Am brydferthwch daear lawr

Oddi ar Wicidestun
Nef a daear, tir a môr Am brydferthwch daear lawr

gan Folliott Sandford Pierpoint


wedi'i gyfieithu gan John Morris-Jones
'D oes gyffelyb iddo Ef
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930

33[1] Aberth Mawl
77. 77. 77.

1 AM brydferthwch daear lawr,
Am brydferthwch rhod y nen,
Am y cariad rhad bob awr
Sydd o'n cylch ac uwch ein pen,
O! Dduw graslon, dygwn ni
Aberth mawl i'th enw Di.


2 Am brydferthwch oriau'r dydd,
Am brydferthwch oriau'r nos,
Bryn a dyffryn, blodau, gwŷdd,
Haul a lloer, pob seren dlos,
O! Dduw graslon, dygwn ni
Aberth mawl i'th enw Di.

3 Am hyfrydwch cariad cu
Brawd a chwaer, a mam a thad,
Ffrindiau yma, ffrindiau fry,
Am bob meddwl mwyn a gad,
O! Dduw graslon, dygwn ni
Aberth mawl i'th enw Di.

4 Am bob rhodd i ddynol-ryw
Gennyt o'th drugaredd gref,
Am rasusau dyn a Duw,
Blodau'r byd a blagur nef,
O! Dduw graslon, dygwn ni
Aberth mawl i'th enw Di. 73

F. S. PIERPOINT,
Cyf . John Morris-Jones

Ffynhonnell[golygu]

  1. Emyn rhif 33, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930