, meddir, "Addewidion Duw pa faint bynnag sydd o honynt, ynddo ef y mae'r ïe; am hynny hefyd trwyddo ef y mae'r amen, er gogoniant i Dduw trwom ni."[3] Fe ddaeth bywyd yr Iesu Mawr i'w gynhaeaf yn angau'r groes, do'n wir, fe addfedodd ffrwythau'r cyfamod hedd yn y marw hwnnw.

Wel atolwg, os ydyw'r cwbl o grefydd wedi ei grynhoi i gyn lleied o gwmpas, i ba beth yr oedd yr Hen Oruchwyliaeth a'i lliaws defodau da? Y mae'r atebiad yn nechreu Pennod x. "Yn yr aberthau hynny y mae atgoffa pechodau bob blwyddyn." Dyna wasanaeth cyfundrefn aberthol yr Hen Destament, deffro'r ymwybyddiaeth o bechod, a'i chadw hi'n fyw. Pregeth hir ar bechod oedd y Cyfamod Cyntaf, ac undonedd y weinidogaeth oedd ei gogoniant hi. Ac y mae pob offeiriad yn sefyll beunydd yn gwasanaethu, ac yn offrymu'n fynych yr un aberthau, y rhai ni allant fyth ddileu pechod." Fe ddywed Westcott fod pwyslais ar y gair "sefyll." Paham ynte y mae'r offeiriad yn sefyll? Sefyll y mae am ei fod heb gael ei neges, am nad yw'r drafodaeth ddim ar ben. "Eithr hwn, wedi offrymu un aberth dros bechodau, yn dragywydd a eisteddodd ar ddeheulaw Duw, o hyn allan yn disgwyl hyd oni osoder ei elynion ef yn droedfainc i'w draed ef." Fel y dywed un o'r esbonwyr, yn lle sefyll o flaen y drugareddfa, fe aeth ef rhag ei flaen ati, fe eisteddodd arni, a'i throi hi yn orsedd gras. Bellach nid problem yw maddeu i bechadur, ond pwnc wedi ei benderfynu. Ymbil am dderbyniad yr oedd tiriondeb at bechadur o'r blaen; cyhoeddi y mae bellach fod maddeuant i'w gael. Y groes a osododd gariad maddeuol ar ei orsedd—

"Na foed im feddwl ddydd na nos
Ond cariad perffaith angau'r groes;
Hwn alwaf mwy yn orsedd gras:
Ar Galfari mae mainc y nef,
Yn agos at ei groeshren ef:
Oddi yno rhoddir hedd i maes."

Yn y fan yma y collodd Eglwys Rufain y ffordd ar gwestiwn y Groes. Nid nad yw'r Eglwys liosog ac ardderchog honno, ar hyd ei thaith wedi rhoddi lle mawr i'r groes. Y mae ei holl wasanaeth hi'n troi o gwmpas bwrdd y cymun. A phan ymladdai ryfeloedd gwaedlyd â'r anffyddwyr, y groes fyddai'i baner hi. Ond y mae ei syniad offeiriadol hi am y Sacrament wedi darostwng y groes o'r lle oedd iddi yn y Testament Newydd. Athrawiaeth Eglwys Rufain ydyw, bod yr offeiriad yn ail-offrymu aberth y groes bob tro y gweinydder yr ordinhad o Swper yr Arglwydd. Y mae'r cymun yn aberth; y mae gweddi yn aberth, y mae canu yn aberth, a'r casgliad yn aberth yn bendifaddeu; aberthau moddion gras ydyw'r rhai hynny, ac am hynny gellir eu hamlhau faint a fynnom.

