Neidio i'r cynnwys

Ysgrifau Puleston/Yr Iawn (iv)—Awdurdod i Faddeu

Oddi ar Wicidestun
Yr Iawn (iii)—Y Cymod a'r Greadigaeth Ysgrifau Puleston

gan John Puleston Jones

PENNOD IV.

AWDURDOD I FADDEU PECHODAU.

YN y ddwy bennod o'r blaen gwelsom fod yr Iawn yn ddatguddiad o rywbeth oedd yn bod erioed yn Nuw, a bod yr hyn oedd yn bod erioed yn Nuw wedi gosod ei ddelw ar holl waith Duw yn y greadigaeth. Y mae'r maddeuant felly, fel y'i datguddir yn angau'r Groes, bob amser, ac o angenrheidrwydd, yn golygu aberth a dioddef i Dduw. Y mae yn golygu llawenydd hefyd, ond llawenydd a brynir trwy ofid ydyw. Ni all ef ddim maddeu pechod heb ddyfod i mewn i'r gofid y mae pechod yn ei olygu i bawb da. Ac heblaw pechod y tu yma i bechod—y mae anawsterau eraill creadigaeth amherffaith yn pwyso ar y Creawdwr. Arno ef y disgyn y boen a'r ymdrech o'u cymodi hwy, o'u cael hwy i gysondeb a'i ewyllys ei hun. Rhaid i ni fynd gam ym mhellach yn awr, a gofyn, beth sy'n peri bod maddeuant a chymod, a phob peth tebyg i gymodi a maddeu, yn golygu straen ar garedigrwydd Duw. Paham na fedrai fo faddeu ar ei union heb deimlo unrhyw anhawster, gan fod mor dda ganddo faddeu?

Y mae'r Eglwys wedi arfer meddwl fod gan y Testament Newydd atebiad clir i'r gofyniad hwn; ac yn sicr y mae'r Apostolion yn bendant iawn arno; ac am a welaf fi, yr unig ffordd sy gan ddiwinyddiaeth ddiweddar i fychanu'r gainc yma yn eu dysgeidiaeth hwy ydyw dywedyd mai blas syniadau Iddewig ar feddwl yr Oes Apostolaidd sy'n cyfrif amdano. mae'r Epistol at yr Hebreaid yn ddiau yn dipyn o broblem i ddiwinyddiaeth ddiweddar; ond fe lwydda dysgawdwyr fel Fairbairn a Moberley a Lofthouse i droi min dadl diwinyddion Efengylaidd ar ddysgeidiaeth Paul a Phedr ac Ioan. Dangosant mai ôl magwraeth Iddewig yw'r duedd i edrych ar aberth Crist trwy ddrych aberthau'r gyfraith. Ond un peth nas gwnânt yn foddhaol o gwbl ydyw esbonio ystyr maddeuant. Cawn weld yn y bennod nesaf pa le y mae hyd yn oed y rhai goreu ohonynt yn syrthio'n fyr. Y cwbl yr amcenir ato yn y bennod hon fydd adrodd unwaith eto y golygiad Apostolaidd fel yr wyf fi yn ei ddeall. Ac ni ellir gwneuthur hynny heb ddwyn ar gof i'r darllenydd, fod hadau'r ddysgeidiaeth Apostolaidd ar faddeuant yn nysgeidiaeth eu Hathro hwy.

