Yspwng (Geiriadur Charles)

Oddi ar Wicidestun

YSPWNG, (pwng) Llad-SONGIA ; Saes SPONGE: madarchen, yspwrn, gwlan, y tusw i sychu peth âg ef. Mat. 27: 48.

Yr yspwng sydd i'w gael yn glynu wrth greigiau, cregyn, &c., wrth y moroedd. Naturiaethwyr, yn mhob oes, ydynt wedi bod mewn cyfyng-gynghor yn mysg pa ryw o greaduriaid i roddi yr yspwng.

Yn bresennol bernir ei fod o wneuthuriad ac yn breswylfod rhyw fath o bryfyn. Dygir y rhan fwyaf o honynt i'n gwlad ni o Fôr y Canoldir, yn neillduol o ynys Nicaria, a chyffiniau Asia; ond dygir rhai o dref Cystenyn, a'r rhai salaf o Barbary, yn agos i Tunis ac Algiers. Y nodau eu bod o'r fath oreu yw eu bod yn wyn ac yn ysgafn, a'u tyllau yn fychain. Y mae yr yspwng yn ddefnyddiol ar amryw achosion; a defnyddir ef wedi ei losgi yn feddyginiaethol mewn rhai clefydau. [1]

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Charles, Thomas, 1755-1814, Geiriadur Ysgrythyrol