Offrymwn aberth moliant yn wastadol i Dduw, yr hyn yw ffrwyth ein gwefusau yn cyffesu i'w enw ef. Ond gwneuthur daioni a chyfrannu nac anghofiwn; canys â chyfryw ebyrth y rhyngir bodd Duw."[4] Eithr nid moddion gras ydyw'r groes ddim. Hyhi a sefydlodd orsedd gras. Wrth droed y groes y mae moddion gras yn cael eu trwydded. Nid un o lawer o ymarferiadau Crefydd ydyw'r aberth mawr, ond trwydded iddynt hwy i gyd. Pan aeth Crist Iesu i'r cysegr yn nheilyngdod ei waed ei hun, fe adawodd y ffordd yn agored. Fe wnaeth rywbeth trwy farw ar y groes nad oes eisiau ei wneuthur mwy. "Ag un offrwm y perffeithiodd efe yn dragwyddol y rhai sydd wedi eu sancteiddio." A dyna ydyw sancteiddiad yn ol yr Epistol, rhoi dyn ar dir i fyned i mewn i'r cysegr, hawl i ddal cymundeb â Duw. Y mae'r Principal Edwards a'r Principal Rees yn unair ar hyn.

Fel y dywed Mr. Rees, peth crefyddol, yn hytrach na moesol, ydyw'r sancteiddio hwn. Yn wir, fe esbonnir y peth gan yr Awdur ei hun. Y mae ganddo ddefod yn ei Epistol, wrth ddechreu cyfran newydd, o grynhoi neges y gyfran o'r blaen mewn ychydig eiriau. Yn awr fe gytunir fod cyfran newydd yn dechreu yng nghanol y ddegfed bennod, ac yn unol a'i arfer fe ddywed wrthym beth sydd wedi bod ganddo. "Am hynny, frodyr, gan fod i ni ryddid i fyned i mewn i'r cysegr trwy waed Iesu, ar hyd ffordd newydd a bywiol yr hon a gysegrodd efe i ni, trwy y llen, sef ei gnawd ef, a bod i ni Offeiriad mawr ar dŷ Dduw, nesawn a chalon gywir, mewn llawn hyder ffydd, wedi glanhau'n calonnau oddi wrth gydwybod ddrwg, a golchi'n corff â dwfr glân."[5] Y mae'r gwaed wedi ei dywallt: defnyddiwch ef. Taenellwch ef ar y gydwybod halogedig. Ymddengys fod rhyddid i fyned i mewn i'r cysegr yn golygu rhyddid i areithio, rhyddid llafar o flaen y fainc. Yr ydys wedi agoryd y llys; ewch chwithau i mewn, a dechreuwch ddeud eich neges. Dyma'r peth yr hiraethai Job am dano wedi ei gael. "O na wyddwn pa le y cawn ef, fel y deuwn at ei eisteddfa ef. Trefnwn fy mater ger ei fron ef, a llannwn fy ngenau â rhesymau. Mynnwn wybod a pha eiriau y'm hatebai, a deall pa beth a ddywedai efe wrthyf." Weithian y mae'r Duw Goruchaf yn dywedyd wrth y truan euog, fel y dywedodd Agripa wrth Paul, "Y mae cennad i ti ddywedyd trosot dy hun."

Bellach y mae pob peth crefydd yn troi o amgylch y Groes. Os oedd yr Iddew wedi cyfnewid crefydd rwysgfawr am grefydd blaen, os yw crefydd yng Nghrist Iesu wedi ei hunoli a'i symlhau, ni olygai hynny ddim fod y grefydd syml yn grefydd dlawd. "Y mae gennym ni allor." Cwynai'r Iddewon Crediniol, debyg, eu bod wedi eu hamddifadu o ordinhadau crefydd, nad oedd ganddynt mwyach ddim o'r moddion cyffredin i feithrin eu bywyd ysbrydol pethau sy'n perthyn i bob crefydd ar y ddaear ond hon. "Na," meddai'r Apostol, y mae gennym ni allor, o'r hon nid oes awdurdod i'r rhai sydd yn gwasanaethu'r tabernacl i fwyta." "Nid yn unig y mae gennym ni ordinhadau cyfwerth a'r pethau a roisoch heibio; y mae gennym ni rywbeth na feddai'r hen grefydd mo hono, hawl i fwyta o allor y pech-aberth. Ni feddai'r hen grefydd mo hynny." "Canys cyrff yr anifeiliaid hynny, y rhai y dygir eu gwaed gan yr archoffeiriad i'r cysegr dros bechod, a losgir y tu allan i'r gwersyll." Ond y mae'r grefydd newydd yn caniatau bwyta o'r pech-aberth. Y groes oedd yr allor; a'r peth a alwem ni yn foddion gras yw bwyta o'r aberth. Gennym ni y mae'r breintiau crefyddol. Y mae braint y werin dan y Testament Newydd yn gyfoethocach na braint yr offeiriad a'r archoffeiriad dan yr Hen. Y gwahaniaeth i gyd yw, fod yr ordinhadau wedi eu symlhau trwy wneuthur y groes yn ganolbwynt iddynt. Dau air mawr crefydd weithian. ydyw "Ato ef" a "Thrwyddo ef." "Am hynny awn ato ef o'r tu allan i'r gwersyll, gan ddwyn ei waradwydd ef." "Trwyddo ef gan hynny offrymwn aberth moliant yn wastadol i Dduw, yr hyn yw ffrwyth ein gwefusau yn cyffesu i'w enw ef. Ond gwneuthur daioni a chyfrannu nac anghofiwch, canys â chyfryw ebyrth y rhyngir bodd Duw."[6]