Ni fynnem ar un cyfrif ddibrisio'r gymwynas fawr a wnaeth yr awduron a nodwyd a'u cyffelyb â'r Eglwys trwy'n rhybuddio rhag elfennau gwrthun yn yr hen athrawiaeth. Yr oedd eisiau hynny yn ddiau; ond y gwir plaen ydyw, fod un idea yn nysgeidiaeth y Gwaredwr ei hun mor ddieithr i feddwl Seisnig yr oes yma, cyn i Denney a Forsyth ysgrifennu, a dim sydd yn nysgeidiaeth Paul. Dyna ydyw honno, "Awdurdod i faddeu pechodau." "Fel y gwypoch fod awdurdod gan Fab y Dyn ar y ddaear i faddeu pechodau, yna y dywedodd efe wrth y claf o'r parlys, Cyfod, cymer dy wely i fyny, a dos i'th dŷ."[1] Awdurdod i faddeu, hawl i faddeu, pa feddwl y mae'r gair yn ei gyfleu i'r rhai a fyn fod maddeu yn beth hawdd, nis gwn. Tybed eu bod hwy o'r farn mai rhyw awdurdod seremonïol yn unig ydyw hon, fel yr awdurdod i rannu gwobrau mewn cystadleuaeth, neu fel yr awdurdod sy gan Frenin i rannu teitlau? Nid dyna feddwl yr Iesu y mae'n bur amlwg, namyn rhyw awdurdod a fyddai yn ei grym ym mhob man, nad oedd apêl oddiwrth ei dyfarniad mewn unrhyw lys. "Ha fab, cymer gysur; maddeuwyd i ti dy bechodau." Deallwyd ef felly gan ei wrandawyr. Gwybuant hwythau ei fod ef wrth gyhoeddi maddeuant yn gwneuthur rhywbeth mawr, yn llefaru mewn gwirionedd dros Dduw; ac nid yw yntau yn cywiro'r argraff honno. A phan roes yr Iesu awdurdod i faddeu ac i wrthod maddeu i'w Apostolion, yr oedd ef yn teimlo ei fod yn cyfrannu rhywbeth mawr a phwysig iddynt. " Pwy bynnag y maddeuoch eu pechodau, maddeuir iddynt; a'r eiddo pwy bynnag a atalioch, hwy a ataliwyd."[2] Y maddeuant oedd i'w bregethu yn ei enw ef ym mysg yr holl genhedloedd gan ddechreu yn Jerusalem.[3] Nid rhywbeth y gallai unrhyw enw ei awdurdodi ydoedd. Rhywbeth i'w gael trwy ei gyfryngdod ef oedd hwn; ac yr oedd a wnelai y profiadau mawr yr aeth trwyddynt wrth farw ac atgyfodi rywbeth â'r edifeirwch a'r maddeuant oedd i'w pregethu yn ei enw ef. Pa ddefnydd bynnag a wnaeth Paul a'r Apostolion eraill o ddefodau Iddewig i esbonio'r peth, y mae'r peth ei hun—yr idea o awdurdod i faddeu, ac o berthynas maddeuant a chyfryngdod y Mab—yn rhan o'r Efengyl fel y gadawyd hi gan yr Iesu.

A'r hyn a ddysgodd yr Iesu yn ei fywyd a ddatguddiodd efo'n llawnach fyth yn ei angau. Ac os cawn ni le i feddwl bod y drychfeddwl yma gan yr Apostolion, y drychfeddwl o awdurdod i faddeu, a honno'n seiliedig ar gyfryngdod Crist Iesu, teg ydyw casglu mai dyma oedd yn eu meddyliau yn y cyffredin, pan grybwyllent yn fyr, heb eglurhad pellach, am faddeuant trwy ei waed ef.

Gwir nad yw'r Iesu ei hun yn egluro perthynas maddeuant a'i ddioddefiadau ef; ond y mae'r idea fod maddeu yn beth anawdd yn cael ei thybied yn amlwg yn hanes y claf o'r parlys. "Pa un hawsaf ai dywedyd Maddeuwyd i ti dy bechodau, ai dywedyd Cyfod a rhodia?" Fe olyga hyn yn un peth fod y ddau yn anawdd. Yr anhawsaf o'r ddau i'w ddywedyd yw "Cyfod a rhodia "; yr anhawsaf ei wneuthur ydyw "Maddeuwyd i ti dy bechodau." Ond y mae'r ddau yn anawdd; ac i brofi ei awdurdod i wneuthur y naill y dywedodd yr Iesu'r llall. "Fel y gwypoch fod awdurdod gan Fab y Dyn ar y ddaear i faddeu pechodau, yna y dywedodd efe wrth y claf o'r parlys, Cyfod, cymer dy wely i fyny, a dos i'th dŷ." Yn ei fryd a'i fwriad ef sacrament ei awdurdod i faddeu oedd ei awdurdod i gyflawni'r wyrth. Os felly, y mae maddeu pechodau mor bell o fod yn beth hawdd, rhwydd, digost, fel y mae'n perthyn i'r un urdd o weithredoedd a gwyrthiau ym myd natur. Ni charai dyn ddim pwyso gormod ar gasgliadau anuniongyrch; ond nid oes fodd gwrthwynebu'r casgliad hwn beth bynnag, fod maddeuant gwerth ei gael, a gwerth ei roi, i feddwl yr Iesu, yn rhywbeth difrif a phwysig iawn, nid o gwbl yn rhyw gardod i'w daflu'n ddifeddwl heb wybod oddiwrtho. Beth bynnag oedd maddeuant ganddo ef, yr oedd yn bob peth ond hynny.

Ond yn ei angau ef y datguddiwyd pa beth ydoedd. Y Groes a ddangosodd pa sut faddeuant a gyhoeddid yn ei enw ef, maddeuant rhad i'r pechadur, ond drud i'r maddeuwr, a dehongli maddeuant yn y wedd yma oedd un o brif negesau'r apostolion.

