Nef a daear, tir a môr

Oddi ar Wicidestun
Fy Nuw, fy Nhad, fy Iesu Nef a daear, tir a môr

gan Joachim Neander


wedi'i gyfieithu gan Howell Elvet Lewis (Elfed)
Am brydferthwch daear lawr
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930

32[1] Yr Anthem Gyffredinol
77.77.

.
1 NEF a daear, tir a môr
Sydd yn datgan mawl ein Iôr:
Fynni dithau, f'enaid, fod
Yn y canol heb roi clod?

2 Gwena'r haul o'r cwmwl du,
Er mwyn dangos Duw i ni;
 Dywaid sêr a lleuad dlos
Am ei fawredd yn y nos.

3 Gwellt y maes a dail y coed
Sy'n ei ganmol Ef erioed;
Popeth hardd o dan y nef,
Dyna waith ei fysedd Ef.

4 Cwyd aderyn bach o'i nyth,
Am fod Duw yn dirion byth;
Gwrendy'r corwynt ar ei lef,
Cerdda'r mellt ei lwybrau Ef.

5 Dywaid afon yn ei hiaith
Mai Efe sy'n trefnu'r daith;
Ac ni chyfyd ton o'r môr
Heb roi mawl i enw'r Iôr.

6 Rhyfedd wyt, O! Dduw, bob awr
Yn egluro d'allu mawr:
Wrth dy draed,
O! dysg i mi Beth wyf fi, a phwy wyt Ti.

J. NEANDER,
Cyf. H.Elvet Lewis (Elfed)

Ffynhonnell[golygu]

  1. Emyn rhif 32, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930