Nid yw crefydd felly wedi colli dim o'i hamrywiaeth yng Nghrist, ond fod gweddi, a mawl, ac elusen yr Eglwys yn troi o'i gwmpas ef, a'r peth mawr a wnaeth efe i ddyfod yn ganolbwynt crefydd i'w bobl ydoedd ei offrymu ei hunan ar y groes. Ond er bod pob ymarferiad crefyddol yn troi o'i gylch ef a'i aberth, y prif enghraifft o'r peth ydyw bwrdd y cymun; ac am hwnnw yn enwedig yr oedd yr Awdur yma'n meddwl. Ac o herwydd y lle a roed ganddi i'r cymun, fe gadwodd yr Eglwys trwy'r oesoedd yr idea efengylaidd am y Groes yn fyw yn ei phrofiad a'i thystiolaeth, er nad oedd ganddi am fil o flynyddoedd ddim athrawiaeth eglur ar y pwnc. Fel y dengys Mr. William Glynne, yn ei ragarweiniad goleu a chryno i'w gyfieithiad o lyfr Anselm—llyfr bach a ddylai fod yn llaw pob Cymro a fynno efrydu'r athrawiaeth prin a chynnil ydyw credôau'r Eglwys ar y pwnc hwn. Eithr fe wnaeth yr Eglwys yn ei sacramentau, yn enwedig yn Swper yr Arglwydd, yr hyn nis gwnaeth yn ei chredôau,—cadw lle canol i'r Groes. Er bod yr athrawiaeth Ysgrythyrol dan gladd am ganrifoedd ganddi, hi ddangosodd farwolaeth yr Arglwydd, a'i chadw ger bron y byd. Hi bregethodd mewn arwyddion yr hyn nad oedd ganddi eto ond syniad lled gymysglyd ac anghyflawn yn ei gylch.

Ac os gofynnir sut yr aeth yr athrawaieth Efengylaidd o dan gladd mewn eglwysi a roent y fath le amlwg i bregethu'r Groes, sut na chafodd athrawiaeth yr Iawn ei hegluro gan y Tadau fel y cafodd athrawiaeth y Drindod neu Berson Crist, rhaid i ni ateb mai yr un peth a guddiodd yr athrawiaeth ag a'i cadwodd hi rhag mynd ar goll. Y peth a gadwodd yr athrawiaeth oedd y lle mawr a roddai'r Eglwys i Swper yr Arglwydd; a dyna hefyd a'i cuddiodd hi, oblegid ynglŷn a'r pwys mawr a roddid ar y sacrament, fe lithrwyd, dan ddylanwad Paganiaeth, i roi bri mawr ar yr offeiriadaeth hefyd; a gelyn pennaf yr ymadrodd am y groes ydyw'r syniad offeiriadol am y sacramentau. Unwaith y dywedoch chwi fod y cymun yn offrwm yn yr un ystyr ag y mae'r groes, y mae lle neilltuol y groes mewn Crefydd wedi mynd. Dechreuodd y syniad offeiriadol yn ddigon diniwed, yn yr arfer briodol ac Ysgrythyrol o gyffelybu'r cymun i aberth moliant; ond yn raddol collwyd y gwahaniaeth rhwng aberth moliant ac aberth cymod, nes myned dynion bob yn ychydig i dybied, nad oedd dim yn aberth y groes nas ail-adroddid yn y sacrament. Daeth yr Eglwys i fodloni ar y syniad cyffredinol bod rhyw rinwedd gwyrthiol yn angau'r groes, a'i fod ef trwy'r cymun bendigaid rywsut yn troi yn iechydwriaeth i'r bobl. Cadwyd y peth, ond cuddiwyd ei ystyr.