Ac er mwyn cael allwedd hwylus i'w dysgeidiaeth hwy, ni gymerwn ysgrythyr y bydd braidd bob llyfr o bwys ar yr Iawn yn traethu rhywfaint arni, Rhufeiniaid iii., 25—26. "Yr hwn a osododd Duw yn iawn, trwy ffydd yn ei waed ef, i ddangos ei gyfiawnder ef, trwy faddeuant y pechodau a wnaethid o'r blaen, trwy ddioddefgarwch Duw; i ddangos ei gyfiawnder ef y pryd hwn; fel y byddai efe yn gyfiawn, ac yn cyfiawnhau y neb sydd o ffydd Iesu." Ymddengys i mi, er na ellir, mewn cyn lleied a hyn o gwmpas, geisio profi hynny bob yn rhan, 'mai meddyliau'r ysgrythyr hon sy tu cefn i liaws o adnodau ar y pwnc, nid yn epistolau Paul yn unig, ond trwy'r Testament Newydd i gyd. Nid na ellir, yng ngwaith Paul a'r apostolion. eraill, ystumio llawer adnod a'u hesbonio fel ag i droi'r ystyr hon heibio, a dywedyd fod Rhuf. iii., 25—26 yn eglurhad eithriadol ar yr athrawiaeth, o'r naill du i'r llifeiriant cyffredin o addysg—eglurhad a lliw mwy Iddewig na chyffredin arno. Y mae ysgrifenwyr sydd a'u bryd ar esbonio i ffwrdd, yn fedrus odiaeth ar osgoi pwyslais naturiol y Testament Newydd. Er enghraifft, fe geir esbonwyr mor ragorol a Westcott yn ceisio'ch perswadio chi nad oes dim mwy—dim llawer mwy beth bynnag—yn yr idea of lanhau trwy waed Crist, na bod bywyd Crist Iesu yn dyfod yn fywyd i ninnau. Einioes y creadur, meddant, ydyw'r gwaed; ac ystyr bod gwaed Iesu Grist yn glanhau oddiwrth bechod ydyw bod ysbryd Iesu Grist yn cael ei gyfrannu i ni i'n puro ni. Y mae hyn yn wir bid sicr, ond nid dyma wir yr adnod, I Ioan i. 7; a'r cwbl a ddywedwn ni yw, bod ysgrythyr Paul llawn cyn debyced o fod yn allwedd i'r golygiad Apostolaidd a'r dyfeisiau diweddar hyn.

Esbonio Rhufeiniaid iii. 25-26.

Fel y gŵyr pob efrydydd o'r Rhufeiniaid, y mae'r cyfieithiad yn bur anfoddhaol.

"Yr hwn a osododd Duw." Gallai hwn olygu naill ai penodi, gosod mewn swydd, neu ynte osod allan, gosod ger bron. Y diweddaf, y mae'n debyg, yw'r goreu, am mai hwn sy'n cytuno oreu a phrif ddrychfeddwl y ddwy adnod. "I ddangos ei gyfiawnder ef," ebai adn. 25; "i ddangos ei gyfiawnder ef y pryd hwn," ebe adn. 26. Dangos ydyw gair mawr yr ysgrythyr yma; ac â hynny yn sicr fe gytuna gosod ger bron " " yn well. "Yr hwn a osododd Duw ger bron yn iawn."

"Yn Iawn." Yr hen esboniad ar hwn y mae hyd yn oed y rhai a ymladdant yn ei erbyn fel mater o ddiwinyddiaeth yn ei dderbyn fel eglurhad. 'Yr hwn a osododd Duw yn gymodfa," "yn sail cymod" neu yn "fan cymodi." Y cyfieithiad y mae Fairbairn yn ei ddewis ydyw, " yr hwn a osododd Duw yn ddyhuddol," sef yn ddyhuddwr neu yn un dyhuddol. O ran ei ramadeg yn wir gall y gair fod yn wrywaidd neu yn amlaid; eithr pa un bynnag o'r ddau a ddewisom y mae'r idea o gymod i mewn—gŵr o gymod neu sylfaen cymod. Gwell, at ei gilydd, yr ystyr amlaid. Defnyddir ef yn y Deg a Thriugain am y drugareddfa oedd yn gaead i Arch y Cyfamod, megis yn Lefiticus xvi. 2. Yn Iesu Grist y mae Duw yn dyfod i gymod a dynion. Ac os gofyn rhywun, pa un ai cymodi Duw yr ydys ynte cymodi dynion, ateb Harnack sy'n ddigon ar hynny wedi'r elom dan y wyneb, y mae'r ddau yn mynd yn un. Y mae rhyw bethau y mae yn rhaid cael dau i'w gwneuthur hwy. Y mae cweryla felly; ac y mae cymodi felly hefyd.

Trwy ffydd yn ei waed ef,"—heb goma rhwng y ddau y ceir y frawddeg yn y Beibl Cymraeg. Yr ystyr felly fyddai, "trwy ffydd, a honno'n ffydd yn y gwaed," ffydd yn yr aberth. Rhoi coma ar ol ffydd fyddai'r goreu, debyg, "trwy ffydd, yn ei waed ef." Dau amod bod Crist yn Iawn a feddylir, ffydd o du'r ddaear ac aberth o du'r nefoedd.

"I ddangos ei gyfiawnder ef "—cyfiawnder Duw. Yn y fan yma y mae'r ymadrodd hwn ar y trothwy rhwng ei ystyr gyffredin a'r ystyr neilltuol sydd iddo yn yr Epistol hwn. Ystyr gyffredin cyfiawnder Duw ydyw'r briodoledd o gyfiawnder. Yr ystyr yn y Rhufeiniaid yn gyffredin ydyw y cyfiawnder a ddyry Duw yng Nghrist i bechadur. Yn y fan yma y mae cyfiawnder Duw" ar y terfyn rhwng y ddwy, yn llithro'n wir o'r naill i'r llall. Golyga "dangos ei gyfiawnder ef" ddangos ei fod ef yn gyfiawn, ond fod y frawddeg nesaf yn deud mai "cyfiawn ac yn cyfiawnhau" a feddylir.

"Trwy faddeuant y pechodau a wnaethid o'r blaen." Pa rai oedd y rheini? Nid pechodau a gyflawnasid gan y pechadur cyn ei ddyfod at Grist am faddeuant, namyn y pechodau a wnaethid cyn i Grist ymddangos. Ond er fod hynny yn lled amlwg, nid yw ystyr y cymal i gyd ddim yn amlwg eto. Yn lle "trwy faddeuant" cyfieither, "gan ddarfod maddeu." Nid yw'r gair am faddeu mo'r gair arferol chwaith. "Myned heibio i bechod " ydyw'r maddeu yma, "i ddangos ei gyfiawnder ef, gan ddarfod myned heibio i'r pechodau a wnaethid o'r blaen." Yr oedd dynion. yn cael trugaredd ar hyd yr oesoedd; eithr nid pardwn llawn oedd hynny—rhyw faddeuant ar ei hanner, gadael y peth dan ystyriaeth.

"Trwy ddioddefgarwch Duw." Pa fodd y gwnaeth Duw â phechodau'r hen Orchwyliaeth? Ni faddeuwyd mo honynt yn llwyr nac yn llawn, ond mynd heibio iddynt mewn dioddefgarwch, "gan ddarfod myned heibio i'r pechodau a wnaethid o'r blaen trwy ddioddefgarwch Duw. Yr oedd Duw y pryd hynny yn myned heibio i anwiredd gweddill ei etifeddiaeth"; ond maddeuant o ddioddefgarwch ydoedd y maddeuant hwnnw. Ond atolwg, beth heb law dioddefgarwch sy mewn maddeuant? Yr ateb y buasai Paul yn ei roddi ydyw, cyfiawnder. Y mae dwy elfen mewn maddeuant llawn, dioddefgarwch, onid e ni byddai yn faddeuant gwerth ei gael. Ni fyddai dim grym ynddo. Yr oedd Duw bid siwr yn maddeu o'i ran ef yng ngolwg angau'r Groes. Fe wyddai ef o'r dechreu beth oedd maddeuant yn ei olygu. Yr oedd ystyr yr aberth drud yn bod iddo ef erioed; ond ni wyddai dynion mo hynny. Nid oedd ffordd Duw o faddeu ddim wedi ei ddatguddio. O ganlyniad yr oedd y maddeuant, ag edrych arno o du'r ddaear, yn faddeuant ar ei hanner, yn bardwn heb ei selio. Hwy a'i derbynient ef yn syml am fod y Brenin Mawr yn ddigon caredig i'w roi. Maddeuant o ddioddefgarwch ydoedd iddynt hwy. Weithian y mae yn faddeuant cyfiawn hefyd; oblegid weithian y mae Duw wedi datguddio'i hawl i faddeu. "I ddangos ei gyfiawnder ef, gan ddarfod myned heibio i'r pechodau a wnaethid o'r blaen trwy ddioddefgarwch Duw."

"I ddangos ei gyfiawnder ef y pryd hwn,"—"y pryd hwn" yn wrthgyferbyn i'r pryd y buasai maddeuant yn fater o ddioddefgarwch yn unig, cyn datguddio'r elfen o gyfiawnder oedd ynddo. "I ddangos ei gyfiawnder ef y pryd hwn," yr elfen yn y maddeuant oedd heb ei dangos dan yr Hen Destament.