Ond os yw profiad heb athrawiaeth yn dda, y mae profiad gydag athrawiaeth yn well. Yr oedd hynny a wyddai Apolos cyn i Briscilla ac Acwila gael gafael arno, yn burion at bwrpas ei brofiad personol ef ei hun; ond yr oedd eisiau dysgu iddo ffordd Duw yn fanylach er mwyn ei wneuthur ef yn athro i eraill. Un o nodweddion cynhennid dyn fel creadur meddylgar yw bod raid iddo gael enwau ar bethau. Dyma'r anrhydedd a roes y Creawdwr arno wedi ei greu, dwyn y creaduriaid ato i weled pa enwau a roddai efe iddynt hwy; "a pha fodd bynnag yr enwodd y dyn bob peth byw, hynny fu ei enw ef." Ac yn y man rhaid i'r adeg i'r pynciau mawr sydd wedi bod yn brofiad i ddynion gael eu henwau; ac y mae'r defnydd y gall dyn ei wneuthur o'i brofiadau ar ol cael enwau arnynt yn ddeg cymaint ag a wnâi efe ohonynt o'r blaen. Gyda golwg ar athrawiaeth yr Iawn, Anselm a wnaeth y gwaith yna yn hanes Eglwys y Gorllewin, fel y gwnaeth Lewis Edwards o'r Bala ef yn Eglwysi Cymru, nid am fod Anselm nag Edwards wedi dywedyd y gair diweddaf ar y pwnc, ond am eu bod wedi gorfodi'r Eglwys i wynebu'r anhawsterau yn deg. Y Dr. Edwards yn wir a fuasai'r diweddaf o bawb i fynnu cyfrif bod unrhyw gwestiwn diwinyddol wedi ei gau. Yr oedd ei feddwl yn agored bron hyd ddiwedd ei oes, i ail-ystyried cwestiynau yr ysgrifenasai efo arnynt ers deng mlynedd ar hugain. Ond pa un bynnag a gytunwn ni ag ef ai na wnawn, iddo ef y perthyn y clod o osod y cwestiwn, cyn belled ag yr oedd a fynnai Cymru â'r cwestiwn, ar dir teg; gosod cwestiwn ar dir teg ydyw hanner y gamp at gael atebiad iddo. Cais y penodau nesaf fydd egluro'r berthynas rhwng y groes a bendithion y prynedigaeth, neu â rhai o honynt. Ac er mwyn hynny, yn hytrach nag amcanu bod yn rhy gynhwysfawr, gwell fydd ymdroi tipyn mwy gyda'r pethau pennaf ac amlycaf. Yn awr fe gytunir ar bob llaw mai un fendith fawr, sylfaenol, sydd wedi ei chysylltu ag angau'r groes ydyw maddeuant; ac y mae pawb yn unair hefyd fod maddeuant, sut bynnag yr esboniant ef, yn rhan hanfodol o'r efengyl. Y mae maddeuant pechodau yn un o bynciau Credo'r Apostolion, er na ddywedir yno sut y mae maddeuant a'r groes i'w cysylltu. Ac am y bobl, sydd o ddyddiau'r Sosiniaid hyd yn awr yn esbonio maddeuant mewn dull sydd bron yr un peth a'i esbonio fo i ffwrdd, y maent hwythau, mewn enw beth bynnag, yn rhoi lle pur fawr i faddeuant.

Nodiadau[golygu]

  1. Rhuf. v. 18.
  2. Heb. vii. 7; ix. 11, 12; x. 10, 14.
  3. 2 Cor. i. 20.
  4. Heb. xiii, 15, 16,
  5. Heb. x. 19—22.
  6. Heb. xiii. 10—16.