"Fel y byddai efe yn gyfiawn, ac yn cyfiawnhau'r neb sydd o ffydd Iesu." Prin y mae lle i ddadleu nad yr hen esboniad cynefin sy'n taro'r hoel ar ei phen yn y fan yma. "Cyfiawn, ac ar yr un pryd yn cyfiawnhau" ydyw'r meddwl. Pwysleisio'r meddwl yna y mae'r Cyfieithiad Diwygiedig, yr hwn sydd yn ddiameu'n gywirach: "fel y byddai efe yn gyfiawn ei hun, ac yn cyfiawnhau'r neb sydd o ffydd Iesu." Rhyw arlliw o wahaniaeth a wna esboniad Horace Bushnell "cyfiawn, ac o ganlyniad yn cyfiawnhau." Bwriwch, er mwyn ymresymiad, fod hwnnw yn esboniad iawn. Y cwbl y mae yn ei olygu ydyw, nad yw'r cyfiawnder sy'n bodloni ar fantoli a cherdded terfynau ddim yn mynd yn ddigon pell, fod y cyfiawnder goreu yn mynd tu hwnt i hynny mewn gweithredoedd o ymgeledd. Gwirionedd pwysig yn ddiau yw hwnnw, gwirionedd yr adnod honno: Da ac uniawn yw yr Arglwydd o herwydd hynny y dysg efe bechaduriaid yn y ffordd." Nid er bod Duw yn gyfiawn, ond am ei fod yn gyfiawn, y mae yn achub. Ac fel pob peth braidd a ddywed Bushnell, y mae hon yn ystyriaeth ffrwythlon iawn; ond y llall sy'n gorwedd oreu ar y gystrawen sy dan sylw gennym ni, "cyfiawn ei hunan, ac er hynny yn cyfiawnhau." Mater o bwyslais yw'r gwahaniaeth bron i gyd. Gallwn bwyso ar y syndod bod cyfiawnder gwell yn Nuw na'r cyfiawnder deddfol hwnnw, sy'n fodlon darnodi hawliau a thalu dyledion, a mynnu dyledion yn enwedig, sef y cyfiawnder a wnelo rywbeth i gael yr anwir i gydymdeimlo ag ef; neu ynte gallwn bwyso ar y syndod arall, bod cyfiawnder Duw yn dwyn traul yr anhawster sy mewn bod yn gyfiawn ei hunan a chyfiawnhau'r euog yr un pryd. A thybied yr wyf yn bur gryf, mai'r diweddaf yna ydyw syndod Paul yn y fan hyn.

Os ydyw'r eglurhad uchod yn gywir, neu yn gywir yn ei brif linellau, yna baich y ddwy adnod ydyw bod Duw yn aberth Crist yn dangos ei hawl i faddeu. Y peth oedd yn bod i Dduw o'r blaen a ddatguddiwyd yma i ddynion—bod maddeuant y Brenin Mawr, nid yn unig yn fater o garedigrwydd, ond hefyd yn fater o gyfiawnder.

Canlyniadau'r Athrawiaeth.

Gwelir mor drwyadl agos at yr ymarferol a'r profiadol oedd diwinyddiaeth yr Apostol Paul bob cam o'r daith, wrth ystyried y defnydd a wna fo o'r athrawiaeth am berthynas maddeuant a dioddefiadau Crist yn y paragraff y mae'r ysgrythyr yma'n rhan o hono. Y mae o leiaf dri o'i chanlyniadau hi yn amlwg oddiwrth y paragraff ei hun, cyfiawnhad trwy ras, cyfiawnhad trwy ffydd, a chyfiawnhad yng nghyrraedd pawb. Bydd sylw byr ar bob un o'r tri yn help i glirio'n syniad ni am yr athrawiaeth ei hun, a chyda hynny yn help i dorri'r ddadl ar y cwestiwn, Beth oedd dehongliad yr Apostolion ar ystyr angau'r Groes? Cydnebydd pawb fod eglurhad Paul ar drefn y cyfiawnhau yn bwnc a ddelir yr un mor gadarn gan ddysgawdwyr y Testament Newydd i gyd, heb eithrio Iago chwaith. Ac os oedd athrawiaeth Paul ar y cyfiawnhad yn dir cyffredin iddo ef a'r lleill, y mae hyn yn mynd ym mhell i brofi fod ei olygiad ef ar yr Iawn yr un un yn ei brif linell a'u golygiad hwythau.

1. Cyfiawnhad trwy ras. "Pawb a bechasant, ac ydynt yn ol am ogoniant Duw, a hwy wedi eu cyfiawnhau yn rhad, trwy ei ras ef, trwy y prynedigaeth sydd yng Nghrist Iesu." Y mae hwn yn dilyn yn deg oddiwrth yr ystyriaeth bod Duw yng Nghrist wedi dangos ei hawl i faddeu. Oblegid cyn dyfod Crist nid oedd yn syn fod pobl yn cymysgu rhywbeth o'u heiddo'u hunain a thrugaredd Duw. Yr oedd trugaredd i bechadur yn beth mor fawr, fel nad oedd ryfedd bod dynion yn rhyw ddyfalu beth tybed oedd ynddynt hwy i dynnu sylw trugaredd atynt. Dyfalu'r oeddynt fod rhyw weithredoedd o'r eiddynt hwy yn help i Dduw eu cymeradwyo. Weithiau yn wir y mae Paul fel pe buasai yn rhyw hanner esgusodi ei gyd—genedl. Israel, yr hwn oedd yn dilyn deddf cyfiawnder, ni chyrhaeddodd ddeddf cyfiawnder. Paham? Am nad oeddynt yn ei cheisio trwy ffydd, ond megis trwy weithredoedd y ddeddf."[4] Gair tringar iawn am unwaith am anghrediniaeth yr Iddew, "megis trwy weithredoedd y ddeddf." Fel pe dywedasai: ni charwn i ddim deud fod Israel yn ceisio'i gyfiawnhau yn hollol trwy weithredoedd; eithr braidd nad i rywbeth felly'r oedd hi'n dyfod, megis trwy weithredoedd y ddeddf. Ond wedi dyfod Crist Iesu, wedi i'w aberth ef ddangos pa le'r oedd hawl Duw i faddeu, nid oes dim esgus weithian dros fod neb yn cymysgu dim o'i eiddo'i hun a rhad drugaredd y Duw Mawr. Efo a roddes yr aberth, yn gystal a'i dderbyn. Arno ef, y maddeuwr, y disgynnodd yr holl draul. Yn wir ni allasai dim o'r tu allan iddo ei gyffroi i dosturio. Rhyw feddwl felly a dynnodd y fath ddiflastod ar yr hen ddiwinyddiaeth: Duw anhueddgar i drugarhau yn troi'n drugaredd am fod ei Fab wedi dioddef, a golygu'r Mab fel rhyw drydydd oddi allan yn ymyrraeth o'n tu ni. O herwydd bod ei berthynas ef a'r Tad yn un ar ei phen ei hun yr oedd ei ddioddefaint ef yn iawn, o herwydd bod Duw yn dioddef yn ei ddioddefaint ef. Nid oedd bosibl ennill yr Anfeidrol trwy ddim o'r tu allan iddo. "Nid digon Libanus i gynneu tân; nid digon ei fwystfilod chwaith yn boethoffrwm." Y mae cyfiawnhad trwy ras yn un o ganlyniadau'r athrawiaeth hon.

2. Un arall ydyw cyfiawnhad trwy ffydd. Cyfiawnhau'r neb sydd o ffydd Iesu y mae Duw, hynny yw, y neb sydd a'i ffydd yn yr Iesu. "Yr ydym ni gan hynny yn cyfrif mai trwy ffydd y cyfiawnheir dyn heb weithredoedd y ddeddf." Paham trwy ffydd? a phaham trwy ffydd Iesu? Y mae'n hawdd gweld bid siwr fod rhyw fath o ffydd yn angenrheidiol, 1hyw fath o dderbyn cyfiawnder Duw, rhyw fath o gyd—fynd a'r Nefoedd, rhyw ddyfod allan O du'r Arglwydd; oblegid yn niffyg gweithredoedd, beth arall a allasai gyfiawnhau? Ond paham y mae'n gofyn i'r ffydd sy'n cyfiawnhau fod yn ffydd yng Nghrist? Paham na wnaethai rhyw gred cyffredinol ym mharodrwydd Duw i drugarhau y tro. Nid oes dim braidd mwy cyffredinol y munud yma na chred ym mharodrwydd Duw i drugarhau. "Y mae Duw yn rhy dirion i'm damnio i," ebe'r dyn. Paham na wnaethai hynny'r tro, heb unrhyw gydnabyddiaeth groew mai i Grist Iesu yr ym yn ddyledus am y tiriondeb hwn? Pa alw sydd am i bechadur gydnabod, nid yn unig barodrwydd Duw, ond hefyd drefn Duw i drugarhau? Paham na adawn ni lonydd i'r miloedd sydd yn eithaf sicr o drugarowgrwydd y Brenin Mawr, ond sydd ar yr un pryd heb boeni eu meddyliau am y sut y mae Duw yn cynnyg trugaredd i ni? Yr ateb ydyw bod hynny yn ddigon cyn dyfod Crist. Os yng Nghrist y mae Duw yn dangos ei hawl i drugarhau, cyn ei ddyfod ef ni wyddai dynion ddim pa le'r oedd yr hawl yn gorwedd. O dan yr Hen Gyfamod yr oedd dynion yn cael trugaredd heb nemor o ddirnadaeth am drefn Duw i drugarhau. Ac i bobl heb glywed am Iesu Grist pwy a wâd nad yw cred noeth yng ngharedigrwydd Duw yn ddigon heddyw? oblegid ni ddywedai neb, debyg, na all Pagan gael ei achub a wnelo'r defnydd goreu a fedro o hynny o oleuni sy ganddo, ei achub trwy Grist heb glywed enw Crist. Ond i'r rhai a wypo am Grist nid yw'r gred noeth yng ngharedigrwydd Duw mo'r digon. Rhaid hefyd dderbyn y maddeuant ar y tir y mae Duw yn ei roi—ei dderbyn ef yng Nghrist. "Nid oes iechydwriaeth yn neb arall, ac nid oes enw arall wedi ei roddi dan y nef ym mysg dynion, trwy'r hwn y mae yn rhaid i ni fod yn gadwedig." "Myfi yw y ffordd, y gwirionedd, a'r bywyd; nid yw neb yn dyfod at y Tad ond trwof fi." I'r sawl a wybu pa le y cafodd Duw le i ddangos ei hawl i drugarhau, ei awdurdod i faddeu, rhaid derbyn maddeuant yn y datguddiad uchaf hwn; ac y mae ei wrthod ef yn y fan yma yr un peth a'i wrthod yn gyfan-gwbl. Y mae cyfiawnhad trwy ffydd yn dilyn oddiwrth fod Duw yng Nghrist yn dangos ei hawl i faddeu.

3. Canlyniad arall eto ydyw cyfiawnhad yng nghyrraedd pawb. Cyhoeddi hwn y mae Paul, nid ei brofi. "Ai i'r Iddewon y mae efe yn Dduw yn unig? onid yw efe i'r cenhedloedd hefyd? Yn wir y mae efe i'r cenhedloedd hefyd." Taeru'r peth yr ydys, nid ei brofi. Cymerodd Paul ddwy bennod, o ganol y gyntaf i ganol y drydedd, i brofi bod ar bawb yn Iddewon a Groegwyr—eisiau'r cyfiawnder yma sydd trwy ffydd; ond caniatewch chi fod ar bawb ei eisiau, nid oes arno ef eisiau dim pum munud i brofi fod digon o hono. Y mae yn hunanbrofedig. Os o Dduw y mae'r Iawn, os edrychodd Duw iddo'i hun am oen y poeth—offrwm, os ynddo'i hunan y cafodd ef ffordd i drugarhau, yna y mae son am derfyn a chyfrif yn ynfyd.

"Dyweder maint y Duwdod,
Yr un faint yw'r Iawn i fod."

Y mae efengyl i fyd cyfan yn gorffwys yn deg ar yr idea fod Duw yng Nghrist yn dangos ei hawl i faddeu.

Crynhodeb

Gwelir ein bod yma, a chymryd y paragraff i gyd i ystyriaeth, ym mhresenoldeb cylch o feddyliau tra chynefin gan yr oes Apostolaidd. Trown braidd i'r fan a fynnom, a gwelwn fod y meddyliau hyn, iechydwriaeth trwy ras, a thrwy ffydd, i bawb ac ar bawb a gredant, yn rhan o drysor cyffredin y disgyblion cyntaf. Nid ffrwyth ymresymu a magu system ydynt o gwbl, ond rhan o gynnwys plaen ac amlwg y traddodiad boreaf. Bydd dyfynnu un enghraifft yn ddigon yma; a gall y darllenydd eu lliosogi faint a fynno. Nid oes eisiau gwell esiampl o'r traddodiad bore hwn nag araith Simon Pedr yng Nghymanfa Jerusalem, tua 50 o.c.

"Ha wyr frodyr, chwi a wyddoch ddarfod i Dduw er ys talm o amser yn ein plith ni fy ethol i, i gael o'r cenhedloedd trwy fy ngenau i glywed gair yr efengyl, a chredu. A Duw, adnabyddwr calonnau, a ddug dystiolaeth iddynt, gan roddi iddynt yr Ysbryd Glan, megis ag i ninnau. Ac ni wnaeth efe ddim gwahaniaeth rhyngom ni â hwynt, gan buro'u calonnau hwy trwy ffydd. Yn awr gan hynny paham yr ydych chwi yn temtio Duw, dodi iau ar warrau'r disgyblion, yr hon nid allai'n tadau ni na ninnau ei dwyn? Eithr trwy ras yr Arglwydd Iesu Grist yr ydym ni yn credu ein bod yn gadwedig, yr un modd a hwythau."[5] Llefaru y mae fel un yn cyhoeddi pethau a gredid yn ddiameu gan ei wrandawyr. casgliad a dynnai efo oddiwrth hynny yn unig sydd yn newydd ni chodwyd cymaint ag un llais yn erbyn seiliau ei ymresymiad. "Yr holl liaws a ddistawodd, ac a wrandawodd ar Barnabas a Phaul, yn mynegi pa arwyddion a rhyfeddodau eu maint a wnaethai Duw ym mhlith y cenhedloedd trwyddynt hwy."[6] Dyma'r meddyliau a gysylltir yn gyffredin a dysgeidiaeth Paul —gras a ffydd, heb weithredoedd y ddeddf, a'r cwbl heb dderbyn wyneb, yn cael eu cynnyg i bawb yn ddiwahaniaeth, a selio dilysrwydd y bendithion hyn a dawn yr Ysbryd Glan. Debyg mai dyma a barodd i'r ysgol o feirniaid hanesyddol yn yr Almaen ddadleu mai llyfr ydoedd Llyfr yr Actau, a sgrifennwyd yn un swydd i gyfannu'r rhwyg rhwng canlynwyr Paul a'r blaid Iddewig, dan ddylanwad ysbryd Catholig yr ail ganrif. Ond nid oes neb erbyn hyn yn dodi'r Actau yn llyfr yn yr ail ganrif. Y mae dysgawdwyr blaenaf yr Almaen ei hun yn gosod yr Actau yn llyfr pur gynnar, a'r nodiadau oedd yn sail iddo yn gynharach fyth.

O ganlyniad, od yw gras a ffydd ac efengyl i bawb yn rhan o draddodiad boreaf yr Eglwys, ac od yw'r holl bethau hyn yn dyfod i ni, yn ol y traddodiad hwnnw, trwy Grist Iesu, naturiol ydyw casglu bod y cylch o ideon a bregethid gan Paul ynglŷn a'r pynciau hyn, bod y rheini hefyd yn dderbyniol gan gorff mawr y disgyblion cyntaf. Yn wir, er mai Paul a fu'n foddion i wneuthur maddeuant trwy waed y Groes yn rhan o ddysgeidiaeth gynefin yr Eglwys, yr oedd traddodiad y tô cyntaf o ddisgyblion wedi paratoi'r tir i dderbyn y ddysgeidiaeth hon. Yr hyn a fu yng Nghymanfa Jerusalem yn wir a ddigwyddodd hefyd ym mhrofiad cyffredinol yr Eglwys, syniadau Pedr yn paratoi'r brodyr i dderbyn y datguddiad a roddes yr Ysbryd trwy enau Paul, Teg ydyw casglu fod dehongliad Paul ar y cyfiawnhad, fel maddeuant trwy waed y Groes—yr idea sydd yn Rhufeiniaid iii. am Dduw yng Nghrist yn dangos ei awdurdod i faddeu —wedi cymryd ei lle yn naturiol ac yn rhwydd, gan oreuon y saint, fel yr unig ddehongliad teilwng ar yr athrawiaeth.

Nid heb wrthwynebiad, a gwrthwynebiad tanllyd, yn ddiau y bu hyn. Ni fuasai efengyl Paul ddim gwerth ei phregethu, oni bai ei bod hi'n werth ei herlid. "Yn wir tynnwyd ymaith dramgwydd y groes."

Ac yn ddiweddaf, a dyfod yn ol i'r man y cychwynasom, fe welir bellach nad oes dim sefyllfod deg rhwng idea'r Iesu ei hun o awdurdod i faddeu pechodau ag idea'r Apostolion o gyd-gysylltu'r awdurdod honno â'i enw ef, a'r datguddiad a gaed ynddo, ac a choron y datguddiad hwn—ag angau'r Groes. Y mae Denney wedi dangos tu hwnt i bob dadl[7] wrth esbonio "Gwaed y cyfamod," nad oedd y datblygiad yma ar yr efengyl a bregethasid ganddo ddim o gwbl yn newydd nag yn ddieithr i feddwl yr Iesu chwaith.

Gwir fod yr Arglwydd Iesu yn cysylltu'r awdurdod i faddeu a'i ddisgyblion yn gystal ag â'i berson ei hun. Galwai'r dyrfa hi yn "awdurdod i ddynion"; a dichon bod hynny'n golygu nid yn unig awdurdod er budd dynion, ond awdurdod i'w gweinyddu gan ddynion hefyd. Eithr ni wna ronyn o wahaniaeth i'r prif bwnc sy gennym, sef ei fod ef yn cyfrif, ddyfod yr awdurdod i faddeu i ddynion trwyddo ef, mai efo oedd cyfryngwr yr awdurdod hon. "Pregethu edifeirwch a maddeuant pechodau yn ei enw ef" sydd i fod wedi ei ddyrchafiad ef i ddeheulaw'r Tad, yn gystal a chyn hynny. Nid dechreu rhyw fyd newydd yn unig a wnaeth ef, lle y mae awdurdod i faddeu yn ddeddf, ond efo sydd i fod yn Gyfryngwr ac yn Frenin y byd hwnnw.



Robt, Evans a'i Fab, Cyhoeddwyr, Gwasg y Bala.

Nodiadau

[golygu]
  1. Mathew ix. 6.
  2. Ioan xx. 23.
  3. Luc xxiv. 46, 47.
  4. Rhuf. ix. 31, 32.
  5. Actau xv. 7-11.
  6. Actau xv. 12.
  7. The Death of Christ.